Treftadaeth 2033

Treftadaeth 2033

Strategaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol 2023–2033.

Rhagair

Mae strategaeth 10 mlynedd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn amlinellu ein huchelgeisiau i gefnogi prosiectau o bob maint sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.

Canfu ein hymgynghoriad fod pobl eisiau i ni wneud hyd yn oed yn fwy i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu treftadaeth ac i gynyddu'r cyfraniad cadarnhaol y mae'n ei wneud i fywyd yn y DU.

Dros y deng mlynedd nesaf byddwn yn cymryd golwg mwy hirdymor, gan fuddsoddi mewn treftadaeth ar gyfer y dyfodol yn ogystal ag ar gyfer y presennol. Byddwn ni'n buddsoddi mewn lleoedd, nid prosiectau unigol yn unig, er mwyn sicrhau buddion ar gyfer pobl, lleoedd a'n hamgylchedd naturiol.

Byddwn ni'n cryfhau partneriaethau gyda llywodraethau, awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol ac yn creu partneriaethau newydd gyda'r rhai sy'n rhannu ein gweledigaeth.

Mae'r uchelgeisiau hyn wedi'u nodi mewn fframwaith buddsoddi wedi'i symleiddio ac yn ffurfio sylfaen ein gweledigaeth a rennir i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb.

– Bwrdd Ymddiriedolwyr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Cyflwyno ein strategaeth

Fel ariannwr treftadaeth mwyaf y Deyrnas Unedig, ein gweledigaeth yw i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. Credwn mewn nerth treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i ennyn balchder mewn lle a chysylltiad â'r gorffennol.

Dros y 10 mlynedd nesaf, rydym yn bwriadu buddsoddi £3.6 biliwn a godir ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl, lleoedd a chymunedau.

Yn haf 2022, rhannodd dros 4,000 o randdeiliaid ac aelodau'r cyhoedd eu barn am dreftadaeth a'n cyfeiriad yn y dyfodol. Mae'r adborth pwerus hwn, ynghyd â'n profiad ein hunain, wedi siapio ein hymagwedd newydd.

Byddwn ni'n cryfhau ac yn canolbwyntio ein cefnogaeth i dreftadaeth y Deyrnas Unedig gan ddefnyddio pedair egwyddor fydd yn sail i'n buddsoddiad:

  • achub treftadaeth
  • diogelu'r amgylchedd
  • cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
  • cynaladwyedd sefydliadol

Byddwn yn defnyddio'r egwyddorion hyn i greu fframwaith mwy hyblyg i gyfeirio ein hariannu.

Byddwn ni'n parhau i wneud yr hyn a wnawn yn dda: ein rhaglenni agored gyda phrosesau gwneud penderfyniadau datganoledig gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd lleol ein chwe phwyllgor ardal a gwlad.

Yn y dyfodol, byddwn hefyd yn mabwysiadu ymagwedd fwy rhagweithiol at gryfhau buddsoddiad strategol, gan dargedu ein hadnoddau tuag at yr anghenion mwyaf brys.

Bydd manylion sut y byddwn yn cyflwyno'r strategaeth 10 mlynedd hon yn cael eu cyhoeddi trwy gyfres o gynlluniau cyflwyno tair blynedd.

Mae ein hymagwedd ar ei newydd wedd wedi'i greu drwy gyfraniadau ac arbenigedd hael nifer fawr o bobl a phartneriaid sy'n frwd dros dreftadaeth. Rydyn ni am barhau â'r sgyrsiau hyn, fel bod arian y Loteri Genedlaethol yn galluogi treftadaeth i ysbrydoli, a herio, ac ennyn hyfrydwch a chyfaredd, nawr ac yn y dyfodol.

– Simon Thurley, Cadeirydd                     

– Eilish McGuinness, Prif Weithredwr

Gwireddu ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.

Rydym yn ystyried bod treftadaeth yn eang ac yn gynhwysol, gan addasu i ddefnyddiau a heriau cyfoes ac yn y dyfodol. O'r amgylchedd hanesyddol a naturiol i'n hamgueddfeydd, ein llyfrgelloedd a'n harchifau. O'n hetifeddiaeth ddiwydiannol i draddodiadau diwylliannol, straeon, atgofion, dathliadau a mwy. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

Mae'n fraint i ni fedru cefnogi treftadaeth y Deyrnas Unedig gydag arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Ers 1994, rydym wedi buddsoddi dros £8.2bn mewn mwy na 45,000 o brosiectau. Rydym yn gweithredu ar draws pedair gwlad y DU fel corff cyhoeddus anadrannol o'r Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Rydym yn gweithio ar y cyd ag ystod eang o gyrff statudol ar draws y Deyrnas Unedig yn ogystal â dosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol. Rydym yn derbyn Cyfarwyddiadau Ariannol gan DCMS yn ogystal â Chyfarwyddiadau Polisi ar gyfer y DU a Lloegr, a chan lywodraethau Cymru a'r Alban. Mae gwaith yn mynd rhagddo o ddatblygu Cyfarwyddiadau yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd.

Rydym yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer treftadaeth ar ran llywodraethau a chyrff eraill er mwyn cyflawni ein nodau a rennir.

Bydd ein pedair egwyddor fuddsoddi newydd yn cyfeirio'r holl benderfyniadau y byddwn yn eu gwneud drwy rhaglenni ariannu agored, ein buddsoddiadau strategol neu wrth ymgymryd â gwaith ar y cyd a phartneriaethau newydd.

Byddwn yn gofyn i'r prosiectau a ariannwn gymryd y pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth yn eu ceisiadau. Yr ymgeisydd fydd yn dangos cryfder y ffocws, a'r pwyslais ar bob egwyddor. Byddwn ni'n darparu mwy o fanylion ar beth y bydd hyn yn ei olygu drwy arweiniad a'n cynlluniau cyflwyno.

Egwyddor fuddsoddi 1

Achub treftadaeth

Gwarchod a gwerthfawrogi treftadaeth, nawr ac yn y dyfodol.

Beth mae hyn yn ei olygu

Bydd ein cefnogaeth yn sicrhau bod treftadaeth yn parhau i fod yn hygyrch, yn berthnasol, yn gynaliadwy ac wedi'i gwerthfawrogi.

Beth fyddwn ni’n gwneud

Treftadaeth mewn perygl: Byddwn yn ymrwymo cyllid i ddiogelu, gwarchod ac adfywio treftadaeth o bob math sydd mewn cyflwr gwael neu mewn perygl o ddirywio, gael ei difrodi, ei hesgeuluso, ei cholli neu ei hanghofio – gan sicrhau y caiff ei gwerthfawrogi a'i deall yn well.

Buddsoddi mewn lleoedd: Mae gan dreftadaeth rôl unigryw wrth ddod â phobl at ei gilydd yn y lleoedd y maent yn byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw. Byddwn ni'n gwella cysylltiadau pobl â threftadaeth eu lleoedd lleol drwy fuddsoddi a dargedir at ein hamgylchedd hanesyddol a naturiol.

Adfywio a chynnal: Byddwn yn gwahodd cynigion i weithio gyda ni i ddatblygu'r sgiliau, y capasiti a'r arloesedd i gynnal a rheoli treftadaeth. Byddwn yn nodi cyfleoedd i adfywio mathau amrywiol o dreftadaeth.

Erbyn 2033 byddwn wedi:

  • Gwella cyflwr, hyfywedd a dealltwriaeth y cyhoedd o filoedd o safleoedd treftadaeth, casgliadau, cynefinoedd, rhywogaethau a threftadaeth ddiwylliannol anniriaethol.
  • Gostwng, mewn ffordd y gellir ei mesur, maint y dreftadaeth a nodir ei bod 'mewn perygl', boed hynny drwy golled, wynebu difodiant, cael ei asesu fel bod mewn cyflwr gwael neu anffafriol neu mewn perygl o gael ei hanghofio.
  • Cyflwyno prosiectau hirdymor i drawsnewid ardaloedd lleol, trefi, dinasoedd a thirweddau drwy fabwysiadu ymagwedd a dargedir at wella cyflwr treftadaeth a balchder pobl yn eu hamgylchedd lleol.
  • Sicrhau bod yr adnoddau treftadaeth ddigidol a gefnogwn yn agored ac yn hygyrch ac y gall cenedlaethau'r dyfodol eu darganfod.

Egwyddor fuddsoddi 2

Diogelu'r amgylchedd

Cefnogi adferiad natur a chynaladwyedd amgylcheddol.

Beth mae hyn yn ei olygu

Byddwn ni'n cefnogi treftadaeth naturiol a phrosiectau amgylcheddol gynaliadwy sy'n helpu'r DU i gyrraedd ei thargedau adferiad natur ac i liniaru effaith newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth.

Beth fyddwn ni’n gwneud

Tirweddau: Byddwn ni'n cynyddu ein cefnogaeth dros brosiectau strategol ac ar raddfa tirweddau – rhai gwledig a threfol fel ei gilydd – sy'n helpu cynefinoedd a rhywogaethau i ffynnu, gan isafu a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, ac ar yr un pryd helpu pobl i gysylltu â'n treftadaeth naturiol unigryw.

Natur: Byddwn ni'n buddsoddi drwy bartneriaethau i helpu i atal a gwrthdroi colled a dirywiad cynefinoedd a rhywogaethau.

Ôl troed amgylcheddol: Byddwn yn cefnogi prosiectau treftadaeth sy'n lleihau effeithiau amgylcheddol niweidiol ac yn helpu treftadaeth i addasu i'n hinsawdd sy'n newid. Os yw prosiectau'n ymwneud ag adeiladwaith, byddwn ni'n annog adfer, gwarchod ac ailddefnyddio, yn hytrach nag adeiladu o'r newydd.

Lliniaru: Byddwn yn cydweithio i ddod â rhanddeiliaid treftadaeth naturiol, adeiledig a diwylliannol ynghyd i nodi a lliniaru risgiau i dreftadaeth o'r hinsawdd a chynnwys pobl wrth sicrhau newid ymddygiad cadarnhaol.

Erbyn 2033 byddwn wedi:

  • Cychwyn adferiad tirluniau a chynefinoedd mewn mannau trefol a gwledig, fel eu bod yn cefnogi treftadaeth naturiol doreithiog a systemau naturiol iach.
  • Cynyddu dealltwriaeth a chysylltiad pobl â natur ar draws trefi, dinasoedd a'r cefn gwlad.
  • Isafu effaith amgylcheddol negyddol ac ôl-troed carbon ein portffolio ariannu.
  • Gwella galluoedd treftadaeth naturiol a diwylliannol wrth gynllunio ar gyfer hinsawdd sy'n newid ac addasu iddo, a helpu prosiectau i weithredu dros yr amgylchedd.

Egwyddor fuddsoddi 3

Cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad

Cefnogi gwell cynhwysiad, amrywiaeth, mynediad a chyfranogiad mewn treftadaeth.

Beth mae hyn yn ei olygu

Byddwn yn cefnogi sefydliadau i sicrhau bod gan bawb gyfleoedd i ddysgu, datblygu sgiliau newydd a fforio treftadaeth, beth bynnag fo'u cefndir neu amgylchiadau personol.

Beth fyddwn ni’n gwneud

Cynnwys gwell amrywiaeth o bobl mewn treftadaeth, gan fuddsoddi mewn gwirfoddoli, gyrfaoedd treftadaeth, cyd-greu prosiectau, arweinyddiaeth, llywodraethu a datblygu gwybodaeth a sgiliau.

Galluogi sefydliadau i ddileu rhwystrau i fynediad a chyfranogiad, yn enwedig i bobl sydd heb gael eu gwasanaethu'n ddigonol gan dreftadaeth.

Cefnogi pob cymuned i ymchwilio i'w treftadaeth a'i rhannu, gan ganolbwyntio ar wneud storïau ein pedair gwlad yn fwy cynhwysol o dreftadaeth pawb.

Adnoddau treftadaeth ddigidol hygyrch: Cefnogi gwell defnydd o dechnoleg ddigidol i wneud treftadaeth yn fwy hygyrch a phleserus, a hyrwyddo gwell mynediad at wybodaeth am dreftadaeth, gan alluogi prosiectau i gynyddu eu heffaith a'u cyrhaeddiad.

Erbyn 2033 byddwn wedi:

  • Cynyddu amrywiaeth gweithluoedd, arweinyddiaeth a chynulleidfaoedd treftadaeth.
  • Mynd i'r afael â'r rhwystrau i fynediad ar gyfer pobl sydd heb gael eu gwasanaethu'n ddigonol gan dreftadaeth, gan ddarparu cyfleoedd mwy teg i ymwneud a chymryd rhan yn weithredol.
  • Cyfoethogi bywydau pobl trwy ein buddsoddiadau, gan alluogi treftadaeth pawb i gael ei chydnabod.
  • Cefnogi pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol mewn treftadaeth yn greadigol er mwyn hybu mynediad a chyrhaeddiad.

Egwyddor fuddsoddi 4

Cynaladwyedd sefydliadol

Cryfhau treftadaeth er mwyn iddi addasu a bod yn gydnerth yn ariannol, gan gyfrannu at gymunedau ac economïau.

Beth mae hyn yn ei olygu

Byddwn yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu'r sgiliau a'r capasiti i sicrhau dyfodol cadarn yn y tymor hir ac annog buddsoddi newydd mewn treftadaeth y bydd cymunedau ac economïau'n elwa ohono.

Beth fyddwn ni’n ei wneud

Cefnogi cynaladwyedd ariannol: Byddwn yn parhau i gynnig ariannu i adeiladu cydnerthedd, gan ddarparu capasiti ac arbenigedd i sefydliadau ddatblygu eu cynlluniau sefydliadol ac ariannol hirdymor.

Cefnogi datblygu sgiliau treftadaeth: Byddwn yn cydweithio gyda phartneriaid i nodi cyfleoedd i adeiladu capasiti, sgiliau ac arbenigedd ym maes treftadaeth, er mwyn cyfrannu at gymunedau ac economïau ffyniannus.

Darparu cyllid hyblyg: Byddwn yn cynnig cymorth ariannol hyblyg yng nghamau cynnar cynllunio prosiectau ar gyfer dadansoddi a gweithgareddau paratoi. Byddwn hefyd yn sicrhau bod arian dilynol ar gael am gyfnodau amser cyfyngedig ar ôl cwblhau prosiectau cyfalaf sylweddol i helpu i ymwreiddio sefydlogrwydd gweithredol.

Cyllid a buddsoddi newydd: Byddwn yn hyrwyddo'r defnydd o ffynonellau incwm mwy amrywiol fel cyllid gwyrdd a dulliau masnachol ac yn helpu i adeiladu'r capasiti a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflwyno hyn.

Erbyn 2033 byddwn wedi:

  • Cefnogi sefydliadau i gynyddu eu cynaladwyedd ariannol a sefydliadol drwy ddatblygu eu sgiliau masnachol a digidol a chryfhau llywodraethu ac arweinyddiaeth.
  • Cefnogi datblygu sgiliau a chapasiti yn y sector treftadaeth.
  • Defnyddio ein model ariannu hyblyg i ymwreiddio cydnerthedd yn y prosiectau rydym yn eu hariannu.
  • Galluogi'r sector treftadaeth i gryfhau ei gyfraniad at economïau a chymunedau lleol.

Ein portffolio ariannu

Agored, ymatebol, datganoledig 

Byddwn ni'n parhau â'n hymagwedd bresennol o gynnig rhaglenni ariannu agored - o grantiau bach hyd at brosiectau gwerth miliynau o bunnoedd - ar gyfer pob math o dreftadaeth.

Bydd y rhan fwyaf o benderfyniadau ariannu'n parhau i gael eu dirprwyo i'n chwe phwyllgor ardal a gwlad ac i staff gweithredol ar draws y DU. Bydd hyn yn galluogi i wahaniaethau yng nghymeriad treftadaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon elwa o arbenigedd lleol.

Graddfa a chyrhaeddiad

£5miliwn fu'r uchafswm grant ar gyfer ein rhaglenni ariannu ers dros 20 mlynedd, ac mae hyn yn cyfyngu ar y cyfleoedd i wireddu rhai mentrau. O 2023, byddwn yn cyflwyno trothwy buddsoddi uwch o £10m i ddarparu ar gyfer buddsoddi ar raddfa fwy a byddwn yn ystyried buddsoddi mewn prosiectau uwchben y trothwy er mwyn cefnogi prosiectau treftadaeth gwirioneddol eithriadol ar draws y DU. Byddwn ni'n addasu ein trothwyon a'n hymagwedd at fuddsoddi drwy'r strategaeth 10 mlynedd er mwyn ymateb i anghenion a gofynion treftadaeth.

Ymyriadau strategol ar draws y DU

Byddwn hefyd yn cyflwyno ffrydiau ariannu strategol newydd gyda'r nod o:

  • Fynd i'r afael yn rhagweithiol â materion treftadaeth hirsefydlog ar raddfa fawr.
  • Cefnogi prosiectau sy'n rhoi hwb i falchder mewn lle a chysylltiad â threftadaeth.
  • Cryfhau ein ffocws ar dreftadaeth sydd wrth wraidd lleoedd, natur a'r amgylchedd.
  • Galluogi ymagwedd draws-diriogaethol gydlynus a fydd yn cryfhau cyflwyniad.
  • Galluogi ni i ymateb i gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ac argyfyngau ym gyflym ac ar lefel genedlaethol.
  • Cefnogi prosiectau ac ymdrin â bylchau treftadaeth lle nad yw cynigion yn symud drwodd i'n rhaglenni agored.
  • Cyflymu syniadau ac ymyriadau newydd lle mae angen ymagwedd bwrpasol.

Byddwn yn adolygu ein hymyriadau strategol yn rheolaidd trwy gynlluniau cyflwyno tair blynedd.

Bydd y mentrau cynnar yn cynnwys:

Lle

Byddwn ni'n targedu buddsoddi seiliedig ar le sy'n rhoi hwb i falchder mewn lleoedd ac yn cysylltu cymunedau ac ymwelwyr â threftadaeth. Gan ddefnyddio dangosyddion cenedlaethol, wedi'u cyfuno â gwybodaeth leol am anghenion, cyfleoedd a photensial treftadaeth, byddwn yn buddsoddi o leiaf £200m dros oes y strategaeth hon. Byddwn yn rhoi hwb i gapasiti lleoedd a chymunedau lleol i ddatblygu partneriaethau ac yn chwilio am ardaloedd sydd â'r potensial i dynnu buddsoddiad ehangach i mewn ac elwa ohono.

Tirweddau a natur

Byddwn yn cefnogi prosiectau ar raddfa fawr sy'n adfywio tirweddau, yn cefnogi adferiad natur ac yn gwella cysylltedd pobl a bywyd gwyllt. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Parciau Cenedlaethol, sefydliadau cadwraeth, cymunedau a thirfeddianwyr i gychwyn adferiad tirweddau a chynefinoedd cyfan fel eu bod yn cefnogi treftadaeth naturiol doreithiog, treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a systemau naturiol iach. Byddwn yn buddsoddi ar draws ardaloedd gwledig, maestrefol a threfol i wella cymeriad y dirwedd drwy ariannu ymagweddau newydd, gweithgareddau cynaliadwy a gwelliannau cyfalaf.

Treftadaeth mewn angen

Byddwn ni'n mynd ati i lunio ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth at nodi bylchau yn y cymorth i'r sector treftadaeth, yn enwedig lle mae treftadaeth yn y fantol ac mae angen cadwraeth arni – er enghraifft mannau addoli neu dreftadaeth ddiwydiannol. Byddwn yn darparu cefnogaeth wedi'i thargedu i adeiladu capasiti, datblygu ymagweddau at gynllunio prosiectau ac arallgyfeirio ffrydiau incwm er mwyn helpu i adeiladu amserlen brosiect ar gyfer y dyfodol.

Caffaeliadau, cyfleoedd ac argyfyngau

Byddwn yn sicrhau y gallwn ymateb yn gyflym a gweithredu pan fydd angen er mwyn ymateb i sefyllfaoedd a chyfleoedd unigryw. Gallai hyn olygu cefnogi caffael treftadaeth eithriadol, nodi digwyddiadau arwyddocaol neu gefnogi meysydd o dreftadaeth a sefydliadau sy'n delio ag argyfwng nas rhagwelwyd. Byddwn yn gweithio'n hyblyg pan fydd angen i'r sector treftadaeth ddod at ei gilydd er mwyn sicrhau dyfodol y pwysicaf o bob math o dreftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.