Dehongli – canllaw arfer da

Dehongli – canllaw arfer da

Dehongli yw'r ffordd yr ydym yn cyfathrebu storïau a syniadau am dreftadaeth i wahanol gynulleidfaoedd. Mae'n chwarae rôl hanfodol wrth helpu ymwelwyr i ymgysylltu â'n treftadaeth - yn ddeallusol ac yn emosiynol.

Trwy ddarllen y canllaw hwn byddwch yn dysgu am gynllunio dehongli a sut i greu cynllun dehongli. Mae'n cynnwys enghreifftiau o offer a thechnegau dehongli, cyngor ar wneud eich dehongliad yn hygyrch, enghreifftiau o gostau ac amserlenni, ynghyd ag astudiaethau achos a dolenni i wybodaeth bellach.

Lluniwyd y canllaw hwn gyda chefnogaeth yr ymgynghorwyr treftadaeth Polly Richards a Maria Blyzinsky.

Ynghylch dehongli

Mae'n golygu troi gwybodaeth yn rhywbeth hygyrch, perthnasol a deniadol. Gall fod ar sawl ffurf wahanol, o lwybrau, disgrifiadau sain a ffilmiau i weithdai, gweithgareddau rhyngweithiol ac arddangosiadau ar-lein.

Dylai dehongli ddyfnhau dealltwriaeth pobl o dreftadaeth a'u hannog i feddwl, myfyrio a dysgu drostynt eu hunain. Mae’n helpu pobl i archwilio a gwneud synnwyr o safleoedd a thirweddau, gwrthrychau, traddodiadau a digwyddiadau hanesyddol.

Mae'n mynd ymhellach na chyfathrebu negeseuon. Mae'n ymwneud â dylunio profiad ehangach sy'n helpu ymwelwyr i ymgysylltu â threftadaeth a sylwi ar, ac archwilio, pethau na fyddent efallai yn eu gweld fel arall.

Gall dehongli helpu pobl i rannu eu hanes a’u safbwyntiau, yn enwedig os ydynt wedi cael eu hallgáu yn y gorffennol, gan arwain at fwy o empathi a chydlyniant.

Mae'r dehongliad gorau yn ennyn diddordeb ymwelwyr ac yn eu grymuso, ar lefel ddeallusol ac emosiynol.

Gall y ffordd rydych yn dehongli treftadaeth trwy eich prosiect hefyd gyfrannu at ein hegwyddorion buddsoddi.

Mae ailddehongli yn ymwneud â mynd ati i newid y math o wybodaeth a syniadau sy'n cael eu rhannu ag ymwelwyr. Mae'n ymwneud ag adrodd storïau amrywiaeth ehangach o bobl ac archwilio gwahanol brofiadau neu safbwyntiau o'n treftadaeth gymhleth.

Cynllunio dehongli

Dylai eich ymagwedd at ddehongli (ac ailddehongli) ddechrau gyda chynllunio dehongli.

Bydd cynllun dehongli da'n rhoi strwythur i'ch prosiect gyda nodau, amcanion a dulliau clir. Dylid sicrhau ei fod yn cydweddu â graddfa'r prosiect, boed yn arddangosyn unigol neu'n dirwedd gyfan.

Byddwch yn defnyddio eich cynllun dehongli ochr yn ochr â dogfennau eraill (er enghraifft, cynlluniau cadwraeth a gweithgareddau) yn ystod camau cynllunio a chyflwyno'r prosiect ac ar gyfer meincnodi wrth i chi werthuso'r prosiect.

Cofiwch adolygu eich cynllun dehongli'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod eich dull yn gweithio ar gyfer eich cynulleidfaoedd targed.

Beth i'w gynnwys mewn cynllun dehongli

Yn gyffredinol, dylai gynnwys yr hyn yr ydych am ei ddehongli, pwy yw eich cynulleidfa a'r offer y byddwch yn eu defnyddio i gyfathrebu â'ch cynulleidfa. Fel arfer bydd yn cynnwys:

  • teitl y prosiect
  • y thema drosgynnol (wedi’i chrynhoi mewn brawddeg neu ddwy)
  • eich nodau - beth rydych am i'ch dehongliad ei gyflawni
  • cynulleidfaoedd targed (presennol a newydd)
  • negeseuon allweddol – tair i bum ffaith hanfodol y mae angen i ymwelwyr eu deall
  • canlyniadau dysgu – yr hyn yr ydych am i bobl ei deimlo, ei ddysgu a mynd ag ef i ffwrdd â nhw o ganlyniad i'r dehongliad
  • pwy fydd yn ymwneud â datblygu'r dehongliad
  • disgrifiad byr o offer a thechnegau dehongli sy'n briodol i'ch cynulleidfa
  • sut y bydd profiad yr ymwelydd yn edrych ac yn teimlo
  • pa brofion gan ymwelwyr sydd eu hangen - ffurfiannol i lunio'r dull dehongli, ac yn ddiweddarach, i werthuso llwyddiant y dehongliad

Deall eich cynulleidfaoedd

Dylai'r storïau rydych yn eu hadrodd a'r ffordd yr ydych yn eu cyfathrebu gael eu dylunio'n benodol ar gyfer eich cynulleidfaoedd targed. Mae'r bobl rydych am ymgysylltu â nhw wrth wraidd dehongli, felly pwy ydyn nhw? I ddechrau, dylech ddarganfod cymaint â phosibl am eich cynulleidfaoedd targed. Po fwyaf y gwyddoch am eu hanghenion a'u diddordebau, y mwyaf o ffocws fydd i'ch dehongliad.

Rydym am i'r prosiectau a ariannwn ddileu rhwystrau i fynediad a chyfranogiad, yn enwedig i bobl sydd heb gael eu gwasanaethu'n ddigonol gan dreftadaeth. Rydym am gynnwys ystod fwy amrywiol o bobl mewn treftadaeth. Efallai y bydd rhai prosiectau hefyd yn ymwneud â datblygu perthnasoedd dyfnach â'ch cynulleidfaoedd presennol.

Cofiwch, nid oes y fath beth ag ymwelydd 'cyffredinol'. Rydym i gyd yn unigolion gyda diddordebau ac arddulliau dysgu penodol yn ogystal â'n rhagdybiaethau a'n lefelau dealltwriaeth ein hunain.

Mae'r cwestiynau i’w gofyn er mwyn deall eich cynulleidfaoedd yn cynnwys:

  • Faint ydyn ni'n ei wybod am ein cynulleidfaoedd targed, eu diddordebau a'u hanghenion dysgu? Beth ydyn nhw'n ei wybod eisoes am y pwnc? Sut allwn ddylanwadu ar eu dealltwriaeth, sgiliau, ymddygiad, agweddau a theimladau am y pwnc?
  • Sut allem gynnwys cynulleidfaoedd targed yn y gwaith o ddatblygu cynnwys? Sut allent ddylanwadu ar ein gwybodaeth a’n rhagdybiaethau neu'n eu herio? A oes cyfleoedd ar gyfer adborth gan ymwelwyr a sut fyddwn ni'n ymateb?
  • Safbwyntiau pwy ydyn ni'n eu cyfleu a sut fydd ymwelwyr yn uniaethu â'r rhain? Storïau pwy sydd wedi'u hepgor a sut allwn ni gynnwys eu lleisiau? A allwn herio ymwelwyr i feddwl mewn ffyrdd newydd neu roi cynnig ar brofiadau newydd?
  • A yw gofod ffisegol ein prosiect yn helpu ein cynulleidfaoedd i deimlo'n hyderus, yn ddiogel ac yn gyfforddus? Sut ydym yn mwyafu mynediad i bobl anabl? Pwy ydym yn methu ag ymgysylltu â nhw a sut allwn ddileu rhwystrau fel y byddant yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cynnwys?

Bydd eich atebion yn helpu datgelu ble mae angen gwneud mwy o waith ymchwil. Adolygwch nhw’n rheolaidd i weld sut maen nhw’n newid wrth i’ch dealltwriaeth ddatblygu.

Arolygon ymwelwyr

Bydd arolygon ymwelwyr yn rhoi proffil cywir i chi o'ch cynulleidfaoedd presennol, gan gynnwys:

  • pwy ydyn nhw
  • beth yw eu diddordebau
  • ble maen nhw'n byw

Bydd ymchwil fanylach yn gwella'ch dealltwriaeth o ymwelwyr sydd heb gael eu gwasanaethu'n ddigonol ac yn eich helpu i nodi cynulleidfaoedd targed newydd. Gellir defnyddio amrywiaeth o ddulliau i greu darlun clir o ymwelwyr ac mae rhai dolenni wedi'u cynnwys yn yr adran wybodaeth isod.

Cael y neges yn gywir

Y syniad mawr

Beth yw eich syniad mawr? Nid yw bob amser yn hawdd datod hanes cymhleth y mae nifer o safbwyntiau yn ei gylch. Y cam cyntaf yw ei gydgrynhoi i un syniad neu thema fawr a fydd yn clymu'r prosiect ynghyd.

Bydd y cam hwn yn rhoi ffocws i'ch prosiect, yn enwedig pan fydd gennych lawer o wybodaeth i'w rhannu. Gellir rhannu’r thema drosgynnol yn nifer fach o is-themâu, ond dylai pob un gefnogi a chanolbwyntio ar y syniad mawr.

Negeseuon allweddol

Dyfeisiwch dair i bum neges neu ffaith allweddol y dylai ymwelwyr eu deall yn hawdd. Gellir defnyddio eich dehongliad i atgyfnerthu'r negeseuon hyn mewn gwahanol ffyrdd er mwyn gweddu i wahanol gynulleidfaoedd ac arddulliau dysgu.

Cynnwys cynhwysol

Yn hanesyddol mae llawer o storïau wedi cael eu hadrodd o un safbwynt. Rhowch ddigon o amser i ymchwilio i wahanol gynnwys a storïau a gweithiwch gyda'r cymunedau dan sylw (i gael gwybod mwy am hyn gweler ein canllaw arfer da cynhwysiad).

Efallai y bydd eich ymchwil yn arwain at fannau llai amlwg, er enghraifft at gofnodion llys a chyfreithiol wrth ymchwilio i hanes rhywioldeb a hunaniaeth rhywedd.

Efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd ddod o hyd i dystiolaeth i lenwi bylchau, felly gallai offer dehongli, fel comisiynau artistiaid neu ail-berfformiadau dramatig, fod yn ddefnyddiol i ddod â storïau'n fyw.

Bydd adrodd eich stori trwy ystod eang o lensys yn ei gwneud hi'n hygyrch i fwy o gynulleidfaoedd. Er enghraifft, wrth ddehongli mannau addoli, ystyriwch ddehongliad sy’n gynhwysol i gynulleidfaoedd o wahanol grefyddau a chynulleidfaoedd anghrefyddol. Esboniwch dermau crefyddol penodol a gwnewch gymariaethau neu gyferbyniadau â chrefyddau eraill, lle bo'n briodol.

Amser aros

I’ch helpu i gynllunio'r math o ddehongli sydd ei angen a’i faint, amcangyfrifwch faint o amser yn fras y disgwylir i ymwelwyr ei dreulio yn ymgysylltu â’ch prosiect neu le. Dylai ganiatáu ar gyfer hyd cyflwyniadau clyweled (AV), cyflymder darllen cyfartalog a'r amser a dreulir ar weithgareddau rhyngweithiol. Dylai dehongli a gynllunnir yn dda gynnwys y rhai sy'n hoffi darllen popeth yn ogystal â'r rhai sydd â rhychwant sylw byr.

Ysgrifennu testun clir a hygyrch

Mae darllen yn sgìl bywyd pwysig ac mae prosiectau treftadaeth yn darparu amgylchedd delfrydol i ymarfer sgiliau llythrennedd. Bydd testun sydd wedi'i ysgrifennu'n dda gyda naratif clir a strwythurau brawddeg syml yn helpu eich prosiect i gyfathrebu â chynulleidfa ehangach.

Gallwch ddefnyddio termau technegol neu eiriau anarferol o hyd, ond mae angen i chi esbonio eu hystyr a rhoi cyd-destun iddynt. Mae'n bosibl cyfleu pynciau cymharol gymhleth o fewn nifer cyfyngedig o eiriau, er y gallai gymryd amser, ymarfer ac adborth i gael y geiriau'n gywir. Gofynnwch i rywun nad yw'n arbenigwr ddarllen eich testun drafft i sicrhau ei fod yn glir ac yn hawdd ei ddeall.

Haenu gwybodaeth

Mae'r erthyglau newyddion gorau yn haenu gwybodaeth. Maent yn dechrau gyda'r negeseuon pwysicaf, wedi'u cyfleu mewn penawdau a pharagraffau agoriadol, ac yna gwybodaeth fanylach isod. Defnyddiwch y dull hwn wrth ysgrifennu testun neu gynllunio mathau eraill o ddehongli treftadaeth.

Dylai panel testun lefel uchaf fod tua 100 gair a dylai label gwrthrych fod tua 60 gair ar y mwyaf.

Gwirio ffeithiau a pherthnasedd

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r holl ddehongliadau a thestun am gywirdeb ffeithiol ac am ramadeg, atalnodi a sillafu cyson. Rhowch ddigon o amser ar gyfer prawfddarllen a golygu gan y gall fod yn gostus cywiro camsillafiadau'n ddiweddarach.

Offer a thechnegau dehongli

Dylech ddefnyddio amrywiaeth o offer i apelio at wahanol gynulleidfaoedd. Mae adrodd eich stori mewn sawl ffordd yn galluogi ymwelwyr i ymgysylltu â chynnwys eich prosiect neu le treftadaeth ar eu telerau eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain. Meddyliwch am yr hyn sy'n iawn ar gyfer eich lleoliad a gwnewch yn siŵr bod yr offer a ddewiswch yn cael eu cyfeirio gan ymchwil gyda'r gynulleidfa.

Unwaith y cytunir ar eich offer dehongli, bydd angen i chi ddatblygu eich syniadau fel y gellir eu costio a'u cynhyrchu. Os ydych yn defnyddio dylunwyr neu wneuthurwyr arbenigol i weithio ar eich dehongliad, bydd angen rhoi briffiau manwl iddynt.

Paneli graffeg

Mae'r rhain fel arfer yn cynnwys testun, diagramau, ffotograffau, darluniau a delweddau eraill. Maent yn fwyaf addas ar gyfer y rhai sy'n mwynhau dysgu trwy ddarllen. Maent yn gymharol rad i'w cynhyrchu a gellir eu defnyddio dan do ac yn yr awyr agored i gyfleu maint sylweddol o wybodaeth, ond mae'n bwysig peidio â gorlwytho ymwelwyr trwy ysgrifennu gormod o destun.

Elfennau rhyngweithiol technoleg isel:

  • fflapiau codi
  • placiau cyffyrddol
  • gwisgo i fyny
  • jig-sos ac arddangosiadau ymarferol eraill

Maent yn addas ar gyfer dysgu synhwyraidd a gallant fod yn boblogaidd gyda theuluoedd a grwpiau ysgol.

Cyfryngau digidol:

  • apiau
  • gemau cyfrifiadurol
  • offer rhyngweithiol digidol a chyflwyniadau realiti rhithwir
  • pyst gwrando ar sain a chyflwyniadau clyweled

Gall cyfryngau digidol gyfleu maint sylweddol o wybodaeth yn gymharol gyflym a darparu profiad mwy ymdrochol i ymwelwyr. Gellir eu defnyddio hefyd i ddarparu mynediad amgen i safleoedd a all fod yn gorfforol anodd i bobl â namau symudedd eu cyrchu.

Offer i gefnogi ymwelwyr ag anawsterau golwg:

  • braille
  • delweddau a mapiau cyffyrddol
  • gosodiadau cyffyrddol
  • canllawiau print bras
  • trin a thrafod gwrthrychau

Mae'r offer hyn yn gwella profiad ymwelwyr sydd ag anawsterau golwg, gan wneud eu hymweliad yn fwy ystyrlon a chaniatáu mwy o annibyniaeth. Mae trin a thrafod gwrthrychau hefyd yn ymestyn y profiad synhwyraidd i ymwelwyr â golwg.

Dehongliad byw:

  • teithiau gyda thywysydd
  • arddangosiadau ac actorion mewn gwisgoedd
  • teithiau mewn ieithoedd tramor
  • teithiau cyffwrdd, Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a theithiau gyda disgrifiad sain
  • perfformiadau celf, dawns, caneuon a darlleniadau barddoniaeth

Mae'r mathau hyn o ddehongli'n cynnig profiad ymatebol, wedi'i deilwra trwy gysylltiad uniongyrchol â chynulleidfaoedd. Gellir hyfforddi staff a gwirfoddolwyr i roi cyflwyniadau sydd wedi'u targedu at ymwelwyr â nam ar eu clyw neu olwg.

Gallai staff wisgo bathodyn llabed o faner genedlaethol i ddangos eu bod yn gallu siarad iaith heblaw Saesneg.

Mae teithiau cyffwrdd yn galluogi ymwelwyr â nam ar eu golwg i deimlo arddangosion sydd fel arfer o bosibl yn ddiogel y tu ôl i rwystrau neu wydr.

Cyfryngau printiedig:

  • llyfrau
  • taflenni
  • llwybrau i'r teulu
  • taflenni gweithgaredd

Mae'r rhain yn ychwanegu haen arall o wybodaeth ac yn cynorthwyo cyfeiriadu.

Gall arweinlyfrau a chatalogau gynhyrchu refeniw a darparu cofbeth i fynd adref â nhw. Gall llwybrau i'r teulu a thaflenni gweithgareddau annog ymwelwyr i archwilio ymhellach.

Gellir annog ymwelwyr i ymweld â'r siop drwy gyflwyno eu taflenni gweithgaredd gorffenedig yn gyfnewid am rodd neu daleb i'w defnyddio yn y caffi.

Mapiau, llinellau amser a ffeithluniau

Mae'r rhain yn cynnig ffordd gryno i gyfleu llawer o wybodaeth. Maent yn arbennig o addas ar gyfer ymwelwyr sydd ag arddull dysgu gweledol.

Dehongli ar y we:

  • sgyrsiau ar-lein
  • arddangosfeydd
  • gweithgareddau
  • deunyddiau y gellir ei lawrlwytho fel podlediadau, teithiau sain, mapiau a gweithgareddau

Mae dehongli ar y we'n gynnig ardderchog i ddysgwyr o bell. Mae hefyd yn galluogi sefydliadau treftadaeth a diwylliannol i ddatblygu a chynnal cysylltiad â chynulleidfaoedd pan nad yw ymweliadau corfforol yn bosibl.

Mae gwefannau'n hanfodol ar gyfer gwybodaeth a gweithgareddau cyn ac ar ôl ymweld. Maent yn disgrifio'r sefyllfa a gallant gyrraedd cynulleidfa eang, gan gynnwys y rhai sy'n byw dramor.

Dyfeisiau personol

Gall ymwelwyr ddefnyddio eu dyfeisiau personol i gyrchu:

  • codau QR
  • apiau
  • gwybodaeth y gellir ei lawrlwytho
  • ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol

Mae offer digidol yn ffordd wych o gynnig haenau ychwanegol o wybodaeth. Mae gan ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol gyda hashnodau penodol y potensial i gynyddu ymgysylltiad a chyfathrebu â chynulleidfaoedd sy'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Ond cofiwch nad oes gan bawb ffôn clyfar ac y gall y ddarpariaeth rhyngrwyd fod yn fratiog, felly efallai y bydd rhai pobl yn cael eu heithrio.

Artistiaid ac ymarferwyr creadigol:

  • dehongliadau ac ymyriadau artistig
  • preswyliadau creadigol a gweithdai
  • adrodd storïau ac arddangosiadau crefft traddodiadol

Mae hyn yn cynnig ffordd arall o ddarparu profiad ymatebol, wedi'i deilwra trwy gyswllt uniongyrchol â chynulleidfaoedd.

Trwy gomisiynu artistiaid ac ymarferwyr creadigol eraill (fel beirdd, ffotograffwyr, coreograffwyr, ac ati) gallwch hefyd greu cynnwys sy'n cynnig safbwyntiau amgen ac yn helpu i lenwi bylchau yn eich gwybodaeth. Mae adrodd storïau a chrefftau traddodiadol hefyd yn cynnig ffordd i rannu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol neu ddod â gwrthrychau'n fyw.

Ystyriaethau dehongli digidol

Gellir defnyddio dehongli digidol i gyfathrebu ag ymwelwyr mewn safleoedd treftadaeth neu fel ffordd o ddod â threftadaeth i bobl o bell. Fel popeth sy'n ymwneud â dehongli, mae'n bwysig gweithio allan pa offer dehongli fydd yn cyfathrebu'ch negeseuon allweddol orau i'r gynulleidfa darged.

Technoleg isel o'i gymharu ag uwch-dechnoleg

Yn aml gall offer dehongli technoleg isel ffisegol fod yr un mor effeithiol ag uwch-dechnoleg. Ystyriwch werth am arian, defnyddio offer hyblyg neu ailddefnyddiadwy a fydd yn addas am nifer o flynyddoedd ac anghenion cynnal a chadw parhaus.

Rhwyddineb defnyddio a chost

Gall fod yn weddol hawdd defnyddio a threfnu cyfryngau cymdeithasol, sgyrsiau ar-lein a gwefannau. Fodd bynnag, gall rhai cyfryngau digidol fod yn ddrud i’w dylunio, eu cynhyrchu a’u cynnal a chadw. Gall hefyd mynd yn hen ffasiwn yn gyflym - yn enwedig o'i gymharu â thechnoleg gemau a realiti rhithwir flaengar sydd gan rai pobl gartref.

Integreiddio

Ystyriwch sut y gallai dehongli digidol weithio gyda dulliau dehongli eraill fel rhan o brofiad ehangach ymwelydd wyneb yn wyneb ac/neu ar-lein.

Cynhwysiad

Cofiwch nad oes gan bawb fynediad at ffonau clyfar neu ddyfeisiau eraill ac mae'n bosibl y byddant yn cael eu heithrio rhag defnyddio dehongli digidol. Yn yr achos hwn, efallai y byddwch eisiau meddwl am ffyrdd eraill o ddod â threftadaeth a dehongli i bobl mewn lleoedd y byddant o bosibl yn mynd iddynt y tu hwnt i’r safle treftadaeth.

Am gyngor pellach, cyfeiriwch at ein canllaw digidol.

Dehongli dwyieithog neu amlieithog

Rhaid i bob dehongliad a ariennir yng Nghymru fod yn ddwyieithog, yn Gymraeg a Saesneg. Gweler ein canllaw i brosiectau dwyieithog yng Nghymru am fwy o wybodaeth.

Gall y dull hwn hefyd fod yn briodol ar gyfer ieithoedd lleol eraill, er enghraifft mewn rhannau o’r Alban sy'n siarad Gaeleg neu ar gyfer cyrraedd cymuned nad yw’n siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Defnyddiwch gyfieithydd sy'n siarad y ddwy iaith yn rheolaidd i sicrhau bod y cyfieithiad yn un llafar yn hytrach nag yn llythrennol.

Dylid dylunio panel graffeg neu daflen ddwyieithog yn ofalus i gynnwys y ddwy iaith. Gall cyflwyniadau sain ac amlgyfrwng ddarparu fersiynau dwyieithog ac amlieithog llawn o'r un darn o offer.

Dehongli hygyrch

Wrth 'hygyrch', rydym yn golygu i ba raddau y gall cynulleidfaoedd ddefnyddio prosiect neu le ac ymgysylltu ag ef. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae’n anghyfreithlon i ddarparwyr gwasanaethau drin pobl anabl yn llai ffafriol nag eraill. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau sy'n rheoli safleoedd treftadaeth sy'n agored i'r cyhoedd.

Rhaid i chi wneud 'addasiadau rhesymol' i'r ffordd yr ydych yn cyflwyno'ch gwasanaethau fel y gall pobl anabl eu defnyddio. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw ddehongliad ystyried anghenion pobl anabl.

Rhwystrau i fynediad

Mae rhwystrau i fynediad yn aml yn gysylltiedig ag anableddau ond gallant hefyd fod oherwydd cyfyngiadau o ran oedran, iaith, arian neu amser.

Bydd archwiliad mynediad yn nodi rhwystrau posibl i fynediad corfforol a deallusol. Y cam nesaf yw ystyried sut y gellir defnyddio dehongli i ddileu neu addasu'r rhwystrau hyn er mwyn sicrhau bod y profiad yn cael ei wella a'i fod yn gwbl hygyrch.

Dylai eich dehongliad gwmpasu amrywiaeth o arddulliau dysgu a dylid ei brofi hefyd am addasrwydd gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol.

Defnyddio dehongli i ddileu rhwystrau i fynediad:

  • Darparwch wybodaeth mewn amrywiaeth o fformatau sy'n gweddu i ystod o arddulliau dysgu.
  • Ysgrifennwch destun mewn iaith glir. Dilynwch ganllawiau arfer gorau fel bod testun yn ddarllenadwy ac â maint sy'n hawdd ei ddarllen. Mae lleiafswm maint teip o 18-36pt yn addas ar gyfer corff testun y rhan fwyaf o labeli gwrthrychau arddangos.
  • Sicrhewch gyferbyniad lliw da rhwng y testun a'r cefndir a gwnewch brawf argraffu i wirio eglurder gyda chynulleidfaoedd targed.
  • Dylai fersiynau print bras o labeli a theithiau disgrifiadol fod ar gael i bobl sydd â nam ar eu golwg.
  • Os yn defnyddio sain, cyfyngwch ar sain cefndir arall fel bod pobl yn gallu clywed yn iawn. Dylid ystyried defnyddio sain a chlyweled gyda dolenni clyw, isdeitlau, dehongli BSL, trawsgrifiadau a bariau amser.
  • Gosodwch arddangosiadau, gweithgareddau rhyngweithiol a labeli ar uchder y gall plant a defnyddwyr cadeiriau olwyn eu defnyddio. Dylid gosod gwrthrychau bach neu fanwl a phrif destun o fewn band cul o 1,200–1,600mm uwchben lefel y llawr.
  • Darparwch amrywiaeth o leoedd i eistedd (gyda breichiau a hebddynt) fel y gall pobl naill ai orffwys neu gyrchu'r dehongliad yn gyfforddus.
  • Ystyriwch gonsesiynau neu ddiwrnodau mynediad am ddim ar gyfer pobl sydd ar incwm isel.
  • Stagrwch amseru digwyddiadau a dehongliadau byw i alluogi pobl ag ymrwymiadau o ran amser i fynychu – er enghraifft, y rhai sy’n gweithio shifftiau nos neu ar benwythnosau.
  • Darparwch hyfforddiant ymwybyddiaeth anableddau ar gyfer yr holl staff a gwirfoddolwyr.

Pwy y dylech eu cynnwys wrth gynllunio dehongli

Yr arfer gorau yw cynnwys cynulleidfaoedd targed, cymunedau lletya ac o bosibl ymgynghorwyr dehongli wrth gynllunio dehongli.

Ymgynghori â chynulleidfaoedd targed

Fel lleiafswm dylech ymgynghori â chynulleidfaoedd targed i lywio eich cynllun dehongli. Er enghraifft, gallech ddefnyddio grwpiau ffocws, gweithdai neu gyfarfodydd cyhoeddus i drafod arwyddocâd ac ystyr eich prosiect treftadaeth ac i wahodd syniadau a chyfraniadau.

Dylech hefyd brofi eich syniadau ar gyfer offer dehongli ac ymgorffori'r canfyddiadau yn eich cynllun dehongli a'ch briffiau dylunio.

Ymgysylltu cymunedol

Mae cyfranogiad cymunedol gweithredol yn rhoi mwy o ymdeimlad o berchnogaeth a pherthyn. Mae'n arbennig o bwysig cynnwys pobl wrth adrodd storïau sydd wedi'u colli am eu cymunedau.

O'r cychwyn cyntaf, dylech nodi cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad cymunedol. Ystyriwch faint o reolaeth y byddai angen i'ch sefydliad ei chadw dros yr allbwn terfynol. Po fwyaf o reolaeth yr ydych chi'n fodlon ei ildio i'ch grwpiau cymunedol, y mwyaf y byddan nhw wedi'u grymuso i wneud dehongliad sy'n perthyn iddyn nhw. Yn gyffredinol, mae cyfranogiad llwyddiannus yn cynnwys pobl neu gymunedau fel partneriaid cyfartal, sy'n cymryd rhan trwy gydol y prosiect ac yn cael eu talu am eu hamser.

Gallwch hefyd gynnwys pobl yn y gymuned leol wrth ddatblygu cynnwys ar gyfer eich prosiect treftadaeth, er enghraifft trwy:

  • gynnal cyfweliadau hanes llafar i baratoi sgriptiau neu ddyfyniadau ar gyfer paneli dehongli
  • cyhoeddi cais am ffotograffau a lluniau i'w defnyddio yn y dehongliad
  • datblygu prosiectau celfyddydol a gweithgareddau diwylliannol i gynhyrchu cynnwys i’w ymgorffori yn eich dehongliad, er enghraifft drwy gomisiynu artist i weithio gyda grwpiau ysgol i greu mosaig am safle treftadaeth Rhufeinig
  • sefydlu grwpiau cynghori cymunedol ac ieuenctid, paneli academaidd, ac ati, i ddatblygu syniadau a rhoi adborth ar gywirdeb a pherthnasedd
  • gweithio gyda churaduron cymunedol neu gyfranogwyr ymchwil i gynhyrchu cynnwys newydd

Gweithio gydag ymgynghorwyr dehongli

Gallech ystyried recriwtio cymorth arbenigol i roi cyngor ar ddehongli. Mae hyn yn arbennig o berthnasol os ydych yn datblygu prosiect dehongli ar raddfa fawr a bod angen arbenigedd ychwanegol arnoch i lunio cynllun dehongli.

Efallai y byddwch yn ystyried comisiynu arbenigwr dehongli annibynnol i weithio gyda'ch tîm. Gan eu bod yn annibynnol, byddant yn edrych yn wrthrychol ar yr holl faterion, gan eich helpu i ddatblygu atebion cost-effeithiol sy'n diwallu eich anghenion chi ac anghenion eich cynulleidfaoedd.

Efallai y bydd angen hefyd i chi ddefnyddio dylunwyr ar gyfer cynlluniau gofodol neu graffeg i'ch helpu i ddelweddu eich syniadau. Gallai rolau eraill a allai helpu i gyflwyno eich dehongliad gynnwys:

  • rheolwr prosiect
  • curadur
  • sgriptiwr
  • golygydd testun
  • gwneuthurwr modelau
  • ymgynghorydd mynediad
  • ymgynghorydd ymchwil ymwelwyr
  • ffotograffydd
  • arbenigwyr dysgu ac allgymorth cymunedol
  • dylunydd meddalwedd (ar gyfer apiau, deunydd rhyngweithiol, realiti rhithwir a gemau sgrîn gyffwrdd)
  • ymgynghorydd caledwedd clyweled

Gofynnwch am argymhellion gan atyniadau treftadaeth lleol a phenodwch ymgynghorwyr sydd â hanes sefydledig a syniadau yr ydych yn eu hoffi.

Cynllunio costau

Ar ôl i chi lunio'ch cynllun dehongli ac ysgrifennu briffiau ar gyfer elfennau dehongli penodol, dylech gysylltu â nifer o gontractwyr i gael amcangyfrifon a dyfynbrisiau.

Daw costau dehongli fel arfer o dan y penawdau canlynol:

  • ymgynghorwyr dehongli neu hyfforddiant staff i gyflwyno'r prosiect
  • gwasanaethau dylunio a chynhyrchu i greu offer dehongli
  • costau caledwedd a gosod
  • gwerthuso, profi a chyfranogiad ymwelwyr
  • gweithredu, cyflenwadau a chynnal a chadw parhaus

Amcangyfrifon bras o gostau

Gall y canllawiau a ganlyn eich helpu i gyfrifo costau gosod arddangosfa mewn gofod sydd eisoes yn bodoli. Gellir eu defnyddio fel amcangyfrif bras iawn o ffigurau cyffredinol cyn datblygu a chostio briffiau penodol.

Arddangosfa manyleb isel heb gesys arddangos (neu gan ailddefnyddio cesys presennol), paneli graffeg yn bennaf, cymysgedd o oleuo newydd a stoc, dim offer clyweled neu ryngweithiol, gosodiadau a dodrefn syml. Caniatewch £1,000 y m2.

Arddangosfa manyleb ganolig gan gynnwys rhai cesys arddangos gradd amgueddfa bob yn ail â chloriau persbecs, goleuo, offer clyweled a/neu ryngweithiol syml, graffeg, gosodiadau a dodrefn syml gyda rhai enghreifftiau manyleb uwch, mowntiau ac ategolion. Caniatewch £2,500 y m2.

Arddangosfa manyleb uchel gan gynnwys cesys arddangos gradd amgueddfa, offer clyweled a/neu ryngweithiol, goleuo, graffeg, gosodiadau a dodrefn manyleb uwch, fframio, mowntiau ac ategolion. Caniatewch £4,000 y m2.

Noder bod y ffigurau hyn yn gywir adeg eu cyhoeddi ac nid ydynt yn cynnwys costau rheoli prosiect, dylunio, ffioedd ymgynghori na phrofion ymwelwyr. Dylid eu defnyddio ar gyfer arweiniad yn unig. Mae llawer o brosiectau dehongli anhygoel yn cael eu dyfeisio ar gyllideb fach iawn, tra y gall costau fynd yn fawr iawn ar gyfer dehongli digidol blaengar.

Y peth pwysig yw bod yn realistig, blaenoriaethu, llunio briffiau manwl a cheisio nifer o ddyfyniadau tebyg o ffynonellau ag enw da i fireinio'r gyllideb.   

Ystyriaethau eraill o ran cost

Costau staff a gwirfoddolwyr

Dylech gynnal archwiliad sgiliau o'ch staff a gwirfoddolwyr i helpu nodi bylchau y dylid eu llenwi drwy recriwtio, hyfforddiant, gweithwyr llawrydd neu gontractwyr.

Bydd ymgynghorydd dehongli annibynnol yn costio rhwng £250-£450 y dydd, gan ddibynnu ar gwmpas y prosiect, eu lleoliad a lefel eu profiad.

Peidiwch ag anghofio treuliau gwirfoddolwyr neu gludiant a lluniaeth wrth weithio gyda grwpiau cymunedol. Efallai y byddwch am lunio polisi ar gyfer talu costau o’r fath fel bod pawb yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

Costau dylunio, cynnwys ac arddangos

Wrth gyfrifo costau dylunio 3D a 2D, caniatewch tua 15-20% o'r costau ar gyfer cynhyrchu a gosod.

Wrth recordio, ffilmio a golygu fformatau sain neu glyweled, mae'n bosibl y bydd ffioedd ychwanegol ar gyfer actorion, effeithiau sain/trac sain, llogi gwisgoedd, caniatâd atgynhyrchu, ac ati.

Gall ffioedd trwyddedu ac atgynhyrchu ar gyfer defnyddio delweddau dan hawlfraint, mapiau Arolwg Ordnans, ffotograffau, cerddoriaeth, ac ati, gronni'n gyflym Anelwch at ddod o hyd i gynifer o ddarnau â phosibl o'r un sefydliad fel y gallwch drafod gostyngiad posibl yn y ffi.   

Gall eich awdurdod cynllunio lleol roi gwybod a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer paneli awyr agored neu byst sain, ac ati.

Llinellau amser cryno ar gyfer dehongli prosiectau mawr

Mae'r canllawiau canlynol yn rhoi trosolwg o bryd a sut y dylai cynllunio dehongli cyfateb i'r camau datblygu prosiect ar gyfer prosiectau mawr. Mae'n darparu offeryn defnyddiol ar gyfer prosiectau o bob maint.

Noder y gall rhai o'r tasgau hyn symud neu gael eu cyfuno, gan ddibynnu ar gwmpas ac amserlen gyffredinol eich prosiect.

Cyn-ymgeisio

Diffiniad o'r prosiect (RIBA cam 0–1):

Ysgrifennwch ddogfen cychwyn prosiect sy'n crynhoi cwmpas ac uchelgeisiau'r prosiect, gan gynnwys manylion megis lleoliad, yr adnoddau sydd ar gael (amser, arian, pobl), disgwyliadau rhanddeiliaid, materion o ran mynediad a mesurau llwyddiant. Fel arfer caiff hwn ei lunio gan y rheolwr prosiect mewn cydweithrediad â'r grŵp llywio.

Os oes angen, ysgrifennwch friff i benodi ymgynghorydd dehongli annibynnol a fydd yn gweithio gyda’ch tîm i:

  • nodi'r syniad mawr (y thema) a thair i bum neges allweddol sy'n ei ddisgrifio'n gryno
  • nodi gwrthrychau neu asedau allweddol sy'n cyfathrebu eich syniad
  • cydgrynhoi gwybodaeth am y gynulleidfa darged (bresennol a newydd) a nodi lle mae angen mwy o ymchwil

Cynhaliwch werthusiad ffurfiannol o ymwelwyr i lywio'r cynllun dehongli a'r briffiau dylunio.

Cais cam datblygu

Dylunio'r cysyniad (RIBA cam 2):

Dyfeisiwch gynllun dehongli sy'n cyfateb i weledigaeth ac amcanion eich sefydliad gydag is-themâu a negeseuon allweddol datblygedig. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i arwain datblygiad y dyluniad. Ar gyfer prosiectau mwy sy'n ymwneud â safleoedd a chasgliadau treftadaeth, gall fod yn rhan o strategaeth ddehongli ehangach o lawer sy'n gweddu i weledigaeth a gwerthoedd eich sefydliad.

Gyda'r tîm dylunio, datblygwch y cysyniad ar gyfer y profiad i ymwelwyr, gan ddisgrifio llif y naratif, y llwybr ymwelwyr a'r 'golwg a theimlad’.

Camau pellach:

  • nodwch a chwmpaswch unrhyw gyfranogiad cymunedol yn y prosiect
  • lluniwch friffiau dehongli ar gyfer offer dehongli penodol i arwain datblygiad y dyluniad
  • penodwch ddylunwyr 3D, 2D a chlyweled
  • Bydd y rheolwr prosiect a'r syrfëwr meintiau'n gwirio dyluniad y cysyniad yn erbyn y gyllideb ac yn ymgymryd â pheirianneg gwerth gyda'r tîm dylunio, os oes angen.

Adolygiad datblygu

Dylunio'r cynllun (RIBA cam 3):

  • Gyda'r tîm dylunio, datblygwch a mireiniwch y profiad ymwelwyr. Crëwch daith cerdded trwodd, gan ddisgrifio arddangosion, technegau a thriniaethau gyda delweddau dylunio a thestun.
  • Adolygwch y dyluniad 3D yn erbyn y cynllun dehongli a gwiriwch am synergedd.
  • Gyda'r dylunydd 2D a'r ymgynghorydd dehongli, cytunwch ar yr hierarchaeth testun a'r cyfrif geiriau.
  • Cydgrynhowch destun enghreifftiol ar gyfer dyluniadau cysyniad 2D gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, testun dwyieithog.
  • Penodwch ymgynghorydd i gynnal archwiliad mynediad o ddyluniad eich cynllun a gwneud diwygiadau lle bo angen.
  • Dechreuwch ar y prosiectau cyfranogiad cymunedol a chytunwch ar sut y caiff allbynnau eu hymgorffori yn y dyluniad 3D.
  • Profwch ddyluniad y cynllun gyda chynulleidfaoedd targed a gwnewch unrhyw ddiwygiadau sydd eu hangen.
  • Adolygwch ddyluniad y cynllun yn erbyn y gyllideb a gwnewch beirianneg gwerth gyda'r tîm dylunio os oes angen.

Cais cam cyflwyno

Dyluniad terfynol/manwl (RIBA cam 4):

  • Bydd y tîm dylunio'n datblygu dyluniadau manwl ar gyfer tendro, gan gynnwys byrddau samplu deunyddiau a'r hierarchaeth graffig.
  • ysgrifennwch friffiau terfynol ar gyfer is-ymgynghorwyr sain/clyweled a thendro
  • ysgrifennwch destun terfynol a phrofwch ef gyda chynulleidfaoedd targed
  • gwnewch ymchwil lluniau a ffilm a dewch o hyd i ganiatâd i'w defnyddio
  • Bydd y rheolwr prosiect a'r syrfëwr meintiau yn adolygu dyluniadau terfynol yn erbyn y gyllideb ac yn ymgymryd â pheirianneg gwerth gyda'r tîm dylunio, os oes angen.

Cynhyrchu/tendro (RIBA Cam 5):

  • Bydd y tîm dylunio'n paratoi'r pecyn tendro terfynol, gan gynnwys manylebau ar gyfer offer dehongli y gallai fod angen contractwyr arbenigol ar ei gyfer.
  • penodwch gontractwyr ac is-gontractwyr i adeiladu a gosod y prosiect
  • Bydd y rheolwr prosiect yn adolygu costau wrth i dendrau ddod i law gyda'r tîm dylunio a'r syrfëwr meintiau.
  • Gyda'r rheolwr prosiect, cymeradwywch y gwaith celf terfynol i sicrhau bod yr offer dehongli fel y'i gynlluniwyd.
  • adolygwch ffug deunyddiau a phrofwch brototeipiau gyda chynulleidfaoedd

Gwneuthuriad a gosod (RIBA cam 6–7):

  • Bydd y rheolwr prosiect yn cydlynu gwaith y contractwyr ac isgontractwyr.
  • Cydgysylltwch â'r rheolwr prosiect i adolygu offer dehongli yn ystod y broses gynhyrchu a gosod er mwyn nodi problemau posibl.
  • Trosglwyddo'r prosiect – bydd contractwyr yn darparu hyfforddiant staff ac yn rhoi llawlyfrau cynnal a chadw ar gyfer yr holl arddangosion ac offer dehongli.
  • cynhaliwch werthusiad crynodol gyda'r gynulleidfa

Astudiaethau achos a ffynonellau cyngor a gwybodaeth eraill

Prosiectau o dan £250,000

  • Daeth Steel Stories â chenedlaethau o bobl ar draws Teesside at ei gilydd, o'r rhai a rannodd straeon o lygad y ffynnon i brentisiaid a greodd darnau canolog yr arddangosfa. Enillodd Wobr yr Amgueddfa Fach Orau am ei phrosiect a guradwyd ar y cyd.
  • Rhannodd Queering Spires straeon heb eu hadrodd am ofodau cwiâr cudd yn Rhydychen. Roedd Amgueddfa Rhydychen am osgoi'r gwastraff a gynhyrchir yn aml gan arddangosfeydd dros dro a sicrhau bod ei harferion caffael yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol gyfrifol. Enillodd Wobr Prosiect Cynaliadwy y Flwyddyn yng Ngwobrau Treftadaeth ac Amgueddfeydd 2020.
  • Arweiniwyd A History of Place, ar draws wyth safle ledled Lloegr, gan bobl anabl, gyda phobl anabl yn llywio pob agwedd ar ei ddatblygiad gan gynnwys ymagweddau at ddehongli.
  • Bu i Archifau Norfolk, mewn partneriaeth â Together, gynnwys pobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon o gyflyrau iechyd meddwl. Defnyddiodd y prosiect Change Minds weithdai ysgrifennu creadigol, peintio a thecstilau a arweiniodd at arddangosfa gyhoeddus o ansawdd uchel yn Llyfrgell Ganolog Norwich.

Prosiectau dros £250,000

  • Mae Our Shared Cultural Heritage yn rhan o brosiect llawer mwy a arweinir gan ac ar gyfer pobl ifanc â threftadaeth De Asia. Mae'n cynnwys ystod o ddamcaniaethau diwylliannol, syniadau creadigol, meddwl beirniadol a thrafodaeth.
  • Yn Shire Hall, Dorset, mae ymwelwyr yn mynd ar daith trwy gyfres o orielau a gofodau hanesyddol, gan gynnwys celloedd, dociau ac ystafell llys hanesyddol. Creodd y tîm dehongli brofiad amlsynhwyraidd a ddaeth â'r gorffennol yn fyw.
  • Mae ymwelwyr â Tropical Ravine, Belfast, yn dysgu am y gwaith cadwraeth a'r casgliad planhigion trwy arddangosion rhyngweithiol a digidol. Mae hygyrchedd wedi'i wella gyda chyfleusterau synhwyraidd ar gyfer ymwelwyr â nam ar eu golwg a'u clyw.
  • Dyfeisiodd yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol yn Llundain gyfranogiad strwythuredig ar gyfer amrywiaeth o bartneriaid cymunedol i ddatblygu storïau a guradwyd ar y cyd ar gyfer Orielau Endeavour. Yn yr agoriad, gwahoddwyd cymuned y Môr Tawel i berfformio seremonïau bendithio ar gyfer gwrthrychau cysegredig a oedd yn cael eu harddangos.
  • Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn cynnwys dehongli dwyieithog ac wedi cynhyrchu arddangosyn sy'n ystyriol o ddementia trwy ailddehongli adeilad hanesyddol presennol. Hon oedd enillydd Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Sefydliadau sy’n cynnig adnoddau dehongli:

Cyhoeddiadau ar-lein am ddim

Cynllunio deongliadol:

Dehongli awyr agored:

Deddfwriaeth cydraddoldeb:

Cyfranogiad:

Mynediad:

Arweiniad ar ysgrifennu testun hygyrch: