Llwyddiant i brosiectau treftadaeth yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol

Llwyddiant i brosiectau treftadaeth yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol

Mae Punk: Rage & Revolution wedi ei enwi'n Brosiect y Flwyddyn Lloegr
Punk: Rage & Revolution yn mynd â Gwobr Prosiect y Flwyddyn Lloegr adref â nhw. Credyd: Alex Wilkinson Media.
Mae arweinwyr chwe phrosiect a ariannwyd gennym wedi mynd â gwobr adref gyda nhw eleni.

Mae Punk: Rage & Revolution wedi ei enwi'n Brosiect y Flwyddyn Lloegr yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol 2023.

Mae’r arddangosfa yn adrodd hanes sîn Pync eiconig Prydain gyda mewnbwn gan dros 50 o bobl a oedd yn rhan o’r mudiad lleol a chenedlaethol ar ddiwedd y 1970au. Bu i fwy na 250 o bobl ifanc o bob rhan o Gaerlŷr gymryd rhan yn y prosiect, gan rannu eu meddyliau a’u profiadau a chreu celf, cerddoriaeth, dawns a ffasiwn cynaliadwy i’w harddangos ochr yn ochr ag eitemau hiraethus yn yr arddangosfa.

Derbyniodd y prosiect £159,000 gennym ni ym mis Ionawr 2022. Cafodd ei churadu a’i chyd-ddylunio gan bobl ifanc o Soft Touch Arts mewn partneriaeth ag Arch Creative a’r curadur annibynnol Shaun Knapp. 

Dywedodd Sally Norman, Cyd-gyfarwyddwr Soft Touch Arts: “Rydym wedi'n syfrdanu ac yn wefr i gyd ein bod ni wedi ennill y wobr hon. Hoffwn ddweud diolch enfawr i’r holl bobl a bleidleisiodd drosom.

“Mae ennill Prosiect y Flwyddyn Lloegr yn adlewyrchiad gwych o’r holl waith caled y mae pawb wedi’i roi i’r prosiect, yn enwedig y bobl ifanc anhygoel sydd wedi dangos cymaint o frwdfrydedd dros yr hyn yr ydym yn ei wneud.”

Dathlu treftadaeth sy'n gwneud gwahaniaeth

Punk: Rage & Revolution yn ymuno â chyd-enillwyr a gefnogwyd gan y Gronfa Treftadaeth, Bangor Court House, SIARC, Friends of Hartwood Paupers Cemetery, Danny Renton ac Esther Fox.

Brosiect y Flwyddyn

Mae Bangor Court House yng nghalon Bangor, Swydd Down, yn arwain adfywiad diwylliannol ac yn helpu i ailadeiladu cymuned gyda'i raglen o ddigwyddiadau creadigol.

Ar ôl saith mlynedd o drawsnewid, mae'r Court House yn weithredol fel lleoliad perfformio annibynnol. Ochr yn ochr ag arddangos artistiaid rhyngwladol, mae’n meithrin egin ddoniau ifainc yn lleol ac yn darparu cartref i gôr cymunedol Open House. Dyfarnwyd £977,900 gennym ni i’r prosiect yn 2018.

Dywedodd Alison Gordon, Cyd-sylfaenydd Open House Festival sydd y tu ôl i’r prosiect: “Mae ennill Gwobr Prosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol trwy bleidlais gyhoeddus yn anhygoel. Nid ein prosiect ni yn unig mohono, prosiect Bangor ydyw."

Prosiect y Flwyddyn Cymru

Mae mwy na 3,000 o aelodau'r cyhoedd a 600 o blant ysgol wedi cymryd rhan yng ngwaith y prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities) hyd yma.

Mae’r prosiect yn gydweithrediad aml-bartner a arweinir gan ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain) a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Gyda chymorth pysgotwyr, cymunedau, ysgolion, ymchwilwyr, eigionegwyr ym Mhrifysgol Bangor a dinasyddion-wyddonwyr ledled Cymru a’r DU, mae’r prosiect yn llenwi bylchau data hanfodol ar gyfer chwe rhywogaeth brin o siarcod, garwbysgod a morgathod.

Meddai Joanna Barker o ZSL, Arweinydd Prosiect SIARC: “Mae ennill y Wobr Loteri Genedlaethol hon yn dangos pwysigrwydd ymgorffori gwybodaeth a lleisiau cymunedol lleol i gadwraeth forol yng Nghymru…Mae’n gydnabyddiaeth anhygoel i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser a’u hymdrech i helpu diogelu’r rhywogaethau hyn a chodi ymwybyddiaeth o ran hanfodol o dreftadaeth naturiol Cymru.”

The team stand with the National Lottery Award
Cyflwynodd y naturiaethwr a chyflwynydd teledu Iolo Williams y wobr i Brosiect SIARC ym Marina Pwllheli, Gogledd Cymru.

Prosiect y Flwyddyn yr Alban

Mae gwirfoddolwyr Friends of Hartwood Paupers Cemetery wedi adnewyddu'r fynwent a threulio dros dair blynedd yn paru enwau â lleiniau bedd. Mae’r grŵp cymunedol lleol yn cofio 1,255 o gleifion tlawd a staff a oedd unwaith yn angof o Hartwood Asylum a gladdwyd rhwng 1895 a 1952.

Meddai Loraine Duncan, Sylfaenydd y grŵp: "Mae’r gwirfoddolwyr wedi gwneud cymaint o waith caled er cof am eneidiau coll Hartwood Asylum ac mae’n wych cael y gydnabyddiaeth hon."

Two people sit with the National Lottery award in Hartwood Paupers Cemetery Hartwood Paupers Cemetery
Aelodau o Friends of Hartwood Paupers Cemetery gyda'u Tlws Prosiect y Flwyddyn Yr Alban yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol.

Prosiect Amgylcheddol y Flwyddyn

Enillodd Danny wobr prosiect amgylcheddol y flwyddyn am ei elusen, Seawilding, a dderbyniodd £216,400 gennym ni yn 2020. Mae'r prosiect yn gweithio i adfer bioamrywiaeth goll, creu swyddi gwyrdd a gwella gwyddoniaeth forol ac addysg cadwraeth yn Yr Alban.

Meddai: “Diolch yn fawr iawn am yr hyder yr oedd gennych ynom i roi’r arian i ni, i’n galluogi i wneud yr hyn yr ydym wedi’i wneud. Rwy’n meddwl eich bod wedi ysbrydoli llawer o brosiectau eraill fel hyn.”

Pprosiect Treftadaeth y Flwyddyn

Enillodd Esther prosiect treftadaeth y flwyddyn am ei gwaith ar y prosiect Curating for Change, sy’n creu cyfleoedd gyrfa i bobl F/fyddar, anabl a niwrowahanol yn y sector amgueddfeydd. Derbyniodd y prosiect £1.06m gennym yn 2020.

Meddai: “Nid buddugoliaeth i mi yn unig yw hon, mae'n fuddugoliaeth i bob un ohonom sy’n ceisio hyrwyddo’r hyn y gall pobl anabl ei gynnig.”

Esther and Sir Tony Robinson with the National Lottery Award

Mwy o bobl a phrosiectau ysbrydoledig

Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn dathlu'r bobl a'r prosiectau ysbrydoledig sy'n gwneud pethau anhygoel gyda'r arian a godir gan y Loteri Genedlaethol.

Ers 1994, mae dros £47 biliwn o werthiannau tocynnau wedi mynd tuag at achosion da. Rydym wedi dosbarthu £8.2bn o hyn i fwy na 46,000 o brosiectau ar draws y DU.

Cael gwybod pwy arall sydd wedi ennill Gwobr y Loteri Genedlaethol neu mynnwch gip ar fwy o'r prosiectau ysbrydoledig rydym wedi'u cefnogi dros y blynyddoedd.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...