Grantiau cymunedol yn rhoi hwb i lesiant ledled Cymru

Grantiau cymunedol yn rhoi hwb i lesiant ledled Cymru

People chat round a campfire in woodland
Siarad o amgylch y tân yng Nghlynfyw
Mae ein rhaglen Trysorau’r Filltir Sgwâr sy’n cefnogi llesiant meddyliol a chorfforol yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi dyfarnu grantiau i 84 o grwpiau yng Nghymru.

Mi lansiwyd y rhaglen Trysorau’r Filltir Sgwâr ym mis Medi gyda Cadw - gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru - mewn ymateb i'r pandemig.

Daeth a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ynghyd i lansio'r rhaglen Trysorau’r Filltir Sgwâr ym mis Medi.

Bu'n ymateb i'r pandemig Covid-19 ac roedd dyfarniadau rhwng £3,000 a £10,000 ar gael i ymgeiswyr a allai ysbrydoli pobl i gymryd mwy o ddiddordeb yn eu mannau lleol.

Ei fwriad ydi cysylltu cymunedau gyda’u treftadaeth lleol. Mae prosiectau ym mhob un o 22 awdurdod lleol Cymru wedi derbyn rhan o’r gronfa £680,000.

Meddai'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rwyf wrth fy modd y bu modd i Cadw gydweithio â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi cynifer o brosiectau sy'n dod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu pobl â threftadaeth ym mhob cwr o Gymru." 
 

The Tin Shed Theatre Company with drumsCwmni theatr Tin Shed.

Lle rydym yn gwneud gwahaniaeth 

Ym Mhowys, mae prosiect Darganfod Abaty Cwm Hir yn derbyn £5,500 i gasglu hanes ar lafar, darparu sgyrsiau arlein a chreu llwybrau cerdded treftadol.

Draw yng Nghasnewydd, mae rhodd o £5,500 yn mynd i gwmni theatr Tin Shed ar gyfer prosiect fydd yn olrhain hanes y cloc ‘In the Nick of Time’ a arferai fod ar Sgwâr John Frost yn y ddinas.

Yn y gogledd ddwyrain, mae’r prosiect Treftdaeth Gudd yn Nhreffynnon yn cael rhodd o £9,800 i gynyddu ymwybyddiaeth o rôl Dyffryn Maes Glâs yn y Chwyldro Diwydiannol.

Mae Cyfeillion Gwaith Copr Hafod Morfa yn Abertawe yn derbyn £10,000 i redeg prosiect am hanes y gwaith copr.

People by machinery at Hafod Morfa CopperworksCyfeillion Gwaith Copr Hafod Morfa.

Yng Nghaerdydd, mae Watch Africa Cymru am gael £9,600 i helpu pobl ifanc ddarganfod hanes ardal Llanrhymni a’i gysylltiad gyda’r môr leidr enwog Chapten Harri Morgan.

Ac yn Sîr Benfro mae Cwmni Gofal Cymdeithasol Clynfyw am dderbyn £81,000 i ddarparu gweithagreddau awyr agored i bobl gyda anhawsterau dysgu neu sydd yn dioddef gyda’u iechyd meddwl.

Pwysigrwydd treftadaeth lleol

“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a'n partneriaeth gyda Cadw rydym wedi llwyddo i annog amrywiaeth o bobl ym mhob rhan o Gymru i fynd allan i fforio ac ailddarganfod eu hardal leol.” Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru 

Meddai Andrew White, cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae'n debygol ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'n hardaloedd lleol o dreftadaeth ddiweddar a lleol - boed hynny'n adeilad, tirnod, gwarchodfa natur neu hyd yn oed ein siop leol, mae'n bwysig oherwydd ei fod yn helpu creu a siapio ein cymunedau. 

“Mae cysylltu â'n treftadaeth yn dda ar gyfer ein llesiant hefyd, a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a'n partneriaeth gyda Cadw rydym wedi llwyddo i annog amrywiaeth o bobl ym mhob rhan o Gymru i fynd allan i fforio ac ailddarganfod eu hardal leol.”

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...