Cynllun cyflwyno Treftadaeth 2033: 2023–2026

Cynllun cyflwyno Treftadaeth 2033: 2023–2026

Archwilio faint y byddwn yn ei fuddsoddi a sut y byddwn yn cyflawni nodau ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033, dros y tair blynedd gyntaf.
Grŵp o fenywod mewn gwisgoedd o'r cyfnod yn dawnsio tu allan i Gastell Porchester
Castell Porchester, Hampshire © Sadé Elufowoju/National Youth Theatre.

Cyd-destun

Diben y cynllun cyflwyno

Mae strategaeth 10 mlynedd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Treftadaeth 2033, yn disgrifio ein huchelgais i wneud gwahaniaeth gwirioneddol dros bobl, lleoedd a chymunedau wrth i ni fuddsoddi swm disgwyliedig o £3.6 biliwn sydd i'w godi ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol dros y deng mlynedd nesaf.

Mae ein strategaeth hirdymor wedi'i hategu gan gynlluniau cyflwyno tair blynedd, sy'n disgrifio sut y bydd nodau'r strategaeth yn cael eu cyflwyno. Byddant yn galluogi ni i fabwysiadu ymagwedd hyblyg, gan addasu i anghenion y sector treftadaeth ac ymateb i ddigwyddiadau neu gyfleoedd allanol dros y 10 mlynedd.

Mae ein cynllun cyflwyno ar gyfer 2023-2026 yn nodi'r cerrig milltir allweddol a sut y byddwn yn cyflwyno'r buddsoddiad Loteri Genedlaethol am y tair blynedd gyntaf, yn ogystal â sut rydym yn pontio i'n strategaeth newydd yn 2023–2024. Caiff y cynllun hwn ei ddiweddaru'n flynyddol fel rhan o'n prosesau cynllunio busnes.

Ein gweledigaeth  

Ein gweledigaeth yw i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.

Ein hegwyddorion buddsoddi 

Mae ein pedair egwyddor buddsoddi yn cyfeirio ein holl benderfyniadau:  

Byddwn yn gofyn i brosiectau a ariannwn gymryd y pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth yn eu ceisiadau. Bydd rhagor o fanylion ar gyfer ymgeiswyr yn dilyn mewn arweiniad, cyfathrebiadau a chyhoeddiadau ar eu newydd wedd yn ystod y flwyddyn bontio 2023–2024.

Ein gwerthoedd 

Mae ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn rhan annatod o'r ffordd yr ydym yn gweithio.   Maent wedi'u hymwreiddio ar draws ein cynllunio strategol a busnes a'n dulliau arwain a rheoli. Ein pedwar gwerth yw:    

  • Cynhwysol  o bob agwedd ar dreftadaeth, pobl a chymunedau.  
  • Uchelgeisiol  ar gyfer ein pobl, ein cymunedau a'n treftadaeth.  
  • Cydweithredol  trwy weithio a dysgu gyda'n gilydd.  
  • Dibynadwy am ein cyfanrwydd, ein harbenigedd a'n barn.

Rôl Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Fel ariannwr mwyaf treftadaeth y DU, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (y Gronfa Treftadaeth) yn buddsoddi arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar draws y DU, mewn cydweithrediad ag ystod eang o gyrff statudol, yn ogystal â dosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol. Mae ein gwaith yn bosib diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.  Rydym yn dyfarnu 20% o'r incwm achosion da a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac yn cyflwyno rhaglenni grant ar ran llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig.

Rydym yn gorff cyhoeddus anadrannol sy'n atebol i Senedd y DU drwy'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Mae ein penderfyniadau am geisiadau a pholisïau unigol yn gwbl annibynnol o lywodraeth y DU. Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol yw ein corff cyfreithiol ar gyfer gweinyddu a goruchwylio'r holl arian a freinir ynom. Fe'i sefydlwyd gan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 i weinyddu Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol.

Rôl Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol

Sefydlwyd Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG) ym 1980 i achub rhannau mwyaf rhagorol ein treftadaeth genedlaethol, er cof am y rhai sydd wedi rhoi eu bywydau dros y DU.

Fel cronfa cyfle olaf, mae CGDG yn rhoi cymorth ariannol tuag at gaffael, cadw a chynnal rhai o wrthrychau a thirweddau gorau'r DU. Mae'r rhain yn amrywio o dai hanesyddol a gweithiau celf, i drenau, cychod a thirweddau hynafol. Mae CGDG wedi helpu i greu un o'r casgliadau gorau yn y byd sy'n perthyn i bobl y Deyrnas Unedig, am byth.

Mae'r cynllun cyflwyno hwn yn manylu ar sut y byddwn yn cyflwyno buddsoddiad y Loteri Genedlaethol.

Blaenoriaethau 2023–2026

Gweithredu Treftadaeth 2033

Ein blaenoriaeth yn 2023–2024 yw gweithredu ein strategaeth newydd gyda'r flwyddyn gyntaf hon yn gweithredu fel blwyddyn bontio wrth i ni symud o Fframwaith Ariannu Strategol 2019–2024 i'r egwyddorion a'r nodau buddsoddi newydd a ddisgrifir yn Treftadaeth 2033.

Yn y flwyddyn gyntaf hon byddwn yn sefydlu ac yn symleiddio ein prosesau ariannu wrth i ni bontio, i asesu ceisiadau ariannu o dan y pedair egwyddor fuddsoddi, yn ogystal â mapio datblygiad ein mentrau a'n partneriaethau strategol. Mae'r rhaglen weithredu hon yn cynnwys diweddaru ein harweiniad, ein ffurflenni cais a'n prosesau, a'r ffordd yr ydym yn monitro ac yn gwerthuso effaith ein grantiau. Bydd ein cynnydd drwy'r  flwyddyn bontio'n cael ei werthuso ar ddiwedd 2023–2024.

Bydd ein hymagwedd ariannu'n parhau i fod yn agored, yn ymatebol ac wedi'i datganoli. Byddwn ni'n:

  • cyflwyno ymagwedd sy'n seiliedig ar le drwy ein buddsoddiadau, mentrau strategol a phartneriaethau
  • sefydlu partneriaethau newydd a chydweithio hirdymor i ddiwallu'r anghenion a nodwyd yn y sector
  • defnyddio ymchwil, dadansoddi a mewnwelediad i gefnogi gweledigaeth hirdymor a rennir ar gyfer treftadaeth ac i wella ein darpariaeth
  • hyrwyddo arloesedd i ddod o hyd i atebion newydd i heriau yn y byd treftadaeth
  • tyfu arweinyddiaeth a hyder digidol ar draws treftadaeth y DU
  • cydweithio â phartneriaid mewn llywodraethau, cyrff hyd braich, dosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol ac ymddiriedolaethau a sefydliadau annibynnol i lunio mentrau newydd i ddiwallu anghenion a nodwyd ar gyfer treftadaeth
  • bod yn ariannwr cynhwysol, hygyrch a theg

Cynlluniau a chyllidebau buddsoddi

Mae ein cynlluniau buddsoddi a chyflwyno tair blynedd wedi'u disgrifio isod. Mae'r cyllidebau'n ddangosol, yn seiliedig ar ragolygon incwm y Loteri Genedlaethol a ddarperir gan y Comisiwn Hapchwarae. Gall rhagolygon newid a byddant yn cael eu diweddaru fel rhan o broses adolygu flynyddol y cynllun cyflwyno. Bydd cynlluniau cyllideb yn cael eu hadolygu drwy gydol y tair blynedd a'u diweddaru fel y bo angen i fodloni blaenoriaethau strategol.

Fel y dangosir isod, rydym hefyd yn dosbarthu cyllid nad yw'n dod o'r Loteri, gan gynnwys gan lywodraethau, i gefnogi treftadaeth y DU.

Rhagamcaniad o gyfanswm y buddsoddiad gan y Loteri Genedlaethol

Total projected National Lottery investment

Rhaglen

Blwyddyn

2023–2024 

Blwyddyn

2024–2025 

Blwyddyn 3  

2025–2026 
Cyfanswm buddsoddiad y Loteri Genedlaethol £345miliwn  £333miliwn  £333miliwn 
Buddsoddiad rhaglenni agored £315m £287m £268m
Mentrau strategol  y Loteri Genedlaethol £30m £45m £65m

Buddsoddiad rhaglenni ariannu eraill

  • £50miliwn yn 2023–2024

Gweithgareddau rhaglenni'r Loteri Genedlaethol

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol 

Ein rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth yn y DU.

Blwyddyn 1 (2023–2024):
  • Adolygu Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn unol â Threftadaeth 2033.

  • Newid trothwyon grant i £10,000–£10m ac ymgymryd â gwaith cwmpasu i barhau i ddarparu grantiau o dan £10,000 drwy sefydliadau a mentrau eraill.*

  • Adolygu a symleiddio ein prosesau ymgeisio, asesu a monitro. 

  • Rheoli a chefnogi cwsmeriaid trwy'r bontio ceisiadau o Fframwaith Ariannu Strategol 2019–2024 (FfAS) i Treftadaeth 2033: 

    • ceisiadau olaf am grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn o dan FfAS: Tachwedd 2023

    • ceisiadau olaf am grantiau hyd at £10,000: Rhagfyr 2023

    • ceisiadau cyntaf am grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn o dan Treftadaeth 2033, gydag arweiniad a ffurflenni cais newydd: Ionawr 2024

  • Gwneud y dyfarniadau cyntaf hyd at £250,000 o dan Treftadaeth 2033.
  • Gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys DCMS ac asiantaethau statudol, i ddatblygu ein hymagwedd at sgiliau a phlant a phobl ifanc trwy'r rhaglen agored. 

Blwyddyn 2 (2024–2025):
  • Cwblhau'r broses bontio i ddarparu'r rhaglen agored o dan bedair egwyddor fuddsoddi Treftadaeth 2033.

  • Gwneud y dyfarniadau cyntaf dros £250,000 o dan Treftadaeth 2033. 

  • Cyflwyno grantiau o dan £10,000 drwy sefydliadau a mentrau eraill a gwerthuso hynny.

  • Parhau i symleiddio ein prosesau ymgeisio ac asesu.

  • Ymwreiddio a chyflwyno ein hymagwedd at sgiliau a phlant a phobl ifanc drwy'r rhaglen agored.

Blwyddyn 3 (2025–2026):
  • Parhau i werthuso ein  prosesau newydd a mesur effaith gychwynnol y rhaglen agored o dan Treftadaeth 2033.

  • Cyflwyno grantiau o dan £10,000 drwy sefydliadau a mentrau eraill a gwerthuso hynny.

*Gellir dyfarnu grantiau dros £10m mewn amgylchiadau eithriadol er mwyn cyflawni uchelgeisiau Treftadaeth 2033.

Menter strategol: Lle 

Helpu i drawsnewid treftadaeth mewn 20 o wahanol leoedd, rhoi treftadaeth wrth wraidd ymagweddau lleol i roi hwb i falchder mewn lle, adfywio economïau lleol a gwella cysylltiad pobl â'r lleoedd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt ac yn ymweld â nhw.

Blwyddyn 1 (2023–2024):
  • Naw lleoliad wedi'u nodi ar gyfer buddsoddi strategol gan ddefnyddio data am lefelau treftadaeth, cymdeithas a buddsoddi, ochr yn ochr â gwybodaeth leol.

  • Deall anghenion lleol y lleoliadau a ddewiswyd, cefnogi capasiti i flaengynllunio ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd.

  • Grantiau cynllunio a datblygu prosiectau.

Blwyddyn 2 (2024–2025):
  • Grantiau ar gael ar gyfer cyflwyno prosiectau.

  • Nodi'r rownd nesaf o leoedd. 

Blwyddyn 3 (2025–2026):
  • Gwerthusiad o'r rownd gyntaf o ariannu lle.

  • Ariannu i barhau dros weddill cyfnod y strategaeth.

Menter strategol: Dinasoedd a Threfi Natur

Partneriaeth i gyflwyno adferiad natur trefol trwy barciau a mannau gwyrdd hanesyddol ffyniannus.

Blwyddyn 1 (2023–2024):
  • Datblygu partneriaethau i ddylunio a chyflwyno menter.

  • Deall anghenion a dylunio lleol, ac adeiladu gallu.

Blwyddyn 2 (2024–2025):
  • Cynllunio prosiectau a grantiau datblygu a chyflwyno.

  • Monitro a gwerthuso.

Blwyddyn 3 (2025–2026):
  • Grantiau ar gael ar gyfer cyflwyno prosiectau.

  • Monitro a gwerthuso.

  • Arian grant i barhau am flwyddyn ariannol arall.

Menter strategol: Tirweddau Integredig 

Adferiad natur ar raddfa tirweddau ar draws tirweddau cenedlaethol y DU, gan ddarparu gwell cysylltiadau i bobl ac i natur.

Blwyddyn 1 (2023–2024):
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y DU i ddatblygu'r fenter.

  • Buddsoddiad cychwynnol i gefnogi cynllunio prosiectau.

Blwyddyn 2 (2024–2025):
  • Grantiau ar gael i gefnogi datblygiad prosiectau. 
Blwyddyn 3 (2025–2026):
  • Grantiau ar gael ar gyfer cyflwyno prosiectau. 

  • Bydd y fenter yn parhau dros oes y strategaeth 10 mlynedd. 

Treftadaeth mewn Angen

Nodi bylchau mewn cefnogaeth i'r sector treftadaeth, yn enwedig lle mae risg i dreftadaeth a bod angen ei gwarchod.

Blwyddyn 1 (2023–2024):
  • Ymchwil a datblygu a gweithio gyda phartneriaid strategol ar draws y DU i nodi'r ffocws cychwynnol ar gyfer cymorth, gan gynnwys ar gyfer addoldai.
Blwyddyn 2 (2024–2025) and blwyddyn 3 (2025–2026):
  • Unwaith y bydd mentrau wedi'u nodi, darparu grantiau i ddatblygu a chyflwyno prosiectau.
Cyfleoedd

Ymateb yn gyflym, a gweithredu pan fydd angen, i ymdrin â sefyllfaoedd, cyfleoedd a digwyddiadau unigryw.

Blwyddyn 1 (2023–2024):
  • Eurovision Lerpwl 2023.

  • Dinas Diwylliant.

  • Rhaglen Newydd i Natur (ehangu).

  • Pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 oed.

Blwyddyn 2 (2024–2025):
  • Cyflwyno Dinas Diwylliant

  • Pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 oed

  • Ymateb i gyfleoedd pellach.

  • Rhaglen Newydd i Natur yn dod i ben.

Blwyddyn 3 (2025–2026):
  • Cyflwyno Dinas Diwylliant yn dod i ben. 

  • Ymateb i gyfleoedd pellach.

Rhaglenni a gwaith ar y cyd sydd eisoes yn digwydd

Mentrau parhaus sy'n cefnogi dulliau newydd o weithio, buddsoddiad arloesol a chydnerthedd.

Blwyddyn 1 (2023–2024):
  • Cronfa Arloesi Treftadaeth

  • Cronfa Effaith y Celfyddydau a Diwylliant

  • Cronfa Effaith Treftadaeth

  • Cyfleuster ar gyfer Investment Ready Nature yn Yr Alban

  • Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol

  • Cronfa Treftadaeth Bensaernïol: Menter yr Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth 

  • Cronfa Codi'r Gwastad (cymorth sector)

  • Museums Estates and Development (MEND) Fund

Blwyddyn 2 (2024–2025) and blwyddyn 3 (2025–2026):
  • Rhaglenni aml-flwyddyn yn parhau a chyfleoedd newydd wedi'u nodi.

Rhaglenni ariannu eraill gweithgareddau 

Rydym hefyd yn dosbarthu arian nad yw'n dod o'r Loteri, gan gynnwys gan lywodraethau, i gefnogi treftadaeth ar draws y DU.

Mae'r portffolio presennol o raglenni cytunedig wedi'i nodi yn y tabl isod.

Rhaglenni a ddarperir mewn partneriaeth ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) – £25m:
  • Species Survival Fund
  • Green Recovery Challenge Fund*
  • Trees Calls to Action Fund*
Rhaglenni a ddarperir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru – £24.65m:
  • Lleoedd Lleol ar gyfer Natur**

  • Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Breaking Barriers 

  • Y Grant Buddsoddiad Coetiroedd**  

  • Y Grant Buddsoddiad Coetiroedd, Coetiroedd Bach 

  • Rhwydweithiau Natur**

Rhaglen wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth â'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) – £550,000, dyfarniad wedi'i wneud 2022–2023:
  • Know Your Neighbourhood (through Historic England High Street Heritage Action Zone Cultural Programme)*

Mae'r holl raglenni ariannu'n amodol ar gydsyniad tîm Gweithredol y Gronfa Treftadaeth i'r achos busnes.

*Mae rhaglenni wedi dyfarnu'r grantiau sydd ar gael ac mae'r prosiectau'n cael eu cyflwyno.

**Rhaglenni a ariennir yn rhannol gan y Loteri Genedlaethol.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglenni ariannu unigol ar gael ar ein gwefan ac/neu fe gaiff ei chyhoeddi yn ystod y flwyddyn bontio.

Incwm a chostau

Rydym yn derbyn ac yn dyfarnu 20% o incwm achosion da'r Loteri Genedlaethol ac yn gosod ein cyllidebau buddsoddi bob blwyddyn gan ddibynnu ar y swm a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar draws y DU.

Yn ychwanegol at incwm gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn derbyn incwm blynyddol gan lywodraeth y DU ar gyfer Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol o £5m, sef £4.9m ar gyfer grantiau a £0.1m ar gyfer costau gweinyddu. Rydym hefyd yn derbyn incwm gan lywodraethau a chyrff eraill fel DCMS, Defra, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Cymru i ddosbarthu grantiau.

Am dair blynedd gyntaf Treftadaeth 2033, ein nod yw dyfarnu dros £1bn (gweler y tabl gyferbyn) gyda phortffolio sy'n cynnwys Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â mentrau a phartneriaethau strategol.

Buddsoddiad rhagamcanol   

2023–2024 

2024–2025 

2025–2026 

Cyfanswm

Incwm gan y Loteri  

£377m

£361m

£361m

£1,099m 

Costau gweithredu 

-£32m

-£28m

-£28m

-£88m

Y cyfanswm sydd ar gael o ran buddsoddiad y Loteri 

£345m

£333m

£333m

£1,011m 

Mae cyfanswm costau gweithredu'r Loteri Genedlaethol wedi'u pennu gan DCMS ac ni ddylent fod yn fwy na 7.75% o incwm blynyddol gan y Loteri Genedlaethol dros gyfnod treigl o dair blynedd.

Dyma gynllun cyflwyno byw a fydd yn cael ei reoli'n hyblyg ac yn addasu dros amser i ymateb i ddigwyddiadau a chyfleoedd allanol ac wrth i ni ddatblygu ein syniadau gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid.

Blaenoriaethau gweithredol

Ochr yn ochr â chyflwyniad craidd Treftadaeth 2033 a chefnogaeth i'r sector treftadaeth, ein blaenoriaethau mewnol yw –

Ymwreiddio cynaladwyedd amgylcheddol yn ein buddsoddiad a'n gweithrediadau: 

  • gweithio ar y cyd i ddysgu o arfer gorau a'i rannu ar draws adferiad natur, cyfiawnder hinsawdd ac addasu i'r hinsawdd
  • lleihau ein heffaith amgylcheddol a gweithio tuag at ddwy uchelgais carbon sero net:
  • nod tymor canolig o garbon sero net cyn 2030 ar gyfer ein gweithrediadau, datgarboneiddio ein swyddfeydd, teithio, gwastraff a phwrcasiadau
  • nod hirdymor o gyrraedd sero net ar gyfer ein buddsoddiadau a'n grantiau (targedau'n seiliedig ar wyddoniaeth yn unol â Chytundeb Paris 2015)

Rydym yn adrodd ar ein heffaith amgylcheddol fel rhan o'n Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad (EDI) yn ein buddsoddiad a'n gweithrediadau:

  • gweithrediad parhaus camau ein Hadolygiad EDI 2021, gan ymdrin â gwelliannau ar draws ein gweithlu, llywodraethu a diwylliant sefydliadol
  • datblygu partneriaethau a gweithio ar y cyd i sicrhau mynediad teg i'n hariannu ar gyfer prosiectau a arweinir gan bobl nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol gan dreftadaeth

Sicrhau bod gennym y sgiliau a'r galluoedd cywir i gyflwyno a gwerthuso'r strategaeth yn llwyddiannus:  

  • galluogi ein gweithwyr i ddatblygu'r sgiliau a'r hyblygrwydd i allu cyflwyno a gwerthuso Treftadaeth 2033
  • gwella ein galluoedd data, ymchwil a dadansoddi, gan gynnwys gweithredu System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) newydd

Gwelliant parhaus ein darpariaeth sefydliadol:

  • parhau i wella a mireinio darpariaeth sefydliadol ein gweithrediadau, gan alluogi ein cwsmeriaid, gweithwyr ac eraill i weithio'n fwy effeithlon, gan ddefnyddio technoleg a gwybodaeth i symleiddio ein sefydliad
  • ymwreiddio ein gwasanaeth rheoli buddsoddiadau newydd, gan ei gwneud hi'n haws ac yn gliriach i ymgysylltu, ymgeisio a rhyngweithio ag arian treftadaeth y Loteri Genedlaethol
  • parhau i fonitro a rheoli prosiectau sydd eisoes yn cael eu cyflwyno i gefnogi grantïon ac i sicrhau cydymffurfiaeth prosiectau â chontractau ariannu
  • parhau i adolygu cydnerthedd prosiectau a ariennir ac i ddarparu cymorth ac arweiniad ychwanegol fel y bo angen 

Byddwn yn defnyddio ein hadnoddau'n effeithiol ac yn effeithlon i ddosbarthu arian gan y Loteri Genedlaethol a'r llywodraeth ar gyfer treftadaeth.

Llywodraethu a gwneud penderfyniadau

Y Bwrdd, pwyllgorau a gwneud penderfyniadau

Rydym wedi'n llywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr sy'n arwain ar ddatblygu strategaeth, gyda gweithgareddau bob dydd yn cael eu dirprwyo i'r tîm Gweithredol. Mae'r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau ariannu ar geisiadau grant dros £5m ac yn cadw cyllideb fuddsoddi ganolog ar gyfer mentrau strategol a rhaglenni DU gyfan.

Mae gennym chwe phwyllgor dyfarnu grantiau yng Nghymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac mewn tair ardal yn Lloegr – Gogledd Lloegr, Canolbarth a Dwyrain Lloegr , a Llundain a De Lloegr - sy'n gwneud penderfyniadau ar geisiadau am grantiau rhwng £250,000 a £5m. Rydym yn parhau i ddirprwyo'r rhan fwyaf o'n penderfyniadau i'r chwe phwyllgor ardal a gwlad hyn ac i weithwyr gweithredol ar draws y DU (ar gyfer penderfyniadau o dan £250,000).

Rydym yn cadw ‘swm gwlad wrth gefn’ yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer grantiau na ellir darparu ar eu cyfer mewn cyllidebau per capita dirprwyedig.

Ar gyfer grantiau dros £5m, mae ein Bwrdd yn gyfrifol am oruchwyliaeth a gwneud penderfyniadau, gan ddilyn argymhellion a mewnbwn gan y pwyllgorau ardal a gwlad.

Wedi'u dyrannu ar sail per capita, mae pwyllgorau dyfarnu grantiau'n derbyn y canrannau canlynol o gyllidebau dirprwyedig:

Ardal/cenedl Cyllideb

Gogledd Iwerddon

2.9%

Cymru

4.8%

Yr Alban

8.4%

Lloegr, Gogledd

23.7%

Lloegr, Canolbarth a Dwyrain

25.2%

Lloegr, Llundain a'r De

35%

Mae'r prosesau ar gyfer ceisiadau grant, gwneud penderfyniadau a monitro grantiau wedi'u nodi ar ein gwefan.

Managing risks

Mae ein cofrestr risgiau'n cael ei hadolygu'n rheolaidd gan y tîm Gweithredol, y Bwrdd a'n Pwyllgor Archwilio a Risg. Mae ein hawydd am risg yn cael ei adolygu a'i gymeradwyo gan y Bwrdd unwaith y flwyddyn.

Ein prif risgiau a mesurau lliniaru ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun cyflwyno, 2023–2024 – sut rydym yn rheoli'r rhain – ar y dyddiad cyhoeddi yw:

Strategol

Mae'r amgylchedd gweithredu allanol ar draws y DU yn arwain at flaenoriaethau lluosog a allai wrthdaro â'i gilydd yn ystod yr argyfwng costau byw.

  • cysylltiadau gwaith agos â rhanddeiliaid a thîm noddi DCMS
  • cywain gwybodaeth a mewnwelediad a sicrhau bod timau'n cael gweld pob datblygiad
  • arweinyddiaeth ac ymwybyddiaeth glir gan gyfarwyddwyr o ran yr effeithiau ar eu timau
  • trin rhaglenni neu fuddsoddiadau sensitif yn ofalus

Pontio i bedwerydd gweithredwr newydd trwydded y Loteri Genedlaethol  a threfniadau pontio/dilyniant.

  • cysylltiadau agos â DCMS a'r Comisiwn Hapchwarae
  • cynghori DCMS ynghylch risgiau i gyflwyno gweithredol, cynllunio buddsoddiadau a rheoli'r portffolio
  • cynllunio senarios ar gyfer ystod o opsiynau ariannol
  • gweithio ar y cyd drwy Fforwm y Loteri Genedlaethol i rannu mewnwelediad

Economaidd

Mae lefelau chwyddiant uchel a phrinderau yn y farchnad lafur yn cael effaith ddeilliannol ar gostau cyflwyno cyflenwyr a phrosiectau, gan effeithio ar y sector treftadaeth, yn enwedig o ran costau adeiladu a chyfalaf.

  • adolygiad parhaus o gyllidebau wrth gefn y gwledydd a chyllidebau ar gyfer cynyddu grantiau
  • adolygu'r awydd am risg a phwyslais ar gefnogi cydnerthedd sefydliadau'n gyffredinol, gan gynnwys adolygu cynllunio prosiectau, cynlluniau busnes a chynigion ar gyfer y dyfodol
  • ailgwmpasu potensial neu ail-beiriannu gwerth mewn prosiectau gyda grantïon, gyda chymorth ein hymgynghorwyr ar y Gofrestr Gwasanaethau Cefnogi (RoSS)

Gweithredol

Sicrhau'r adnoddau, y capasiti a'r sgiliau cywir i gyflwyno gweithrediad strategol y rhaglen waith.

  • monitro'n barhaus yr hyn y gellir ei gyflawni o fewn yr amserlen, yr adnoddau a'r capasiti cyfredol, gan nodi lle mae angen adnoddau ychwanegol o fewn y cap o 7.75% ar gostau gweithredu
  • mae'r gyllideb gytunedig ar gyfer 2023–2024 yn cynnwys cyllideb Weithredol i alluogi hyblygrwydd
  • cynlluniau parhad busnes a ddatblygwyd ar gyfer ffrydiau gwaith rhaglen gweithredu'r strategaeth

Heriau wrth recriwtio staff a chadw staff oherwydd chwyddiant cyflogau real a chyfyngiadau ar dâl ar draws y sector cyhoeddus o'i gymharu â chyflogau sector preifat/trydydd sector. Cyfleoedd datblygu gyrfa.

  • parhau i wella prosesau recriwtio gan gynnwys ehangu sianeli recriwtio, prosesau ymgynefino a chroesawu staff
  • Datblygu cyfleoedd hyfforddi a dysgu perthnasol i staff
  • Datblygu ein cynnig gwerth cyflogeion

Oedi mewn prosiectau rhyng-ddibynnol sy'n hanfodol i raglen gweithredu'r strategaeth. Mae'r rhyng-ddibyniaethau hyn yn cynnwys ein gwasanaeth rheoli buddsoddiadau, caffael RoSS a chyflwyno cymorth grant.

  • llywodraethu prosiectau rhyng-ddibynnol yn effeithiol gyda goruchwyliaeth ar lefel y Bwrdd, y tîm Gweithredol a'r bwrdd prosiectau
  • cyswllt rhwng arweinwyr prosiectau i nodi materion cyflwyno allweddol a'u dwyn at sylw bwrdd ein rhaglen gweithredu'r strategaeth
  • penodi arweinydd rhaglen i reoli a monitro'r rhyng-ddibyniaethau rhwng prosiectau cyflwyno allweddol

Risg o fygythiadau seiberddiogelwch sy'n ceisio difrodi, dwyn neu aflonyddu.

  • mesurau rheoli gweithredol cryfion a systemau monitro rhagweithiol
  • asesiadau allanol parhaus o fesurau/rheolaethau diogelwch a phrofion bregusrwydd wedi'u cynnal gan arbenigwyr seiberddiogelwch

Tryloywder

Rydym yn cydnabod ein rhwymedigaethau i chwaraewyr a threthdalwyr y Loteri Genedlaethol wrth esbonio sut rydym yn defnyddio eu harian, ac ariannu gweithio mewn cydymffurfiaeth â deddfau perthnasol a'r Ddogfen Fframwaith gyda DCMS.

Fel corff sy'n wynebu'r cyhoedd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd a'i bod yn hawdd ei deall. Am fwy o wybodaeth, gweler adran Tryloywder ein gwefan.

Cyhoeddir ein data dyfarniadau ar GrantNav, sy'n safon data agored, ar ein gwefan a thrwy ddatganiadau ystadegol DCMS a Swyddfa'r Cabinet. Rydym yn cyhoeddi manylion dyfarniadau grant unigol y gellir ystyried eu bod yn gymorthdaliadau er mwyn cydymffurfio â gofynion tryloywder Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.

Rydym hefyd yn cyhoeddi'r canlynol ar ein gwefan:

Hysbysebir tendrau gwerth £30,000 (gan gynnwys TAW) neu fwy lle rydym yn chwilio am gyflenwyr/partneriaid busnes i'n helpu i gyflwyno ein busnes ar Contracts Finder. Mae tendrau dros drothwyon Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 hefyd yn cael eu hysbysebu ar y gwasanaeth Find a Tender ar wefan llywodraeth y DU. Cyhoeddir contractau (wedi'u golygu) a ddyfernir ar gyfer gwasanaethau a chymorth lle rydym wedi gosod y contractau hynny ar Contracts Finder.

Effaith a pherfformiad 

Asesu effaith ein buddsoddiad

Mae Treftadaeth 2033 yn disgrifio'r newidiadau rydym am eu cyflawni erbyn 2033 ar draws ein pedair egwyddor fuddsoddi.

Yn ystod y flwyddyn bontio (2023–2024), byddwn yn dylunio fframwaith effaith newydd a fydd yn ein galluogi i werthuso ac asesu ein heffaith yn rheolaidd dros y 10 mlynedd nesaf. Byddwn yn defnyddio'r flwyddyn bontio i nodi dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) a datblygu lefelau gwaelodlin, lle bo hynny'n berthnasol. Byddwn hefyd yn sefydlu cylch newydd o adrodd mewnol ac allanol ar ein mesurau effaith a'r camau yr ydym yn eu cymryd i gyflwyno yn erbyn ein nodau. Bydd rhai o'r newidiadau rydym am eu cyflawni hefyd yn gofyn am dystiolaeth ansoddol fanwl er mwyn deall effaith ein gwaith.

Byddwn yn cyhoeddi'r fframwaith effaith cyntaf ar ddiwedd y flwyddyn bontio, gan nodi ein DPA strategol a mesurau gwaelodlin newydd.

Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein holl ymchwil, mewnwelediadau a gwerthuso ar gael trwy ein gwefan, i alluogi asesiad llawn o'n heffaith ar dreftadaeth. Trwy gyhoeddi diweddariadau effaith rheolaidd, byddwn yn gwella ein hymagwedd at fesur a monitro effaith ein buddsoddiadau.

Mesur ein perfformiad

Rydym yn cynhyrchu dangosyddion gweithredol i fesur ein perfformiad trwy ein hadroddiadau i'n hadran noddi, DCMS. Bydd dangosyddion strategol newydd yn cael eu datblygu gan ddilyn y fframwaith effaith newydd. Yn y cyfamser, mae ein dangosyddion ar hyn o bryd yn cynnwys y canlynol: 

  • gostyngiad mewn asedau treftadaeth yr ystyrir eu bod 'mewn perygl' o ganlyniad uniongyrchol i fuddsoddiad gan y Gronfa Treftadaeth
  • nifer y swyddi a gefnogir yn uniongyrchol o ganlyniad i fuddsoddiad gan y Gronfa Treftadaeth*
  • cyfran y ceisiadau grant a brosesir o fewn y graddfeydd amser a gyhoeddir
  • y gyfran o'r cyhoedd sy'n ymwneud â threftadaeth, amgueddfeydd ac orielau fel y'i cofnodir yn Arolwg Cyfranogiad DCMS
  • nifer y gwirfoddolwyr a gefnogir yn uniongyrchol drwy fuddsoddiad gan y Gronfa Treftadaeth*
  • swm a chyfran yr ariannu i'r 20% o ardaloedd awdurdod lleol mwyaf difreintiedig

*Byddwn yn gwneud gwelliannau i'r ffordd yr ydym yn casglu data gyda phrosiectau er mwyn i ni fonitro'r meysydd hyn yn fwy effeithiol.

Ein safonau gwasanaeth

Rydym wedi gosod targedau ar gyfer cyflwyno gwasanaethau i'n hymgeiswyr a'n grantïon, a bydd y rhain yn cael eu hadolygu yn ystod y flwyddyn bontio.

Penderfyniadau ar geisiadau

Fel arfer, bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud yn y cyfarfod penderfyniadau nesaf ar ôl yr asesiad fel a ganlyn –

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol dros £250,000:

  • Ymateb i Fynegiad o Ddiddordeb: 20 diwrnod
  • Cais am grant datblygu/cyflwyno: 12 wythnos

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol hyd at £250,000:

  • o adeg cyflwyno'r cais: 8 wythnos

Taliadau grant

Bydd taliadau grant yn cael ei wneud i'r grantï o fewn naw diwrnod gwaith o dderbyn y cais am daliad.