Cyhoeddi cyllid newydd ar gyfer prosiectau amgylcheddol mewn cymunedau yng Nghymru

Cyhoeddi cyllid newydd ar gyfer prosiectau amgylcheddol mewn cymunedau yng Nghymru

Boy and man with nets
Mae ceisiadau bellach ar agor i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a rhaglenni grant newydd Llywodraeth Cymru sy'n helpu cymunedau i ofalu am y byd naturiol. Diweddariad 30 Gorffennaf 2020.

Bydd y rhaglenni, sy'n werth mwy na £4miliwn, yn galluogi cymunedau lleol ledled Cymru i fod yn rhan o waith adfer a gwella natur, gan gynnwys coetiroedd.

Y ddwy raglen gymunedol newydd yw:

A woman with secateurs sitting among tulips
Angela Beacham, cyn-wirfoddolwraig yng Nghastell Cyfarthfa

Dywedodd y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Gadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chadeirydd Pwyllgor Cymru: "Bydd yr arian newydd yma gan Lywodraeth Cymru a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn gweithio'n galed i sicrhau y gofelir am dreftadaeth naturiol bwysig Cymru, a helpu i ailgysylltu pobl â'r byd naturiol a anwybyddir yn aml ar garreg eu drws yn ogystal â diogelu'r amgylchedd am flynyddoedd i ddod.

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Mae'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cefnogi prosiectau sydd wedi'u cynllunio a'u harwain gan grwpiau a sefydliadau cymunedol i greu, adfer a gwella cynefinoedd yng Nghymru. 
 
Mae ceisiadau ar agor ac mae grantiau'n amrywio rhwng £10,000 a £100,000. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael yw £2.3miliwn (diweddarwyd 11 Medi 2020).
 
Gallai'r gweithgareddau gynnwys:

  • cynyddu perllannau cymunedol, tyfu yn y gymuned a rhandiroedd
  • plannu coed stryd
  • lleihau'r defnydd o bedstilyddion, gwrteithiau a chompost sy'n seiliedig ar fawn
  • newid defnydd tir i hyrwyddo natur a lleihau llifogydd
  • cynyddu mynediad i ddŵr yfed diogel

Dysgwch fwy a sut i wneud cais.

A group of people standing in a row in woodland with spades
Gweithwyr yng Nghefn Ila, Sir Fynwy

Coetiroedd Cymunedol

Bydd y cynllun Coetiroedd Cymunedol yn gweld pobl yn cymryd rhan yn y gwaith o greu coedwig genedlaethol i Gymru, gan ddwyn ynghyd coetiroedd a gwrychoedd cysylltiedig. Bydd cymunedau'n gallu defnyddio'r arian ar gyfer prosiectau sy'n adfer, creu, cysylltu a rheoli coetiroedd yng Nghymru.
 
Mae'r ceisiadau ar agor nawr tan 21 Hydref 2020 a bydd y cynllun ar gael tan fis Mawrth 2022. Bydd y grantiau'n amrywio o rhwng £3,000 a £100,000. Mae cyfanswm y pot cyllid sydd ar gael yn werth £2.1 m.
 
 Dysgwch fwy a sut i wneud cais.

Gwneud natur yn flaenoriaeth

Parhaodd y Farwnes Andrews: "Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi nodi natur a thirweddau fel blaenoriaeth yn ein Fframwaith Ariannu Strategol, gan ein bod yn credu e bod yn eithriadol o bwysig i ofalu am natur a helpu pobl i’w ddeall.

"Edrychaf ymlaen at glywed gan ymgeiswyr ac at gefnogi llawer o brosiectau newydd yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd."

"Felly, rydym wrth ein boddau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chefnogi'r Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Choetiroedd Cymunedol.

"Edrychaf ymlaen at glywed gan ymgeiswyr ac at gefnogi llawer o brosiectau newydd yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd."

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...