Logos a gofynion cydnabyddiaeth grant Llywodraeth Cymru

Logos a gofynion cydnabyddiaeth grant Llywodraeth Cymru

See all updates
Fel rhan o’ch grant gan Lywodraeth Cymru, rhaid i chi gydnabod eich ariannu ar gyfryngau cymdeithasol, drwy ddatganiadau i’r wasg, a thrwy arddangos ein logo partneriaeth ar yr holl weithgarwch, brandio a deunyddiau hyrwyddo sy'n gysylltiedig â'ch prosiect. Bydd yr wybodaeth ar y dudalen hon yn eich helpu i wneud hyn.

Mae pedair rhaglen ariannu yr ydym yn eu darparu ar ran Llywodraeth Cymru neu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru: Rhwydweithiau Natur, Coetiroedd Cymunedol, Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau.

Sut i siarad am eich grant

Mae rhai rhaglenni'n derbyn ariannu cyfatebol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac mae eraill nad ydynt.

Mewn deunyddiau marchnata – fel datganiadau i’r wasg neu’ch gwefan – defnyddiwch y datganiad cydnabyddiaeth isod sy’n berthnasol i’r rhaglen rydych chi’n derbyn ariannu ganddi.

Rhwydweithiau Natur

Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

This project is funded by the Nature Networks Programme. It is being delivered by the Heritage Fund, on behalf of the Welsh Government.

Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) 

Ariennir y prosiect hwn gan gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Mae'n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth a Llywodraeth Cymru a'u Rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru. 

This project is funded by The Woodland Investment Grant (TWIG) scheme. It is being delivered by The National Lottery Heritage Fund in partnership with the Welsh Government’s National Forest for Wales Programme. 

Defnyddio ein logo partneriaeth

Gallwch lawrlwytho'r logo(s) partneriaeth dwyieithog cywir ar gyfer eich prosiect o'r dudalen hon.

Y Loteri Genedlaethol

Mae Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau), a TWIG yn cael eu hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a chan arian a godir gan y Loteri Genedlaethol. Ar gyfer y rhaglenni hyn, defnyddiwch logo'r bartneriaeth gyda bysedd croes y Loteri Genedlaethol yn y gornel chwith uchaf.

Llywodraeth Cymru yn unig sy'n ariannu Rhwydweithiau Natur (rowndiau un, tri, pedwar a phump), felly defnyddiwch logo'r bartneriaeth heb y bysedd croes.

Gallwch lawrlwytho eich logo perthnasol o'r naill ffolder neu'r llall:

Ariannu nad yw'n dod o'r Loteri – logos partneriaid Llywodraeth Cymru

Ariannu gan y Loteri Genedlaethol – logos partneriaid Llywodraeth Cymru

Mae gennym logos ar gael yn y fformatau canlynol:

PNG – ar gyfer apiau digidol (er enghraifft, PowerPoint, Microsoft Word neu ar wefannau). Mae ffeiliau PNG yn cynnal ansawdd ac yn cefnogi cefndiroedd tryloyw.

EPS (delwedd 'Encapsulated PostScript') – ar gyfer argraffu o ansawdd uchel, a ddefnyddir gan ddylunwyr graffig.

JPEG – gellir eu defnyddio ar gyfer apiau argraffu sylfaenol pan nad oes meddalwedd dylunio ar gael, ond nid ydynt yn addas i greu argraffiadau o ansawdd uchel na phroffesiynol. Wrth ddefnyddio logo partneriaeth, defnyddiwch ef yn ei gyfanrwydd i sicrhau bod y berthynas ariannu a chyflwyno yn glir.

Ni ddylid byth diwygio'r logos, er enghraifft, peidiwch ag: aflunio neu newid maint yn anghymesur, defnyddio un iaith ar ei phen ei hun gan fod yn rhaid iddynt fod yn ddwyieithog, dileu unrhyw ffont, neu newid cyfeiriad draig Cymru – rhaid iddi wynebu i'r chwith bob amser.

Lliwiau

Mae dau fersiwn lliw o'r logos partneriaeth: du a gwyn

Bydd lliw eich cefndir yn pennu pa fersiwn i'w defnyddio:

  • Os ydych yn defnyddio print un lliw, defnyddiwch y fersiwn ddu o'r logo.
  • Wrth osod y logo ar gefndiroedd lliw tywyll, defnyddiwch y fersiwn wen o'r logo bob amser.

Dim ond mewn du neu wyn y gellir atgynhyrchu'r stamp. Peidiwch â defnyddio unrhyw liw arall.

Cydnabyddiaeth fawr

Ar gyfer deunyddiau cydnabyddiaeth mwy - er enghraifft paneli dehongli awyr agored - gwnewch yn siŵr bod y logo yn ddigon mawr i'w ddarllen yn glir o bellter o bum metr.

Lleiafswm maint

Mae'r lleiafswm maint yn cyfeirio at led cyfan y logo partneriaeth. I sicrhau bod y logo yn glir ac yn ddarllenadwy, y lleiafswm maint a ddylai ymddangos yw 108mm mewn print a 306px ar y sgrin.

Mynnwch ysbrydoliaeth

Cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus

Cyn cychwyn neu ymwneud ag unrhyw waith hyrwyddo a ariennir gan un o raglenni partneriaeth Llywodraeth Cymru, rhaid i chi gysylltu â'ch Rheolwr Cymorth Grant. Rhowch wybodaeth iddynt yn barhaus am unrhyw weithgareddau pellach yn y wasg.

Rhannu ar gyfryngau cymdeithasol

Os yn bosibl os oes lle i'w wneud, tagiwch Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth yn eich postiadau.

Instagram

@HeritageFundUK @CymruClimate @NatResWales

Facebook

@NewidHinsawdd / @WGClimateChange

@HeritageFundCYM

LinkedIn

@LlywodraethCym / @WelshGovernment

@HeritageFundCYM

Ein hashnodau

Mae hashnodau gwahanol ar gyfer pob rhaglen ariannu:

Rhwydweithiau Natur: #RhwydweithiauNatur / #NatureNetworks

TWIG: #CoedwigGenedlaethol / #NationalForestWales

Lluniau

Mae arnom angen delweddau i'w defnyddio ar ein gwefan ac i'w rhoi i'r cyfryngau. Rydym yn chwilio am y delweddau gorau oll i ddangos y newid cadarnhaol a pharhaol y mae eich prosiect wedi’i greu ar gyfer pobl, cymunedau a threftadaeth.

Rydym am weld ffotograffiaeth graff sydd â chyfansoddiad da ac sy'n adrodd stori. Rydym yn chwilio’n benodol am ffotograffiaeth sy’n llawn bywyd – yn gyfoeth o liw, egni, cymeriad ac yn bwysicaf oll, pobl. Cysylltwch â'ch Rheolwr Cymorth Grant am fwy o fanylion.

Anfonwch luniau o'ch prosiect at eich Rheolwr Cymorth Grant ac i brand@heritagefund.org.uk. Cofiwch gynnwys y caniatadau a'r credydau perthnasol ar gyfer y ddelwedd. Os byddwn yn defnyddio'ch delwedd byddwn yn rhoi credyd i'ch prosiect.