Lleoedd Treftadaeth
Rydym am roi hwb i falchder mewn lle a chysylltiad â threftadaeth ar draws lleoedd cyfan yn hytrach na phrosiectau unigol.
Mae Lleoedd Treftadaeth yn fuddsoddiad strategol hirdymor mewn hyd at 20 o wahanol leoedd ar draws y DU.
Gyda'n strategaeth Treftadaeth 2033 fel ysgogiad, ein nod yw gwneud treftadaeth yn rhan annatod o gynlluniau sy'n gwneud ardaloedd lleol yn lleoedd gwell i fyw, gweithio ac ymweld â nhw.
Ym mis Hydref 2023, gwnaethon ni gyhoeddi'r naw Lle Treftadaeth cyntaf, lle byddwn ni'n buddsoddi cyfran o £200miliwn. Y rhain oedd:
• Ardal Cyngor Dinas Armagh, Banbridge a Craigavon
• Swydd Durham (gan ganolbwyntio ar Shildon a Newton Aycliffe)
• Glasgow (gan ganolbwyntio ar Stryd Sauchiehall, yng nghanol y ddinas)
• Caerlŷr
• Medway
• Castell-nedd Port Talbot
• Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln
• Stoke-on-Trent
• Torbay
Pwy all ymgeisio
Mae ein buddsoddiad yn helpu sefydliadau partner ym mhob un o'n Lleoedd Treftadaeth i gydweithio â'r gymuned leol.
Gyda'i gilydd, maent yn creu ac yn cyflwyno cynlluniau i roi hwb i gapasiti a chydnerthedd treftadaeth leol.
Fel gyda Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn croesawu ceisiadau gan amrywiaeth o sefydliadau nid-er-elw; er enghraifft, awdurdodau lleol, amgueddfeydd a sefydliadau cymunedol. Gallwn hefyd ystyried ceisiadau gan berchnogion preifat asedau treftadaeth ar gyfer grantiau hyd at £250,000. Cyfeiriwch at ein harweiniad safonol am fwy o wybodaeth.
Yn eich cais, bydd angen i chi ddangos bod eich prosiect yn rhan o'r cynlluniau ar gyfer eich Lle Treftadaeth a rhoi llythyr ategol gan eich sefydliad partner lleol arweiniol.
Os ydych yn ansicr a ddylai eich prosiect fod yn rhan o Leoedd Treftadaeth, gallwch gysylltu â'ch tîm lleol.
Ystyriaethau ar gyfer cais Lleoedd Treftadaeth
Ein huchelgais erbyn 2033 yw y byddwn wedi cefnogi prosiectau mewn Lleoedd Treftadaeth sy'n:
• cynyddu balchder mewn lle ac yn cysylltu cymunedau ac ymwelwyr â threftadaeth trwy fuddsoddiad wedi'i dargedu
• adeiladu gallu sefydliadau treftadaeth lleol i wneud y mwyaf o'u cyfraniad at gymunedau
• creu cynlluniau sy'n ymateb i anghenion lleol ac yn ymwneud â gwahanol fathau o dreftadaeth, o amgueddfeydd ac orielau i dreftadaeth ddiwylliannol, o'n gorffennol diwydiannol i'r amgylchedd naturiol
• mabwysiadu dull gyda phobl yn y canol sy'n cydnabod treftadaeth pawb
Byddwn yn ystyried y nodau hyn ochr yn ochr â'n gofynion safonol ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys yr ymateb i bob un o'r pedair egwyddor fuddsoddi, wrth asesu eich cais.
Sut i wneud cais
Gwneir ceisiadau ar gyfer prosiectau Lleoedd Treftadaeth drwy ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Darllenwch drwy’r arweiniad cyfatebol, yn ychwaengol at y dudalen hon. Er mwyn ein helpu i nodi bod eich prosiect yn rhan o'r fenter strategol hon, rhaid i chi:
• roi'r hashnod '#HP' ar ddechrau teitl eich prosiect
• darparu llythyr ategol gan eich partner(iaid) arweiniol lleol
Gall Lleoedd Treftadaeth dderbyn ceisiadau am ariannu o £10,000 hyd at £10 miliwn drwy gydol y fenter strategol i weithio tuag at eu hamcanion.
Mae'n debygol y bydd prosiectau cychwynnol yn canolbwyntio ar weithgareddau sy'n cynyddu capasiti, yn ennyn diddordeb cymunedau ac yn diffinio blaenoriaethau hirdymor ar gyfer treftadaeth. a bydd ceisiadau mwy yn dilyn wedi hynny. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i ddull pob Lle Treftadaeth fod yn wahanol yn dibynnu ar anghenion lleol.
Ar gyfer grantiau hyd at £250,000, gallwch gyflwyno ymholiad prosiect dewisol i dderbyn adborth ar eich syniad prosiect.
Ar gyfer grantiau dros £250,000, rhaid i chi gyflwyno mynegiad o ddiddordeb yn gyntaf.
Noder: Y £200 miliwn ar gyfer Lleoedd Treftadaeth yw'r cyfanswm cyllideb ar gyfer y fenter strategol, nid £10 miliwn fesul lle nac ardal ddaearyddol.
Derbyn eich grant
Os dyfernir ariannu i chi, dilynwch yr arweiniad isod sy'n nodi'r hyn a ddisgwyliwn gennych cyn, yn ystod ac ar ôl ei dderbyn.
Derbyn eich grant: £10,000 i £250,000
Derbyn eich grant: £250,000 i £10m
Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
Yn ogystal â’n prosesau o dan y rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, byddwn yn asesu sut mae eich prosiect yn ymdrin ag ystyriaethau’r fenter strategol.
Ar gyfer grantiau o dan £250,000 mae penderfyniadau'n cael eu gwneud bob mis gan staff yn eich gwlad neu ardal. Gyda grantiau o fwy na £250,000, bydd argymhellion yn cael eu gwneud gan bwyllgorau gwlad/ardal, a bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud bob tri mis gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Brand a chydnabyddiaeth
Dylai prosiectau a ariennir drwy'r fenter hon ddefnyddio ein harweiniad cydnabyddiaeth ar gyfer Lleoedd Treftadaeth.