Andrew White

Andrew White
Role
Cyfarwyddwr Cymru
Andrew yw Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, lle mae’n brif eiriolwr y Gronfa Treftadaeth gyda chyrff sector, y llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol.

Mae’n goruchwylio portffolio buddsoddi gweithredol o fwy na £200miliwn yng Nghymru, gan gefnogi ystod eang o dreftadaeth, o dreftadaeth adeiledig, amgueddfeydd a chasgliadau, i ddiwylliant, cof a’r amgylchedd naturiol.

Ymunodd â’r Gronfa Treftadaeth yn 2020 a chefnogodd nifer o brosiectau drwy gyfnod pandemig COVID-19 a’r argyfwng ariannol. Mae Andrew yn rheoli ac yn cynghori Pwyllgor Cymru ar wneud penderfyniadau cadarn a thryloyw, yn ogystal â chynghori Bwrdd y DU fel sy’n briodol i Gymru. Mae gweithio gyda phrosiectau ledled y wlad wedi atgyfnerthu cred Andrew fod gan Gymru dreftadaeth eithriadol o gyfoethog ac amrywiaeth eang o bobl angerddol sy’n gweithio i’w gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cyn ymuno â’r Gronfa Treftadaeth, bu Andrew yn Gyfarwyddwr Stonewall Cymru ac, cyn hynny, yn Bennaeth Iechyd a’r Sector Gwirfoddol ym Mwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae wedi gwasanaethu ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, End Youth Homelessness Cymru, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg, a bu’n Is-gadeirydd Eisteddfod Genedlaethol 2024. Mae’n Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol De Cymru ac yn aelod o Orsedd y Beirdd.