Mynegiad o Ddiddordeb: £250,000 i £10miliwn
Rydym yn cydnabod faint o waith sy'n cael ei wneud i gyflwyno cais am ariannu ac wrth gynllunio prosiect. Mae'r cam Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd) gorfodol yn ein helpu i hidlo unrhyw brosiectau sy'n annhebygol o gael eu hariannu, gan arbed amser y byddech chi efallai'n ei dreulio'n gweithio ar gais llawn yn ddiangen.
Mae cyfrif geiriau'r MoDd yn fwriadol fyr (uchafswm o 1,000 o eiriau) er mwyn lleihau amser ac ymdrech i chi wrth gwblhau'r cam hwn.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i benderfynu p'un a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais cam datblygu ai beidio. Y cam datblygu yw pryd y byddwch yn datblygu eich prosiect, gan gynnwys creu dyluniadau a chynlluniau.
Os bydd eich cais cam datblygu'n llwyddiannus, byddwch yn cael eich ariannu a bydd gennych hyd at ddwy flynedd i ddatblygu cynnig prosiect manwl ar gyfer eich cais cam cyflwyno. Y cam cyflwyno yw pryd y byddwch yn cyflawni eich gwaith cyfalaf a gweithgareddau prosiect.
Cofiwch, ar ôl y cam MoDd gorfodol bydd eich cais fel arfer yn mynd trwy ddau gam: cam datblygu o hyd at ddwy flynedd, sy'n eich galluogi i weithio ar eich cynnig prosiect, a cham cyflwyno o bum mlynedd ar y mwyaf.
Os yw eich MoDd yn aflwyddiannus, allwch chi ddim gyflwyno cais am brosiect. Bydd angen i chi gyflwyno MoDd newydd yn gyntaf. Rhaid i chi aros tri mis cyn gwneud hyn.
Cyn cyflwyno
Cofiwch sicrhau eich bod wedi darllen:
- yr hyn a ariannwn
- y pedair egwyddor fuddsoddi y disgwyliwn i brosiectau treftadaeth eu cymryd i ystyriaeth
- arweiniad ymgeisio llawn Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol rhwng £250,000 a £10miliwn
Mynnwch gip ar ein safbwynt a'n cyngor ar ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial (AI) yn eich Mynegiad o Ddiddordeb.
Sut i gyflwyno
Pan fyddwch yn barod, cwblhewch y MoDd ar ein gwasanaeth ar-lein.
Bydd angen i chi gofrestru cyfrif i chi'ch hun a'ch sefydliad. Drwy wneud hynny, chi fydd ein prif gyswllt dros eich sefydliad. Mae'n bwysig sicrhau bod gennych yr awdurdod i gwblhau'r MoDd a chyflwyno unrhyw gais yn y dyfodol ar ran eich sefydliad, os cewch wahoddiad i wneud cais.
Nid oes dyddiad cau ar gyfer cyflwyno MoDd.
Clywed yn ôl gennym
Anelwn at ymateb i'ch MoDd o fewn 20 diwrnod gwaith.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a ydych yn cael eich gwahodd i gyflwyno cais cam datblygu. Rhaid i chi wneud cais o fewn 12 mis o dderbyn y gwahoddiad.
Os nad ydym yn eich gwahodd i wneud cais ar hyn o bryd, byddwn yn esbonio ein rheswm dros hynny.
Dyma rai rhesymau cyffredin:
- methu â chymryd y ddau gam i ystyriaeth - yn gyntaf y cam datblygu ac yna'r cam cyflwyno
- methu â chymryd y pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth
- ailadrodd ein rhestr o egwyddorion buddsoddi yn hytrach na dweud wrthym sut y bydd eich prosiect yn ymateb iddynt
- dweud wrthym am waith cyfalaf yn unig
- methu ag esbonio'r angen/galw am y prosiect na'r gefnogaeth ehangach drosto
Cwestiynau'r Mynegiad o Ddiddordeb
Gallwch weld y cwestiynau yn y MoDd isod.
Ydych chi wedi siarad ag unrhyw un yn y Gronfa Treftadaeth ynghylch eich syniad?
Os ydych, dywedwch wrthym beth yw eu henw. Os gallwch, dywedwch wrthym hefyd pryd a ble y gwnaethoch siarad â nhw.
Mae gennych 50 o eiriau.
Disgrifiwch beth fyddwch chi'n ei wneud yn ystod y prosiect.
Rhowch drosolwg o'ch prosiect a'r hyn y byddwch yn ei wneud, gan gynnwys unrhyw dasgau y mae'n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni'ch prosiect.
Mae gennych 200 o eiriau.
A oes gennych deitl ar gyfer y prosiect?
Rhowch deitl neu enw i ni allu cyfeirio at eich prosiect. Gallwch newid hyn unrhyw bryd.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, caiff ei ddefnyddio mewn unrhyw bostiadau cyhoeddus a wneir am eich prosiect a'i gyhoeddi ar ein gwefan. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis teitl rydych chi'n hapus i amrywiaeth eang o bobl ei weld.
Amlinellwch sut y bydd eich prosiect yn ymateb i'n pedair egwyddor fuddsoddi.
Mae'n rhaid i chi gymryd pob un o'r pedair egwyddor i ystyriaeth yn eich prosiect. Gallwch ganolbwyntio'n fwy ar rai egwyddorion buddsoddi nag eraill.
Eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar gryfder y ffocws a'r pwyslais ar bob egwyddor, a dangos hynny. Bydd ein pedair egwyddor fuddsoddi'n cyfeirio ein holl benderfyniadau gwneud grantiau o dan ein strategaeth, Treftadaeth 2033
Ein hegwyddorion buddsoddi yw:
- achub treftadaeth
- diogelu'r amgylchedd
- cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
- cynaladwyedd sefydliadol
Mae gennych 300 o eiriau.
Dywedwch wrthym am dreftadaeth y prosiect.
Rhowch ddisgrifiad ffeithiol o'r dreftadaeth fel y mae heddiw.
Gallai hyn gynnwys esboniad cryno o'r canlynol:
- a oes unrhyw gydnabyddiaeth swyddogol ohoni
- beth sy'n bwysig am y dreftadaeth
- i bwy mae'n bwysig
- pam ei fod yn wahanol neu'n unigryw
Mae gennych 100 o eiriau.
Beth yw'r angen am y prosiect hwn?
Dywedwch wrthym yn gryno pam fod angen i'ch prosiect ddigwydd, pam fod angen iddo ddigwydd nawr a pha gyfleoedd y bydd eich prosiect yn mynd i'r afael â nhw.
Mae gennych 200 o eiriau.
Faint o amser ydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn ei gymryd?
Rhowch frasamcan i ni o ddyddiadau dechrau a dod i ben eich cam datblygu ac yna eich cam cyflwyno.
Gallwch gymryd hyd at ddwy flynedd i gwblhau eich cam datblygu.
Ar ôl eich cam datblygu, gallwch gymryd hyd at bum mlynedd i gwblhau eich cam cyflwyno.
Cofiwch, bydd angen i chi ystyried ein terfynau amser chwarterol ar gyfer ceisiadau a'n cyfnod asesu o 12 wythnos.
Mae gennych 50 o eiriau.
Faint mae'r prosiect yn debygol o gostio?
Rhowch amcangyfrif i ni o gyfanswm cost eich prosiect yn ei gyfanrwydd, ac yna'r costau ar wahân ar gyfer eich camau datblygu a chyflwyno.
Cofiwch gynnwys costau ar gyfer symiau wrth gefn, chwyddiant a gwerthuso yn y camau datblygu a chyflwyno.
Os ydych yn gwneud cais am grant o dan £1 miliwn, rhaid i chi gyfrannu o leiaf 5% o gostau eich prosiect. Ar gyfer grantiau dros £1miliwn, rhaid i chi gyfrannu o leiaf 10% o gostau eich prosiect.
Os gallwch, dywedwch wrthym o ble y mae eich cyfraniad yn debygol o ddod.
Mae gennych 200 o eiriau.
Faint o ariannu ydych chi’n bwriadu gwneud cais amdano gennym?
Dywedwch wrthym faint y byddwch chi'n gwneud cais amdano gennym. Dylai hwn fod y cyfanswm ar gyfer eich camau datblygu a chyflwyno. Ni ddylai gynnwys eich cyfraniad at gyfanswm costau eich prosiect.
Bydd angen i chi nodi swm.
Pryd ydych chi'n debygol o gyflwyno cais am ariannu, os gofynnir i chi wneud hynny?
Os cewch eich gwahodd i gyflwyno cais cam datblygu, dywedwch wrthym pryd rydych yn debygol o'i gyflwyno.
Cofiwch, rydym yn ceisio ymateb i'ch MoDd o fewn 20 diwrnod gwaith.
Mae gennych 50 o eiriau.
Diweddariadau i'r arweiniad
Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.