Data ar gyfer Lleoedd Treftadaeth – dadansoddiad newydd gan ddefnyddio’r Mynegai Treftadaeth

Data ar gyfer Lleoedd Treftadaeth – dadansoddiad newydd gan ddefnyddio’r Mynegai Treftadaeth

Sut rydym yn defnyddio data am dreftadaeth, cymdeithas a lefelau buddsoddi, ochr yn ochr â mewnwelediad lleol, i ddewis naw lleoliad cychwynnol ar draws y DU ar gyfer buddsoddiad strategol.

Yn ein strategaeth 10 mlynedd newydd, Treftadaeth 2033, rydym yn disgrifio sut y byddwn yn helpu i drawsnewid treftadaeth drwy ein menter lle strategol.

Bydd Lleoedd Treftadaeth yn rhoi treftadaeth wrth wraidd dulliau lleol i roi hwb i falchder mewn lle, adfywio economïau lleol a gwella cysylltiad pobl â'r lleoedd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt ac yn ymweld â nhw.

Arwydd ffug gyfeiriadol yn pwyntio at y naw Lle Treftadaeth

Dros y deng mlynedd nesaf, byddwn yn buddsoddi £200miliwn i gefnogi 20 o leoedd ar draws y DU. Heddiw (8 Hydref 2023), rydym wedi cyhoeddi'r naw cyntaf:

  • Stoke on Trent (Canolbarth a Dwyrain Lloegr)
  • Caerlŷr (Canolbarth a Dwyrain Lloegr)
  • Swydd Durham (Gogledd Lloegr)
  • Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln (Gogledd Lloegr)
  • Torbay (Llundain a De Lloegr)
  • Medway (Llundain a De Lloegr)
  • Glasgow (Yr Alban)
  • Dinas Armagh, Banbridge a Craigavon (Gogledd Iwerddon)
  • Castell-nedd Port Talbot (Cymru)

Ar y dudalen hon ac yn yr adroddiadau atodedig, rydym yn manylu ar y dadansoddiad meintiol a'r wybodaeth leol (ffactorau ansoddol) a gefnogodd ddewis y lleoedd hyn a dyluniad y fenter strategol.

Fframwaith newydd ar gyfer lle a threftadaeth

Mae ein fframwaith Lleoedd Treftadaeth yn seiliedig ar dair egwyddor i nodi lleoliadau lle gallai ein buddsoddiad gael yr effaith gryfaf:

  • Angen: lleoedd sydd â threftadaeth mewn perygl o gael ei cholli, ei difrodi neu ei hesgeuluso, lle mae diffyg capasiti yn y sector ac mae’r gymuned yn wynebu heriau lluosog.
  • Cyfle: ffactorau lleol, megis digwyddiadau ac ariannu, a all weithredu fel lluosyddion ar gyfer buddsoddi ac effaith.
  • Potensial: ansawdd a math o dreftadaeth, profiad blaenorol a seilwaith, sy'n gwneud llwyddiant ac effaith yn fwy tebygol.

Ffactorau meintiol

Roedd y data a ddadansoddwyd gennym yn cynnwys:

  • Mynegai Treftadaeth diwygiedig Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (RSA) (sy'n nodi angen)
  • Mynegeion Amddifadedd Lluosog (sy'n nodi angen)
  • buddsoddiad blaenorol y Gronfa Treftadaeth (sy'n nodi angen)
  • buddsoddiadau seiliedig ar le eraill (sy'n nodi cyfleoedd)

Trwy ddadansoddi angen yn feintiol roedd modd i ni greu rhestr fer o’r 374 o ardaloedd awdurdod lleol ar draws y DU er mwyn i'n timau lleol ddadansoddi’r potensial a’r cyfleoedd yn fanylach. Yna cytunodd ein chwe phwyllgor a'n Bwrdd Ymddiriedolwyr ar y dewis terfynol o leoedd ar gyfer ymyrraeth strategol wedi’i thargedu dros oes Treftadaeth 2033.

Mwy o wybodaeth

Dysgu mwy am sut y bydd Treftadaeth 2033 yn helpu sicrhau y caiff treftadaeth ei gwerthfawrogi a'i chynnal ac y gofalir amdani ar gyfer pawb yn y dyfodol.

Rydym yn cynnal ymchwil yn rheolaidd i ddarganfod beth sy'n digwydd yn y sector treftadaeth, ac yn gwerthuso ein gwaith i ddeall yn well y newid yr ydym yn ei wneud. Darllen mwy o'n mewnwelediad

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...