Tirweddau, moroedd a natur – canllaw arfer da

Tirweddau, moroedd a natur – canllaw arfer da

Treftadaeth naturiol yw rhan o’n treftadaeth hynaf, o ffosilau 150 miliwn o flynyddoedd oed i blanhigion a phryfed brodorol a fodolai ymhell cyn bywyd dynol. Ond mae’r DU yn un o’r lleoedd ar y Ddaear lle mae byd natur wedi’i disbyddu fwyaf gyda thuag un o bob chwe rhywogaeth dan fygythiad o ddifodiant.

Trwy ddarllen y canllaw hwn byddwch yn cael gwybodaeth i'ch helpu i ddylunio a chyflwyno prosiectau a all cychwyn adferiad tirweddau a chynefinoedd trefol a gwledig, er mwyn iddynt gynnal treftadaeth naturiol doreithiog a systemau naturiol iach.

Cefnogi adferiad natur a chadwraeth

Mae amgylchedd naturiol iach a ffyniannus yn ganolog i'n ffyniant yn y dyfodol. Mae'n darparu gwasanaethau hanfodol fel puro dŵr yfed a pheillio cnydau bwyd. Mae hefyd yn magu ein heneidiau trwy ddarparu lleoedd i ymlacio, dadflino ac ymadfer.

Mae cefnogi prosiectau tirwedd, môr a natur yn un o flaenoriaethau allweddol ein strategaeth Treftadaeth 2033. Rydym am gefnogi cadwraeth y cynefinoedd a’r rhywogaethau hanfodol sy’n weddill, helpu cynefinoedd i ymadfer ac ehangu, a sicrhau y gall pawb fwynhau tirweddau trefol a gwledig – a’u treftadaeth naturiol.

Byddwn hefyd yn cefnogi prosiectau sy'n canolbwyntio ar dreftadaeth adeiledig a diwylliannol i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi adferiad byd natur.

Dylai pob prosiect ystyried sut y gallant leihau colli treftadaeth naturiol a chyfrannu at gynnydd net mewn cynefinoedd a rhywogaethau. Er enghraifft:

  • gallai prosiect datblygu amgueddfa greu cynefinoedd newydd ar doeon neu mewn meysydd parcio i wneud iawn am unrhyw golled bosibl o gynefinoedd a chynyddu cyfraniad y prosiect at yr amgylchedd naturiol
  • gallai prosiect rheilffordd treftadaeth greu coridor bywyd gwyllt strategol a chynefinoedd newydd wrth ymyl y llinell sy’n gysylltiedig â nodweddion tirwedd cyfagos fel perthi neu byllau i gefnogi treftadaeth naturiol leol

Cyngor arbenigol

Dylai ymgeiswyr sydd heb brofiad o gyflwyno prosiectau â ffocws ar dreftadaeth adeiledig neu ddiwylliannol geisio cyngor gan arbenigwyr lleol megis y 46 o Ymddiriedolaethau Natur, elusennau amgylcheddol megis RSPB neu ymgynghorwyr arbenigol a gynrychiolir gan gyrff fel Chartered Institute of Ecology and Environmental Management neu Landscape Institute.   

Cofnodi data a mynediad yn y dyfodol

Er mwyn rheoli cynefinoedd a rhywogaethau yn y dyfodol rhaid cael data gwaelodlin cywir ar helaethrwydd, iechyd a dosbarthiad rhywogaethau a chynefinoedd. Cedwir data presennol gan lawer o sefydliadau megis grwpiau rhywogaethau neu gynefinoedd arbenigol, awdurdodau lleol, canolfannau cofnodion lleol a chyrff cenedlaethol megis yr asiantaethau statudol a’r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (NBN).

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i brosiectau sy’n ymwneud â chasglu a chofnodi data cynefinoedd a rhywogaethau:

  • wneud data'n hygyrch i fwy o bobl
  • darparu cyfleoedd gwirfoddoli a dysgu i ystod ehangach o bobl er mwyn adnabod, arolygu a chofnodi rhywogaethau a chynefinoedd
  • cyflenwi’r holl ddata cynefinoedd a rhywogaethau, yn rhad ac am ddim, i ganolfannau cofnodion amgylcheddol lleol ac i’r NBN (maent yn darparu gwybodaeth am sut i wneud hyn ar eu gwefan)

Bydd llawer o brosiectau treftadaeth naturiol yn cynhyrchu deunydd digidol neu 'allbynnau', megis ffotograffau digidol, setiau data, cynnwys gwe ac apiau. Mae gennym ofynion penodol ar gyfer allbynnau digidol, sydd wedi'u nodi yn ein telerau grant a'u hesbonio yn ein canllaw arfer da digidol. Rhaid i'r adnoddau digidol yr ydym yn eu hariannu fod ar gael, yn hygyrch ac yn agored, er mwyn sicrhau y bydd modd dod o hyd i’r deunyddiau treftadaeth rydym yn eu hariannu heddiw a’u defnyddio nawr ac yn y dyfodol.

Er mwyn cyflenwi data ar gynefinoedd a rhywogaethau i'r NBN, rhaid i unrhyw waith arsylwi gydymffurfio â’r safonau ar gyfer ansawdd a hygyrchedd data a nodir gan yr Ymddiriedolaeth NBN ar Atlas yr NBN. Rhaid i'r data hwn fod ar gael i'r cyhoedd ar fanylder y recordio, yn amodol ar gyfyngiadau rhywogaethau sensitif.

Mae nifer o ffyrdd o gyflenwi eich data:

Os nad ydych yn siŵr beth yw’r ffordd orau o gyflenwi data, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth yr NBN drwy e-bost yn support@nbnatlas.org.

Gellir cynnwys y costau rhesymol sy’n gysylltiedig â phrosesu a chyflwyno data prosiect i Ganolfannau Cofnodion Amgylcheddol lleol neu ranbarthol ac i’r NBN fel cost gymwys yn eich cais am grant.

Enillion bioamrywiaeth net

Ym mis Ionawr 2024 cyflwynodd y llywodraeth yn Lloegr ddeddfwriaeth newydd i gyflwyno enillion bioamrywiaeth net (BNG) ar draws rhai mathau o ddatblygiadau sydd angen caniatâd cynllunio. Mae BNG yn ei gwneud yn ofynnol i waelodlin bioamrywiaeth bresennol safle datblygu gael ei mesur a'i diogelu, a bod unrhyw golled anochel yn cael ei digolledu gan gynefinoedd newydd a fydd yn cyflwyno cynnydd net o 10% ym mioamrywiaeth y safle.

Mae BNG yn amod ac yn ofyniad polisi o ganiatâd cynllunio. Bydd angen i unrhyw ymgeiswyr â phrosiectau sy'n dod o dan ofynion BNG ystyried BNG gorfodol fel rhan o'u cais rownd ddatblygu. Os na all safle gynnwys BNG digonol, mae'n bosibl y bydd angen gwneud darpariaeth oddi ar y safle. Mae hyn yn berthnasol i brosiectau yn Lloegr yn unig. Gweler gwefan Defra am fwy o wybodaeth am enillion bioamrywiaeth net.

Prosiectau ailgyflwyno rhywogaethau

Am fod rhai rhywogaethau brodorol yn y DU bellach dan gymaint o fygythiad a bod eu dyfodol mor fregus, mae angen ymyriadau penodol arnynt. Trawsleoliadau cadwraeth yw symud a rhyddhau planhigion, anifeiliaid neu ffyngau i'r gwyllt yn fwriadol at ddibenion cadwraeth. Mae hyn yn cynnwys ailgyflwyniadau sy'n trawsleoli organeb y tu mewn i'w amrediad naturiol i ardaloedd y mae wedi'i golli ohonynt. Nod ailgyflwyno yw ailsefydlu poblogaeth hyfyw o rywogaeth, ond caiff ei llywodraethu'n llym gan godau ac arweiniad a gyhoeddir gan lywodraethau ac asiantaethau statudol ar draws pedair gwlad y DU.

Gallwn gefnogi ailgyflwyno rhywogaethau lle ceir tystiolaeth gref mai hon yw’r ffordd orau o sicrhau adferiad byd natur, lle dangosir eu bod yn cydymffurfio ag arweiniad a deddfwriaeth gyfredol llywodraeth, a lle mae'n cynnig ateb cynaliadwy.

Mae arweiniad unigol ar ailgyflwyno a thrwyddedau bywyd gwyllt wedi’u cyhoeddi ar draws y pedair gwlad:

Mae gan rai rhywogaethau werth economaidd yn eu rhinwedd eu hunain, yn enwedig pysgod fel eog, adar fel y betrisen lwyd a chramenogion fel cimychiaid. Bydd angen i geisiadau sy’n ymwneud â rhywogaethau helwriaeth neu rai â gwerth masnachol ddangos y bydd budd cyhoeddus eu hailgyflwyno’n llwyddiannus yn llawer mwy nag unrhyw fudd preifat neu fasnachol i’r tirfeddiannwr neu’r grantï.

Caffael tir

Gallwn ariannu prosiectau yn ymwneud â phrynu tir sy'n bwysig oherwydd ei werth tirwedd esthetig, ar gyfer mynediad cyhoeddus ffisegol, ar gyfer natur a geoamrywiaeth. Bydd angen i chi ystyried a chyfiawnhau pam yr ystyrir bod prynu’r tir yn llwyr yn hanfodol i’w gadwraeth yn yr hirdymor yn hytrach na dulliau eraill megis cytundebau rheoli neu gyfamodau. Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi esbonio pa opsiynau eraill ar wahân i berchnogaeth lwyr sydd wedi'u hystyried a pham mai prynu sy'n cynnig yr ateb gorau.

Darparu mynediad i dirweddau a natur

Rydym wedi'n hymrwymo i sicrhau bod y prosiectau a gefnogwn yn creu gwell mynediad i'r cyhoedd pryd bynnag y bo modd ac yn ymarferol. Gall prosiectau a ariannwn gynnwys gwaith i wella graddfa a hygyrchedd Llwybrau Cenedlaethol, llwybrau troed, rhwydweithiau llwybrau beicio ar gyfer pawb neu ddarparu mynediad newydd i ardaloedd a oedd ar gau yn flaenorol.

Yng Nghymru a Lloegr, mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CRoW) 2000 yn darparu mynediad cyhoeddus i ardaloedd a elwir yn “dir mynediad”. Mae’r Ddeddf hefyd yn caniatáu neilltuo tir yn wirfoddol er budd y cyhoedd am byth (neu lle bo’n berthnasol am gyfnod les hir). Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os nad yw tir wedi'i fapio fel 'cefn gwlad agored' neu dir comin cofrestredig, y gall tirfeddianwyr a lesddeiliaid hir neilltuo'r tir hwn ar gyfer mynediad cyhoeddus am ddim. Mae neilltuo tir yn wirfoddol ar gyfer mynediad cyhoeddus yn arbennig o berthnasol i gaffaeliadau tir posibl a gefnogir gan ein hariannu a bydd yn cael ei ystyried yn gadarnhaol.

Er i ni ddisgwyl i brosiectau a ariannwn wella mynediad cyhoeddus, rydym yn deall y gall mynediad ffisegol a sŵn amharu ar rai cynefinoedd bregus neu aflonyddu ar rywogaethau. Os yw hyn yn wir, efallai yr hoffech ystyried darparu gwahanol lefelau neu barthau mynediad i wahanol rannau o ardal prosiect. Efallai y bydd rhai ardaloedd yn gwbl hygyrch trwy gydol y flwyddyn, tra y bydd rhai eraill ar gau yn ystod tymhorau magu neu nythu.

Os teimlwch efallai nad yw mynediad ffisegol llawn yn briodol, efallai y byddwch am ystyried defnyddio mathau eraill o fynediad i alluogi pobl i weld a gwerthfawrogi’r dreftadaeth trwy, er enghraifft, ddefnyddio cuddfannau, camerâu o bell neu dechnolegau digidol eraill.

Gweithio ar dir preifat

Deuir o hyd i lawer o gynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth ar dir sy'n eiddo i unigolion preifat neu sefydliadau er-elw. Er mwyn i'r DU gyrraedd y targedau cyfredol ar gyfer adfer byd natur, mae angen gwella cynefinoedd waeth p’un a ydynt yn eiddo preifat neu gyhoeddus.

Rydym yn derbyn ceisiadau am brosiectau tirwedd a natur sydd ar dir cyhoeddus a/neu breifat, ar yr amod bod y budd cyhoeddus yn drech nag unrhyw fudd preifat i’r tirfeddiannw(y)r unigol os ydynt yn unigolion preifat neu’n sefydliadau er-elw. Gall perchnogion preifat wneud cais am grantiau hyd at £250,000, tra y gall cyrff nid-er-elw wneud cais am grantiau mwy.

I gynnwys tir preifat yn eich cais dylai eich prosiect anelu at fodloni’r holl feini prawf hyn:

  • bod â chraidd o gynefin â blaenoriaeth o ansawdd da neu’n cynnal poblogaeth sylweddol o rywogaethau â blaenoriaeth
  • gwella, ehangu a/neu gydgysylltu maint ac ansawdd y cynefin a fydd yn helpu cyrraedd targedau cynefinoedd a rhywogaethau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU
  • cyfrannu at reolaeth gynaliadwy hirdymor yr ardal
  • dangos ymagwedd strategol at gadwraeth cynefin neu rywogaeth â blaenoriaeth

Hyd yn oed wrth weithio ar dir preifat byddwn yn disgwyl i rywfaint o fynediad cyhoeddus gael ei ddarparu. Fodd bynnag, rydym hefyd yn derbyn yr egwyddor o lefelau parth mynediad ffisegol o fewn ardal eich prosiect ac efallai na fydd mynediad ffisegol bob amser yn briodol nac yn ddymunol am resymau cadwraeth cynefinoedd.

Prosiectau ar raddfa tirwedd a'r rhai a gyflwynir ar safleoedd lluosog

Gwyddom fod gweithio ar raddfa tirwedd yn cyflwyno canlyniadau o ran gwneud cynefinoedd yn fwy cydnerth a chaniatáu i boblogaethau o rywogaethau ehangu a symud os bydd amodau’n newid.

Os ydych yn cynllunio prosiect a fydd yn cyflwyno gwaith a/neu weithgareddau ar draws ardal o gefn gwlad neu ardaloedd o dir nad ydynt yn ffinio â'i gilydd, dylech gyflwyno cynllun gweithredu ardal fel rhan o’ch cais rownd gyflwyno yn lle cynlluniau cadwraeth, gweithgareddau a chynnal a chadw/rheoli ar wahân. Gweler ein canllaw arfer da - cynllun gweithredu ardal.

Mae'n bwysig bod gennych ddealltwriaeth dda o gymeriad tirwedd yr ardal yr ydych yn bwriadu gweithio ynddi i sicrhau bod eich prosiect yn briodol i'r ardal leol. Er y bydd cymeriad tirwedd yn newid dros amser, mae llawer o nodweddion tirwedd, megis coetiroedd hynafol, marciau neu lwybrau cefnen a rhych aradr, wedi bodoli ers canrifoedd.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am asesu cymeriad tirweddau yn ein canllaw arfer da - cynllun gweithredu ardal. Mae mapio cymeriad tirwedd a morlun bellach yn broses a ddeellir yn dda ac mae cymorth arbenigol ar gael yn hwylus naill ai gan gyrff statudol megis Natural England neu Historic England, neu gan ymgynghorwyr arbenigol.

Wrth ystyried cymeriad tirweddau mae hefyd yn bwysig meddwl nid yn unig am gynefinoedd a daeareg, ond hefyd am dreftadaeth adeiledig a diwylliannol. Wrth gynnig gwaith cadwraeth dros ardal o dirwedd mae'n ddefnyddiol ystyried yr ystod o nodweddion sy'n gwneud y dirwedd honno'n arbennig. Gallai’r rhain gynnwys patrymau caeau, cloddiau, gwrychoedd, ffosydd, coetir, yn ogystal â waliau, adeiladau, topograffeg, defnydd o dir, archaeoleg a thirweddau wedi’u dylunio megis gerddi ac aneddiadau.

Os ydych yn bwriadu gwneud newidiadau i gymeriad tirwedd ardal, efallai y byddwch am ddangos i ni sut y bydd y newidiadau’n fuddiol ac na fyddwch yn colli neu’n newid yn andwyol nodweddion neu asedau treftadaeth eraill sydd yr un mor werthfawr. Wrth ystyried cymeriad tirweddau, dylech hefyd ystyried treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol, er enghraifft, tafodieithoedd lleol, traddodiadau, iaith, cerddoriaeth a chrefftau. Gweler ein canllawiau arfer da - treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol.

Ein prosiectau a chynlluniau rheoli tir amgylcheddol (ELM) llywodraeth

Lle y bydd ELM a ariennir gan lywodraeth yn cyflawni rhan o ddibenion cymeradwy eich prosiect, gellir cynnwys taliadau a wneir o ganlyniad i'r cytundebau stiwardiaeth hyn, ynghyd â chyfraniad y tirfeddiannwr/ffermwr, fel ariannu partneriaeth cyfatebol tuag at gost gyffredinol y prosiect.

Mae'n bwysig gwybod y dyddiad y cytunwyd arno ar gyfer dechrau'r gwaith a ariennir gan ELM yn hytrach na'r dyddiad y llofnodwyd y cytundeb. I gymhwyso fel arian cyfatebol ar gyfer eich prosiect, rhaid i ddyddiad dechrau'r cytundeb beidio â bod yn gynharach na blwyddyn cyn dyddiad cymeradwyo grant y rownd ddatblygu neu'r rownd gyflwyno. Fodd bynnag, ni all y taliad cynllun blynyddol ar gyfer y flwyddyn cyn cymeradwyo’r rownd ddatblygu neu gyflwyno gyfrif fel ariannu partneriaeth, dim ond y taliadau blynyddol a wneir yn ystod oes y contract grant all gyfrif.

Rydym yn ymwybodol bod manylion ELM yn dal i ddod i'r amlwg ar draws pedair gwlad y DU, felly cysylltwch â'ch swyddfa leol os ydych yn ansicr.

Gwobrau'r Faner Werdd

Os yw eich prosiect yn canolbwyntio ar barc neu ardd gyhoeddus, bydd ein telerau grant yn gofyn i chi wneud cais am Wobr y Faner Werdd ar gyfer y safle a chyflawni hynny unwaith y bydd y prosiect wedi cyrraedd cam cwblhau ymarferol y gwaith cyfalaf.

Wedyn, bydd angen i chi gadw Gwobr y Faner Werdd ar lefel llwyddiant uchel am saith mlynedd yn olynol ar ôl cwblhau ymarferol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ein buddsoddiad yn cael ei ddiogelu a bod y safonau ansawdd a ddisgwylir fel rhan o gais am Wobr y Faner Werdd yn cael eu cynnal.

Gellir cynnwys cyfanswm y gost o wneud cais am Wobr y Faner Werdd a chynnal hynny am saith mlynedd yn eich cais. Efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o gyflawni Gwobr y Faner Werdd yn ystod cyfnod eich contract grant.