Arddangosfa Millennium Falcon i agor yng ngorllewin Cymru

Arddangosfa Millennium Falcon i agor yng ngorllewin Cymru

Millennium Falcon
Credyd: Shutterstock
Mewn galacsi ymhell, beth i ffwrdd o Ddoc Penfro – bydd hanes adeiladu y llong ofod eiconig yn cael ei adrodd diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Y Millennium Falcon yw llong ofod y smyglwr Han Solo a’i gyfaill Chewbacca y Wookie yn y saga ffilmiau Star Wars.

Adeiladwyd y model maint-llawn cyntaf o’r llong ofod mewn sied awyrennau o’r Ail Ryfel Byd yn Noc Penfro yn 1979 ac. ar y pryd, hwn oedd y gyfrinach waethaf yng Ngorllewin Cymru. Ymddangosodd y model yn y ffilm The Empire Strikes Back a enillodd gwobr Oscar. 

Bydd hanes adeiladu y Millennium Falcon gan grefftwyr o gwmni peirianneg lleol yn cael ei adrodd mewn arddangosfa newydd, diolch i fuddsoddiad o £8,000 gan y Gronfa Treftadaeth. 

Hanes Star Wars 

Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro fydd cartref yr arddangosfa barhaol a bydd modd cerdded o amgylch yr arddangosfa y bydd yn adrodd y straeon gyda ffotograffau, ffilm, propiau a gwisgoedd. Bydd Mark Williams, arbennigwr Star Wars lleol yn goruwchwylio’r gwaith o greu yr arddangosfa.  

"Hwn oedd y gyfrinach waethaf yn hanes Doc Penfro – roedd pawb yn y dref yn gwybod eu bod yn adeiladu UFO yn y sied.” Cofia Gareth Mills, sy'n un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Doc Penfro. ”Mae'r stori honno'n rhan bwysig o gof byw'r dref a bydd yr arddangosfa yn hwb sylweddol i Ddoc Penfro” 

"Rwy'n gobeithio y bydd yr arddangosfa yn dod yn gyrchfan newydd i gefnogwyr drwy bedwar ban y byd.”
 
Lynwen Brennan, Is-lywydd Gweithredol a Rheolwr Cyffredinol Lucasfilm

Mae Lynwen Brennan, sy'n frodor o Sir Benfro, yn Is-lywydd Gweithredol a Rheolwr Cyffredinnol Lucasfilm. "Rwyf wrth fy modd y bydd y foment a'r lle gwych yma’n hanes Star Wars yn cael eu cofnodi a’u cadw," meddai Brennan.  

"Rwy'n falch fod llong mor eiconig wedi'i hadeiladu yn y dref lle cafodd fy Mam ei geni ac yn y sir lle cefais fy magu, ac rwy'n gobeithio y bydd yr arddangosfa yn dod yn gyrchfan newydd i gefnogwyr ledled y byd." 

Mae disgwyl i’r arddangosfa agor yng nghanol 2022. 

Ariannu eich prosiect trefadaeth 

Os oes gennych chi brosiect treftadaeth yng Nghymru yr hoffech ei ariannu, mae rhagor o wybodaeth am ein rhaglen ariannu £3,000 i £10,000 ar gael yma.

 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...