Canfyddiadau ein hymgysylltiad strategaeth

Atodiad | Maint |
---|---|
Strategy engagement findings | 346.29 KB |
Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd. Wrth glywed adborth gan gynifer o leisiau, rhoddwyd hyder i ni ein bod yn deall eich barn a'r hyn yr oeddech am i ni ei flaenoriaethu.
Cynnal yr ymchwil
Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau arolwg ar-lein a gwblhawyd gan dros 2,000 o bobl a sefydliadau o bob maes a math o dreftadaeth ar draws y DU. Mae hefyd yn cynnwys adborth o gyfarfodydd a gynhaliwyd gennym gyda rhanddeiliaid y sector treftadaeth.
Fe wnaethom ddadansoddi ymatebion yr arolwg gyda chymorth Renaisi, menter gymdeithasol sy'n gwneud ymchwil a gwerthuso.
Ein canfyddiadau
Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a gwarchod yr amgylchedd naturiol oedd prif flaenoriaeth traean o'r ymatebwyr. Roeddech chi'n teimlo y gallai'r Gronfa Treftadaeth wneud mwy yn y dyfodol i eiriol dros dreftadaeth.
Cefnogodd ymatebwyr yr arolwg y chwe egwyddor yr oeddem eisiau iddynt fod yn rhan o'n strategaeth ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, roeddech am i ni fod yn fwy penodol am yr hyn y byddem yn ei gyflawni, bod yn gryfach yn ein hymrwymiad i gynhwysiad ac ychwanegu cynaladwyedd amgylcheddol at ein blaenoriaethau.
Cawsom fewnwelediadau defnyddiol pan ofynnwyd cwestiynau am ein blaenoriaethau eraill:
- roeddech chi'n meddwl y dylai ein buddsoddiad mewn lleoedd gael ei siapio'n bennaf gan anghenion treftadaeth
- gwnaethoch gytuno y dylem fuddsoddi ar raddfa fwy lle y bydd ein buddsoddiad yn cael yr effaith fwyaf
- gwnaethoch ein hannog i gyfeirio ariannu at faterion neu fathau prosiect penodol, gan gynnwys treftadaeth adeiledig, yr argyfwng hinsawdd a dulliau i wella mynediad at ariannu
- roeddech am i ni chwarae mwy o rôl wrth gynyddu cydweithio a rhannu gwybodaeth ar draws y sector
Sut rydym yn defnyddio'r ymchwil
Mae eich mewnbwn wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar ddatblygiad ein strategaeth 10 mlynedd newydd. Fe wnaethoch ein helpu i siapio sut y byddwn yn cydweithio yn y blynyddoedd i ddod a'r gwahaniaeth y gallwn ei wneud i dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol y DU.
Mwy o wybodaeth
Lawrlwythwch yr adroddiad canfyddiadau ymgysylltu strategaeth llawn o'r dudalen hon, ac archwiliwch ein strategaeth 10 mlynedd newydd, Treftadaeth 2033.
Rydym yn cynnal ymchwil yn rheolaidd i ddarganfod beth sy'n digwydd yn y sector treftadaeth, ac yn gwerthuso ein gwaith i ddeall yn well y newid yr ydym yn ei wneud. Darllen mwy o'n mewnwelediad.