Hwb o £9.8 miliwn i fioamrywiaeth Cymru

Hwb o £9.8 miliwn i fioamrywiaeth Cymru

Tri phâl ar rywfaint o laswellt
Mae safleoedd naturiol gwarchodedig a chynefinoedd bywyd gwyllt hanfodol Cymru - o Aber Hafren i Rostiroedd Llandegla - yn cael hwb gan gynllun grant newydd.

Gwella cyflwr rhwydwaith Cymru o safleoedd gwarchodedig 

Bydd y Gronfa Rhwydweithau Natur yn darparu grantiau rhwng £50,000 - £500,000 i brosiectau sy’n gweithio o fewn ffiniau safleoedd naturiol gwarchodedig Cymru. Byddwn yn cynnal y cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyllid yn rhoi cymorth i rai o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion mwyaf poblogaidd Cymru.

“Mae'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn gam hanfodol wrth amddiffyn ac adfer yr ardaloedd hyn a'n helpu i gryfhau rhwydweithiau ecolegol gwydn" Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Mae'r safleoedd gwarchodedig yn gartref i rywogaethau eiconig - fel y dyfrgi, y dolffin trwyn potel a’r morlo llwyd, ochr yn ochr â'r llai adnabyddus - fel y planhigyn petallys a’r falwoden troellen. 

Maent hefyd yn gartref i ystod eang o adar, gan gynnwys pâl yr Iwerydd sydd mewn perygl difrifol.

Yn ogystal, mae’r safloedd yn diogelu bron i 70 o rywogaethau a mwy na 50 math o gynefin sy'n wynebu bygythiadau ledled y byd.

Ceffylau yn gweithio mewn coedwig
Sol a Flynn yn gweithio yng nghoedwig Craig Gwladus

Cam hanfodol

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Mae Cymru â gweddill y byd yn wynebu argyfwng natur gyda chyflwr ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd naturiol yn dirywio gan fygwth difodiant i rai o’n rhywogaethau mwyaf eiconig.

“Mae'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn gam hanfodol wrth amddiffyn ac adfer yr ardaloedd hyn a'n helpu i gryfhau rhwydweithiau ecolegol gwydn.

“Mae hyn yn rhoi gwell cyfle i ni fwynhau ac i’n llesiant meddyliol elwa o ein bywyd gwyllt a'n parciau cenedlaethol hardd heddiw ac i'r dyfodol. 

“Mae lleoedd fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn hynod bwysig i fywyd gwyllt a threftadaeth naturiol Cymru.

“Maen nhw'n gonglfeini i'n gwaith adfer natur, ac maen nhw'n amddiffyn ystod, ansawdd ac amrywiaeth rhai o'n rhywogaethau pwysicaf. Edrychaf ymlaen at weld y prosiectau cyffrous sy'n codi o'r gronfa sydd - ochr yn ochr â'r gwaith arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, yn adeiladu adferiad gwyrdd ac iach o coronafeirws. "

Golyfga o Ynys Sgomer
Golygfa o fryn ar Ynys Sgomer

Adferiad gwyrdd 

Dywedodd Andrew White - Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae safleoedd gwarchodedig yn chwarae rhan hanfodol wrth wyrdroi effeithiau newid yn yr hinsawdd ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi adferiad gwyrdd Cymru drwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur.

“Bydd y Gronfa Rhwydweithiau Natur hefyd yn cefnogi cymunedau yn y safleoedd gwarchodedig ac o'u cwmpas i gymryd rhan yn y gwaith hanfodol hwn. Bydd cymryd rhan yn rhoi buddion uniongyrchol i iechyd a llesiant y cymunedau rhain ynghyd â gwella gwytnwch y safleoedd.”

Rhagor o wybodaeth

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn agor ar 12 Ebrill. Darllenwch y canllawiau gwenud cais am ragor o wybodaeth.

Gallwch hefyd ymuno â un o’n gweminarau:

30 Mawrth 4.30pm-5.30pm
6 Ebrill 11.00am – 12.00pm

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...