Gwasanaeth cwsmeriaid
Ein gwasanaeth i gwsmeriaid
Mae ein siarter gwasanaethau cwsmeriaid yn nodi'r gwasanaeth y gallwch ddisgwyl ei gael gan ddosbarthwr Loteri Genedlaethol.
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella ein gwasanaethau. Cysylltwch â ni a rhowch wybod i ni beth rydych chi'n ei feddwl - beth rydym yn ei wneud yn dda a beth allwn ni ei wneud yn well.
Fformatau hygyrch
Rydym yn ymrwymo i fod yn agored ac yn hygyrch, ac rydym am sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch i bawb.
Os oes angen help arnoch i wneud cais neu i gael gafael ar ein gwasanaethau a'n gwybodaeth, cysylltwch â ni am wybodaeth am y math o gymorth y gallwn ei ddarparu.
Mynegi pryder
Os oes gennych bryder am sefydliad sydd wedi gwneud cais i ni, neu wedi derbyn arian gennym, cysylltwch â'r tîm gwybodaeth i gwsmeriaid. Fel ceidwaid arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a chyllid cymorth grant, byddwn bob amser yn cymryd eich pryderon o ddifrif, ac mae gennym brosesau i sicrhau y gallwn ni ymchwilio iddyn nhw.
Cwyno
Ceisiwn gynnig gwasanaeth cwsmeriaid o'r safon uchaf posibl, ond rydym yn ymwybodol y gall pethau fynd o chwith weithiau.
Os ydych yn anhapus neu'n anfodlon â'ch cyswllt â ni, cais grant yr ydych wedi'i wneud neu grant a ddyfarnwyd i chi gennym ni neu CGDG, cysylltwch â'r swyddfa y gwnaethoch ymdrin â hi yn gyntaf a fydd yn ceisio cywiro pethau.
Os nad ydych yn siŵr â phwy i siarad, neu os nad ydych am siarad â'r person sy'n gysylltiedig â'ch cwyn, cysylltwch â'r tîm Gwybodaeth i Gwsmeriaid.
Ni fydd gwneud cwyn yn effeithio ar lefel y gwasanaeth a dderbyniwch oddi wrthym mewn unrhyw ffordd.
Fel rhan o'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth agored a thryloyw, rydym yn cyhoeddi adroddiadau a wnaed gan yr Adolygydd Cwynion Annibynnol (ICR) ar gwynion cam tri ar ein gwefan, ond dim ond gyda'ch caniatâd chi y byddwn yn gwneud hyn. Rydym hefyd yn cyhoeddi ein hymateb i argymhelliad yr ICR.
Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn yn:
Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
Cysylltu â’n staff
Rydym yn ymrwymo i ymddwyn mewn modd proffesiynol a chwrtais wrth wneud ein gwaith, boed hynny'n bersonol, ar y ffôn, neu drwy ohebiaeth ysgrifenedig gyda chi.
Mae gennym hawl gweithredu’n busnes mewn modd ddiogel a heb rwystr na bygythiad o gam-drin neu niwed corfforol. Os bydd ymddygiad o'r fath yn destun i aelod o’n staff, mae gennym yr hawl i roi'r gorau i'r alwad ffôn neu gyfarfod.
Wrth wneud penderfyniadau ynghylch camau gweithredu priodol, bydd buddiannau'r cwsmer yn cael eu cydbwyso yn erbyn yr effaith y mae ei ymddygiad yn ei gael ar ein staff, defnyddwyr gwasanaeth eraill a'r defnydd effeithlon o adnoddau.
Dysgwch fwy am ein polisi ar ddelio ag ymddygiad annerbyniol yma.
Rhybudd twyll
A oes rhywun wedi dweud wrthych y gallwch dderbyn arian gennym ni? Dim ond mewn ymateb i geisiadau grant y mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (Cronfa Treftadaeth y Loteri gynt) yn rhoi arian. Nid ydym yn gweithredu'r loteri, yn dyfarnu gwobrau nac yn dosbarthu arian mewn unrhyw ffordd arall.
Y diweddaraf am coronafeirws (COVID-19)
Rydym yn agored i fusnes, ond yn gweithio gartref yn bennaf. Anfonwch bob gohebiaeth yn electronig a pharhau i e-bostio ein staff lle rydych yn gweithio gyda nhw'n uniongyrchol.
Os oes angen cyngor neu arweiniad pellach arnoch, gellir cysylltu â'n timau o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am‒5pm.
Cysylltu
Gallwch gysylltu â’r tîm gwybodaeth cwsmeriaid drwy:
Rhif Ffôn: 029 2034 3413 (Cymraeg) \ 020 7591 6044 (Saesneg)
E-bost: cymru @heritagefund.org.uk (Cymraeg) \ enquire@heritagefund.org.uk (Saesneg)
Ffôn testun (drwy Relay UK) neu ap Relay UK: 18001 a 020 7591 6044