Sut rydym yn gweithio tuag at weledigaeth uchelgeisiol o dreftadaeth cwbl gynhwysol

Sut rydym yn gweithio tuag at weledigaeth uchelgeisiol o dreftadaeth cwbl gynhwysol

Mae ein Hadolygiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn nodi cynnydd cryf yn ogystal â meysydd i ni adeiladu arnynt i gyflawni ein huchelgais.

Defnyddiodd yr Adolygiad, a lansiwyd ym mis Mehefin 2020, arbenigedd a thystiolaeth fewnol, comisiynu ymchwil allanol ac archwilio arferion gorau yn y sector treftadaeth a thu hwnt. Aethom ati i ddiffinio gweledigaeth uchelgeisiol o dreftadaeth gynhwysol i ni ein hunain a'r sector.

Fe'i harweiniwyd gan Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, a'i oruchwylio gan Dasglu annibynnol, dan gadeiryddiaeth yr Ymddiriedolwr, Maria Adebowale-Schwarte.

Dywedodd Maria: "Fel Cadeirydd y Tasglu, roeddwn i a'm cydweithwyr wedi ymrwymo i gynnal asesiad gonest o weithgareddau a pherfformiad presennol y Gronfa Treftadaeth. 
 
"Ar hyd y ffordd fe ddaethon ni o hyd i lawer o bethau positif. Fodd bynnag, gwelsom hefyd fod rhwystrau i wir gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn bodoli o fewn llawer o'n harferion a'n prosesau. Mae'r Adolygiad yn nodi cynllun gweithredu clir."

Yr hyn a ganfuwyd gennym

Yn gadarnhaol, ein:

  • ymchwil i ddatblygu ein system rheoli buddsoddi newydd yn eang ac amrywiol
  • cydweithwyr yn ymrwymedig i'n gwerthoedd ac yn ymgysylltu â'n rhaglen ddiwylliant
  • cydweithwyr yn awyddus i ddysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu syniadau ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 

Mae angen i ni wella:

  • amrywiaeth ein llywodraethu, ein hymgynghorwyr a'n gweithlu i sicrhau ein bod yn cynrychioli'r cymunedau yr ydym yn gweithio gyda nhw ledled y DU
  • sut rydym yn casglu data am fynediad i dreftadaeth a'r sefydliadau rydym yn eu cefnogi
  • ehangder ein diffiniad o 'brosiectau cynhwysol' a'r canfyddiad o'n canlyniad cynhwysiant gorfodol

Yr hyn rydym yn ei wneud

Rydym wedi ymrwymo i wneud y gwaith i ddod yn gyflogwr a rhoddwr grantiau mwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol, a defnyddio ein sefyllfa arwain i ysbrydoli'r sector treftadaeth i rannu'r uchelgais hwn.

Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn cymryd yr amser i wneud pethau'n drylwyr, yn effeithiol ac ar y cyd.

Er mwyn cyflawni hyn rydym yn cadw'r Tasglu am flwyddyn arall i ddarparu cymorth, arweiniad a her, ac adrodd ar gynnydd o ran gweithredu camau gweithredu i'n Bwrdd.

Mae'r camau hynny'n cynnwys:

  • darparu mwy o gefnogaeth i ymgeiswyr, yn enwedig y rhai sydd â phrosiectau sy'n cael eu rhedeg gan/archwilio treftadaeth cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol
  • adolygu hygyrchedd ein prosesau, sianeli cyfathrebu a'r iaith a ddefnyddiwn
  • darparu hyfforddiant a chymorth i'n Bwrdd a'n pwyllgorau i ddeall EDI yn well
  • arallgyfeirio ein penderfyniadau, fel y gwnaethom gyda'n rhaglen Kick the Dust
  • archwilio'r defnydd o asiantaethau recriwtio pwrpasol i gynyddu amrywiaeth ein llywodraethu a'n gweithlu
  • cyflwyno rhaglen o sesiynau staff rhyngweithiol o amgylch hil a threftadaeth a chefnogi datblygiad rhwydweithiau staff
  • rhoi ystyriaeth gyfartal i ymddygiadau a chyflawniadau mewn arfarniadau perfformiad staff

Archwiliwch adroddiad llawn adolygiad EDI i gael gwybod mwy am yr hyn a ddysgwyd gennym a'r hyn rydym yn ei wneud nesaf.

Mae newid yn broses barhaus

Dywedodd Ros Kerslake, Prif Weithredwraig y Gronfa Treftadaeth: "Nod yr Adolygiad oedd penderfynu a oeddem yn gwneud digon i agor treftadaeth i ystod ehangach o bobl, a nodi ffyrdd o gyflymu a sbarduno mwy o newid o fewn ein sefydliad ac ar draws y sector treftadaeth.

"Rydym wedi bod yn gwneud cynnydd da drwy gydol proses yr Adolygiad, ond mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Mae sicrhau newid yn broses barhaus, ac yn rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo iddo – i ni ein hunain a'r sector ehangach. Gan fod treftadaeth sydd â chynhwysiant wrth ei wraidd yn bwerus iawn wrth ddod â phobl at ei gilydd a chreu cymdeithas decach i bawb."

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...