Gofynion cydnabyddiaeth grant Lleoedd Treftadaeth

Gofynion cydnabyddiaeth grant Lleoedd Treftadaeth

Two children, facing away, looking at a wall of traditional porcelain plates.
See all updates
Dylai'r canllawiau hyn gael eu defnyddio gan unrhyw brosiect sy'n derbyn grant gan fenter strategol Lleoedd Treftadaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ynghylch Lleoedd Treftadaeth

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi hyd at £200miliwn mewn lleoedd ar draws y DU i roi treftadaeth wrth wraidd dulliau lleol sy'n gwella cysylltiadau pobl â'r lleoedd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt, ac yn ymweld â hwy.

Cydnabod eich grant 

Rhaid i grantïon beidio â chynhyrchu eu delwedd hunaniaeth eu hunain ar gyfer prosiect Lleoedd Treftadaeth. Dylid defnyddio pecyn cymorth Cydnabyddiaeth safonol y Gronfa Treftadaeth. Mae'r pecyn cymorth yn amlinellu sut y dylid rhoi cydnabyddiaeth i'ch prosiect. Fel y prif ariannwr mae arnom angen safle annibynnol ar gyfer y stamp cydnabyddiaeth ar yr holl ddeunyddiau a gweithgareddau hyrwyddo sy'n gysylltiedig â'r prosiect. Dylai unrhyw bartneriaid eraill fod mewn safle eilaidd.  

Darllenwch ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth

Gellir dod o hyd i ddolenni i'n stamp cydnabyddiaeth yn y pecyn cymorth cydnabyddiaeth. Rhaid i bob prosiect a gyflwynir yng Nghymru ddangos y stamp cydnabyddiaeth Cymraeg a Saesneg dwyieithog.

Testun safonol Lleoedd Treftadaeth

Yn ychwanegol at y datganiad cydnabyddiaeth (sydd ar gael yn y pecyn cymorth cydnabyddiaeth) dylech ddefnyddio’r testun safonol a ganlyn hefyd wrth siarad am Lleoedd Treftadaeth:

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi hyd at £200miliwn mewn lleoedd ar draws y DU i roi treftadaeth wrth wraidd dulliau lleol sy'n gwella cysylltiadau pobl â'r lleoedd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt, ac yn ymweld â hwy.

Postiadau cyfryngau cymdeithasol

n ychwanegol at yr arweiniad yn ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth gofynnir i chi ddefnyddio'r hashnod #LleoeddTreftdaeth hefyd: 

Datganiad etifeddiaeth - defnyddiwch y datganiad hwn ar ôl i'r prosiect ddod i ben

Gwnaed [enw’r prosiect] yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o'r Fenter Strategol Lleoedd Treftadaeth.

Ar gyfer ymholiadau ynghylch cydnabyddiaeth, gyrrwch e-bost  brand@heritagefund.org.uk.  

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...