Helpwch ni i fod yn ariannwr mwy cynhwysol

Helpwch ni i fod yn ariannwr mwy cynhwysol

Dawnswyr Bhangra
Dawnswyr yn cymryd rhan ym mhrosiect Dadeni Bhangra yn Kirklees
Rydym yn gwneud gwaith ymchwil i sicrhau mynediad teg a chyfartal i'n cyllid.

Gwyddom fod grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda ar hyn o bryd gan ein cyllid. Dyna pam yr ydym yn comisiynu ymchwil annibynnol i ddarganfod beth y gallwn ei wneud i ddarparu mynediad tecach a gwell cefnogaeth.

Rydyn ni'n dymuno i amrywiaeth eang o bobl gyfrannu at yr ymchwil a rhannu eu meddyliau a'u profiadau. 

Cofrestrwch i gymryd rhan yn yr ymchwil.

Y dyddiad cau i gofrestru yw dydd Gwener 11 Chwefror.

Pwy all gymryd rhan yn yr ymchwil?

Hoffem glywed gennych os yw eich sefydliad yn cael ei arwain gan neu'n gweithio gyda:

  • pobl o gymunedau ethnig a diwylliannol amrywiol
  • pobl anabl
  • pobl LGBTQ+
  • pobl ifanc
  • pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan sefydliadau a grwpiau nad ydynt wedi gwneud cais i ni am gyllid o'r blaen.

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed am eich canfyddiad o dreftadaeth a sut rydych chi'n meddwl y gall fod o fudd i bobl a lleoedd lleol – hyd yn oed os nad treftadaeth yw canolbwynt eich gwaith. Er enghraifft, efallai y bydd eich ffocws ar waith cymunedol neu gymdeithasol, gweithgareddau iechyd a llesiant, cyfleoedd hyfforddi a datblygu neu raglenni ieuenctid, mentrau celfyddydau a diwylliant, cadwraeth neu gynaliadwyedd.

Nid oes angen i chi fod yn gweithio ym maes treftadaeth i gymryd rhan.

Rydym am glywed gan sefydliadau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Sut cynhelir yr ymchwil?

Rydym wedi comisiynu'r Ymgynghoriaeth Buddsoddi Cymdeithasol (TSIC) i gynnal yr ymchwil. Bydd aelod o dîm ymchwil TSIC yn cynnal cyfweliad byr (ar-lein neu dros y ffôn) gyda phawb sy'n cymryd rhan.

Bydd yr holl gyfranogwyr ymchwil yn cael eu had-dalu am eu hamser. Darperir rhagor o fanylion os cewch eich gwahodd i gyfweliad.

Cofrestrwch eich diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cofrestrwch eich manylion ar y ffurflen fer yma. Byddwn hefyd yn gofyn ychydig o gwestiynau am eich gwaith.

Bydd eich data yn cael ei brosesu yn unol â deddfwriaeth GDPR gan TSIC ac ni fydd yn cael ei rannu â thrydydd partïon. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr ymchwil neu os na allwch gwblhau'r arolwg, cysylltwch â Rheolwr Mewnwelediad y Gronfa Treftadaeth, Vanessa Moore, drwy e-bost: Vanessa.Moore@heritagefund.org.uk.

Beth fydd yn digwydd i ganfyddiadau'r ymchwil?

Bydd yr ymchwil yn ein cynorthwyo i ddiffinio a llywio ein camau gweithredu yn y dyfodol. Bydd yn ein helpu i nodi'r camau nesaf y mae angen i ni eu cymryd i ymgorffori arferion cynhwysol ar draws pob rhan o'n sefydliad.

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl gyfranwyr am ganfyddiadau'r ymchwil pan fydd wedi'i chwblhau.

Ein hymrwymiad i gynhwysiant

Rydym yn nodi ymrwymiad clir i gynhwysiant yn ein Fframwaith Ariannu Strategol 2019-2024. Mae cynhwysiant – "cynnwys ystod ehangach o bobl" – yn ganlyniad gorfodol i'r holl brosiectau rydym yn eu hariannu.

Gwnaethom gyhoeddi canfyddiadau Cam 1 ein Hadolygiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn 2021, ac rydym eisoes yn gweithio ar y camau a argymhellwyd.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...