Cyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb: grantiau o fwy na £250,000

Cyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb: grantiau o fwy na £250,000

Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 6 Tachwedd 2023. Gweld pob diweddariad.

Gofynnwn i bob ymgeisydd sy'n gwneud cais am grant o fwy na £250,000 gwblhau ffurflen Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd).

Mae hyn oherwydd i ni gydnabod faint o waith sy'n cael ei wneud i wneud cais am ariannu ac wrth gynllunio prosiect. Mae'r cam MoDd yn ein helpu i hidlo unrhyw brosiectau sy'n annhebygol o gael eu hariannu, gan arbed amser y byddech chi efallai'n ei dreulio'n gweithio ar gais llawn yn ddiangen.

Mae cyfrif geiriau'r MoDd yn fwriadol fyr (uchafswm o 1,000 o eiriau) er mwyn lleihau amser ac ymdrech i chi wrth gwblhau'r cam hwn.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i benderfynu p'un a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais cam datblygu ai beidio. Os ydych yn llwyddiannus, mae'n rhaid i chi wneud cais o fewn 12 mis o dderbyn y gwahoddiad. Os yw eich MoDd yn aflwyddiannus, allwch chi ddim gyflwyno cais am brosiect. Bydd angen i chi gyflwyno MoDd newydd yn gyntaf. Mae'n rhaid i chi aros tri mis cyn gwneud hyn. 

Cyn cyflwyno

Cofiwch sicrhau eich bod wedi darllen:

Mae gwybodaeth lawn am yr hyn yr ydym yn ei ariannu ar gael yn arweiniad ymgeisio Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: £250,000 i £10miliwn.

Rhesymau cyffredin pam bod MoDd yn aflwyddiannus

Nid yw MoDd bob amser yn llwyddiannus. Dyma rai rhesymau cyffredin:

  • methu â chymryd pob un o'r pedair egwyddor fuddsoddi i ystyriaeth
  • ailadrodd ein rhestr o egwyddorion buddsoddi yn hytrach na dweud wrthym sut y bydd eich prosiect yn ymateb iddynt
  • dweud wrthym am waith cyfalaf yn unig 
  • methu ag esbonio'r angen/galw am y prosiect na'r gefnogaeth ehangach drosto

Cwestiynau'r ffurflen Mynegiad o Ddiddordeb 

Gofynnwn i bob ymgeisydd sy'n gwneud cais am grant o fwy na £250,000 gwblhau ffurflen Mynegiad o Ddiddordeb (MoDd). 

Gallwch weld y cwestiynau yn y ffurflen MoDd isod. 

Ydych chi wedi siarad ag unrhyw un yn y Gronfa Treftadaeth am eich syniad?

Os felly, dywedwch wrthym eu henw. 

Disgrifiwch yr hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod y prosiect.

Dylech gynnwys unrhyw dasgau y mae'n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni nod y prosiect. Mae gennych 200 o eiriau. 

Oes gennych chi deitl ar gyfer y prosiect?

Gellir newid hyn ar unrhyw adeg. Peidiwch â phoeni os nad oes gan y prosiect deitl eto, gallwch adael hyn yn wag. 

Amlinellwch sut y bydd eich prosiect yn ymateb i'n pedair egwyddor fuddsoddi.

Yr ymgeisydd fydd yn dangos cryfder y ffocws, a'r pwyslais ar bob egwyddor. Mae gennych 300 o eiriau. 

Dywedwch wrthym am dreftadaeth y prosiect.

Cofiwch gynnwys i bwy mae'n bwysig a pham. Mae gennych 100 o eiriau. 

Beth yw'r angen am y prosiect hwn?

Pa waith yr ydych wedi'i wneud sy'n dangos manteision posib y prosiect? Mae gennych 200 o eiriau. 

Pa mor hir ydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn ei gymryd?

Dywedwch wrthym ddyddiad dechrau a gorffen amcangyfrifedig os oes gennych nhw. Mae gennych 50 gair. 

Faint mae'r prosiect yn debygol o gostio?

Os ydych yn gwybod, dywedwch wrthym am y costau pwysicaf. Gellir amcangyfrif y costau hyn. Mae gennych 200 o eiriau. 

Faint o ariannu ydych chi’n bwriadu gwneud cais amdano gennym ni?

Cyflwynwch swm. 

Pryd ydych chi'n debygol o gyflwyno cais am ariannu, os gofynnir i chi wneud hynny?

Mae gennych 50 gair.

Sut i gyflwyno

Pan fyddwch chi'n barod, cwblhewch y MoDd ar ein gwasanaeth Cael eich ariannu ar gyfer prosiect treftadaeth

Bydd angen i chi gofrestru cyfrif i chi'ch hun ac i'r sefydliad yr ydych yn gwneud cais amdano. 

Clywed yn ôl gennym ni

Anelwn at ymateb i'ch MoDd o fewn 20 diwrnod gwaith.  

Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a ydych wedi llwyddo i gael eich gwahodd i gyflwyno cais cam datblygu.

Os nad ydym yn eich gwahodd i wneud cais nawr, byddwn yn rhoi adborth i chi.  

Diweddariadau i'r arweiniad

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydyn ni'n cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn ni'n cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosib trwy'r dudalen we hon.

Newidiadau

2 Hydref 2023: gwnaethom ddiweddaru ein MoDd ar gyfer grantiau dros £250,000 a gyflwynir o dan ein strategaeth newydd, Treftadaeth 2033. Mae'r arweiniad hwn wedi'i newid i gefnogi ymgeiswyr i ddefnyddio'r broses ymgeisio hon wedi'i diweddaru.

Mae'r newidiadau'n cynnwys:

  • dileu arweiniad sy'n ymwneud â'n canlyniadau
  • ychwanegu arweiniad sy'n ymwneud â'n pedair egwyddor fuddsoddi

6 Tachwedd 2023: ychwanegwyd y cwestiynau MoDd at y dudalen we a dilëwyd y PDF