Natur yn ffynnu ym Mhen-Bre diolch i grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Natur yn ffynnu ym Mhen-Bre diolch i grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Community growing area with sheds, signpost, path and planting areas
Bydd £50,000 yn trawsnewid hen barciau chwarae i mewn i lefydd agored er budd natur, bywyd gwyllt a’r gymuned leol ym Mhen-Bre yn ne Cymru.

Mae Cyngor Tref Pem-Bre a Phorth Tywyn wedi derbyn grant o £50,000 gan y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sydd yn cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mi fydd y rhodd yn helpu i greu lloches parhaol ar gyfer bywyd gwyllt ac yn annog bio-amrywiaeth mewn ardal drefol breswyl.

“Natur yw ein hased mwyaf, ond mae o dan fygythiad. Mae’r cynllun grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cynning grantiau i gynlluniau cyfalaf yng Nghymru ar gyfer caffael, adfer a gwella natur.” 
Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftdaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru

Mae Prosiect Amgylchedd Pen-Bre a Phort Tywyn yn datbygu pedwar hen barc chwarae ym Mhorth Tywyn i mewn i ardd synhwyraidd, perllan, ardal dyfu gymunedol a pharc eco.

Bydd y lleoliadau yn rhoi hwb i iechyd meddwl pobl leol ac yn denu peillwyr megis adar, gwenynod a mamaliaid bychan a rhoi cyfle i blant gael profiad o natur a dysgu am yr amgylchedd.

Datblygu hen barciau chwarae

Meddai Louise Robinson, Swyddog Datblygu Cymunedol Cyngor Tref Pen-Bre a Phorth Tywyn:

“Rwyf wrth fy modd fod y prosiect yma yn cymryd lle gan ei fod yn darparu’r rhyddhad a’r gobaith sydd ei angen ar gymuned Pen-Bre a Porth Tywyn yn ystod y pandemig COVID-19.

“Mae gan Pen-Bre a Phorth Tywyn – fel nifer o ardaloedd eraill, ambell i hen barc chwarae y’i hetifeddwyd gan y cyngor trwy drosglwyddiad asedion. Bydd y parciau nawr yn cael eu defnyddio mewn modd mwy cynhyrchiol a bydd hynny o les i’r gymuned.

“Yn ogystal, mae tipyn o drigolion lleol yn gwirfoddoli ar y safleoedd a maent wedi eu gwirioni gyda’r prosiect, ac wrth gwrs oherwydd cyfyngiadau presennol, rydym yn ei reoli yn ofalus iawn. Mae gan yr ysgolion lleol i gyd gysylltiad gyda’r safleoedd a mae’r plant wedi bod yn helpu i’w cynllunio.” 

 

A stone house overlooks a meadow with flowers
Bydd gardd synhwyraidd yn Nhan y Parc

Natur yw ein hased mwyaf 

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftdaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

“Natur yw ein hased mwyaf, ond mae o dan fygythiad. Mae’r cynllun grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cynning grantiau i gynlluniau cyfalaf yng Nghymru ar gyfer caffael, adfer a gwella natur. 

“Mae’r datblygiad hwn wedi rhoi cyfle i dreftdaeth naturiol Porth Tywyn ffynnu a denu bywyd gwyllt fel peillwyr yn ôl i’r ardal a mae hyn o fudd i’r amgylchedd a chynefinoedd lleol. Mae creu a chadw balans fel hyn yn gwella ansawdd yr awyr a chyflwr y pridd.”

Grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur mwy hael

Rydym nawr yn gallu cynnig grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur mwy hael gyda nawdd o £10,000 - £100,000 ar gael i ganitau prosiectau cyfalaf yng Nghymru i gaffael, adfer a gwella natur mewn ardaloedd di-freintiedig.

Mae nifer cyfyngedig o grantiau £100,000 - £250,000 ar gael hefyd ar gyfer prosiectau natur mewn ardaleodd trefol neu rai sydd ar y ffin ag ardaloedd trefol mewn ardaloedd o ddifreintiaeth uchel.

Darganfyddwch fwy am y grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...