Mae Cymru'n Falch: golwg ar gasgliad LHDTC+ cenedlaethol

Mae Cymru'n Falch: golwg ar gasgliad LHDTC+ cenedlaethol

A person standing in front of a glass display of pride flags, t-shirts, leaflets and other memorabilia in a glass case
Mark Etheridge, Curadur Hanes LHDTC+ o flaen arddangosfa 'Mae Cymru'n... Falch.
Mae Amgueddfa Cymru wrthi'n casglu gwrthrychau, dogfennau, ffotograffau a hanesion llafar er mwyn cynrychioli'r gymuned a'r profiad byw LHDTC+ yn llawn yng Nghymru

O lyfrau i bosteri a baneri protestio, mae'r casgliad yn rhychwantu degawdau o ddigwyddiadau balchder ac actifiaeth, yn ogystal ag eitemau sy'n cynrychioli bywydau bob dydd pobl LHDTC+.

Mark Etheridge yw'r curadur ers 2019, ac mae wedi dod o hyd i wrthrychau newydd ac ailddehongli a datgelu hanesion cwîar cudd. Mae'r casgliad bellach yn cynnwys dros 1,100 o eitemau, y mae Mark yn gobeithio y byddant yn creu gwelededd mawr ei angen: “Mae'n codi ymwybyddiaeth o hanes LHDTC+ yng Nghymru, o Ffrynt er Rhyddid Pobl Hoyw Caerdydd a'r Ymgyrch dros Gydraddoldeb Cyfunrywiol yn y 1970au, hyd at y blynyddoedd diwethaf gyda phrotestiadau am hawliau traws.”

Yn ogystal â'r rhai mewn dinasoedd mawr fel Abertawe a Chaerdydd, mae digwyddiadau balchder bellach yn cael eu cynnal ar draws Cymru...

Mark Etheridge, Curadur Hanes LHDTC+ yn Amgueddfa Cymru

Mae'r amgueddfa bob amser yn chwilio am ragor o eitemau i'w hychwanegu at y casgliad. A allech chi helpu i gofnodi a chadw hanes LHDTC+ Cymru er lles cenedlaethau'r dyfodol?

Arddangos 'Mae Cymru yn... Falch' Sain Ffagan

Mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan – un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf Ewrop a gwblhaodd brosiect ailddatblygu yn 2018 – yn arddangos rhai gwrthrychau yn y casgliad fel rhan o'i harddangosfa 'Mae Cymru yn... Falch'. Gall ymwelwyr weld:

A purple pin badge with a white fist outline that reads gay liberation front
Ffrynt er Rhyddid Pobl Hoyw Caerdydd, 1970au.
  • Bathodynnau a wisgwyd gan aelodau o Ffrynt er Rhyddid Pobl Hoyw Caerdydd ac Ymgyrch dros Gydraddoldeb Cyfunrywiol Caerdydd yn y 1970au.
  • Cofbethau o ddigwyddiadau Balchder Caerdydd.
  • Portread mawr o Terrence Higgins a anwyd yn Sir Benfro, oedd yn un o'r bobl gyntaf yn y DU i farw o AIDS ym 1982. Yr arlunydd Nathan Wyburn greodd y darn gan ddefnyddio stampiau gwyn a gwyrdd i adlewyrchu ei dreftadaeth Gymreig ac i ddathlu ei fywyd a'i etifeddiaeth.
  • Baner gan Glitter Cymru – grŵp cymdeithasol a chefnogi ar gyfer cymunedau LHDTC+ ethnig amrywiol yng Nghymru.
  • Eitemau o brotest yn erbyn Adran 28 y Ddeddf Llywodraeth Leol, a waharddodd awdurdodau lleol rhag hyrwyddo cyfunrywioldeb rhwng 1988 a 2003. Baner CYLCH (Cymdeithas Lesbiaid a Hoywon Cymraeg eu Hiaith, cymdeithas dros bobl hoyw a lesbiaid Cymraeg eu hiaith) a ddefnyddiwyd mewn protest Adran 28 yn Aberystwyth ym 1991.

Casgliad hollbwysig

Dechreuodd Balchder fel protest a galwad am hawliau cyfartal yn y 1970au. Ers yr orymdaith Balchder gyntaf yng Nghaerdydd ym 1985, bu cynnydd yn ddiweddar mewn digwyddiadau balchder ar draws Cymru. Meddai Mark: "Nid yn unig mewn dinasoedd mawr fel Abertawe a Chaerdydd y mae digwyddiadau Balchder yng Nghymru'n cael eu cynnal erbyn hyn ond ar draws Cymru gyda llawer o ddigwyddiadau Balchder cyntaf mewn lleoedd fel Llanilltud Fawr, Llandrindod, Y Gelli Gandryll, Bangor, Aberdâr a Chasnewydd dros y blynyddoedd diwethaf.”

Er bod tipyn o ffordd i fynd o hyd mae'n nodi pa mor bell y mae pethau wedi dod, ac mae'n gynyddol bwysig - datgelodd cyfrifiad 2021 fod y gyfran uchaf o bobl ifanc yng Nghymru a Lloegr nad ydynt yn hunan-adnabod fel heterorywiol yn byw yn siroedd gwledig Cymru.

A crowd with colourful balloons and flags holding a rainbow pride banner that reads Barry Pride,
Cynhaliwyd digwyddiad Balchder cyntaf Y Barri ar 21 Medi 2019.

Mae'r adborth ar yr arddangosfa wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda Mark yn ddiweddar yn rhan o'r podlediad 'Cwrdd â fi yn yr amgueddfa' gyda'r cyflwynydd Owain Wyn Evans a'i ŵr. Meddai: “Mae gwrthrychau o'r casgliad eisoes wedi cael eu defnyddio mewn amryw o arddangosfeydd ar draws ein safleoedd. 

"At hynny, mae gennym gynlluniau ar gyfer arddangosfa LHDTC+ arall yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn 2024, felly cadwch lygad allan.”

Dwi'n teimlo mai pwysigrwydd yr arddangosfa 'Mae Cymru yn... Falch' yw ei bod wedi codi ymwybyddiaeth o'r casgliad LHDTC+, rhoi mwy o amlygrwydd i'r gymuned a dangos bod Amgueddfa Cymru o ddifri am sicrhau bod y gymuned yn rhan o'r arddangosfeydd, digwyddiadau a rhaglenni dysgu ar draws safleoedd ein hamgueddfa.

Mark Etheridge, Curadur Hanes LHDTC+ yn Amgueddfa Cymru

Cais am roddion

Oes gennych chi eitemau sy'n adrodd stori am fywyd a diwylliant LHDTC+ yng Nghymru? Os ydych, rydym am glywed gennych. Mae'n gofyn am roddion o wrthrychau, dogfennau, ffotograffau a mwy i'w hychwanegu at y casgliad. “Hyd yma dim ond nifer fach o wrthrychau sydd wedi'u rhoi yn sgil y cais, ond gall hyd yn oed nifer fach wella gynrychiolaeth yn fawr.

“Rwy'n dal i weithio'n galed yn casglu o brotestiadau, digwyddiadau balchder a thrwy grwpiau cymunedol. Dwi'n teimlo mai pwysigrwydd yr arddangosfa 'Mae Cymru yn... Falch' yw ei bod wedi codi ymwybyddiaeth o'r casgliad LHDTC+, rhoi mwy o amlygrwydd i'r gymuned a dangos bod Amgueddfa Cymru o ddifri am sicrhau bod y gymuned yn rhan o'r arddangosfeydd, digwyddiadau a rhaglenni dysgu ar draws safleoedd ein hamgueddfa.”

A museum space with various LGBTQ+ objects on display, such as protest banners, signs and photos
Rhan o'r arddangosfa 'Mae Cymru yn... Falch' yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Gellir chwilio'r casgliad LHDTC+ hefyd ar gatalog Casgliadau Ar-lein Amgueddfa Cymru. Mae hwn wedi mynd yn adnodd pwysig, ac yn rhoi amlygrwydd parhaol i gymuned LHDTC+ Cymru.

Mwy o storïau llawn ysbrydoliaeth

Archwiliwch ein projectau treftadaeth LHDTC+ a chael gwybod sut y gallwn eich cefnogi chi

Mae amser o hyd i wneud cais am grant Casgliadau Dynamig os oes gennych syniad ar gyfer eich prosiect ailddehongli casgliad eich hun.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...