Mynegi pryder
Beth allwn ni ei ystyried drwy'r broses yma?
Gallwch fynegi pryder am:
- cais cyfredol am gyllid
- prosiect sy'n cael ei gynnal
- achos honedig o dorri telerau ac amodau ein grant
Os ydych yn codi pryderon am benderfyniad yr ydym wedi'i wneud i ariannu ymgeisydd, byddwn yn adolygu'r wybodaeth a ddarperir gennych ac a fyddai wedi effeithio ar ein penderfyniad.
Nodwch:
- Ni allwn gynnal trafodaeth am unrhyw anghytundeb a gewch gyda phenderfyniad ariannu penodol oni bai ei fod yn golygu torri telerau ac amodau'r cyllid.
- Ni allwn gymryd rhan mewn unrhyw anghytundeb personol sydd gennych â derbynnydd grant penodol. Os yw eich pryder yn anghytundeb personol dylech gyfeirio hyn at y sefydliad dan sylw.
- Er y gallwn gymryd camau i ymchwilio i achosion o dorri cytundeb ariannu, ni allwn orfodi'r gyfraith. Os yw eich pryder yn ymwneud ag achos honedig o dorri'r gyfraith, er enghraifft twyll, dylech roi gwybod am hyn i'n hadran Gyllid.
Anfonwch e-bost at: enquire@heritagefund.org.uk neu rhowch wybod i’r heddlu
Mynegi pryder
Os hoffech fynegi pryder, cysylltwch â'r tîm Gwybodaeth i Gwsmeriaid drwy:
E-bost: walescontact@heritagefund.org.uk
Ffôn: 029 2034 3413
Os ydych yn profi neu'n rhagweld unrhyw rwystrau i fynegi pryder, neu os oes angen gwybodaeth mewn ieithoedd eraill, neu mewn fformat arall, cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am y math o gymorth y gallwn ei ddarparu.
Ymateb i’ch pryderon
Byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 10 diwrnod gwaith os ydym yn bwriadu ymchwilio i'ch pryder. Unwaith y byddwn wedi ymchwilio i'ch pryder, byddwn yn dweud wrthych a fyddwn yn cymryd unrhyw gamau o ganlyniad i hynny.
Yr hawl i gyfrinachedd
Fel rhan o adolygiad o'ch pryder efallai y bydd angen i ni gysylltu â'r sefydliad yr ydym wedi ei ariannu. Os gwnawn hyn byddwn yn parchu eich anhysbysrwydd ac yn anrhydeddu unrhyw geisiadau penodol a wnewch o ran cyfrinachedd.
Yn yr un modd, os ydych yn gweithio i'r sefydliad yr ydych yn mynegi pryder yn ei gylch, neu'n gyswllt a enwir ar gais am grant i ni, ac yr hoffech i ni gadw eich manylion yn gyfrinachol, rhowch wybod i ni ar yr adeg pan fyddwch yn dweud eich pryderon wrthym. Bydd eich cais yn cael ei barchu.
Os byddwn yn derbyn gwybodaeth sy'n awgrymu y gallai pobl fod mewn perygl, efallai y bydd angen i ni rannu'r wybodaeth hon gyda'r heddlu neu awdurdodau priodol eraill. Yn yr achosion hyn, byddem yn dal i gymryd camau i gadw eich cyfrinachedd.