Tân arni i Reilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru

Tân arni i Reilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru

Steam train with slag heaps
Mae atyniad twristaidd mwyaf yng ngogledd Cymru wedi derbyn nawdd o £3.1 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i adfer adeiladau gan gynnwys Gwaith Boston Lodge. Mae Gwaith Boston Lodge yn y Guinness Book of Records fel y 'gweithdy rheilffordd hynaf mewn gweithrediad parhaus'.

Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn rhoi hwb i gynlluniau'r rheilffyrdd i ddenu hyd at 250,000 o ymwelwyr y flwyddyn a chreu gwaith a cyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli i gymuned Porthmadog.

A train about to leave the stationTrên Rheilffyrdd Ffestiniog / Ucheldir Cymru mewn gorsaf. Credyd: Chris Parry

Safle Treftadaeth y Byd UNESCO

Wedi'i adeiladu rhwng 1833 a 1836, roedd Rheilffordd Ffestiniog yn cario llechi o fwyngloddiau llechi Blaenau Ffestiniog i borthladd ym Mhorthmadog a'u cludo ar draws y byd.

Cariodd Rheilffordd Ffestiniog ei llwyth olaf yn 1946 ac yn 1954 dechreuodd gwirfoddolwyr ddod ag ef a Gwaith Boston Lodge yn ôl yn fyw.

Daeth Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru ym mis Gorffennaf 2021.

Rhannu ein straeon gyda chenedlaethau'r dyfodol

Bydd y prosiect yn casglu nifer o straeon y rheilffordd yn cael eu casglu a'u rhannu gan staff a gwirfoddolwyr, ynghyd â dehongli digidol a bydd teithiau o Boston Lodge yn rhoi cyfle i bobl weld y tu ôl i'r llenni a deall y rheilffordd a'i hanes yn well.

Caiff sgiliau a gwybodaeth ymarferol eu trosglwyddo trwy hyfforddiant, lleoliadau gwaith, allgymorth a hyfforddeiaethau.

Mae'r prosiect hwn s yn enghraifft wych o sut y gall treftadaeth ein helpu i ddeall pwy ydym ni ac o ble rydym yn dod. 

Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru

Atyniad o ansawdd uchel o'r radd flaenaf

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y buddsoddiad hwn o £3.1 miliwn yn caniatáu i Reilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru – atyniad gwirioneddol o'r radd flaenaf, o ansawdd uchel, ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i'r gymuned leol a rhoi hwb i economi gogledd orllewin Cymru drwy ddod â 50,000 o ymwelwyr ychwanegol i'r ardal bob blwyddyn.

"Yn ogystal â'r manteision economaidd a chyflogaeth niferus o Reilffyrdd Ffestiniog a Chymru, mae'r prosiect hwn sy'n canolbwyntio ar waith Boston Lodge yn enghraifft wych o sut y gall treftadaeth ein helpu i ddeall pwy ydym ni ac o ble rydym yn dod a sut mae'r cymunedau yr ydym yn rhan ohonynt wedi'u llunio gan y gorffennol drwy ddod â hanes yn fyw."
 

The Boston Lodge Works engine shed in 1887Sied Gwaith Boston Lodge yn 1887

Rhagor o wybodaeth

Rydym wedi dosbarthu dros £420m i fwy na 3,000 o brosictau yng Nghymru ers 1994. Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf am ein prosiectau a cynlluniau grant:

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...