Bydd ariannu gwerth £200 miliwn ar gyfer Lleoedd Treftadaeth yn rhoi hwb i economïau lleol a balchder yn eu lle

Bydd ariannu gwerth £200 miliwn ar gyfer Lleoedd Treftadaeth yn rhoi hwb i economïau lleol a balchder yn eu lle

Torquay on the South Devon coast, with Torre Abbey in the foreground.
Rydym yn creu partneriaethau hirdymor gyda threfi a dinasoedd ar draws y DU fel rhan o daith 10 mlynedd i helpu lleoedd i ffynnu drwy ddatgloi potensial eu treftadaeth.

Bydd naw lleoliad a gyhoeddwyd heddiw yn cael cymorth wedi’i dargedu fel rhan o’n menter Lleoedd Treftadaeth newydd. Bydd 11 lle arall yn cael eu cyhoeddi dros y blynyddoedd nesaf.

Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae’r Gronfa Treftadaeth wedi buddsoddi mewn treftadaeth gan wneud lleoedd gwell i gymunedau fyw, gweithio ac ymweld â nhw.

Eilish McGuinness, Prif Weithredwr, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Rydym yn ymrwymo £200m i helpu ardaloedd ar draws y DU i ffynnu

Erbyn 2033, bydd 20 o brosiectau hirdymor yn trawsnewid trefi, dinasoedd a thirweddau gan ddefnyddio cronfa ariannu benodedig o £200m. Y naw lle cyntaf yw:

  • Dinas Armagh, Banbridge a Craigavon
  • Swydd Durham
  • Glasgow 
  • Caerlŷr
  • Medway
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln
  • Stoke-on-Trent
  • Torbay

Cyflwyno ein strategaeth Treftadaeth 2033

Mae lansio Lleoedd Treftadaeth yn gam arall wrth gyflwyno ein strategaeth Treftadaeth 2033, a lansiwyd ym mis Mawrth 2023. Mae'r fenter strategol hon yn rhan o'n gweledigaeth hir dymor i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.

Mae Lleoedd Treftadaeth, sydd wedi'i ddylunio i roi cefnogaeth mewn oes heriol, yn adeiladu ar hyn i gyflawni gwell effaith fyth ac yn ymrwymo ein hariannu dros y tymor hir.

Eilish McGuinness, Prif Weithredwr, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Dewiswyd y Lleoedd Treftadaeth drwy ddull seiliedig ar dystiolaeth a fu'n cyfuno ymchwil feintiol newydd â mewnwelediad lleol i nodi lleoedd sydd ag anghenion, cyfleoedd a photensial o ran treftadaeth.

A sign with place names on it

Yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae’r Gronfa Treftadaeth wedi buddsoddi mewn treftadaeth gan wneud lleoedd gwell i gymunedau fyw, gweithio ac ymweld â nhw. Mae Lleoedd Treftadaeth, sydd wedi'i ddylunio i roi cefnogaeth mewn oes heriol, yn adeiladu ar hyn i gyflawni gwell effaith fyth ac yn ymrwymo ein hariannu dros y tymor hir.

“Nid er ei fwyn ei hun yn unig y mae dathlu a gwarchod ein hanes, pensaernïaeth, tirweddau a diwylliant yn bwysig, mae’n chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu cymunedau, creu llawenydd a chefnogi adfywio economaidd.”

Mae treftadaeth wrth wraidd dyfodol Torbay

Mae Torbay, un o’r naw Lle Treftadaeth cyntaf, yn ystyried bod treftadaeth wrth wraidd ei gynlluniau i ddatblygu’r trefi Rifiera Lloegr ar arfordir De Dyfnaint. Mae gofalu am ei hasedau hanesyddol eithriadol a rhannu eu storïau'n allweddol i fanteisio i'r eithaf ar fuddion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd treftadaeth ar gyfer cymunedau ac ymwelwyr.

Meddai Martin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Torbay Culture: “Mae’r bartneriaeth lle strategol 10 mlynedd newydd gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn newid sylweddol o ran cefnogi treftadaeth leol.” 

Rydyn ni'n ariannu prosiectau adfywio treftadaeth 

Mae Lleoedd Treftadaeth yn un yn unig o’r ffyrdd y gallwn gefnogi prosiectau a lleoedd ar draws y DU.

Os ydych chi'n ystyried prosiect a arweinir gan dreftadaeth i drawsnewid lle fel stryd fawr, cymdogaeth hanesyddol neu dirwedd naturiol, gallwch wneud cais am hyd at £10m trwy Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bwrw golwg ar ein hariannu.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...