Blaenoriaethau ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae treftadaeth y Deyrnas Unedig yn wynebu ei bygythiad mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd. Mae'r risgiau i safleoedd treftadaeth, atyniadau a sefydliadau o golli incwm yn sydyn ac yn ddramatig o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi rhoi'r economi treftadaeth ac ymwelwyr mewn argyfwng, gan ofyn am ymateb brys.
Dysgwch fwy am ein ffocws hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2022–2023. Ein nod yw cefnogi'r sector i gryfhau ei adferiad yn y tymor canolig ac adeiladu'n ôl ar gyfer newid cadarnhaol ar draws treftadaeth y DU.
Rydym wedi ymgorffori cynnwys o YouTube yma. Gan y gall YouTube gasglu data personol ac olrhain eich ymddygiad gwylio, dim ond ar ôl i chi gydsynio i'w defnydd o gwcis a thechnolegau tebyg fel y disgrifir yn eu polisi preifatrwydd y byddwn yn llwytho'r fideo. Byddwn hefyd yn gosod cwci i gofio eich dewis.
Pa lefel o grant y mae gennych ddiddordeb ynddo?
Mae rhai prosiectau treftadaeth yn ceisio sicrhau twf economaidd drwy fuddsoddi mewn treftadaeth. Rydym yn galw'r prosiectau hyn yn 'menter treftadaeth'. Mae'n rhaid i geisiadau mentrau treftadaeth hefyd ddangos sut y maen nhw'n bodloni ein canlyniadau blaenoriaeth hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2022–2023.
Atodiad | Maint |
---|---|
Priorities for National Lottery Grants for Heritage | 1.2 MB |
Blaenoriaethau ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol | 13.82 MB |