Casgliadau Dynamig

Casgliadau Dynamig

Plant mewn amgueddfa
Plant yn mwynhau arddangosfa yn Seven Stories, Newcastle upon Tyne

 

Important

We are no longer accepting new applications through the Dynamic Collections campaign. Please apply for funding for your project through our open programmes.

Mae ein hymgyrch newydd yn cefnogi sefydliadau casglu ledled y DU i ddod yn fwy cynhwysol a gwydn, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu, ail-ddehongli a rheoli casgliadau.

Mae casgliadau'n helpu i ddod â straeon niferus pobl a chymunedau ledled y DU yn fyw.

Yn y Gronfa Treftadaeth, rydym am gefnogi amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a sefydliadau eraill i wneud y gorau o'u casgliadau. 

Bydd ein hymgyrch Casgliadau Dynamig yn cefnogi sefydliadau casglu drwy ddod â chyllid prosiect at ei gilydd drwy ein rhaglenni agored, adnoddau digidol a rhannu gwybodaeth.

Fe'i cynlluniwyd i fynd i'r afael â heriau hirdymor yn y sector, y mae llawer ohonynt wedi'u gwaethygu gan bandemig y coronafeirws (COVID-19). Bydd hefyd yn helpu sefydliadau i adeiladu ar syniadau a thueddiadau arloesol a ddatblygwyd dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ran ymgysylltu digidol.

Mae'r ymgyrch hefyd yn gweithredu ar y galw am gasgliadau i esblygu i ddiwallu anghenion newidiol y cymunedau o'u cwmpas, ac i adlewyrchu mwy o hanes a phrofiadau pobl. 

Cynhwysol, gwydn, esblygol

Bydd Casgliad Dynamig yn:

  • cael ei ddefnyddio gan, ac yn ystyrlon i, ystod ehangach o bobl
  • galluogi gwahanol safbwyntiau i gael eu clywed ac amrywiaeth o straeon i gael eu hadrodd
  • cael ei reoli a'i adolygu'n weithredol

Cadw mewn cysylltiad

Cofrestrwch i'n cylchlythyr am y newyddion diweddaraf am gasgliadau a straeon ysbrydoledig o bob rhan o'r DU.

Eisiau cynnal prosiect Casgliadau Dynamig?

Arddangosfa prosiect archaeoleg gymunedol
Prosiect archaeoleg gymunedol yn cael ei gyd-greu gan gymunedau sy'n gweithio gydag Amgueddfeydd Dinbych-y-pysgod ac Arberth

Projects

Amgueddfa Cymru: Hel Trysorau, Hel Straeon

Daeth y prosiect hwn, gyda chefnogaeth ein cronfa Casglu Diwylliannau, ag amgueddfeydd ledled Cymru ynghyd â helwyr trysorau lleol, gan wella perthnasoedd a chasgliadau hirdymor.