Hwb i fioamrywiaeth mewn gorsafoedd trên yng Nghymru

Hwb i fioamrywiaeth mewn gorsafoedd trên yng Nghymru

Un o drennau Trafnidiaeth Cymru
Un o drennau Trafnidiaeth Cymru
Bydd teithwyr trên yn Ne Ddwyrain a Gogledd Cymru yn cael blâs o fyd natur diolch i nawdd o £100,000.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn grant o £100,000 o’r cynllun Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i hybu bioamrywiaeth mewn ac o amgylch gorsfaoedd trên.

Mi fydd waliau a thoeon gwyrdd, bocsys plannu, basgedi crog, coed a chasgenni dŵr yn cael eu cyflwynno mewn hyd at 22 o orsafoedd lle mae gwaith i wella cyfleusterau yn cymryd lle. 

Cychod gwenyn, tai adar a bocsys ystlumod

Bydd y cwmni hefyd yn ychwanegu cychod gwenyn, tai adar, bocsys i ystlumod, gwestai i bryfed, tai draenogod a thai buchod coch cwta er mwyn helpu bywyd gwyllt i ffynnu. 

“Rydm yn hynod falch o dderbyn y nawdd hwn ac mi fydd yn ein caniatau i gydweithio gyda phartneriaid cymundeol i wella bioamrywiaeth lleol o amgylch ein gorsafoedd trên”. Gareth Morgan, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwedd, Trafnidiaeth Cymru 

Partneriaethau cymunedol 

Mi fydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda phump partnerieth gymunedol i annog anifeiliaid a phlanhigion gwyllt i ffynnu a mi fydd gorsafoedd yn yr ardaloedd awdurdod lleol canlynol yn cymryd rhan – Caerffili, Caerdydd, Conwy, Sîr Ddinbych, Sîr y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudfil, Sîr Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Tâf a Wrecsam.

Gwella bioamrywiaeth o amgylch gorsafoedd trên

Planting box on railway platformBocsys plannu ar blatfform gorsaf  

Meddai Gareth Morgan, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwedd, Trafnidiaeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i leihau’r effaith y bydd gwaith ar ein rhwydwaith yn ei gael ar fioamrywiaeth lleol yn ystod y blynyddoedd i ddod. Rydm yn hynod falch o dderbyn y nawdd hwn ac mi fydd yn ein caniatau i gydweithio gyda phartneriaid cymundeol i wella bioamrywiaeth lleol o amgylch ein gorsafoedd trên.”

“Byddwn yn galw ar y wybodaeth, sgiliau a’r profiad sydd gan ganolfannau cymunedol, ysgolion, prosiectau sydd yn cael eu harwain gan gymunedau a grwpiau sydd yn cynrychioli nodweddion gwarchodedig, a bydd hyn yn allweddol i’n cydlwyddiant ac yn cael effaith arwyddocaol ar fflora a ffawna lleol”.

Hyrwyddo iechyd meddyliol a chorfforol 

Volunteers with a planterGwirfoddolwyr hefo bocs plannu 

Elusen yn Nhonypandy yw’r Cambrian Village Trust sydd yn darparu gweithgareddau yn yr awyr agored er lles iechyd meddyiol a chorfforol a mae’n un o’r grwpiau y bydd yn cydweithio gyda Trafnidiaeth Cymru.

Meddai Gavin McAuley, Trefnydd Gweithgareddau Awyr Agored: “Rydym wedi bwriadu creu man er mwyn tyfu planhigion, ffrwythau a llysiau a gweithio gyda’r gymuned leol i ofalu amdano ers cryn amser. Rydym hefyd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i gadw a chynnal y parc ac i warchod fflora a ffawna a’n gobaith ydi y bydd gennym grwpiau yn y pendraw y byddant yn darparu cynnyrch ffres i’r gymuned leol.”

Grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur mwy hael

Rydym yn cynnig grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur o £10,000 - £100,000 i brosiectau cyfalaf i gaffael, adfer a gwella natur mewn ardaloedd di-freintiedig.

Mae nifer cyfyngedig o grantiau £100,000 - £250,000 ar gael hefyd ar gyfer prosiectau natur mewn ardaleodd trefol neu rai sydd ar y ffin ag ardaloedd trefol mewn ardaloedd o ddifreintiaeth uchel.

Darganfyddwch fwy am y grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...