Telerau Grant Safonol: £250,000 a £10miliwn

Telerau Grant Safonol: £250,000 a £10miliwn

Telerau Grant Safonol sy’n berthnasol i Grantiau Cam Datblygu a Chyflwyno rhwng £250,000 a £10miliwn.

Diffiniadau

‘chi', 'eich', 'rydych', 'byddwch' – y sefydliad(au) y dyfarnwyd y Grant iddynt yn y Llythyr Hysbysiad o Grant ac unrhyw sefydliad sy’n cytuno i fod yn grantï ar y cyd ac i gydymffurfio â’r Contract Grant.

‘ni', 'ein', 'rydym', 'byddwn' – Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (sy’n gweinyddu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac arian grant arall ar ran cyrff eraill o bryd i’w gilydd).

Adroddiad Cwblhau – yr adroddiad sydd i'w gyflwyno erbyn Dyddiad Dod i Ben y Grant.

Adroddiad Gwerthuso – yr adroddiad y mae'n rhaid i chi ei anfon atom cyn i ni dalu rhandaliad olaf y Grant sy'n adrodd stori'r Prosiect, ei lwyddiannau a'r gwersi a ddysgwyd.

Allbynnau Digidol – yr holl ddeunydd sydd â chynnwys treftadaeth a grëwyd neu a gopïwyd i fformat digidol gennych chi neu ar eich rhan mewn cysylltiad â’r Prosiect.

Amodau Grant Ychwanegol – unrhyw amodau grant ychwanegol a nodir yn y Llythyr Hysbysiad o Grant.

Arweiniad arall – yr holl arweiniad arall sy’n berthnasol i’r Prosiect ar ein gwefan fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Arweiniad Ymgeisio – y ddogfen sy’n disgrifio cwmpas y rhaglen ariannu a sut i wneud cais.

Cais – eich ffurflen Gais wedi’i chwblhau ac unrhyw ddogfennau neu wybodaeth a anfonwch atom i gefnogi’ch cais am Grant Cam Datblygu neu Gam Cyflwyno.

Cam Cyflwyno – gweithredu cam cyfalaf a/neu weithgareddau'r Prosiect.

Cam Datblygu – y gwaith sy'n gysylltiedig â datblygu'r Prosiect hyd at gais Cam Cyflwyno, gan gynnwys cynhyrchu dyluniadau, cynlluniau a dogfennau eraill.

Caniatâd i Ddechrau – ein cadarnhad ysgrifenedig y gallwch ddechrau ar y Prosiect.

Contract Grant – yn cynnwys

  • Llythyr Hysbysiad o Grant;
  • Telerau Grant Safonol;
  • unrhyw Amodau Grant Ychwanegol; a
  • Ffurflen Caniatâd i Ddechrau wedi'i llofnodi

Cyfnod y Cytundeb Grant – hyd y Contract Grant a nodir yn y Llythyr Hysbysiad o Grant.

Cyfraith Rheoli Cymhorthdal - yn golygu’r cyfreithiau cymwys yn y DU sy’n ymwneud â dyfarnu cymorthdaliadau yn y DU ar ddyddiad y Cytundeb hwn ac wedi hynny, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022 a rheoliadau gweithredu perthnasol, arweiniad statudol a chyfraith achosion.

Defnydd Cymeradwy

  • ar gyfer prosiect Cam Datblygu mae hyn yn ei olygu defnyddio cynnyrch y Cam Datblygu i ddatblygu cais Cam Cyflwyno dilynol; neu
  • ar gyfer prosiect Cam Cyflwyno mae hyn yn golygu sut y gwnaethoch ddweud y byddech yn defnyddio’r Eiddo yn eich Cais ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect ac mae’n berthnasol tan ddiwedd Cyfnod y Contract Grant (gan ganiatáu ar gyfer unrhyw newidiadau y byddwn efallai'n cytuno iddynt hyd at ryddhau unrhyw ran o'r Grant ac wedi hynny).

Derbyn Grant – yr arweiniad a gyhoeddwn i esbonio sut y byddwn yn talu’r Grant, yn monitro’r Prosiect ac yn cytuno ar newidiadau i’r Grant.

Dibenion Cymeradwy – mae’r Dibenion Cymeradwy yn crynhoi’r Prosiect a ddisgrifir yn eich Cais sy’n cynnwys naill ai’r Cam Datblygu neu’r Cam Cyflwyno ac sy'n dangos sut y bydd eich Prosiect yn cyflawni’r Egwyddorion Buddsoddi.

Diwrnod Gwaith – unrhyw ddydd ar wahân i ddydd Sadwrn, dydd Sul neu ŵyl banc mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

Dyddiad Cwblhau'r Prosiect – dyddiad yr e-bost a anfonwn atoch yn eich hysbysu bod y Prosiect wedi’i gofnodi’n gyflawn.

Dyddiad Dod i Ben Grant – y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i chi gyflawni'r Dibenion Cymeradwy fel y nodir yn y Llythyr Hysbysiad o Grant ac erbyn pryd y byddwch yn tynnu taliad terfynol y Grant i lawr.

Egwyddorion Buddsoddi – y pedair egwyddor fuddsoddi a nodir yn yr Arweiniad Ymgeisio y mae'n rhaid i bob Prosiect eu hystyried, ac sy'n llywio ein penderfyniadau.

Eiddo – unrhyw eiddo yr ydych yn ei brynu, ei greu, ei dderbyn neu'n ei adfer, neu eiddo a ariennir fel arall gan y Grant gan gynnwys Allbynnau Digidol, hawliau eiddo deallusol ac unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cynhyrchu neu'n eu harchebu fel rhan o’r Prosiect.

Eiddo Trydydd Parti – unrhyw eiddo a nodir yn y Cais sy’n perthyn i Drydydd Parti neu’n cael ei reoli ganddo.

Ffurflen Caniatâd i Ddechrau – y ffurflen rydych yn ei chyflwyno i ni yn gofyn am ganiatâd i ddechrau ar y Prosiect.

Gofynion Perchnogaeth Trydydd Parti – y gofynion a nodir yn yr Arweiniad Ymgeisio sy’n ymwneud â’r trefniadau cytundebol y disgwyliwn i chi ymgymryd â nhw gyda Thrydydd Parti.

Grant – y swm a nodir yn y Llythyr Hysbysiad o Grant ar gyfer y Cam Cyflwyno.

Llythyr Hysbysiad o Grant – y llythyr yn cadarnhau ein Grant i chi.

Prosiect – y dibenion yr ydym wedi’u cymeradwyo fel y’u nodir yn y Cais (gan gymryd unrhyw newidiadau yr ydym ni a chi wedi cytuno arnynt yn ysgrifenedig i ystyriaeth hyd at ddyddiad ein penderfyniad i ddyfarnu’r Grant i chi ac unrhyw newidiadau y byddwn yn dweud wrthych amdanynt yn y Llythyr Hysbysiad o Grant). Weithiau disgrifir y dibenion hyn fel Dibenion Cymeradwy ac maent yn cynnwys eich bod yn derbyn ac yn defnyddio ariannu partneriaeth fel y nodir yn y Cais a sut y dywedoch y byddech yn defnyddio’r Eiddo (os o gwbl).

Telerau Grant Safonol – y telerau safonol hyn.

Trwydded Agored – y drwydded Priodoliad Creative Commons 4.0 Rhyngwladol (CC BY 4.0), neu gyfwerth.

Trydydd parti – unrhyw berchennog ar Eiddo Trydydd Parti.

Cyflawni'r Dibenion Cymeradwy

1. Rhaid i chi ddefnyddio'r Grant dim ond at y Dibenion Cymeradwy, oni bai eich bod yn derbyn cymeradwyaeth gennym ymlaen llaw.

2. Rhaid i chi beidio â dechrau gweithio i gyflawni'r Dibenion Cymeradwy cyn derbyn Caniatâd i Ddechrau.

3. Rhaid i chi gyflawni'r Dibenion Cymeradwy, cyflwyno'ch Adroddiad Cwblhau a'ch Adroddiad Gwerthuso a thynnu'ch taliad Grant terfynol i lawr erbyn Dyddiad Dod i Ben y Grant.

4. Rhaid i chi ddefnyddio'r Eiddo, neu ganiatáu iddo gael ei ddefnyddio, at y Defnydd Cymeradwy yn unig yn ystod Cyfnod y Contract Grant.

5. Yn ogystal â’r Telerau Grant Safonol hyn, mae’n rhaid i chi ddilyn yr Amodau Grant Ychwanegol (os oes rhai) a nodir yn y Llythyr Hysbysiad o Grant, ymdrin ag unrhyw faterion yr ydym yn eu nodi yn ystod y monitro, a bodloni’r gofynion a nodir yn yr Arweiniad Ymgeisio, Derbyn Grant, ac Arweiniad Arall a gyhoeddir ar ein gwefan sy'n berthnasol i'r Prosiect gan gynnwys sut i gydnabod eich grant.

6. Rhaid i chi gyflawni'r Dibenion Cymeradwy yn unol ag arfer gorau cyfredol yn eich maes treftadaeth ac at safon sy'n briodol ar gyfer prosiect sydd o bwysigrwydd i'r dreftadaeth genedlaethol. Rhaid i chi ddilyn yr holl ddeddfwriaeth a rheoliadau sy'n berthnasol.

Cydymffurfio â deddfwriaeth a gofynion Llywodraeth

7. Rydych yn cytuno i ddilyn proses chwythu’r chwiban i roi gwybod os na chaiff urddas, diogelwch a lles y defnyddwyr terfynol eu bodloni.

8. Rydych yn cytuno i beidio ag ymgymryd ag unrhyw weithgarwch personol, busnes neu broffesiynol sy’n gwrthdaro neu a allai wrthdaro ag unrhyw un o’ch rhwymedigaethau mewn perthynas â’r Contract Grant, a chadw gweithdrefnau digonol ar waith i reoli a monitro unrhyw duedd neu wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ganfyddedig.

9. Byddwch yn dilyn ac yn cydymffurfio â’r holl gyfreithiau, statudau a rheoliadau perthnasol sy’n berthnasol i’ch sefydliad. Mae hyn yn cynnwys y canlynol (ond heb gael ei gyfyngu iddynt):

a) gwrth-lwgrwobrwyo a gwrth-lygredd, gan gynnwys ond heb gael ei gyfyngu i'r Ddeddf Llwgrwobrwyo;

b) cyfreithiau diogelu data gan gynnwys GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018; a 

c) pholisïau a gweithdrefnau diogelu lle bo'n berthnasol.

10. Rydych yn cytuno i ymddwyn yn foesegol trwy ddilyn y 7 egwyddor bywyd cyhoeddus a gwneud dewisiadau cynaliadwy i leihau effaith eich Prosiect ar yr amgylchedd.

11. Rydych yn cytuno i ddilyn y Cod Ymddygiad llywodraeth sy'n nodi safonau ymddygiad ar gyfer pobl neu sefydliadau sy'n derbyn Grantiau gan lywodraeth.

12. Byddwch yn ein hysbysu'n ysgrifenedig cyn gynted â phosibl os gwneir neu fygythir unrhyw hawliadau cyfreithiol yn eich erbyn ac/neu a fyddai'n effeithio'n andwyol ar y Prosiect yn ystod cyfnod y grant (gan gynnwys unrhyw honiadau a wneir yn erbyn aelodau o'ch corff llywodraethu neu staff mewn perthynas â'r sefydliad).

13. Byddwch yn ein hysbysu'n ysgrifenedig cyn gynted â phosibl am unrhyw ymchwiliad sy'n ymwneud â'ch sefydliad, ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, cyflogeion neu wirfoddolwyr a gyflawnir gan yr Heddlu, y Comisiwn Elusennau, Cyllid a Thollau EF neu unrhyw gorff rheoleiddio arall.

Cyfraith Rheoli Cymhorthdal

14. Disgwyliwn i chi gynnal asesiad annibynnol o gydnawsedd y Prosiect â Chyfraith Rheoli Cymhorthdal a chadarnhau i ni fod y Prosiect wedi'i strwythuro fel y gall gydymffurfio â Chyfraith Rheoli Cymhorthdal. Pan fyddwn yn rhoi ein barn ar unrhyw agwedd ar y Gyfraith Rheoli Cymhorthdal, rydych yn cadarnhau y byddwch yn ystyried yr wybodaeth hon ochr yn ochr â’r holl ffynonellau eraill o Gyfraith Rheoli Cymhorthdal sydd ar gael ar adeg ymrwymo i’r Contract hwn (gan gynnwys rheoliadau a phenderfyniadau cyhoeddedig) wrth gynnal eich asesiad eich hun o gydymffurfiaeth y Prosiect. Byddwn yn cymryd eich sylwadau ar gydymffurfiaeth â Chyfraith Rheoli Cymhorthdal i ystyriaeth wrth benderfynu cynnig y Grant.

15. Byddwn yn penderfynu’n rhesymol yn ein barn ni a chan ddilyn ein dadansoddiad ein hunain ar y cyd â’r wybodaeth a ddarparwyd gennych p'un a gaiff y Grant ei ddarparu yn unol â Chyfraith Rheoli Cymhorthdal ai beidio, a byddwn yn gwneud cofnodion perthnasol i’n galluogi i amddiffyn unrhyw her i'r Grant a allai godi gan drydydd parti yn seiliedig ar Gyfraith Rheoli Cymhorthdal.

16. Rydych yn cytuno i gadw cofnodion priodol o gydymffurfiaeth â’r Gyfraith Rheoli Cymhorthdal ac yn cytuno i gymryd pob cam rhesymol i’n cynorthwyo i gydymffurfio â gofynion y Gyfraith Rheoli Cymhorthdal ac ymateb i unrhyw ymchwiliad(au) a gychwynnir gan Adran o’r Llywodraeth neu her trydydd parti yn y llysoedd cenedlaethol.

17. Rydych yn cydnabod ac yn derbyn y gallai canfyddiad o ddiffyg cydymffurfiaeth y Prosiect â Rheoli Cymhorthdal gan Adran o’r Llywodraeth neu Lys ag awdurdodaeth gymwys arwain at orchymyn i'r Derbynnydd Grant ad-dalu’r Grant gyda llog.

18. Byddwn yn ymgymryd â gofynion cyhoeddi tryloywder perthnasol mewn perthynas â’r Grant os byddwn yn pennu ei fod yn gymhorthdal a ganiateir o dan y Gyfraith Rheoli Cymhorthdal o fewn tri mis fan hwyraf ar ôl dyddiad y Contract hwn a byddwn yn cadarnhau hyn i chi ar ôl ei wneud gan gynnwys dolen i’r cyhoeddiad perthnasol.

Rhyddid gwybodaeth

19. Rydych yn cydnabod ein bod yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ("FOIA") a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a byddwch yn ein cynorthwyo ac yn cydweithredu â ni (ar eich traul chi) i'n galluogi i gydymffurfio â'r gofynion datgelu gwybodaeth hyn.

Diogelu Data

20. Byddwch yn (a byddwch yn sicrhau y bydd unrhyw un o'ch staff sy'n ymwneud â'r gweithgareddau o dan y Contract hwn yn) cydymffurfio ag unrhyw ofynion hysbysu o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU ('Deddfwriaeth Diogelu Data') a byddwn ni'n dau'n glynu'n briodol wrth pob rhwymedigaeth o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data sy’n codi mewn perthynas â’r Contract hwn.  

21. At ddiben y Contract Grant hwn a’r Dibenion Cymeradwy, nid ydym yn rhagweld y bydd y naill barti na’r llall yn prosesu unrhyw ddata personol ar gyfer neu ar ran ei gilydd, o dan neu mewn cysylltiad â’r Contract Grant hwn. Os ydym ni neu chi'n rhagweld y bydd y llall yn prosesu unrhyw ddata personol ar gyfer ac ar ran ein gilydd byddwn yn cytuno ar amrywiad i’r Contract Grant hwn i ymgorffori darpariaethau priodol yn unol ag Erthygl 28 o GDPR y DU, neu fel sy’n ofynnol fel arall o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data.            

Monitro'r prosiect

22. Rhaid i chi roi unrhyw adroddiadau cynnydd, gwybodaeth a chofnodion ariannol neu arall y gall fod eu hangen arnom o bryd i'w gilydd ynghylch y Grant, yr Eiddo, y Dibenion Cymeradwy (a'u cyflawniad) a'r Defnydd Cymeradwy.

23. Rhaid i chi roi mynediad y gallai fod ei angen arnom i ni (neu i unrhyw un a awdurdodwn) i:

a) archwilio'r Eiddo ac unrhyw waith arno;

b) monitro gweithrediad a chynnydd y Dibenion Cymeradwy; a

c) monitro'r Defnydd Cymeradwy.

Yn yr achosion hyn byddwn yn rhoi rhybudd i chi. Byddwch yn adrodd ar gynnydd y Prosiect ar adegau y cytunir arnynt gyda ni.

24. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddarparu prawf eich bod wedi cymryd camau i leihau’r risg o dwyll. Efallai y byddwn yn gofyn i chi am ganiatâd i archwilio eich prosesau a'ch gweithdrefnau cyfrifyddu er mwyn gwirio effeithiolrwydd mesurau gwrth-dwyll.

25. Byddwn yn monitro cynnydd y Prosiect ac yn cynnal gwiriadau yn ystod y Prosiect, ar ddiwedd y Prosiect  ac ar ôl hynny i gadarnhau ei fod yn cyflawni’r Dibenion Cymeradwy fel y disgwylir. Os byddwn ni (neu unrhyw un yr ydym yn ei awdurdodi) yn gwneud unrhyw argymhellion ar y materion a nodir ym mharagraff 23, rhaid i chi gymryd yr argymhellion hynny i ystyriaeth wrth gyflawni eich rhwymedigaethau i ni.

26. Gallwn ni, a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol a/neu eu cynrychiolwyr awdurdodedig, ar unrhyw adeg yn ystod a hyd at 7 mlynedd ar ôl diwedd y Contract Grant, gynnal archwiliadau mewn perthynas â’ch defnydd o’r Grant a/neu gydymffurfiaeth â’r Contract Grant hwn. Rydych yn cytuno i weithredu'n rhesymol wrth gydweithredu ag archwiliadau o'r fath, gan gynnwys darparu mynediad i ddogfennaeth, safleoedd a phersonél perthnasol.

27. Rhaid i chi gymryd camau priodol i fonitro eich llwyddiant eich hun wrth gyflawni'r Dibenion Cymeradwy ac wrth ddefnyddio'r Eiddo ar gyfer y Defnydd Cymeradwy. Ar ôl cwblhau'r Prosiect, rhaid i chi gyflwyno'ch Adroddiad Cwblhau ac Adroddiad Gwerthuso cyn y byddwn yn rhyddhau'r taliad Grant terfynol.

Caffael

28. Cyn i chi ddechrau unrhyw gam o'r gwaith sydd ei angen i gyflawni'r Dibenion Cymeradwy, rhaid i chi roi'r holl gontractau angenrheidiol ar waith gyda chontractwyr a chynghorwyr proffesiynol sydd â'r cymwysterau priodol i'ch galluogi i orffen y cam hwnnw o'r gwaith. Rhaid i gontractau adeiladu gynnwys cymal sy'n eich galluogi i gadw rhan o ffioedd y contractwyr ar ôl cwblhau'r gwaith yn ymarferol. Os ydych am i unrhyw gontractau fod ar delerau gwahanol, rhaid i chi gael ein cymeradwyaeth ymlaen llaw.

29. Os yw’r Dibenion Cymeradwy yn ymwneud â phrynu nwyddau neu wasanaethau neu drefnu i waith gael ei wneud, rhaid i chi gynnal ymarfer tendro'n unol â’r gofynion a nodir yn yr Arweiniad Ymgeisio a Derbyn Grant a'r Arweiniad Caffael sydd ar gael ar ein gwefan.

Eiddo

30. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth mae Eiddo'n cynnwys tir ac adeiladau, unrhyw beth sydd ynghlwm wrth dir fel adeileddau a cherfluniau, gwrthrychau mewn casgliad amgueddfa neu lyfrgell sy’n cael eu caffael, eu hadfer, eu gwarchod neu eu gwella gyda’n Grant ac eiddo anniriaethol neu anffisegol sy’n cael ei greu.

31. Rhaid i chi barhau i fod yn berchen ar yr Eiddo a chadw rheolaeth neilltuedig dros yr hyn sy'n digwydd iddo. Ac eithrio fel y caniateir o dan baragraff 43 (Allbynnau Digidol), rhaid i chi beidio â'i werthu, ei osod neu ei ildio nac ychwaith unrhyw fuddiant ynddo, na rhoi unrhyw hawliau drosto i unrhyw un arall (na chymryd camau i wneud hynny) heb gael cymeradwyaeth gennym ymlaen llaw. Gall ein cymeradwyaeth ddibynnu ar unrhyw un o'r gofynion a ganlyn:

a) eich bod yn talu cyfran o’r enillion net o werthu neu osod yr Eiddo i ni o fewn mis o ildio’r asedau neu nwyddau eraill;

b) eich bod yn gwerthu neu'n gosod yr Eiddo am ei werth marchnad llawn; neu

c) unrhyw amodau eraill sydd, yn ein barn ni, yn briodol.

32. Gallwn hawlio swm gennych sy'n cyfateb yn yr un gyfran i'r pris gwerthu ag y mae'r Grant i gost wreiddiol y Dibenion Cymeradwy, neu'r gyfran o'r Grant sy'n cael ei wario ar yr asedau neu'r nwyddau dan sylw, p'un bynnag yw'r mwyaf. Os gwnaethoch gais am y Grant yn unol â'r Arweiniad Ymgeisio Menter Dreftadaeth bydd y gyfran o enillion o'r gyfran sydd i'w thalu i ni'n cael ei chyfrifo yn unol â'r fformiwla a nodir yn yr arweiniad hwnnw. Rhaid i chi dalu beth bynnag y byddwn yn penderfynu sy'n briodol o dan yr amgylchiadau. Efallai y byddwn yn penderfynu peidio â gofyn i chi ad-dalu’r Grant (neu unrhyw ran ohono fel y gwelwn yn briodol) am unrhyw reswm ond ni fydd yn penderfynu ar hynny.

33. Rydym yn cadw'r hawl i gymryd sicrwydd dros yr Eiddo neu ymgymeriad eich sefydliad yn ôl ein dewis ni.  Os byddwn yn arfer ein hawl o dan y cymal hwn, ni fydd y Grant (neu unrhyw ran ohono sydd heb gael ei dalu) yn cael ei dalu hyd nes y bydd y dogfennau sydd eu hangen i greu'r sicrwydd wedi'u cwblhau er boddhad i ni.

34. Os yw'r Dibenion Cymeradwy yn ymwneud â chreu, atgyweirio neu adfer eiddo, rhaid i chi gynnal a chadw'r Eiddo mewn cyflwr da ar ôl i'r gwaith gael ei wneud. Os yw’r Dibenion Cymeradwy yn cynnwys paratoi cynllun cynnal a chadw a rheoli neu gynllun cadwraeth, rhaid i chi gynnal, rheoli neu warchod yr Eiddo yn unol â’r fersiwn o’r cynllun perthnasol yr ydym wedi’i gymeradwyo.

35. Rhaid i chi yswirio'r Eiddo at y safon a nodir yn yr Arweiniad Ymgeisio (a defnyddio unrhyw enillion o'r yswiriant yn unol â hynny) fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

36. Rhaid i chi hefyd gadw unrhyw wrthrychau neu osodiadau sy'n ffurfio rhan o'r Eiddo mewn amgylchedd priodol a ffisegol ddiogel.

37. Rhaid i chi ddweud wrthym, yn ysgrifenedig, o fewn pum Diwrnod Gwaith am unrhyw golled neu ddifrod sylweddol i'r Eiddo.

38. Rhaid i chi drefnu i’r cyhoedd gael mynediad priodol i’r Eiddo a sicrhau na wrthodir mynediad unrhyw berson i'r Eiddo yn afresymol.

39. Os yw’r Dibenion Cymeradwy yn ymwneud â defnyddio rhan o’r Grant i brynu, derbyn, creu, adfer, cadw neu fel arall ariannu Eiddo Trydydd Parti rhaid i chi gydymffurfio â’n Gofynion Perchnogaeth Trydydd Parti.

Cyhoeddusrwydd a chydnabyddiaeth

40. Mae'n bosibl y byddwn yn gwneud diben y Grant a'i swm yn gyhoeddus ym mha bynnag ffordd y gwelwn yn briodol.

41. Unwaith y byddwn wedi cyhoeddi'r Grant, rhaid i chi gydnabod y Grant yn gyhoeddus yn unol â'r gofynion a nodir yn y canllawiau ar ein gwefan. Rhaid i chi fodloni unrhyw ofynion cydnabyddiaeth neu gyhoeddusrwydd eraill y gallwn eich hysbysu amdanynt o bryd i'w gilydd. Cyn i ni wneud unrhyw gyhoeddiad cyhoeddus o’r Grant, rhaid i chi beidio â chyhoeddi unrhyw ddatganiad cyhoeddus, datganiad i’r wasg na chyhoeddusrwydd arall mewn perthynas â’r Grant neu sy’n cyfeirio atom, ac eithrio ar ffurf yr ydym wedi’i chymeradwyo ymlaen llaw.

42. Rhaid i chi hefyd ddarparu delweddau digidol manylder uchel o'r Prosiect i ni. Rydych yn rhoi'r hawl i ni ddefnyddio'r rhai a ddarparwch i ni unrhyw bryd, gan gynnwys eu rhoi mewn fformat digidol a'u haddasu. Rhaid i chi sicrhau'r holl ganiatadau sydd eu hangen i chithau a ninnau eu defnyddio cyn i chi eu defnyddio neu eu hanfon atom. Rhaid i chi hefyd gymhwyso'r Drwydded Agored Priodoliad Creative Commons 4.0 Rhyngwladol (CC BY 4.0) ofynnol i'r delweddau.

Allbynnau Digidol

43. Rydych yn cytuno i:

a) roi trwydded anghyfyngedig, rhydd rhag breindal i ni i ddefnyddio, copïo, cadw a lledaenu’r Allbynnau Digidol fel y gwelwn yn briodol ac i roi is-drwyddedau o’r un fath ar gyfer Cyfnod y Contract Grant;

b) cymhwyso Trwydded Agored Priodoliad Creative Commons 4.0 Rhyngwladol (CC BY 4.0) neu gyfwerth, i’r holl Allbynnau Digidol a ariennir gan y grant, ac eithrio cod a metadata, a heb gynnwys asedau parth cyhoeddus neu atgynyrchiadau digidol nad ydynt yn wreiddiol o asedau parth cyhoeddus (gweler isod);

c) nodi'n glir a chymhwyso Ymroddiad Parth Cyhoeddus Creative Commons 0 1.0 Cyffredinol (CC0 1.0), neu gyfwerth i:

  • god a metadata a grëwyd yn ystod y prosiect; ac
  • Asedau parth cyhoeddus neu atgynyrchiadau digidol nad ydynt yn wreiddiol o asedau parth cyhoeddus;

ch) dod o hyd i'r holl awdurdodiadau o unrhyw fath sy'n ofynnol i chi gymhwyso'r Drwydded Agored neu'r Ymroddiad Parth Cyhoeddus (CC BY 4.0 neu CC0 1.0) perthnasol a'u cynnal mewn grym;

d) contractio i'r perwyl y bydd unrhyw ddeunydd a grëir gennych neu ar eich rhan sy'n ffurfio Allbynnau Digidol yn cael ei wneud ar delerau sy'n golygu naill ai y bydd yr hawlfraint yn y deunydd digidol yn cael ei neilltuo i chi neu fod perchennog yr hawlfraint yn cytuno y gellir rhannu deunydd o dan Drwydded Agored CC BY 4.0 neu gyfwerth;

dd) sicrhau bod yr Allbynnau Digidol yn cael eu cadw'n gyfredol, eu bod yn gweithredu fel y bwriadwyd ac nad ydynt yn mynd yn ddarfodedig cyn pen ugain mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect;

e) cydymffurfio â’r Telerau Grant Safonol hyn mewn perthynas â’r ffeiliau digidol sy’n ffurfio’r Allbynnau Digidol am y cyfnod y cytunwyd arno yn y Llythyr Hysbysiad o Grant. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae hyn yn cynnwys sicrhau mynediad ar-lein rhydd a di-rwystr at yr Allbynnau Digidol. Rhaid i chi beidio â rhyddhau Allbynnau Digidol eich Prosiect ar delerau eraill heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ymlaen llaw;

f) sicrhau bod gwefannau a chynnwys gwefannau'n bodloni o leiaf safon hygyrchedd Single A W3C; a

ff) darparu cyfeiriad neu gyfeiriadau gwe (URL) y wefan, neu wefannau, a fydd yn lletya eich Allbynnau Digidol i ni am y cyfnod amser a bennir, a diweddaru'r rhain os caiff deunyddiau eu hadleoli. Ar gyfer prosiectau lle mae deunyddiau wedi'u lleoli ar draws ystod o wefannau, mae angen URL tudalen mynegai ar-lein.

Talu ac ad-dalu'r grant

44. Hyd at Ddyddiad Dod i Ben y Grant, byddwn yn talu'r Grant i chi neu unrhyw randaliad ohono yn unol â'r Telerau Grant Safonol hyn a'r gweithdrefnau a esbonnir mewn Derbyn Grant cyn belled â bod:

a) Y Loteri Genedlaethol yn parhau i weithredu o dan Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993 (fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd) a bod Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol yn parhau i weithredu o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 (fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd);

b) digon o arian ar gael i ni o dan Ddeddf y Loteri Genedlaethol (neu o'r fath ffynonellau eraill sy’n ofynnol i gyflwyno ein rhaglenni grant; a'n bod

c) yn fodlon eich bod yn cyflawni (ac yn parhau i gyflawni) neu wedi cyflawni’r Dibenion Cymeradwy yn unol â’r Telerau Grant Safonol hyn a’ch bod yn gwario’r Grant yn gymesur ag unrhyw ariannu partneriaeth neu unrhyw ariannu arall rydych yn ei dderbyn o ffynonellau eraill ar gyfer y Dibenion Cymeradwy.

45. Rydych yn cydnabod mai’r Grant yw cyfanswm yr ariannu y byddwn yn ei ddarparu ac na chaiff ei gynyddu o ganlyniad i chi orwario neu am unrhyw reswm arall.

46.  Rhaid i chi ad-dalu i ni ar unwaith unrhyw Grant yr ydym wedi’i dalu i chi (a byddwn yn atal unrhyw randaliadau o’r Grant yn y dyfodol) os:

a) nad ydych yn gweithredu mwyach, neu os cewch eich datgan yn fethdalwr neu'n mynd i law'r gweinyddwr, y derbynnydd neu'n ymddiddymu;

b) byddwch yn methu â defnyddio’r Grant ar gyfer y Dibenion Cymeradwy oni bai y cytunir ar hynny gyda ni ymlaen llaw; 

c) byddwch yn methu â chadw at y Defnydd Cymeradwy oni bai y cytunir ar hynny gyda ni ymlaen llaw;

ch) byddwch yn gwaredu'r Eiddo heb gael caniatâd gennym;

d) byddwch yn methu â darparu gwybodaeth i ni na dilyn ein cyfarwyddiadau rhesymol i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau gyda'ch Prosiect;

dd) ydych, yn ein barn ni, wedi rhoi gwybodaeth dwyllodrus, anghywir neu gamarweiniol i ni neu wedi cuddio gwybodaeth berthnasol yn fwriadol sy’n berthnasol i gynnwys eich Cais;

e) ydych wedi ymddwyn yn esgeulus mewn unrhyw fater arwyddocaol neu'n dwyllodrus mewn cysylltiad â'r Dibenion Cymeradwy neu'r Defnydd Cymeradwy;

f) yw unrhyw awdurdod cymwys, er enghraifft, llys, corff cyhoeddus, neu awdurdod lleol yn cyfarwyddo ad-dalu’r Grant, gan gynnwys amgylchiadau pan fernir bod y Grant yn gymhorthdal anghyfreithlon;

ff) bydd newid arwyddocaol yn strwythur neu statws eich sefydliad oni bai y cytunir fel arall gyda ni;

g) byddwch yn dwyn anfri arnom ni neu’r Loteri Genedlaethol, neu y byddwn yn ystyried bod arian cyhoeddus mewn perygl am unrhyw reswm;

ng) byddwn yn terfynu neu'n gohirio unrhyw grant arall yr ydym wedi'i roi i chi;

h) ydych yn methu â gwneud cynnydd da gyda'r Prosiect neu rydych yn annhebygol, yn ein barn ni, o gwblhau'r Prosiect neu gyflawni'r Dibenion Cymeradwy; neu

i) os byddwch yn methu â chadw at unrhyw un o’r Telerau Grant Safonol hyn.

47. Ni fydd grant yn ad-daladwy o dan baragraff 46 yn y sefyllfaoedd a ganlyn:

a) newid perchnogaeth yr Eiddo;

b) newid materol yn strwythur eich sefydliad;

c) newid i'r Dibenion Cymeradwy; a/neu

ch) newid i'r Defnydd Cymeradwy;

ar yr amod y byddwch chi, neu’r perchennog newydd (os yn berthnasol), yn anfon cais am ganiatâd ar gyfer y newid atom y byddwn yn cytuno iddo'n ysgrifenedig. Gall ein caniatâd fod yn ddarostyngedig i amodau gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i chi ymrwymo i weithred amrywio gyda ni neu fod y perchennog newydd yn ymrwymo i gytundeb newyddu gyda ni.

48. Os bydd unrhyw un o’r telerau ac amodau a nodir yn y Contract hwn yn cael ei dorri, mater i ni wrth weithredu’n rhesymol fydd:  

a) penderfynu a oes modd unioni'r toriad; ac

b) os ydym yn ystyried y gellir unioni'r toriad, i’ch hysbysu am y terfyn amser ar gyfer unioni’r toriad er mwyn osgoi gorfod ad-dalu'r Grant yn unol â pharagraff 46.

49. Os ydych yn sefydliad masnachol ac wedi gwneud cais am y Grant yn unol â’r Arweiniad Ymgeisio Menter Treftadaeth, bydd yn ofynnol i chi, ymhen 5 a 9 mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect, dalu cyfran o enillion net y Prosiect i ni sy’n fwy na’r rhagamcaniad incwm a gwariant y dyfodol y gwnaethoch ei ddefnyddio i bennu'r diffyg cadwraeth yn eich Cais. Bydd y fath gyfran yn cael ei chyfrifo'n unol â'r ganran grant berthnasol a nodwyd yn y Llythyr Hysbysiad o Grant.

50. Os byddwch yn cyflawni'r Dibenion Cymeradwy heb wario swm llawn y Grant, rhaid i chi ad-dalu'r rhan o'r Grant nad ydych wedi'i gwario. Byddwn yn ystyried eich bod wedi gwario'r Grant yn gymesur â chronfeydd eraill yr oeddech i fod i'w derbyn o ffynonellau eraill ar gyfer y Dibenion Cymeradwy.

51. Os byddwch yn gwerthu neu fel arall yn ildio rhan neu'r cyfan o’r Eiddo heb gael caniatâd gennym o dan baragraff 31, neu os byddwch yn derbyn arian mewn rhyw ffordd arall o ganlyniad i chi beidio â dilyn y Telerau Grant Safonol hyn ac unrhyw Amodau Grant Ychwanegol, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi talu cyfran o’r enillion net i ni'n ddi-oed os yw’r gyfran honno’n fwy na’r swm y byddai gennym hawl iddo fel arall o dan baragraff 46.

Telerau cyffredinol

52. Allwch chi ddim drosglwyddo'r Grant nac unrhyw hawliau o dan y Contract Grant, ac mae'n rhaid i chi beidio â hawlio i wneud hynny.

53. Rhaid i chi gymryd pob cam a llofnodi a dyddio unrhyw ddogfennau a allai fod yn angenrheidiol i gyflawni eich rhwymedigaethau o dan y Contract Grant ac i roi'r hawliau a roddir i ni oddi tanynt.

54. Os oes mwy nag un ohonoch, bydd unrhyw atebolrwydd o dan y Contract Grant yn berthnasol i chi i gyd gyda'ch gilydd ac ar wahân.

55. Gallwn ddibynnu ar unrhyw un o’n hawliau o dan y Telerau Grant Safonol hyn ar unrhyw adeg, hyd yn oed os na fyddwn bob amser yn dewis gwneud hynny ar unwaith. Os byddwn yn penderfynu peidio â dibynnu ar un hawl, mae'n bosibl o hyd y byddwn yn dibynnu ar unrhyw un o'n hawliau eraill o dan y Telerau Grant Safonol hyn.

56. Os bydd angen ein cymeradwyaeth arnoch ar gyfer unrhyw beth, rhaid i chi ysgrifennu atom i ofyn amdani. Dim ond os byddwn ni (neu unrhyw un yr ydym yn ei awdurdodi) yn ei rhoi i chi'n ysgrifenedig y gallwch ddibynnu ar unrhyw gymeradwyaeth sydd ei hangen o dan y Telerau Grant Safonol hyn.

57. Bydd pob hysbysiad a chyfathrebiad arall y byddwn ni neu chi'n eu hanfon at ein  gilydd o dan y Telerau Grant Safonol hyn (gan gynnwys unrhyw gymeradwyaeth neu ganiatâd sy’n ofynnol gennym) yn ysgrifenedig a thybir ei fod wedi’i roi’n briodol os caiff ei anfon yn bersonol, ei e-bostio, neu ei anfon drwy'r post (post dosbarth cyntaf rhagdaledig) i gyfeiriad y parti perthnasol, y cyfeirir ato uchod neu sydd fel arall wedi'i hysbysu'n ysgrifenedig. Os caiff ei anfon yn bersonol neu os caiff ei e-bostio, ystyrir bod pob cyfathrebiad o’r fath wedi’i roi wrth gael ei dderbyn (ac eithrio os caiff ei dderbyn ar Ddiwrnod nad yw’n Ddiwrnod Gwaith neu ar ôl 5.00 pm ar unrhyw Ddiwrnod Gwaith ystyrir ei fod wedi’i dderbyn ar y Diwrnod Gwaith nesaf) ac os caiff ei anfon drwy'r post ystyrir bod pob cyfathrebiad o'r fath wedi'i roi a'i dderbyn ar yr ail Ddiwrnod Gwaith yn dilyn y fath anfoniad drwy'r post.

58. Mae unrhyw ddogfennau y mae angen i chi eu hanfon atom o dan y Telerau Grant Safonol hyn at ein dibenion ein hunain yn unig. Os byddwn yn cymeradwyo neu'n derbyn unrhyw ddogfennau, nid yw hyn yn golygu ein bod wedi eu cymeradwyo neu eu derbyn at unrhyw ddiben arall.

59. ni all ein staff, Ymddiriedolwyr a chynghorwyr roi cyngor proffesiynol i chi ac ni ellir eu dal yn gyfrifol am unrhyw gamau yr ydych yn eu cymryd, unrhyw gamau yr ydych yn methu â’u cymryd, neu am eich dyledion neu rwymedigaethau. Er y gallwn roi ariannu i chi, chi sy'n gwbl gyfrifol o hyd am bob rhan o'ch Prosiect, eich busnes a'r penderfyniadau yn ei gylch. Ni fyddwn yn atebol i unrhyw un arall a all gymryd camau neu fygwth camau yn eich erbyn.

60. Ni fydd paragraffau 23(a) ac (c), 31, 34 a 35 yn berthnasol os yw eich Prosiect ar gyfer y Cam Datblygu.

61. Bydd Cyfnod y Contract Grant yn para am y cyfnod a nodir yn y Llythyr Hysbysiad o Grant.

62. Ni ellir gorfodi'r Contract Grant gan unrhyw un ar wahân i chi neu ni.