Canlyniadau ar gyfer prosiectau treftadaeth
Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 6 Chwefror 2023. Gweld pob diweddariad.
Beth yw canlyniad?
Mae canlyniadau yn newidiadau, effeithiau neu fuddion sy'n digwydd o ganlyniad uniongyrchol i'ch prosiect.
Maent yn wahanol i allbynnau, sef gweithgareddau neu wasanaethau rydych chi'n eu darparu.
Er enghraifft:
- Plât o fwyd yw allbwn coginio. Mae canlyniad yn berson llawn a bodlon.
- Gwers yw cynnyrch athro. Canlyniad yw myfyrwyr doethach sy'n gallu llwyddo'n well.
Wrth i chi ddylunio'ch prosiect, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwahanu'r allbwn (er enghraifft, 'adeiladu gofod digwyddiadau'), o'r canlyniad (er enghraifft, 'sicrhau bod dwywaith gynifer o bobl o'r gymuned leol yn ymgysylltu gyda'u storïau eu hunain').
Ein chwe chanlyniad blaenoriaeth
O effaith barhaus y pandemig COVID-19 i'r argyfwng costau byw, mae treftadaeth a'r DU ill dau'n wynebu heriau mawr.
Rydym am ariannu prosiectau sy'n cryfhau adferiad y sector ac yn cefnogi lleoedd a chymunedau ar draws y DU i ffynnu.
Ar hyn o bryd rydym yn asesu ceisiadau yn erbyn chwe chanlyniad blaenoriaeth:
- bydd ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth (mae'n rhaid i bob prosiect gyflawni'r canlyniad gorfodol hwn)
- bydd y sefydliad a ariennir yn fwy gwydn
- bydd gan bobl gwell llesiant
- bydd pobl wedi datblygu sgiliau
- bydd yr ardal leol yn lle gwell i fyw, gweithio neu ymweld
- bydd yr economi leol yn cael hwb
Ein tri chanlyniad arall yw:
- bydd treftadaeth mewn cyflwr gwell
- bydd treftadaeth yn cael ei nodi a'i hegluro'n well
- bydd pobl wedi dysgu am dreftadaeth, gan arwain at newid mewn syniadau a chamau gweithredu
Pa ganlyniadau ddylech chi eu dewis?
Rydym yn eich annog i ganolbwyntio ar gyflawni un neu fwy o'n canlyniadau blaenoriaeth.
Er enghraifft, mae prosiect sy'n bodloni'r canlyniad gorfodol yn ogystal â chanlyniad blaenoriaeth arall yn llawer mwy tebygol o gael ei gefnogi nag un sy'n bodloni'r canlyniad gorfodol a'r canlyniad 'cyflwr gwell'.
Rydym yn cydnabod bod cydberthynas rhwng llawer o'r canlyniadau. Dewiswch y canlyniadau sy'n cyd-fynd orau â ffocws eich prosiect a'r anghenion allweddol y bydd yn ymdrin â nhw. Rydym yn disgwyl i brosiectau gyflawni rhai canlyniadau'n gryfach nag eraill.
Faint o ganlyniadau ddylech chi eu dewis?
Bydd nifer y canlyniadau rydych chi'n bwriadu eu cyflawni'n dibynnu ar yr hyn rydych chi am ei gyflwyno. Dylai fod yn gymesur â maint y grant yr ydych yn gofyn amdano.
Does dim rheidrwydd i enwi mwy na'r canlyniad gorfodol, yn enwedig i brosiectau yn yr ystod £3,000 i £10,000. Rydym yn eich annog yn gryf i beidio â hawlio mwy o ganlyniadau na'r hyn yr ydych wir yn meddwl y gall eich prosiect eu cyflwyno.
Pam mae'n rhaid i chi nodi eich canlyniadau'n glir?
Rydym yn cefnogi prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth yn y DU. Mae eich canlyniadau yn ein helpu i ddeall sut y byddwch yn cyflawni hyn. Gallwn ond gefnogi eich prosiect os ydych chi'n glir am y canlyniadau y mae'n debygol o'u creu.
Byddwn yn monitro eich cynnydd yn erbyn eich canlyniadau. Byddwch yn eu defnyddio i werthuso'r newid y mae eich prosiect wedi'i wneud.
Beth arall y mae'n rhaid i'ch prosiect ei gyflawni?
Rydym hefyd yn disgwyl i bob prosiect ddangos eu bod yn adeiladu cynaladwyedd amgylcheddol hirdymor a chynhwysiad yn eu cynlluniau.
A chofiwch byddwn ond yn ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio'n glir ar dreftadaeth. Gall hyn fod yn dreftadaeth genedlaethol, rhanbarthol neu leol yn y DU.
Diweddariadau i'r arweiniad
Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosib trwy'r dudalen we hon.
Newidiadau:
6 Chwefror 2023: cafodd y dudalen ei hail-drefnu a'i golygu er eglurder.