Gofynion cydnabyddiaeth grant Trefi a Dinasoedd Natur

Gofynion cydnabyddiaeth grant Trefi a Dinasoedd Natur

See all updates
TDylai'r canllawiau hyn gael eu defnyddio gan unrhyw brosiect sy'n derbyn grant gan y fenter strategol Trefi a Dinasoedd Natur.

Ynghylch Trefi a Dinasoedd Natur

Mae Trefi a Dinasoedd Natur yn fenter bartneriaeth rhwng Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Rhaid i brosiectau a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o Trefi a Dinasoedd Natur gydnabod ein cefnogaeth yn gyhoeddus. 

Cydnabod eich grant

Dylai prosiectau sy'n cael eu hariannu gan y Gronfa Treftadaeth fel rhan o Trefi a Dinasoedd Natur ddefnyddio'r logo cloi a'r datganiad gorfodol i gydnabod eu grant.

Rhaid darparu cydnabyddiaeth ddwyieithog ar gyfer unrhyw brosiectau yng Nghymru.

Dylai cydnabyddiaeth gael ei rhoi ar bob gweithgaredd hyrwyddo, brandio a deunydd sy'n gysylltiedig â'r prosiect gan gynnwys:

  • Gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus: er enghraifft; cyhoeddiadau grant, lansiadau neu ddatganiad i'r wasg carreg filltir, cyfweliadau, areithiau
  • Digidol: er enghraifft; gwefannau, mewnrwydi, fideos a blogiau, cyflwyniadau, deunyddiau addysgol, cylchlythyrau
  • Sianeli cyfryngau cymdeithasol: cydnabyddiaeth o'r ariannu mewn postiadau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, Twitter / X, TikTok, YouTube, LinkedIn
  • Lansiadau, agoriadau, neu ddigwyddiadau carreg filltir, digwyddiadau pen-blwydd: deunyddiau gan gynnwys: gwahoddiadau, tocynnau, areithiau, bathodynnau, posteri, arwyddion, datganiadau i'r wasg, cyfweliadau â'r cyfryngau, rhoddion hyrwyddo, lifrai, dillad â brand arnynt, goleuo, gobos, cyflwyniadau, fideos, teisennau ac ati
  • Hysbysebu: hysbysebion papur newydd, allan o gartref, teledu neu radio
  • Deunyddiau printiedig: er enghraifft; posteri, taflenni, pamffledi, tocynnau, gwahoddiadau a baneri, mapiau, cardiau post
  • Deunyddiau corfforaethol: adroddiadau blynyddol, adroddiadau effaith, dogfennau tendr
  • Arwyddion ar gyfer adeiladau, adeileddau neu ofodau allanol: gan gynnwys arwyddion corfforaethol dros dro a pharhaol, arwyddion cyfeirio, byrddau arianwyr, placiau, sticeri ffenestr, fflagiau a baneri, matiau drws
  • Ariannu staff neu leoliadau gwaith: disgrifiadau swydd neu hysbysebion swydd, lifrai staff

Cydnabod eich ariannu gyda logo cloi Trefi a Dinasoedd Natur 

Dylai pob prosiect yr ydym yn ei ariannu arddangos y logo cloi yn amlwg.

Gall y stamp, sydd ar gael mewn lliw cyflawn, gwyn a du, weithio ar draws ystod o fformatau dylunio. Mae fersiynau print (eps) a digidol (png) o'r logo cloi ar gael.

Mae'r logo cloi hefyd ar gael yn Gymraeg. Rhaid i bob prosiect a gyflwynir yng Nghymru ddangos y logo cloi Cymraeg a Saesneg dwyieithog.

Mae'r adrannau canlynol ar y dudalen hon yn tynnu sylw at rai pethau allweddol i chi eu hystyried wrth ddefnyddio'r logo cloi.

Bydd y logo ar gael i'w lawrlwytho cyn bo hir.

Lawrlwytho logo cloi Trefi a Dinasoedd Natur:

Logo cloi Trefi a Dinasoedd Natur - Cymraeg
Logo cloi Trefi a Dinasoedd Natur - Saesneg

Lliw 

Dim ond mewn lliw cyflawn, gwyn neu ddu, y gellir atgynhyrchu'r logo cloi.

Camddefnyddio'r logo 

Rhaid i chi beidio ag ail-lunio na newid y logo cloi. Peidiwch â'i ledu neu ei docio er mwyn ei ffitio mewn gofod bach.

Nodyn am ffeiliau eps

Mae'n bosibl na fydd ffeiliau EPS a fersiynau gwyn o'r logo cloi yn weladwy yn eich porwr gwe. Cliciwch gyda'r botwm de a dewiswch 'save target as' i lawrlwytho'r ddelwedd a'i lansio yn eich pecyn golygu delweddau. 

Am gymorth gyda chydnabyddiaeth a chymeradwyaethau gyrrwch e-bost atom yn brand@heritagefund.org.uk