Mae'r Fframwaith Ariannu Strategol yma ar gyfer 2019–2024 yn nodi ein gweledigaeth a'r egwyddorion a fydd yn llywio ein buddsoddiad Loteri Genedlaethol am y pum mlynedd nesaf.
Mae'n nodi sut rydym yn:
- disgwyl buddsoddi tua £1.2 biliwn yn nhreftadaeth y DU
- yn cyflwyno portffolio symlach o wneud grantiau
- canolbwyntio fwyfwy ar lesiant, meithrin gallu ac arloesi (yn genedlaethol ac yn rhyngwladol), ymhlith eraill
- archwilio'r defnydd o fuddsoddiad cymdeithasol
- ymrwymo i fwy o ddatganoli wrth wneud penderfyniadau
Blaenoriaethau ar gyfer treftadaeth
O fewn ein hymagwedd eang at dreftadaeth yn gyffredinol, rydym wedi nodi dau faes blaenoriaeth sy'n canolbwyntio arnynt yn ystod y cyfnod hwn o bum mlynedd:
- tirweddau a natur
- treftadaeth gymunedol
Canlyniad gorfodol
Gofynnwn i bob prosiect gyflawni ein canlyniad cynhwysiant newydd: "bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth".
Blaenoriaethau wedi'u hailffocysu ar gyfer treftadaeth 2021-22
Mae treftadaeth y DU yn wynebu ei bygythiad mwyaf difrifol ers yr Ail Ryfel Byd. Mae'r risgiau i safleoedd treftadaeth, atyniadau a sefydliadau o golli incwm sydyn a dramatig o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi rhoi'r economi treftadaeth ac ymwelwyr mewn argyfwng, ac mae angen ymateb brys.
Rydym yn cefnogi treftadaeth y DU i addasu a ffynnu eto drwy ein Blaenoriaethau ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol 2021-22.
Atodiad | Maint |
---|---|
Strategic Funding Framework 2019-2024 | 5.14 MB |
CYMRAEG: Fframwaith Ariannu Strategol 2019-2024 | 7.94 MB |