Cwestiynau a nodiadau cymorth y ffurflen gais - £250,000 i £10miliwn (cam datblygu)

Cwestiynau a nodiadau cymorth y ffurflen gais - £250,000 i £10miliwn (cam datblygu)

Cwestiynau o'n ffurflen gais Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol - cam datblygu £10,000 i £10miliwn

Crëwyd y dudalen: 30 Mai 2023

Defnyddiwch y dudalen hon i weld beth fyddwn ni'n gofyn i chi cyn i chi ddechrau ar eich cais.

Mae hefyd yn cynnwys nodiadau cymorth i'ch helpu i ateb y cwestiynau.

Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol cyfeirio at ein canllawiau ymgeisio wrth ateb y cwestiynau.

Noder bod angen i chi gyflwyno a phasio Mynegiad o Ddiddordeb cyn y gallwch chi symud ymlaen at gais llawn yn yr amrediad hwn.

Defnyddiwch iaith glir a syml wrth i chi gwblhau eich cais. Cofiwch gynnwys unrhyw ffeithiau neu ffigurau a fydd yn ein helpu ni i ddeall beth rydych chi eisiau ei wneud a pham rydych chi eisiau ei wneud.


Ynglŷn â'r prosiect

Enw eich sefydliad

[Ni ellir newid hyn]

Rhif cyfeirnod y prosiect

[Ni ellir newid hyn]

Teitl y prosiect

[Maes testun – 255 o nodau]

Noder y bydd eich teitl yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan ac yn cael ei weld gan ein pobl sy'n gwneud penderfyniadau. Rydyn ni'n argymell ei gadw'n syml ac yn gryno.

Ai dyma gais cyntaf eich sefydliad i'r Gronfa Treftadaeth?

[Dewiswch ydy neu nac ydy]

Dywedwch wrthyn ni beth yw rhif cyfeirnod eich cais diweddaraf.

[Maes testun – 255 o nodau]

Dywedwch wrthyn ni beth yw teitl prosiect eich cais diweddaraf.

[Maes testun – 255 o nodau]

Dywedwch wrthyn ni beth yw eich syniad

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Mewn uchafswm o 5,000 o nodau, rhowch grynodeb o'ch prosiect. Defnyddiwch bwyntiau bwled os oes angen.

Noder mai'r crynodeb rydych chi'n ei ddarparu yw'r unig ran o'ch ffurflen gais a welir gan y rhai sy'n gwneud y penderfyniad. Mae hyn yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â'n hasesiad o'ch cais.

Ble fydd eich prosiect yn digwydd?

  • Stryd y prosiect [Maes testun - 255 o nodau]
  • Dinas y prosiect [Maes testun - 255 o nodau]
  • Sir y prosiect [Maes testun - 255 o nodau]
  • Cod post y prosiect [Maes testun - 255 o nodau]

Os bydd eich prosiect yn digwydd ar draws lleoliadau gwahanol, defnyddiwch y cod post lle bydd y rhan fwyaf o'r prosiect yn digwydd.

Ar gyfer prosiectau tirwedd, rhowch gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans ar gyfer eich tirwedd.

[Rhowch y cyfeirnod]

Esboniwch pa anghenion a chyfleoedd y bydd eich prosiect yn mynd i'r afael â nhw.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

  • Dywedwch wrthyn ni am unrhyw broblemau a chyfleoedd sy'n bodoli o ran sut:
    • y rheolir eich treftadaeth ar hyn o bryd a'i chyflwr
    • pobl yn ymgysylltu â'r dreftadaeth ar hyn o bryd
  • Dywedwch wrthyn ni sut fydd eich prosiect yn ymdrin â'r problemau a'r cyfleoedd uchod.
  • Dywedwch wrthyn ni sut mae eich prosiect yn gweddu i unrhyw strategaethau lleol neu fentrau ehangach.
  • Dywedwch wrthyn ni am unrhyw arfarniadau dichonoldeb ac opsiynau a wnaed a pham mai eich prosiect chi yw'r ffordd orau a mwyaf ymarferol ymlaen.
  • Os bydd eich prosiect yn gwella ardal o dirwedd neu dreflun, dywedwch wrthyn ni am gyflwr presennol yr ardal.

Pam mae angen i'ch prosiect chi ddigwydd nawr?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

  • Dywedwch wrthyn ni a yw'r risg i'ch treftadaeth yn un critigol.
  • Dywedwch wrthyn ni am unrhyw gyllid partneriaeth sydd ar gael i chi nawr na fydd ar gael yn y dyfodol.
  • Dywedwch wrthyn ni beth fydd yn digwydd os na fyddwch chi'n derbyn grant gennym ni.

Dywedwch wrthyn ni ba gyngor rydych chi wedi derbyn wrth gynllunio eich prosiect a chan bwy.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

  • Dywedwch wrthyn ni a ydych chi wedi derbyn unrhyw gyngor arbenigol.
  • Dywedwch wrthyn ni am unrhyw ymgynghoriad rydych chi wedi'i wneud gyda'ch cymuned leol a'r rhai a fydd yn ymwneud â'ch prosiect.
  • Dywedwch wrthyn ni a yw hyn wedi siapio cynigion eich prosiect.
  • Dywedwch wrthyn ni a ydych chi wedi derbyn unrhyw gyngor cyn-ymgeisio ynghylch materion cynllunio a/neu ganiatâd adeilad rhestredig.

Dywedwch wrthyn ni am y bobl a fydd yn elwa o’ch prosiect.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Hoffen ni wybod mwy am yr amrywiaeth o bobl fydd yn rhan o'ch prosiect a/neu'n elwa ohono. Dywedwch wrthyn ni am unrhyw gamau y byddwch yn eu cymryd i oresgyn rhwystrau i gynnwys pobl ym maes treftadaeth.

Rhowch syniad i ni o'r prif grwpiau o bobl a fydd yn elwa o'ch prosiect. Dywedwch wrthyn ni sut mae eich prosiect wedi'i ddylunio i gefnogi cynnydd wrth ennyn diddordeb y grwpiau hyn mewn treftadaeth.

Rhowch amcangyfrif o nifer y cyfranogwyr a fydd yn ymwneud â'ch prosiect. Wrth gyfranogwyr rydyn ni'n golygu'r bobl sy'n cymryd rhan yn eich prosiect yn hytrach na'r bobl sy'n cyfrannu eu hamser i helpu i gyflwyno eich prosiect.

Ydy eich prosiect yn ymwneud â threftadaeth sy'n denu ymwelwyr?

[Dewiswch ydy neu nac ydy]

Faint o ymwelwyr a gawsoch chi yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf?

[Maes rhifau]

Faint o ymwelwyr y flwyddyn ydych chi'n disgwyl ar ôl i chi gwblhau eich prosiect?

[Maes rhifau]

A fydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno gan bartneriaeth? Ticiwch os bydd.

[Blwch ticio]

Pwy yw eich partneriaid? Rhowch enw cyswllt o bob sefydliad.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Nodwch yr hoffen ni weld eich cytundeb partneriaeth os ydych chi'n bwriadu gweithio gyda sefydliad arall i wneud eich prosiect. Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r ddau bartner a dylai pob parti ei lofnodi.

Os yw eich partner yn berchen ar y dreftadaeth rydych chi'n gweithio arni, byddwn ni fel arfer yn gofyn iddyn nhw ymrwymo i delerau'r grant hefyd.

Mae angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth os ydych chi'n gweithio gyda sefydliad arall sy'n cyflwyno rhan sylweddol o'ch prosiect.

Pa fesurau fyddwch chi'n eu cymryd i gynyddu effeithiau amgylcheddol cadarnhaol a gostwng effeithiau amgylcheddol negyddol?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Rydyn ni'n disgwyl i'r safonau uchaf o gynaladwyedd amgylcheddol gael eu darparu gan yr holl brosiectau rydyn ni'n eu hariannu. Rydyn ni eisiau i'n holl brosiectau wneud eu gorau glas i helpu i liniaru ac addasu i effeithiau ein hinsawdd sy'n newid ac i helpu natur i ymadfer. 

Gweler ein Gofyniad cynaladwyedd amgylcheddol a'n Canllawiau cynaladwyedd amgylcheddol am ragor o wybodaeth.

Sut ydych chi'n bwriadu cydnabod eich grant?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Mae hybu a chydnabod Y Loteri Genedlaethol yn amod o'n grantiau. Darllenwch y canllawiau ar ein gwefan i weld yr isafswm gofynion ar gyfer gwneud hyn. Rydyn ni'n disgwyl i chi ddatblygu cynigion neu hyrwyddiadau arloesol a chreadigol sydd wedi'u dylunio i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth ac i godi ymwybyddiaeth o'ch ariannu.

Os yw eich grant am fwy na £1m tuag at ofod arddangosfa newydd, canolfan ymwelwyr, gardd gymunedol neu gyfleuster cyhoeddus arall, hoffen ni hefyd drafod y ffordd orau o ymgorffori'r Loteri Genedlaethol yn enw'r gofod neu'r safle.

Ynglŷn â'r dreftadaeth

Dywedwch wrthyn ni am y dreftadaeth yn eich prosiect a pham mae'n bwysig i'ch sefydliad a'ch cymuned.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Rhowch ddisgrifiad o'r dreftadaeth fel y mae heddiw. Os yw'n ymwneud â gwahanol fathau o dreftadaeth, disgrifiwch bob un o'r rhain.

Rhowch esboniad o'r hyn sy'n bwysig am y dreftadaeth. Dywedwch wrthyn ni a yw'n:

  • ffynhonnell dystiolaeth o wybodaeth
  • o ddiddordeb esthetig, artistig, pensaernïol, hanesyddol, naturiol neu wyddonol
  • o werth cymdeithasol neu gymunedol

Dywedwch wrthyn ni i bwy y mae'r dreftadaeth yn bwysig. Gallai hyn gynnwys arbenigwyr a/neu'r gymuned leol.

Dewiswch y math o dreftadaeth sy'n disgrifio eich prosiect orau.

  • casgliadau
  • treftadaeth gymunedol
  • tirweddau a natur
  • adeiladau a chofebion hanesyddol
  • diwydiannol, morol a thrafnidiaeth
  • diwylliannau ac atgofion
  • arall

Nodwch mai dim ond un opsiwn y gallwch ei ddewis.

Dewiswch yr is-fath o dreftadaeth sy'n disgrifio eich prosiect orau.

Ar gyfer 'casgliadau': 

  • amgueddfeydd
  • llyfrgelloedd 
  • archifau

Ar gyfer 'adeiladau a chofebion hanesyddol’:

  • adeiladau hanesyddol
  • mannau addoli
  • archaeoleg
  • henebion/cofebion

Ewch i'n gwefan i gael mwy o wybodaeth am bob math o dreftadaeth.

A ystyrir bod y dreftadaeth mewn perygl? Ticiwch os ydy.

[Blwch ticio]

Esboniwch pam a sut rydych chi'n ystyried bod y dreftadaeth mewn perygl.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Esboniwch yn gryno pam fod y dreftadaeth o dan fygythiad, a pha gamau sydd wedi'u cymryd (os o gwbl) i isafu'r risg. Gallai fod mewn perygl o gael ei golli drwy ddifrod neu esgeulustod ffisegol, diffygion ariannol neu bobl yn marw yn achos hanesion llafar a chymunedol.

Os yw eich prosiect yn ymwneud ag adeilad neu heneb, dywedwch wrthyn ni a yw ar y gofrestr adeiladau neu henebion mewn perygl.

Os yw eich prosiect yn ymwneud â sawl adeilad mewn ardal gadwraeth, dywedwch wrthyn ni a yw'r ardal gadwraeth ar y gofrestr mewn perygl.

Os yw eich prosiect yn ymwneud â threftadaeth naturiol, dywedwch wrthyn ni a yw'r dirwedd, daeareg, cynefin neu rywogaeth mewn perygl ac ym mha ffordd (er enghraifft, wedi'i nodi fel blaenoriaeth mewn Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth).

A yw arolwg cyflwr wedi'i gynnal ar gyfer yr ased treftadaeth yn ystod y pum mlynedd diwethaf? Ticiwch os ydy.

[Blwch ticio]

A oes gan y dreftadaeth unrhyw ddynodiadau ffurfiol?

Dewiswch bob un sy'n berthnasol:

  • Amgueddfa, Llyfrgell, Oriel neu Archif a ariennir gan DCMS
  • Safle Treftadaeth y Byd
  • Adeilad Rhestredig Gradd I neu Radd A
    • Faint o adeiladau rhestredig Gradd I neu Radd A sydd wedi'u cynnwys yn eich prosiect? [Maes rhifau]
  • Adeilad rhestredig Gradd II* neu Radd B
    • Faint o adeiladau rhestredig Gradd II* neu Radd B sydd wedi'u cynnwys yn eich prosiect? [Maes rhifau]
  • Adeilad rhestredig Gradd II, Gradd C neu Radd C(S)
    • Faint o adeiladau rhestredig Gradd II, Gradd C neu Radd C(S) sydd wedi'u cynnwys yn eich prosiect? [Maes rhifau]
  • Rhestr Leol
    • Faint o adeiladau ar y rhestr leol sydd wedi'u cynnwys yn eich prosiect? [Maes rhifau]
  • Heneb Gofrestredig
    • Faint o henebion gofrestredig o'r math hwn sydd wedi'u cynnwys yn eich prosiect? [Maes rhifau]
  • Llong Hanesyddol Gofrestredig
    • Beth yw rhif tystysgrif y llong hanesyddol gofrestredig? [Maes testun – 255 o nodau]
  • Maes y Gad Cofrestredig
  • Parc Cenedlaethol
  • Safle Ramsar
  • Parc neu Ardd Rhestredig
  • Parc neu Ardd Gradd I rhestredig
    • Beth yw rhif/au cofrestru neu restr stoc y Parc neu Ardd Gradd I rhestredig?[Maes testun – 255 o nodau]
  • Parc neu Ardd Gradd II* rhestredig
    • Beth yw rhif/au cofrestru neu restr stoc y Parc neu Ardd Gradd II* rhestredig? [Maes testun – 255 o nodau]
  • Parc neu Ardd Gradd II rhestredig
    • Beth yw rhif/au cofrestru neu restr stoc y Parc neu Ardd Gradd II rhestredig? [Maes testun – 255 o nodau]
  • Safle Llongddrylliad Gwarchodedig
  • Cofrestr Organau Hanesyddol Genedlaethol
  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • Arall (nodwch beth) [Maes testun – 255 o nodau]

A fyddwch chi'n ymgymryd ag unrhyw waith cyfalaf fel rhan o'ch prosiect? Ticiwch os byddwn.

[Ticiwch os byddwn]

Rhowch fanylion.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Dywedwch wrthyn ni:

  • enw'r adeilad(au), casgliadau, tirweddau neu gynefin
  • a oes angen unrhyw Ganiatâd neu Drwyddedau Statudol i gyflawni'r prosiect, ac os yw'r rhain wedi'u sicrhau

Diffinnir gwaith cyfalaf fel gwaith sy'n creu neu'n gwella ased. Wrth waith cyfalaf, rydyn ni'n golygu digideiddio casgliadau, rhaglen gadwraeth ar gyfer gwrthrychau a chasgliadau, gwaith atgyweirio a chadwraeth neu adeiladu o'r newydd, adnewyddu ac ail-arddangos orielau ac/neu adeiladau.

Er enghraifft, byddai cadwraeth rhostir, atgyweiriadau i gofeb ryfel a digideiddio archif ffotograffig i gyd yn cael ei ystyried yn waith cyfalaf.

Mae gan ailddefnyddio ac addasu treftadaeth adeiledig rôl bwysig i'w chwarae o ran gostwng allyriadau carbon a thaclo newid yn yr hinsawdd. Er y gallai adeiladu o'r newydd fod yn angenrheidiol ac yn briodol, mewn rhai achosion byddwn yn blaenoriaethu ail-ddefnyddio adeiladau presennol a'u haddasu'n sensitif.

Ar gyfer prosiectau tirwedd a natur cyfalaf byddwn yn blaenoriaethu'r rhai sy'n canolbwyntio ar yr holl themâu canlynol neu un ohonynt:

  • cefnogi adferiad natur
  • cyflwyno atebion sy'n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd
  • helpu pobl i ailgysylltu â natur

Ar gyfer prosiectau sy'n ymwneud â gwaith ffisegol, er enghraifft cadwraeth ar adeilad hanesyddol neu waith adeiladu o'r newydd, darllenwch adran gofynion perchnogaeth canllaw y rhaglen ac edrychwch ar y canllaw i dderbyn grant.

Caniatâd neu Drwyddedau Statudol

Er enghraifft, Caniatâd Adeilad Rhestredig, Caniatâd Cynllunio, Cydsyniad Heneb Gofrestredig, Ffacwlti, Trwydded Ystlumod, Trwydded Torri Coed etc.

Does dim rhaid eich bod wedi sicrhau Caniatâd a/neu Drwyddedau Statudol cyn gwneud cais i ni yn y cam datblygu.

Mae'n rhaid i bob Caniatâd a/neu Drwydded statudol fod wedi'i sicrhau cyn y gallwch chi ddechrau ar eich prosiect.

Os ydych chi'n ymgymryd ag unrhyw waith cyfalaf (gan gynnwys atgyweirio, adnewyddu etc.) ar dir, adeiladau neu eitemau treftadaeth, dywedwch wrthyn ni bwy sy'n berchen arnynt.

  • eich sefydliad
  • partner yn y prosiect
  • nid y naill na’r llall
  • Dd/B

Rhowch fanylion am berchennog eich gwaith cyfalaf. 

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Darllenwch adran gofynion perchnogaeth y canllaw i'r rhaglen a chyfeiriwch at y canllaw i dderbyn grant.

Dywedwch wrthyn ni:

  • A oes gan eich sefydliad neu eich partner yn y prosiect rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu'n a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth.
  • A oes gan eich sefydliad neu eich partner yn y prosiect les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les.
  • A oes gan eich sefydliad neu eich partner yn y prosiect, neu a ydyw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad, tir, neu eitem o dreftadaeth.
    • Os felly, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni.

Os dewisir 'nid y naill na’r llall'

Os nad ydych yn bodloni ein gofynion o ran perchnogaeth ar hyn o bryd, dywedwch beth yw'r dyddiad pan fyddwch yn disgwyl y bydd modd gwneud hyn.

Oes unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r ased treftadaeth a allai effeithio ar eich prosiect? 

[Blwch ticio]

Rhowch fanylion. 

[Maes testun – 5,000 o nodau]

A yw eich prosiect yn ymwneud â chaffael adeilad, tir neu eitemau o dreftadaeth?

Dewiswch un o:

  • ydy
  • nac ydy
  • Dd/B

Darllenwch adran prynu tir ac adeiladau ac adran prynu eitemau a chasgliadau treftadaeth y canllaw i'r rhaglen a chyfeiriwch at y canllaw i dderbyn grant.

Rheoli eich prosiect

Ydy eich sefydliad wedi ymgymryd â phrosiect o'r raddfa hon yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf? Ticiwch os ydy.

[Ticiwch os ydy]

Rhowch fanylion.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Dywedwch wrthyn ni pam mai hwn yw'r prosiect mwyaf priodol i'ch sefydliad ymgymryd ag ef ar hyn o bryd.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Pa strategaethau eraill sydd wedi cael eu hystyried? Beth fyddwch chi'n ei wneud os na fydd y prosiect yn mynd yn ei flaen?

A oes angen i'ch sefydliad ymgymryd ag unrhyw weithgarwch adeiladu capasiti er mwyn cyflwyno eich prosiect yn well?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Er enghraifft, oes angen i chi adolygu eich system gyllid neu Adnoddau Dynol, datblygu eich cynllun busnes neu adeiladu capasiti codi arian? Oes angen i chi ddod o hyd i unrhyw sgiliau neu arbenigedd ychwanegol?

Dywedwch wrthyn ni a fyddwch yn gwneud newidiadau i lywodraethiant eich sefydliad er mwyn i chi gyflwyno eich prosiect yn fwy effeithiol. Gallwch chi gynnwys costau cymorth proffesiynol ar gyfer adolygiad llywodraethu.

Dywedwch wrthyn ni am unrhyw swyddi neu brentisiaethau y byddwch yn eu creu i gyflwyno'ch prosiect.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Rhowch amcangyfrif o unrhyw swyddi a/neu brentisiaethau a fydd yn cael eu creu ac yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflwyno eich prosiect. Dywedwch wrthyn ni beth fydd eu prif rolau ac a ydynt yn swyddi amser llawn neu'n rhan-amser.

Os ydych yn symud aelod staff presennol i swydd sydd wedi'i chreu gan y prosiect hwn, neu'n ymestyn oriau aelod staff presennol, dywedwch wrthyn ni beth yw ei gymwysterau ar gyfer y rôl a grëir gan y prosiect.

Disgrifiwch sut y byddwch chi'n dewis y staff.

Bydd angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer pob rôl a grëir ar gyfer cam datblygu eich prosiect fel dogfen gefnogol i'ch cais.

Pa waith fyddwch chi'n ei wneud yn ystod cam datblygu eich prosiect?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Darllenwch am y tasgau allweddol y mae angen i chi eu cwblhau yn ystod eich cam datblygu yn y canllaw i'r rhaglen.

Dywedwch wrthyn ni sut y byddwch chi'n cynhyrchu'r holl ddogfennau cefnogol sy'n ofynnol gyda'ch cais cam cyflwyno.

Iaith Gymraeg

Os bydd eich prosiect yn digwydd yng Nghymru, mae'n rhaid i chi ystyried y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith. Dylech chi ddweud wrthyn ni sut y byddwch chi'n hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg gan adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru.

Bydd angen i chi ddangos sut y byddwch chi'n cynnig darpariaeth ddwyieithog yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech chi gynnwys cyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn adran costau prosiect y ffurflen gais.  

Gweler ein canllawiau iaith Gymraeg am fwy o wybodaeth.

Pwy yw'r prif bobl sy'n gyfrifol am y gwaith yn ystod cam datblygu eich prosiect?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Rhowch wybodaeth fanwl am y tîm a fydd yn gweithio ar eich cam datblygu, gan gynnwys y person a fydd â chyfrifoldeb cyffredinol.

Esboniwch pwy sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau a chymeradwyo newidiadau i'ch prosiect. Disgrifiwch y strwythur adrodd a pha mor aml y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal.

Disgrifiwch sut y byddwch yn dewis y gwasanaethau a'r nwyddau sydd eu hangen yn ystod eich cam datblygu.

Bydd angen hefyd i chi anfon briffiau atom ar gyfer unrhyw ymgynghorwyr yn eich cam datblygu.

Pwy yw'r prif bobl sy'n gyfrifol am y gwaith yn ystod cam cyflwyno eich prosiect?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Rhowch wybodaeth amlinellol am y tîm a fydd yn gweithio ar eich cam cyflwyno, gan gynnwys y person a fydd â chyfrifoldeb cyffredinol.

Dywedwch wrthyn ni a fydd angen cymorth ychwanegol arnoch chi gan ymgynghorwyr neu staff newydd.

Esboniwch pwy sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau a chymeradwyo newidiadau i'ch prosiect. Disgrifiwch y strwythur adrodd a pha mor aml y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal.

Pa waith fyddwch chi'n ei wneud yn ystod cam cyflwyno eich prosiect?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Rhowch wybodaeth amlinellol am yr hyn y bydd eich prosiect yn ei wneud yn ystod eich cam cyflwyno.

Iaith Gymraeg

Os ydych chi'n cyflwyno eich prosiect yng Nghymru, bydd angen i chi ddweud wrthyn ni sut y byddwch yn hybu ac yn cefnogi'r Gymraeg gan adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru.

Sut ydych chi'n bwriadu trefnu'r llif arian parod ar gyfer cam cyflwyno eich prosiect?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Gwneir taliadau grant mewn ôl-daliadau. Felly, mae angen i chi sicrhau y gallwch chi ddarparu llif arian parod yn llwyddiannus ar gyfer gwariant eich prosiect er mwyn osgoi trafferthion ariannol.

Yr eithriad i hyn yw grant datblygu o lai na £100k – cyfeiriwch at y canllaw i dderbyn grant am fwy o wybodaeth.

Bydd angen i chi ddarparu esboniad o'r llif arian parod gyda'ch cais cam cyflwyno.

Dywedwch wrthyn ni am unrhyw gronfeydd ariannol, incwm gan eich sefydliad neu ffynonellau ariannu eraill y byddwch yn eu cyrchu ar gyfer llif arian parod cam cyflwyno eich prosiect.

Dyddiad dechrau cyflwyno

[Dewis dyddiad]

Dyddiad gorffen cyflwyno

[Dewis dyddiad]

A oes unrhyw derfynau amser penodol neu gerrig milltir allweddol a fydd yn cyfyngu ar amserlen eich prosiect?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Dywedwch wrthyn ni am unrhyw ddyddiadau na ellir eu newid a fydd yn effeithio ar eich prosiect ac sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth.

Er enghraifft:

  • Dyddiadau pan ddaw cynigion cyllid partneriaeth i ben neu ddyddiadau olaf ar gyfer gwario gronfeydd wedi'u sicrhau.
  • Pen-blwyddi y mae eich prosiect wedi'i ddylunio i'w dathlu.
  • Digwyddiadau allanol sy'n allweddol i lwyddiant eich prosiect.

Canlyniadau prosiect

Gweler y tudalennau canlyniadau ar ein gwefan am gymorth wrth gwblhau'r adran hon.

Sut fydd eich prosiect yn cynnwys amrywiaeth ehangach o bobl?

[Mae hwn yn ganlyniad gorfodol]

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Bydd treftadaeth mewn cyflwr gwell.

[Blwch ticio]

Rhowch fanylion. 

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Bydd treftadaeth yn cael ei nodi a'i hegluro'n well.

[Blwch ticio]

Rhowch fanylion. 

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Bydd pobl wedi datblygu sgiliau.

[Blwch ticio]

Rhowch fanylion. 

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Bydd pobl wedi dysgu am dreftadaeth, gan arwain at newid mewn syniadau a chamau gweithredu.

[Blwch ticio]

Rhowch fanylion. 

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Bydd gan bobl gwell llesiant.

[Blwch ticio]

Rhowch fanylion. 

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Bydd y sefydliad a ariennir yn fwy gwydn.

[Blwch ticio]

Rhowch fanylion. 

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Bydd yr ardal leol yn lle gwell i fyw, gweithio neu ymweld â hi.

[Blwch ticio]

Rhowch fanylion. 

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Bydd yr economi leol yn cael hwb.

[Blwch ticio]

Rhowch fanylion. 

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Ar ôl i'r prosiect ddod i ben

Sut fyddwch chi'n cynnal canlyniadau eich prosiect ar ôl i'r grant ddod i ben ac yn talu unrhyw gostau rhedeg ychwanegol?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

  • Rhowch wybodaeth amlinellol am sut y byddwch chi'n cynnal canlyniadau eich prosiect, a nodwyd gennych yn eich canlyniadau prosiect.
  • Dywedwch wrthyn ni sut y byddwch chi'n rheoli ac yn cynnal unrhyw waith rydych chi wedi'i wneud.
  • Dywedwch wrthyn ni sut y bydd eich prosiect yn gynaliadwy yn ariannol.
  • Dywedwch wrthyn ni sut rydych chi'n bwriadu parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth ehangach o bobl ar ôl i'r prosiect ddod i ben.

Gwaith cyfalaf ar barciau cyhoeddus, mynwentydd a gerddi cyhoeddus

Er mwyn sicrhau y cynhelir ansawdd a safonau rheoli a chynnal a chadw yn dilyn ein buddsoddiad, mae'n rhaid i chi gyflawni Gwobr y Faner Werdd yn y flwyddyn gyntaf ar ôl cwblhau eich gwaith cyfalaf. Mae'n rhaid i chi gynnal y wobr hon bob blwyddyn am o leiaf saith mlynedd.

Mwy o wybodaeth am Wobr y Faner Werdd.

Gallwch chi gynnwys cost ymgeisio am Wobr y Faner Werdd yn eich costau o dan 'costau eraill’.

Sut fyddwch chi'n sicrhau bod y sgiliau a'r wybodaeth a ddatblygir wrth gyflwyno eich prosiect wedi'u hymwreiddio yn eich sefydliad ar ôl iddo ddod i ben?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Er enghraifft, os bydd y prosiect yn cael ei oruchwylio gan reolwr prosiect newydd a ariennir gan y grant, dywedwch wrthyn ni sut y byddwch chi'n sicrhau y bydd yr wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd gan y person hwnnw, ynghyd â'r gwersi a ddysgwyd o'r prosiect, o fudd i'r sefydliad y tu hwnt i gyfnod y grant.

Gallech chi ystyried cynnal sesiynau briffio staff, cyfarfodydd rhannu gwybodaeth neu hyfforddiant arall. Gallai hyn hefyd fod yn rhan o gynllunio eich gwerthuso.

Sut fyddwch chi'n gwerthuso llwyddiant eich prosiect ac yn rhannu'r dysgu?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Rydyn ni'n disgwyl i bob ymgeisydd werthuso eu prosiect. Bydd angen i chi greu cynllun gwerthuso ar ddechrau eich prosiect. Braslun yw hwn o sut y byddwch chi'n cywain data i fesur, dadansoddi a deall yr hyn rydych chi'n ei wneud ac yn y pen draw i ddarparu tystiolaeth o'r canlyniadau y mae eich prosiect wedi'u cyflawni.

Ar ddiwedd eich prosiect bydd gofyn i chi ysgrifennu gwerthusiad o'ch prosiect a'i gyflwyno gyda'ch adroddiad cwblhau terfynol.

Costau ac incwm y prosiect

Yn yr adran hon o'r ffurflen byddwch chi'n defnyddio cyfres o dablau i ddangos i ni:

  • faint y bydd yn ei gostio i gyflwyno eich prosiect
  • pa incwm y byddwch yn ei dderbyn

Ychwanegwch ddisgrifiadau cyffredinol o'ch costau a'ch incwm yma. Dylid darparu esboniad a dadansoddiad manylach fel rhan o'ch dogfennau cefnogol. Os yw eich costau'n seiliedig ar gyfrifiadau, er enghraifft costau staff, rhowch yr wybodaeth hon.

Mae'n rhaid i gyfanswm costau eich prosiect gyfateb i incwm eich prosiect. Mae pob cais am grant yn cael ei dalgrynnu'n awtomatig i'r £100 agosaf. Cadwch hyn mewn cof pan fyddwch yn paru cyfanswm eich incwm â chyfanswm eich costau, fel arall ni fydd y system yn caniatáu i chi symud ymlaen.

Rydyn ni'n disgwyl i'ch costau cam datblygu fod yn fanwl. Dylai eich costau cam cyflwyno fod yn seiliedig ar eich amcangyfrif gorau.

Nodyn ynghylch TAW (Treth ar Werth)

Gwnewch yn siŵr eich bod ond yn cynnwys TAW na ellir ei hadennill.

Efallai na fyddwch yn talu TAW ar rai mathau o waith neu y byddwch yn ei thalu ddim ond ar gyfradd is. Dylech fynd at Gyllid a Thollau EF i wirio faint o TAW y bydd angen i chi ei thalu.

Os yw eich statws TAW yn newid fel y gallwch adennill mwy nag yr oeddech yn ei ddisgwyl, bydd angen i chi ddychwelyd hyn aton ni.

Byddwn ni'n ystyried awdurdodi'r defnydd o arian wrth gefn os ydych chi'n tanamcangyfrif TAW, ond allwn ni ddim warantu y bydd hyn yn cael ei gymeradwyo. Felly, mae'n bwysig cynnwys y swm cywir o TAW wrth wneud cais i ni.

Dylech chi sicrhau bod pob dyfynbris a dderbyniwch yn dangos yn glir a yw TAW wedi'i chynnwys ai beidio.

Costau cam datblygu

Dewiswch y pennyn cost priodol o'r tabl ar y ffurflen gais. Mae'r rhain wedi'u cynnwys isod gyda nodiadau cymorth.

Byddwn yn gofyn i chi adrodd am wariant yn erbyn y penynnau hyn drwy gydol eich prosiect.

Defnyddiwch y pennyn 'Arall' ar gyfer unrhyw gostau nad ydynt yn dod o dan y penynnau cost a restrir.

Am bob pennyn cost, darparwch:

  • ddisgrifiad [Maes testun – 5,000 o nodau]
  • swm y gost
  • swm y TAW

Dewiswch o'r penynnau canlynol

  • staff newydd
  • ffioedd proffesiynol
  • gweithiau/arolygon agor i fyny
  • gweithgarwch adeiladu capasiti
  • recriwtio
  • costau eraill (cam datblygu)
  • Adennill Costau Llawn
  • swm wrth gefn
  • cyfraniadau nad ydynt yn arian parod
  • amser gwirfoddolwyr
Costau staff newydd

Dylid cynnwys costau contractau cyfnod penodol newydd, secondiadau (sef pobl sy'n cael eu trosglwyddo dros dro i'ch sefydliad) a chost staff llawrydd i helpu datblygu eich prosiect. Peidiwch â chynnwys costau talu hyfforddeion yma.

Yn eich taenlen ar wahân, mae'n rhaid i chi ddefnyddio llinell ar wahân ar gyfer pob aelod staff newydd. 

Mae'n rhaid hefyd i chi hysbysebu'n agored unrhyw swyddi staff newydd a gynigir yn eich cais, gyda'r eithriadau a ganlyn:

  • Mae gennych aelod staff â chymwysterau addas ar eich cyflogres yr ydych yn ei symud i swydd ar y prosiect. Mae angen o hyd i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer y swydd hon.
  • Rydych chi'n ymestyn oriau aelod staff â chymwysterau priodol ar eich cyflogres, fel y gall weithio ar y prosiect. Yn yr achos hwn byddwn ni'n ariannu cost yr oriau ychwanegol sy'n cael eu treulio ar y prosiect a bydd angen i chi ddweud wrthyn ni beth yw eu rôl.
  • Os ydych chi'n sefydliad gwirfoddol ac yn cynnwys cyfran o amser staff yn eich cyfrifiad Adennill Costau Llawn.

Os ydych chi'n symud aelod staff presennol i swydd a grëir gan y prosiect, gallwn dalu naill ai am gost yr aelod staff hwn, neu am gost llenwi eu swydd.

Dylai pob cyflog fod yn seiliedig ar ganllawiau'r sector neu swyddi tebyg mewn sefydliadau eraill.

Ffioedd proffesiynol

Dylai ffioedd gydweddu â chanllawiau proffesiynol, er enghraifft, dylai'r rhai ar gyfer RIBA fod yn seiliedig ar fanyleb ysgrifenedig glir

Yn eich taenlen ar wahân, mae'n rhaid i chi ddefnyddio llinell ar wahân ar gyfer pob ymgynghorydd.

Recriwtio

Gall hyn gynnwys treuliau hysbysebu a theithio. Rydyn ni'n disgwyl i'ch sefydliad lynu wrth arfer adnoddau dynol da a dilyn yr holl gyfreithiau perthnasol.

Arall

Dylech gynnwys yr holl gostau eraill rydych yn gwybod amdanynt ar hyn o bryd.

Adennill Costau Llawn

Mwy o wybodaeth am Adennill Costau Llawn.

Swm wrth gefn

Mae'r pennyn cost hwn yn orfodol.

Mae swm wrth gefn yn cael ei ddefnyddio ddim ond i dalu am gostau annisgwyl sy'n angenrheidiol er mwyn er mwyn cyflwyno eich prosiect. Dylech ystyried costau wrth gefn yn ofalus o fewn eich cais. Dylai'r rhain fod yn gymesur â lefel y risg.

Efallai y bydd angen swm wrth gefn uwch os ydych wedi nodi risgiau lefel uchel sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r prosiect neu os oes gennych brosiect arbennig o gymhleth. Gallai hyn gynnwys costau sy'n gysylltiedig ag addasu cyflwyno eich prosiect (er enghraifft, o wyneb yn wyneb i rithwir).

Cofiwch sicrhau eich bod chi'n cynnwys eich swm wrth gefn gofynnol yn unig yma ac nid wedi'i ddosbarthu ar draws y penynnau cost eraill yn y cais.

Dylai'r cyfrifiad o'ch swm wrth gefn angenrheidiol adlewyrchu:

  • i ba radd o sicrwydd yr ydych wedi pennu amcangyfrifon cost eich prosiect
  • pa gam rydych chi wedi'i gyrraedd o ran gwaith dylunio neu ddatblygu
  • amserlen y prosiect ac unrhyw gyfyngiadau megis terfynau amser ne ellir eu symud sy'n gysylltiedig ag ef
  • y risgiau mewn perthynas â'r math o brosiect rydych chi'n ei gyflawni

Fel arfer, rydym yn disgwyl swm wrth gefn mwy yn y cam datblygu nag yn y cyfnod cyflwyno oherwydd y dylai risgiau'r prosiect leihau wrth i chi ddatblygu eich prosiect.

Gellir cyfrifo lefel y swm wrth gefn priodol sydd i'w gynnwys naill ai fel:

  • canran gyffredinol o'ch cost prosiect amcangyfrifedig ac wedi'i meincnodi yn erbyn prosiectau o fath tebyg a gwblhawyd yn ddiweddar er mwyn sicrhau ei fod yn briodol
  • canrannau o symiau wrth gefn gwahanol wedi'u cymhwyso i bob elfen gost fawr o'ch prosiect (er enghraifft, datblygu dylunio, cynllunio a chymeradwyaeth, adeiladwaith os yn berthnasol) gan adlewyrchu'r risgiau a'r cynnydd gwahanol a wnaed yn erbyn yr agweddau hyn ar eich prosiect

Byddwn ond yn cytuno i chi ddefnyddio'r swm wrth gefn os naill ai:

  • y gallwch chi ddangos ei fod yn fesur lliniaru cynlluniedig yn erbyn risg neu fater a nodwyd ar gyfer y prosiect
  • y mae'n ofynnol i fynd i'r afael ag angen annisgwyl o fewn eich prosiect, y bydd yn effeithio ar gwmpas, diben neu amserlenni cyflwyno eich prosiect os nad ymdrinnir ag ef.
Cyfraniad nad yw'n arian parod

Dyma unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect nad oes rhaid i chi dalu amdano (er enghraifft, hurio ystafelloedd neu offer). Gallwn ond derbyn cyfraniadau nad ydynt yn arian parod os ydynt yn gostau prosiect uniongyrchol a allasai fod yn rhan o gyllideb eich prosiect.

Mae'n rhaid cynnwys cyfraniadau nad ydynt yn arian parod yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth y costau hyn a'ch cyfraniad chi.

Amser gwirfoddolwyr

Dyma'r amser y mae gwirfoddolwyr yn ei roi i gefnogi'r gwaith o gyflwyno eich prosiect. Gallai hyn gynnwys gwaith gweinyddol, clirio safle neu weithio fel stiward mewn digwyddiad.

Ni ddylech gynnwys costau am amser pobl a fydd yn cymryd rhan yn eich gweithgareddau (er enghraifft, pobl sy'n mynychu gweithdy neu'n mynd ar daith dywysedig). 

Rydyn ni'n defnyddio cyfradd safonol i gyfrifo gwerth amser eich gwirfoddolwyr:

  • gwirfoddolwr proffesiynol (er enghraifft, cyfrifyddu neu addysgu) – £50 yr awr
  • gwirfoddolwr medrus (er enghraifft, arwain taith dywysedig) – £20 yr awr
  • gwirfoddolwr (er enghraifft, clirio safle neu weithredu fel stiward mewn digwyddiad) – £10 yr awr

Mae'n rhaid cynnwys amser gwirfoddolwyr yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth yr amser hwn a'ch cyfraniad chi.

Costau'r cam cyflwyno

Dewiswch y pennyn cost priodol o'r tabl ar y ffurflen gais. Mae'r rhain wedi'u cynnwys isod gyda nodiadau cymorth.

Defnyddiwch y pennyn 'Arall' ar gyfer unrhyw gostau nad ydynt yn dod o dan y penynnau cost a restrir.

Rydyn ni'n disgwyl i'ch costau cam datblygu fod yn fanwl. Dylai eich costau cam cyflwyno fod yn seiliedig ar eich amcangyfrif gorau.

Am bob cost, darparwch:

  • ddisgrifiad [Maes testun – 5,000 o nodau]
  • swm y gost
  • swm y TAW

Mae costau'r cam cyflwyno wedi'u rhannu'n dair adran:

  • costau cyfalaf
  • costau gweithgareddau
  • costau eraill

Costau cyfalaf

Mae hyn yn cynnwys unrhyw waith cyfalaf ar asedau treftadaeth, yn ogystal â dehongli a chynhyrchu allbynnau digidol.

Mae'r penynnau canlynol ar gael:

  • cost prynu eitemau treftadaeth
  • gwaith cychwynnol (er enghraifft sgaffaldiau, gwaith rhagarweiniol, archaeoleg cyn-adeiladu)
  • gwaith atgyweirio a chadwraeth
  • gwaith adeiladu o'r newydd
  • gwaith cyfalaf arall
  • allbynnau digidol
  • offer a deunyddiau
  • costau eraill 
  • ffioedd proffesiynol
Cost prynu eitemau treftadaeth

Os yw eich prosiect yn ymwneud â phrynu eitem treftadaeth, mae'n rhaid i chi gael prisiad annibynnol i helpu dangos y gellir prynu'r eitem hon am bris realistig. Os ydych chi'n unigolyn preifat neu sefydliad preifat allwch chi ddim gynnwys costau yma.

Gwaith atgyweirio a chadwraeth

Mae hyn yn cynnwys costau gwaith i atgyweirio, adfer neu gadw eitem, adeilad neu safle treftadaeth.

Gwaith adeiladu o'r newydd

Mae hyn ond yn gysylltiedig â gwaith adeiladu o'r newydd (er enghraifft, estyniad i adeilad neu waith i osod arddangosfa). Os ydych chi'n unigolyn preifat neu sefydliad preifat allwch chi ddim gynnwys costau yma. 

Allbynnau digidol

Costau i greu neu gynnal 'allbynnau digidol' am y cyfnod gofynnol - y pethau rydych chi'n eu creu mewn fformat digidol sydd wedi'u dylunio i roi mynediad i dreftadaeth ac/neu i helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu amdani.

Er enghraifft, casgliad o ddelweddau digidol neu ffeiliau sain, adnodd neu arddangosfa dreftadaeth ar-lein neu ap ffôn clyfar.

Offer a deunyddiau, gan gynnwys deunyddiau dysgu

Gallai hyn gynnwys gwisgoedd hanesyddol, hetiau caled i roi mynediad i safle, deunyddiau celf neu daflenni a chyhoeddiadau.

Arall

Defnyddiwch 'arall' am unrhyw gostau nad ydynt yn ffitio o fewn y penynnau cost penodol. Rhowch ddisgrifiad clir o'r costau hyn.

Ffioedd proffesiynol sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r uchod

Mae hyn yn cynnwys unrhyw berson a benodir am gyfnod penodol i helpu gyda chynllunio a chyflwyno gwaith cyfalaf yn eich prosiect. Gallai hyn gynnwys rheolwr prosiect, penseiri neu syrfëwr meintiau.

Costau gweithgareddau

Mae hyn yn cynnwys popeth rydych chi'n bwriadu ei wneud yn eich prosiect nad ydych wedi ymdrin ag ef o dan gostau cyfalaf.

Mae'r penynnau canlynol ar gael:

  • staff newydd
  • hyfforddiant ar gyfer staff
  • lleoliadau hyfforddi â thâl
  • hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr
  • teithio a threuliau ar gyfer staff
  • teithio a threuliau ar gyfer gwirfoddolwyr
  • costau digwyddiadau
  • offer a deunyddiau
  • costau eraill
  • ffioedd proffesiynol 
Costau staff newydd

I gael gwybodaeth am swyddi staff newydd, gweler Costau staff newydd yn yr adran Costau cam datblygu.

Hyfforddiant ar gyfer staff 

Mae hyn yn cynnwys cost yr holl hyfforddwyr ac adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau i helpu staff i feithrin sgiliau newydd neu gynyddu eu sgiliau.

Lleoliadau hyfforddi â thâl

Mae hyn yn cynnwys bwrsariaethau neu daliadau i hyfforddeion, yn ogystal â'r holl adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau i helpu hyfforddeion i ennill sgiliau newydd neu gynyddu eu sgiliau. Mae enghreifftiau'n cynnwys costau achredu, ffioedd hyfforddwyr, offer ac unrhyw ddillad arbenigol.

Hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr

Mae hyn yn cynnwys cost yr holl hyfforddwyr ac adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau i helpu gwirfoddolwyr i feithrin sgiliau newydd neu gynyddu eu sgiliau.

Teithio ar gyfer staff 

Gallai hyn gynnwys costau teithio i safle neu leoliad. Dylai costau teithio mewn car fod yn seiliedig ar 45c y filltir.

Teithio a threuliau ar gyfer gwirfoddolwyr

Gallai hyn gynnwys bwyd, teithio ac unrhyw dreuliau eraill i sicrhau nad yw gwirfoddolwyr ar eu colled. Dylai costau teithio mewn car fod yn seiliedig ar 45c y filltir.

Mae hyn hefyd yn cynnwys prynu a hurio'r holl gerbydau, offer a deunyddiau sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau y mae eich gwirfoddolwyr yn eu cyflwyno yn ystod eich prosiect.

Offer a deunyddiau

Gallai enghreifftiau gynnwys gwisgoedd hanesyddol, hetiau caled i roi mynediad i safle, deunyddiau celf neu daflenni a chyhoeddiadau. Peidiwch â chynnwys deunyddiau sy'n ymwneud â hyfforddiant neu wirfoddolwyr yma.

Arall

Dylid cynnwys unrhyw gostau eraill fel bwyd ar gyfer digwyddiadau, gweithgareddau dysgu neu hurio safleoedd. Rhowch ddisgrifiad clir.

Ffioedd proffesiynol sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r uchod

Mae hyn yn cynnwys unrhyw berson a benodir am ffi sefydlog i helpu gyda chynllunio a chyflwyno gweithgareddau eich prosiect. Gallai hyn gynnwys ymgynghorwyr neu artistiaid a storïwyr.

Costau eraill

Mae'r penynnau canlynol ar gael:

  • recriwtio
  • cyhoeddusrwydd a hyrwyddo
  • gwerthuso
  • arall
  • Adennill Costau Llawn
  • grantiau cymunedol
  • swm wrth gefn
  • chwyddiant
  • costau rheoli a chynnal a chadw cynyddol (uchafswm o bum mlynedd)
  • cyfraniadau nad ydynt yn arian parod
  • amser gwirfoddolwyr
Recriwtio

Mae'n rhaid i chi recriwtio unrhyw reolwr prosiect gan ddefnyddio brîff a phroses ddethol briodol.

Cyhoeddusrwydd a hyrwyddo

Gallwn ni ariannu deunyddiau hyrwyddo sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch prosiect. 

Os byddwn ni'n rhoi grant i chi, mae'n rhaid i chi roi cyhoeddusrwydd i hwn a'i gydnabod fel bod cynifer o bobl â phosib yn gwybod am fuddion arian y Loteri Genedlaethol ym maes treftadaeth. 

Cael gwybod mwy am sut i gydnabod eich grant.

Gwerthuso

Mae'n rhaid i chi werthuso eich prosiect. Gall staff yn eich sefydliad wneud hyn neu, gan ddibynnu ar y raddfa a pha mor gymhleth y mae eich prosiect, efallai y byddwch eisiau cyflogi rhywun i helpu.

Rydyn ni'n argymell cyllidebu ar gyfer gwerthuso yn y ffordd ganlynol fel isafswm:

  • Dylai prosiectau rhwng £250,000 a £1m ganiatáu cyllideb o rhwng 2% a 7% o'u cyfanswm costau prosiect ac ystyried defnyddio gwerthuswyr allanol annibynnol.
  • Dylai prosiectau dros £1m ganiatáu cyllideb o hyd at 7% o gyfanswm costau'r prosiect ac ystyried defnyddio gwerthuswyr allanol annibynnol bob amser. Ni ddylai cyllidebau gwerthuso ar gyfer prosiectau dros £1m fod yn llai na £20,000. Os nad yw costau gwerthuso ar y lefel hon yn briodol ar gyfer eich prosiect, esboniwch pam yn nisgrifiad y pennyn costau.
Arall

Dylid cynnwys unrhyw gostau eraill. Yn eich taenlen ar wahân, dylech gynnwys disgrifiad clir.

Adennill Costau Llawn

Mwy o wybodaeth am Adennill Costau Llawn.

Swm wrth gefn

Efallai y bydd eich swm wrth gefn yn gostwng pan fyddwch chi'n gwneud cais am eich cam cyflwyno gan y dylai risgiau leihau wrth i'ch prosiect ddatblygu.

Chwyddiant

Dylai ceisiadau am ariannu gynnwys costau priodol a fydd yn darparu'n ddigonol am chwyddiant a ragfynegir o ran y gwaith cyfalaf.  

Mae chwyddiant ar gyfer prosiectau adeiladu yn debygol o barhau'n uchel hyd y gellir rhagweld.  Dylai pob prosiect wneud darpariaeth briodol ar gyfer chwyddiant yn seiliedig ar amserlen y prosiect, ynghyd â ffactorau eraill fel y deunyddiau a ddefnyddir, gofynion o ran llafur a lleoliad. 

Gall ymgeiswyr gael mynediad i ddadansoddiadau a rhagamcaniadau ar gyfer costau chwyddiant gan bcis.co.uk ac ymgynghoriaethau, gan gynnwys Gardiner & Theobold Market IntelligenceTurner & Townsend a Rider Levett Bucknall.  

Os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch am arweiniad gan Syrfëwr Meintiau.

Costau rheoli a chynnal a chadw cynyddol (uchafswm o bum mlynedd)

Yn eich taenlen ar wahân, ychwanegwch linellau ar wahân ar gyfer:

  • Costau staff newydd y flwyddyn (enw a chost pob swydd) x nifer y blynyddoedd (uchafswm o bump).
  • Costau cynyddol eraill y flwyddyn x nifer y blynyddoedd (uchafswm o bump).

Bydd costau rheoli a chynnal a chadw cynyddol yn dechrau pan fydd y gwaith cyfalaf wedi'i gwblhau.

Cyfraniadau nad ydynt yn arian parod

Dyma unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect nad oes rhaid i chi dalu amdano (er enghraifft, hurio ystafelloedd neu offer). Gallwn ond derbyn cyfraniadau nad ydynt yn arian parod os ydynt yn gostau prosiect uniongyrchol a allasai fod yn rhan o gyllideb eich prosiect.

Mae'n rhaid cynnwys cyfraniadau nad ydynt yn arian parod yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth y costau hyn a'ch cyfraniad chi.

Amser gwirfoddolwyr

Dyma'r amser y mae gwirfoddolwyr yn ei roi i gefnogi'r gwaith o gyflwyno eich prosiect. Gallai hyn gynnwys gwaith gweinyddol, clirio safle neu weithio fel stiward mewn digwyddiad.

Ni ddylech gynnwys costau am amser pobl a fydd yn cymryd rhan yn eich gweithgareddau (er enghraifft, pobl sy'n mynychu gweithdy neu'n mynd ar daith dywysedig). 

Rydyn ni'n defnyddio cyfradd safonol i gyfrifo gwerth amser eich gwirfoddolwyr:

  • gwirfoddolwr proffesiynol (er enghraifft, cyfrifyddu neu addysgu) – £50 yr awr
  • gwirfoddolwr medrus (er enghraifft, arwain taith dywysedig) – £20 yr awr
  • gwirfoddolwr (er enghraifft, clirio safle neu weithredu fel stiward mewn digwyddiad) – £10 yr awr

Mae'n rhaid cynnwys amser gwirfoddolwyr yn adrannau costau ac incwm eich ffurflen gais. Mae hyn oherwydd ein bod yn cydnabod gwerth yr amser hwn a'ch cyfraniad chi.

Incwm y prosiect

Defnyddiwch y tablau i ddangos i ni unrhyw incwm i'r prosiect o ffynonellau ariannu eraill rydych chi'n disgwyl eu derbyn i'ch helpu i gyflwyno'r prosiect.

Rhowch ddisgrifiad [Maes testun – 5,000 o nodau] a swm ar gyfer pob ffrwd incwm.

Hefyd, ticiwch y blychau i roi gwybod i ni a ydych wedi sicrhau pob eitem, ac a oes gennych dystiolaeth o hyn. Wrth sicrhau rydyn ni'n golygu:

  • arian parod yn eich banc a neilltuir yn benodol ar gyfer y prosiect hwn
  • arian grant sydd wedi'i gynnig yn ffurfiol

Nid oes angen i chi gael yr holl gyfraniadau yn eu lle pan fyddwch chi'n gwneud cais i ni. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi eu cael nhw erbyn i chi fod yn barod i wneud cais am ganiatâd i ddechrau.

Byddwn yn asesu a yw eich disgwyliadau o ran arian gan bartneriaid yn realistig.

Incwm y cam datblygu

Mae'r penynnau canlynol ar gael:

  • awdurdod lleol
  • sector cyhoeddus arall
  • llywodraeth ganolog
  • rhodd breifat – unigolyn
  • rhodd breifat – ymddiriedolaethau/elusennau/sefydliadau
  • rhoddion preifat – corfforaethol
  • masnachol/busnes
  • eich cronfeydd wrth gefn eich hun
  • arian arall a godir
  • benthyciad/cyllid
  • cyfraniadau nad ydynt yn arian parod
  • amser gwirfoddolwyr

Incwm y cam cyflwyno

Mae'r penynnau canlynol ar gael:

  • awdurdod lleol
  • sector cyhoeddus arall
  • llywodraeth ganolog
  • rhodd breifat – unigolyn
  • rhodd breifat – ymddiriedolaethau/elusennau/sefydliadau
  • rhoddion preifat – corfforaethol
  • masnachol/busnes
  • eich cronfeydd wrth gefn eich hun
  • arian arall a godir
  • benthyciad/cyllid
  • costau rheoli a chynnal a chadw cynyddol (uchafswm o bum mlynedd)
  • cyfraniadau nad ydynt yn arian parod
  • amser gwirfoddolwyr

Crynodeb o gostau'r prosiect

Mae'r ffigurau cryno hyn wedi'u cynhyrchu'n awtomatig o'r dadansoddiad o ffigurau rydych yn eu darparu:

  • cyfanswm costau
  • cyfanswm cyfraniad
  • cais am grant
  • canran y grant

Ynglŷn â'ch sefydliad

Dywedwch wrthyn ni am brif ddiben a gweithgareddau rheolaidd eich sefydliad.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon i'n helpu i asesu a yw'r prosiect yr ydych am ymgymryd ag ef yn gweddu'n dda i brif ddiben eich sefydliad a'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni.

  • Disgrifiwch ddiben a nodau eich sefydliad.
  • Disgrifiwch weithgareddau rheolaidd eich sefydliad ac esboniwch sut maen nhw'n cael eu hariannu.
  • Disgrifiwch faint a strwythur staff eich sefydliad, eich corff llywodraethu a'ch sefyllfa ariannol.
  • Dywedwch wrthyn ni faint o staff cyflogedig a gwirfoddolwyr sy'n gweithio i'ch sefydliad.

Faint o bobl y mae eich sefydliad yn eu cyflogi?

[Maes rhifau]

Faint o aelodau bwrdd neu Ymddiriedolwyr sydd gan eich sefydliad?

[Maes rhifau]

Faint wnaeth eich sefydliad wario yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf?

[Maes rhifau]

Pa lefel o gyllid anghyfyngedig sydd yng nghronfa wrth gefn eich sefydliad?

[Maes rhifau]

Ydych chi'n gofrestredig ar gyfer TAW?

Dewiswch un o:

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Dd/B

Rhowch eich rhif TAW.

[Maes rhifau]

Ydych chi'n ystyried cenhadaeth ac amcanion eich sefydliad i fod yn unrhyw un o'r canlynol?

  • wedi'u harwain gan bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig
  • wedi'u harwain gan bobl ag anableddau
  • wedi'u harwain gan bobl LHDTC+
  • wedi'u harwain gan fenywod
  • wedi'u harwain gan bobl ifanc
  • wedi'u harwain yn bennaf gan bobl o gymunedau Catholig
  • wedi'u harwain yn bennaf gan bobl o gymunedau Protestannaidd

Ydy eich sefydliad yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol? Os ydy, rhowch rywfaint o wybodaeth i ni (er enghraifft, dolen Twitter eich sefydliad).

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Llywodraethu

Dywedwch wrthyn ni sut rydych chi'n adolygu'r trefniadau llywodraethu ac uwch reoli sydd ar waith ar gyfer eich treftadaeth.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Dywedwch wrthyn ni: 

  • Pryd y cynhaliwyd yr archwiliad sgiliau diwethaf o Ymddiriedolwr ac Uwch Reolwyr.
  • Pryd y cynhaliwyd yr adolygiad Llywodraethu diwethaf.
  • A yw'r holl argymhellion o'r adolygiad wedi'u gweithredu?

A ydych chi'n bwriadu cynnal adolygiad llywodraethu er mwyn sicrhau bod gennych yr arbenigedd cywir i gyflwyno ac yna cynnal eich prosiect y tu hwnt i gyfnod eich arian grant? Ticiwch os ydw.

[Blwch ticio]

Pryd ydych chi'n bwriadu cynnal yr adolygiad hwn?

[Maes testun – 5,000 o nodau]

  • Faint o aelodau bwrdd neu Ymddiriedolwyr sydd gan eich sefydliad?
  • Faint wnaeth eich sefydliad wario yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf?
  • Pa lefel o gyllid anghyfyngedig sydd yng nghronfa wrth gefn eich sefydliad?
  • Oes gennych chi bolisi cyllid wrth gefn? Mae'n bosib y byddwn ni eisiau gweld hyn.

Dogfennau cefnogol

Cyn i ni asesu eich cais, mae angen i ni weld eich dogfennau cefnogol.

Dewiswch enw ffeil clir a disgrifiadol ar gyfer pob dogfen gefnogol fel y gallwn ni nodi pob un yn hawdd.

Y mathau o ffeiliau a gefnogir: .jpg, .doc, .docx, .pdf, .xls, .xlsx, .ppt, .pptx

[Uwchlwytho ffeiliau]

Isod mae'r rhestr o ddogfennau cefnogol sy'n berthnasol i'r rhaglen grantiau hon. Peidiwch â chyflwyno unrhyw ddogfennau yn ychwanegol at y rhai y gofynnir amdanynt.

Mae'n rhaid i ni dderbyn yr holl ddogfennau cefnogol, waeth p'un a ydynt ar ffurf ddigidol neu gopi caled, erbyn y terfyn amser ymgeisio a gyhoeddwyd.

Byddwn ni ddim yn dechrau asesu eich cais hyd nes eich bod yn cyflwyno'r holl ddogfennau cefnogol perthnasol.

Rhestr o ddogfennau cefnogol

  1. Amserlen ar gyfer y cam datblygu: amserlen fanwl ar gyfer cam datblygu eich prosiect.
  2. Risgiau ar gyfer y cam datblygu: dogfen sy'n dweud wrthyn ni beth yw'r risgiau i gam datblygu eich prosiect a sut y byddant yn cael eu rheoli.
  3. Amserlen ar gyfer y cam cyflwyno: amserlen gryno ar gyfer cam cyflwyno eich prosiect.
  4. Risgiau ar gyfer y cam cyflwyno: dogfen sy'n dweud wrthyn ni beth yw'r risgiau i gam cyflwyno eich prosiect a sut y byddant yn cael eu rheoli.
  5. Dogfen prif risgiau ar ôl cwblhau'r prosiect: Dogfen sy'n dweud wrthyn ni beth yw'r prif risgiau sy'n wynebu'r prosiect ar ôl iddo gael ei gwblhau a sut y byddant yn cael eu rheoli.
  6. Dogfen lywodraethu neu gyfansoddiad: does dim angen i chi uwchlwytho eich dogfen lywodraethu os ydych chi'n sefydliad cyhoeddus, er enghraifft awdurdod lleol, neu sefydliad masnachol.
  7. Cyfrifon: Eich cyfrifon diweddaraf wedi'u harchwilio neu eu dilysu gan gyfrifydd ar gyfer y tair blynedd diwethaf. Hoffen ni weld eich cyfrifon rheoli ar gyfer y tair blynedd diwethaf hefyd. Os ydych chi'n sefydliad newydd ac nid oes gennych chi set o gyfrifon wedi'u harchwilio, gallwch ddarparu eich tair cyfriflen banc ddiwethaf, neu lythyr gan eich banc yn cadarnhau eich bod wedi agor cyfrif. Does dim angen i chi uwchlwytho eich cyfrifon os ydych chi'n sefydliad cyhoeddus - er enghraifft, awdurdod lleol.
  8. Dadansoddiad manwl o gostau: taenlen sy'n rhoi manylder y dadansoddiad o gostau yn adran Costau'r prosiect y cais. Mae'r ddogfen hon yn orfodol ar gyfer pob ymgeisydd.
  9. Cytundebau partneriaeth: hoffen ni weld eich cytundeb partneriaeth os ydych chi'n bwriadu gweithio gyda sefydliad arall i wneud eich prosiect. Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r ddau bartner a dylai pob parti ei lofnodi. Dylai'r cytundeb hwn adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosib y bydd angen i chi ofyn am gyngor annibynnol. Does dim angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth oni bai bod sefydliad arall yn cyflwyno rhan sylweddol o'ch prosiect.
  10. Disgrifiadau swydd:os ydych chi'n bwriadu recriwtio aelod newydd o staff i helpu cyflwyno eich prosiect, gan gynnwys prentis, cyflwynwch ddisgrifiad swydd ar gyfer y swydd honno. Mae angen i chi ddarparu disgrifiadau swydd hefyd os oes gennych chi aelod o staff sydd â chymwysterau addas yr ydych yn ei symud i swydd yn y prosiect.
  11. Briffiau ar gyfer gwaith sydd wedi'i gomisiynu'n fewnol neu'n allanol: Mae briffiau'n disgrifio unrhyw waith rydych chi'n bwriadu ei gomisiynu yn ystod cam datblygu eich prosiect. Os ydych chi'n comisiynu gwaith, er enghraifft, gan artist neu bensaer, dylech chi ddarparu brîff. Dylai'r brîff ddisgrifio'r gwaith, faint y bydd yn ei gymryd, a faint y bydd yn ei gostio. Templed o frîff ar gyfer gwaith a gomisiynir. Ar gyfer ffioedd dros £10,000 dylech chi geisio 3 thendr neu ddyfynbris cystadleuol. Ar gyfer ffioedd dros £50,000 byddwn yn disgwyl i chi ddarparu prawf o'r broses dendro gystadleuol.
  12. Delweddau: os yn berthnasol, darparwch ddelweddau sy'n helpu i ddangos eich prosiect i ni. Er enghraifft, os mai archif ffotograffiaeth leol yw ffocws eich prosiect, uwchlwythwch ddelweddau o'r casgliad. Neu os yw eich prosiect yn ymwneud â gardd gymunedol, uwchlwythwch fap. Os ydych chi eisiau gwella tirwedd neu ardal gadwraeth, uwchlwythwch fap o'r ardal yn dangos lleoliadau'r holl brosiectau y byddwch yn eu cyflwyno.
  13. Llythyron o gefnogaeth: Mae llythyron o gefnogaeth yn ffordd o ddangos eich bod wedi siarad â phobl eraill a bod ganddynt ddiddordeb yn eich prosiect ac wedi ymrwymo i'ch prosiect. Uwchlwythwch hyd at chwe llythyr o gefnogaeth gan y bobl sy'n ymwneud â'ch prosiect. Er enghraifft, os ydych chi'n bwriadu cyflwyno gweithdai mewn clybiau ieuenctid lleol, yna bydd llythyr o gefnogaeth yn dangos i ni eu bod nhw eisiau cymryd rhan. Os yn bosib, dylai llythyron fod ar bapur swyddogol neu'n dangos llofnod a dyddiad.
  14. Cyfrifiadau o adennill costau llawn sydd wedi'u cynnwys yn eich costau cam datblygu: Os ydych chi wedi cynnwys Adennill Costau Llawn, uwchlwythwch ddogfennau i ddweud wrthyn ni sut rydych wedi cyfrifo'r gyfran sy'n gysylltiedig â'ch prosiect.
  15. Cynllun busnes: os nad oes gennych chi gynllun busnes, uwchlwythwch y ddogfen gynllunio rydych yn ei defnyddio i reoli eich treftadaeth. Os ydych chi'n sefydliad sy'n rheoli nifer o safleoedd neu, er enghraifft, yn awdurdod lleol, uwchlwythwch y dogfennau cynllunio sydd fwyaf perthnasol i'r dreftadaeth.
  16. Arolwg cyflwr: os yw eich prosiect yn ymwneud â chadwraeth treftadaeth, mae'n rhaid i chi ddarparu arolwg cyflwr neu ddogfen briodol arall megis cynllun cadwraeth drafft neu amlinellol. Dylai hyn ddweud wrthyn ni beth yw cyflwr presennol y dreftadaeth a'r gwaith sydd angen ei wneud i ddychwelyd y dreftadaeth i gyflwr da. Er enghraifft, os ydych chi'n bwriadu gwneud gwaith cadwraeth ar gofeb ryfel leol, bydd angen i chi wybod beth yw'r cyflwr presennol a pha waith atgyweirio sydd angen ei wneud. Dylai'r arolwg neu'r adroddiad hefyd nodi blaenoriaeth gymharol y gwaith a awgrymir, gan gynnwys pa waith sydd fwyaf critigol, y mae angen ymdrin ag ef yn fwyaf brys.
  17. Dogfennau perchnogaeth: os ydych chi'n cynllunio unrhyw waith cyfalaf, neu'n bwriadu prynu tir, adeiladau neu gasgliadau, darparwch gopïau o unrhyw ddogfennau perchnogaeth berthnasol. Er enghraifft, dogfennau perchnogaeth y Gofrestrfa Tir, neu brydles neu benynnau telerau.
  18. Dogfennau cefnogol ar gyfer Menter Treftadaeth: os ydych chi'n gwneud cais Menter Treftadaeth, gallech chi uwchlwytho:
  • Arfarniad dichonoldeb sy'n darparu asesiad rhesymol o'r diffyg cadwraeth.
  • Manyleb ddylunio ar gyfer unrhyw waith cyfalaf sydd i'w wneud yn ystod y cam datblygu.
  • Dwy neu dair o'r dogfennau mwyaf diweddar a pherthnasol sy'n disgrifio'r weledigaeth a'r strategaeth ar gyfer yr ardal, os yn berthnasol. Er enghraifft, dogfennau o'r fframwaith datblygu lleol, cynllun gweithredu ardal, cynllun meistr, strategaeth adfywio neu strategaeth dwristiaeth.

Datganiad

a) Telerau grant

Mae'n rhaid i chi ddarllen y telerau grant safonol ar gyfer y rhaglen hon ar ein gwefan. Trwy gwblhau'r Datganiad hwn, rydych chi'n cadarnhau bod eich sefydliad yn derbyn y telerau hyn. Ar gyfer prosiectau partneriaeth, mae'n rhaid i'r holl bartneriaid gadarnhau eu bod nhw'n derbyn y telerau grant safonol drwy ychwanegu enw cyswllt ar ddiwedd y datganiad.

Telerau Grant Cam Datblygu Safonol - £250,000 i £10million

b) Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data

Rydyn ni'n ymroddedig i fod mor agored â phosib. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynglŷn â sut rydyn ni'n asesu ac yn gwneud penderfyniadau ar ein grantiau a sut y byddwn ni'n defnyddio eich ffurflen gais a'r dogfennau eraill rydych chi'n eu rhoi i ni. Fel sefydliad cyhoeddus mae'n rhaid i ni ddilyn yr holl gyfreithiau a rheoliadau diogelu data, gan gynnwys cyfarwyddebau a rheoliadau Senedd Ewrop sy'n berthnasol ac mewn grym o bryd i'w gilydd (y 'ddeddfwriaeth Diogelu Data'). Fel y diffinnir gan y ddeddfwriaeth Diogelu Data mae Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (sy'n gweinyddu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) yn rheolydd data.

Fel rhan o'r broses ymgeisio byddwn ni'n casglu eich enw a'ch swydd yn y sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli. Efallai y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth hon gydag un o'r ymgynghorwyr ar ein Cofrestr Gwasanaethau Cefnogi os byddant yn cael eu penodi i roi cefnogaeth i chi ar eich prosiect. Dydyn ni ddim yn trosglwyddo data i unrhyw drydydd partïon sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r UE. Mae ein Polisi Preifatrwydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol gan gynnwys gwybodaeth gyswllt ein Swyddog Diogelu Data. Gellir dod o hyd iddo ar wefan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Pan fyddwch chi'n cwblhau'r Datganiad ar ddiwedd y ffurflen gais, rydych chi'n cadarnhau eich bod chi'n deall ein cyfrifoldebau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth diogelu data a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac nad oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad i ni ryddhau adrannau Ynglŷn â’ch prosiect a Cefnogaeth dros eich prosiect y ffurflen gais i unrhyw un sy'n gofyn am weld nhw ar ôl i'ch cais gwblhau'r broses asesu. Os oes unrhyw wybodaeth yn y rhannau hyn o'r ffurflen nad ydych chi eisiau iddyn nhw fod ar gael yn gyhoeddus, gofynnir i chi esbonio eich rhesymau isod.

[Maes testun – 5,000 o nodau]

Byddwn ni'n cymryd y rhain i ystyriaeth pan fyddwn ni'n ymateb i unrhyw gais am fynediad i'r adrannau hynny. Efallai y bydd gofyn i ni ryddhau gwybodaeth arall yr ydych yn ei darparu i ni. Byddwn ni'n ymateb i'r ceisiadau hyn ar ôl cymryd eich hawliau a'ch disgwyliadau o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data i ystyriaeth. Yn yr achosion hynny, byddwn ni bob amser yn ymgynghori â chi'n gyntaf. Byddwn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydych yn ei ddioddef o ganlyniad i ni fodloni'r cyfrifoldebau hyn.

  • Penderfynu a fyddwn ni'n rhoi grant i chi.
  • Darparu copïau i unigolion neu sefydliadau eraill sy'n helpu ni i asesu, monitro a gwerthuso grantiau.
  • Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda ni sydd â diddordeb dilys mewn ceisiadau a grantiau'r Loteri Genedlaethol neu raglenni ariannu penodol.
  • Cadw mewn cronfa ddata a defnyddio at ddibenion ystadegol.
  • Os byddwn ni'n cynnig grant i chi, byddwn ni'n cyhoeddi gwybodaeth amdanoch chi sy'n ymwneud â'r gweithgaredd rydym wedi'i ariannu, gan gynnwys swm y grant a'r gweithgaredd yr oedd i dalu amdano. Efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn ein datganiadau i'r wasg, yn ein cyhoeddiadau printiedig ac ar-lein, ac yng nghyhoeddiadau neu ar wefannau adrannau llywodraeth perthnasol ac unrhyw sefydliadau partner sydd wedi ariannu'r gweithgaredd gyda ni.
  • Os byddwn ni'n cynnig grant i chi, byddwch chi'n cefnogi ein gwaith o ddangos gwerth treftadaeth drwy gyfrannu (pan ofynnir i chi) at weithgareddau cyhoeddusrwydd yn ystod y cyfnod y byddwn yn darparu ariannu ar ei gyfer a chymryd rhan mewn gweithgareddau i rannu dysgu, y byddwn o bosib yn cysylltu grantïon eraill â chi i wneud hynny.

Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith y Gronfa Treftadaeth.

  • Cadarnhaf fod y sefydliad sydd wedi'i enwi ar y cais hwn wedi rhoi'r awdurdod i mi gwblhau'r cais hwn ar ei ran.
  • Cadarnhaf fod y gweithgaredd yn y cais yn dod o dan ddibenion a phwerau cyfreithiol y sefydliad.
  • Cadarnhaf fod gan y sefydliad y pŵer i dderbyn y grant ac i'w dalu'n ôl.
  • Cadarnhaf, os bydd y sefydliad yn derbyn grant, y byddwn ni'n glynu wrth y telerau grant safonol, ac unrhyw delerau neu amodau pellach fel y nodir yn y llythyr hysbysiad o grant, neu mewn unrhyw gontract a baratoir yn benodol ar gyfer y prosiect.
  • Cadarnhaf fod yr wybodaeth yn y cais hwn yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth.

Ticiwch y blwch hwn os ydych chi'n cytuno â'r datganiad.

[Blwch ticio]

Ticiwch y blwch hwn os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn ymchwil.

[Blwch ticio]

Ticiwch y blwch os hoffech chi gael eich hysbysu am ein gwaith.

[Blwch ticio]


Diweddariadau tudalen

Byddwn ni'n adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydyn ni'n cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn ni'n cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosib trwy'r dudalen we hon.