Cannoedd o gynigion treftadaeth arbennig ledled y DU y gwanwyn hwn

Cannoedd o gynigion treftadaeth arbennig ledled y DU y gwanwyn hwn

Teulu yn edrych ar arddangosiad o flwch nythu adar
Mae RSPB Belfast Window on Wildlife yn cynnig mynediad am ddim. Credyd: Brian Morrison.
Mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn dychwelyd, rhwng dydd Sadwrn 9 a dydd Sul 17 Mawrth.

I ddweud diolch am y £30 miliwn a godir at achosion da bob wythnos gan chwaraewyr, mae lleoliadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn cynnig mynediad am ddim, gostyngiadau a bargeinion arbennig trwy gydol Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2024.

Sut mae hawlio cynnig?

Gall unrhyw un sydd â cherdyn crafu neu docyn loteri fanteisio ar gynnig.

Bwrw golwg ar uchafbwyntiau ein cynnig isod. Rhowch wybod i ni ble rydych chi'n mynd ar ymweliad gan ddefnyddio #DiolchiChi.

Uchafbwyntiau'r cynnig

Mynediad am ddim

Mae cannoedd o safleoedd a lleoliadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn agor eu drysau am ddim gan gynnwys Castell Powys a'i Gerddi yng Nghymru a Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, Fountains Abbey yng Ngogledd Swydd Efrog a Sarn y Cawr yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Yr Alban yn cymryd rhan, gan gynnig mynediad am ddim i leoedd treftadaeth fel Drum Castle, Fall House of Dun a Gladstone's Land.

Fforiwch gwarchodfeydd natur yr RSPB megis Belfast's Window on Wildlife, Burton Mere Wetlands, Gwarchodfa Natur Conwy a Gwarchodfa Natur Loch Lomond, sydd hefyd yn cynnig citiau hela bwystfilod bach am ddim. Neu cymerwch ran mewn taith gerdded sgwarnog ar y mynydd am ddim yng nghronfa ddŵr Dove Stone, Manceinion Fwyaf.

Ewch i safleoedd syfrdanol English Heritage am ddim gan gynnwys Eltham Palace, Dover Castle, Brodsworth Hall and Gardens, Kenilworth Castle and Elizabethan Garden, Pendennis Castle, Marble Hill a mwy. 

Gallwch hefyd gael mynediad am ddim i leoedd ysbrydoledig gan gynnwys Eden Project, acwariwm Amgueddfa Horniman, Amgueddfa Forwrol Yr Alban, Amgueddfa Werin Ulster a Sunderland Museum and Winter Gardens ymhlith llawer o rai eraill.

Pobl yn cerdded ar draws tirwedd eiconig llwybr arfordirol Sarn y Cawr
Mae cannoedd o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cymryd rhan i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cymorth wrth gefnogi gwaith cadwraeth hanfodol. Llun: Sarn y Cawr.

Teithiau tywysedig a theithiau cerdded am ddim

Mae llawer o leoedd yn cynnig teithiau a theithiau cerdded am ddim gan gynnwys y Royal Shakespeare Company, Stephenson Steam Railway, Union Chapel, Cadeirlan Coventry, Poole's Cavern, a Boathouse 4 gyda theithiau o gwmpas bad ager o'r 1940au.

Bargeinion 2-am-1

Mae llawer o fargeinion 2-am-1 gan gynnwys Crich Tramway Village, HMS Belfast, IWM Duxford a Foundling Museum.

Dau dram hynafol ar dramffordd y pentref
Mwynhewch reidiau mewn tram hynafol gyda golygfeydd o Ddyffryn Derwent yn Crich Tramway Village. 

Mynediad i blant am ddim

Eleni mae plant yn mynd am ddim mewn llawer o leoedd yn ogystal gan gynnwys Tŵr Llundain, Black Country Living Museum, Palas Kensington a Chanolfan Wyddoniaeth Glasgow.

Gostyngiadau arbennig

Gallwch gael gostyngiadau arbennig yn Sw Caer, Amgueddfa Brooklands, National Glass Centre Shop and Nene Valley Railway.

Dewch o hyd i gynnig yn eich ardal chi

Archwiliwch yr holl gynigion sydd ar gael yn ystod yr Wythnos Agored ar wefan y Loteri Genedlaethol.

Oes gennych chi leoliad ac awydd cymryd rhan?

Os yw eich prosiect treftadaeth wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol, mae amser o hyd i chi gofrestru i gymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2024.

Mae'n ffordd wych o ddenu cyhoeddusrwydd i'ch prosiect a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Cael gwybod mwy ar sut i ymrestru eich prosiect.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...