Cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i adeiladu sector treftadaeth amrywiol

Cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i adeiladu sector treftadaeth amrywiol

Pobl ifanc yn derbyn hyfforddiant gan Gymrodoriaeth Windsor
Photo credit: Windsor Fellowship
Rydym wedi lansio rhaglen mewn partneriaeth â Chymrodoriaeth Windsor i helpu graddedigion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) i roi hwb i'w gyrfaoedd.

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chymrodoriaeth Windsor wedi creu'r rhaglen hyfforddeiaeth raddedigion hon i chwarae ein rhan i gynyddu amrywiaeth o fewn y sector treftadaeth, gan adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cyhoedd ym Mhrydain yn well.

"Yn y cyfnod anodd yma rwy'n falch iawn ein bod yn gweithio gyda Chymrodoriaeth Windsor i gynnig y cyfleoedd newydd hyn i raddedigion fel rhan o'n hymdrechion i gynyddu amrywiaeth y sector."

Ros Kerslake, Prif Weithredwr

Pam rydym yn helpu graddedigion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gynhwysol ym mhob rhan o'r Gronfa, o brosiectau i weithwyr. Yn ddiweddar, gwnaethom addo gwneud mwy i ysgogi mwy o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn treftadaeth, gan gychwyn adolygiad amrywiaeth a thasglu i gyflawni hyn.

Roedd y Prif Weithredwr, Ros Kerslake yn falch o weld y camau gweithredu yn dilyn lansio'r adolygiad: "Yn y cyfnod anodd hwn rwy'n falch iawn ein bod yn gweithio gyda Chymrodoriaeth Windsor i gynnig y cyfleoedd newydd hyn i raddedigion fel rhan o'n hymdrechion i gynyddu amrywiaeth y sector."

Young BAME students and graduates working and training with the Windsor Fellowship
Cyfranogwyr rhaglen Cymrodoriaeth Windsor

Mae cymunedau Du, Asaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu tangynrychioli'n eang o fewn y sector treftadaeth; fel ymwelwyr â threftadaeth ac o fewn y gweithle. Dangosodd adroddiad yn 2017 fod ymgysylltu â threftadaeth yn gymesur uwch o bobl wyn na'r grwpiau Du, Asaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws pob math o safleoedd treftadaeth, ac eithrio treftadaeth chwaraeon. Yn un o'n blogiau Treftadaeth y Dyfodol yn ddiweddar, rhannodd Dr Anjana Khatwa dystiolaeth mai'r sector amgylcheddol (treftadaeth naturiol) yw'r gwynaf yn y DU, gyda dim ond 0.6% o'r gweithlu'n nodi eu bod yn rhai nad ydynt yn wyn.

Nod y cyfle hwn yw rhoi profiad gwaith amhrisiadwy i raddedigion Du, Asaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i roi hwb i'w gyrfaoedd yn y sector yn y dyfodol. Bydd y Gronfa yn cefnogi'r graddedigion drwy gyfnod o 12 mis, gan gynnig mentora, arweiniad a phrofiad gwaith go iawn, a fydd yn cynyddu eu cyflogadwyedd.

Ynglŷn â Chymrodoriaeth Windsor

Mae Cymrodoriaeth Windsor yn arbenigwyr ar alluogi pobl o gymunedau amrywiol Prydain i gyrraedd eu potensial, a chysylltu sefydliadau a chyflogwyr â'r unigolion talentog hyn. Maent wedi llwyddo i hyfforddi a chefnogi dros 15,000 o bobl o amrywiaeth o gefndiroedd i gyflawni eu nodau addysgol a phroffesiynol.

Mae Cymrodoriaeth Windsor wedi ffurfio partneriaeth â llawer o sefydliadau yn y DU, gan gynnwys Greenpeace, Y Gymdeithas Frenhinol, Llywodraeth Cymru a llawer o brifysgolion.

Young students and graduates working and training with the Windsor Fellowship
Cyfranogwyr rhaglen Cymrodoriaeth Windsor

Y cyfle

Mae'r rhaglen hyfforddeiaeth yn gyfle â thâl o 12 mis wedi'i leoli yn unrhyw un o safleoedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol y DU (Belfast, Caerdydd, Caeredin, Llundain, Caerwysg, Birmingham, Nottingham, Caergrawnt, Leeds, Manceinion a Newcastle).

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cwblhau modiwlau gwaith o fewn nifer o'n hadrannau, gan gynnwys Adnoddau Dynol, Cyllid, Cyfreithiol a Llywodraethu, Rheoli Buddsoddi, Rheoli Ymgysylltu, a mwy.

Pwy all ymgeisio

I fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hyfforddeiaeth hon, mae'n rhaid i ymgeiswyr:

  • fod o gefndir Du, Asaidd a Lleifarifoedd Ethnig
  • fod yn raddedig yn ddiweddar o gwrs israddedig neu ôl-raddedig (uchafswm o 3 blynedd) 
  • heb unrhyw gyfyngiadau ar fyw/gweithio yn y DU
  • gallu ymrwymo i bob agwedd ar y rhaglen
  • gallu gweithio yn y dinasoedd sy'n cynnig swydd interniaeth (gweler isod am ragor o wybodaeth)
     

Sut i wneud cais

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Hydref 2020, a chynhelir cyfweliadau ddiwedd mis Tachwedd.

Ewch i wefan Cymrodoriaeth Windsor i gael gwybod mwy am y cyfle, gan gynnwys manylion cyflog, disgrifiad swydd, a sut i wneud cais am swydd.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...