Cwestiynau Cyffredin: Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (rownd chwech)
Cododd y rhai a fynychodd y weminar gyfres o gwestiynau, yr ydym wedi’u hateb isod.
Gellir dod o hyd i atebion i nifer o gwestiynau a godwyd hefyd trwy ddarllen yr arweiniad.
Cyffredinol/Cymhwysedd
Allwch chi wneud cais os ydych chi eisoes yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol?
Gallwch.
Allwch chi wneud cais os ydych chi wedi cael eich ariannu gan TWIG o'r blaen?
Gallwch.
A fyddai coetiroedd heb fynediad cyhoeddus yn cael eu hystyried os yw'r prosiect yn cynnwys y gymuned mewn ffyrdd eraill (er enghraifft diwrnodau gweithdy, teithiau cerdded bywyd gwyllt tywysedig, diwrnodau rheoli gwirfoddolwyr)?
Rhan allweddol o raglen y Goedwig Genedlaethol yw cyflawni hygyrchedd i goetiroedd ar draws Cymru er mwyn i bawb eu mwynhau. O ran TWIG, mae 'Coetiroedd sy'n Hygyrch i Bobl' yn ddeilliant hanfodol ac felly dylai eich prosiect ystyried sut y bydd yn cyflawni'r canlyniad hwnnw. Gallwch gynnwys gweithgareddau wedi'u targedu a'u rheoli fel gweithdai a theithiau cerdded tywysedig, ond dylech ystyried amlder a chynaladwyedd hirdymor y digwyddiadau hyn ac a yw lefel y mynediad i'r cyhoedd yn gymesur â'r cais am grant.
A allai sefydliad wneud cais am grant a bod yn berchennog tir hefyd ar ardal cais arall sy'n cael ei wneud gan sefydliad arall?
Gallai, ond byddai angen i berchennog y tir fod yn rhwym i'r contract grant. Os yw gwaith ar draws y ddau brosiect yn digwydd yn yr un ardal, bydd angen i chi sicrhau nad yw gwaith yn cael ei ddyblygu. Dylech ystyried a yw'n fwy priodol gwneud cais fel partneriaeth ar gyfer un prosiect, yn enwedig os oes cyfleoedd i wella cysylltedd coetiroedd.
A fyddai'r grant hwn yn cyfrif fel cymhorthdal?
Fe'ch cynghorir i geisio cyngor annibynnol ar reoli cymhorthdal mewn perthynas â'ch prosiect, ond mae'n annhebygol y byddai'r grant yn cael ei ystyried yn gymhorthdal. Gallwch ddysgu mwy am reoli cymhorthdal yn adran Gofynion cyfreithiol a pholisi arweiniad y rhaglen.
A allwn ni gyflwyno Ymholiad Prosiect sy'n cynnwys mwy nag un safle?
Gallwch, gall prosiectau gynnwys mwy nag un safle os oes sail resymegol glir dros eu cynnwys, er enghraifft cynllun i wella cysylltedd a mynediad rhwng dau goetir. Ni ddylai ceisiadau gynnwys nifer o safleoedd datgysylltiedig.
Os ydych chi'n gwneud cais am nifer o goetiroedd, a oes cyfyngiad ar bellter o ran cysylltedd?
Nid oes pellter penodol ar gyfer cysylltedd rhwng safleoedd, ond byddem yn eich cynghori i ystyried y sail resymegol dros y gwahanol safleoedd rydych chi'n canolbwyntio arnynt.
Rydym yn ystyried cais am Grant Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect arall nad yw'n gysylltiedig â'r grant hwn. A fyddai modd i ni wneud cais am y ddau?
Gallwch wneud cais am arian TWIG a Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, ond rhaid i chi sicrhau eu bod ar gyfer prosiectau ar wahân. Ni ddylech wneud cais i'r ddwy gronfa am yr un prosiect.
Adeiladau
A fyddai adnewyddu adeilad presennol i'w ailddefnyddio fel ystafell ddosbarth neu ofod defnydd cymunedol yn dderbyniol?
Gallwn gefnogi costau ar gyfer gwaith adeiladu ar raddfa lai i gefnogi gweithgareddau prosiect, ond ni ddylai hyn ffurfio'r mwyafrif o gostau eich prosiect.
Swyddi/Cyflogau/Hyfforddiant
A all TWIG dalu am gyflogau?
Gall, mae'r ariannu'n gallu talu am gyflogau staff newydd, ond nid aelodau staff presennol oni bai eich bod yn ymestyn oriau aelod staff rhan-amser i weithio ar y prosiect.
A ellir ariannu hyfforddiant sgiliau (er enghraifft cyrsiau llif gadwyn)?
Gellir, mae modd cynnwys hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr i gefnogi gwaith cyfalaf a gweithgareddau.
Costau
A fyddai is-gontractwr yn dod o dan y gost refeniw neu gyfalaf 25%?
Mae'n dibynnu ar ba waith y mae'r contractwr yn ei wneud. Os yw'n waith ffisegol ar y safle, byddai'n cael ei ddosbarthu'n gostau cyfalaf. Byddai is-gontractwr sy'n gweithio ar hyrwyddo neu werthuso prosiect yn cael ei ddosbarthu'n gost refeniw.
Trwyddedau/Caniatadau
A fyddai unrhyw gynllun rheoli a ariennir yn cynnwys trwydded torri coed neu a oes angen gwneud cais am hyn yn annibynnol?
Dylai'r cynllun Rheoli Coetir ddisgrifio sut y bydd y safle'n cael ei reoli yn y dyfodol. Byddai angen gwneud cais am drwydded torri coed ar wahân.
Os oes angen trwydded torri coed arnom, er enghraifft, ar gyfer rhan o waith y prosiect, a allwn ni ddechrau ar elfennau eraill o'r prosiect wrth i ni aros am y caniatâd?
Ni ddylech ddechrau ar y gwaith cyn i ni roi caniatâd i chi wneud hynny. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn ofynnol i chi sicrhau pob caniatâd cyn dechrau. Os cewch eich gwahodd i wneud cais, rydym yn argymell gwneud cais am yr holl ganiatadau a chydsyniadau angenrheidiol mor gynnar â phosibl er mwyn lleihau oedi.
Adennill costau llawn
Beth mae 'Adennill costau llawn' yn ei olygu?
Os ydych yn sefydliad yn y sector gwirfoddol (er enghraifft, efallai bod gennych fwrdd ymddiriedolwyr ac wedi'ch ariannu gan grantiau a rhoddion), gallwn dalu cyfran o orbenion eich sefydliad ar ffurf adennill costau llawn.
Mae adennill costau llawn yn golygu sicrhau ariannu ar gyfer yr holl gostau sydd ynghlwm wrth redeg prosiect. Mae hyn yn golygu y gallwch ofyn i gostau prosiect uniongyrchol gael eu hariannu yn ogystal â chyfran gymesur o gostau sefydlog eich sefydliad. Gall hyn gynnwys costau sy’n cefnogi’r prosiect yn rhannol ond sydd hefyd yn cefnogi prosiectau neu weithgareddau eraill y mae eich sefydliad yn eu darparu, megis cyflogau staff sy’n gweithio ar draws prosiectau ym meysydd gweinyddu, rheoli, AD, neu godi arian, costau swyddfa fel rhent neu gyfleustodau a ffioedd cyfreithiol neu archwilio.
Mae arweiniad cydnabyddedig ar gyfrifo’r swm adennill costau llawn sy’n berthnasol i’ch prosiect ar gael gan sefydliadau megis Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Plannu
A fyddai ailblannu planhigfeydd sydd wedi’u difrodi gan stormydd (o dan 2 hectar) gyda choetir collddail fel rhan o greu ardal o goetir hygyrch yn gymwys i gael ei ariannu?
Na fyddai, nid yw hyn yn gost gymwys . Ni allwn ariannu ailstocio safleoedd.
A oes rhestr rywogaethau gytunedig o ba goed y gellir eu plannu?
Nid ydym yn darparu rhestrau rhywogaethau. Fodd bynnag, gall Rhaglen y Goedwig Genedlaethol ddarparu un os caiff eich prosiect ei ariannu.
Oes rhestr gytunedig o blanhigfeydd y gallwn brynu coed ganddynt?
Nac oes, nid ydym yn darparu rhestrau o blanhigfeydd, contractwyr na chyflenwyr cymeradwy.
A yw plannu coed trefol yn cynnwys coed stryd, gyda phyllau plannu ac ati?
Mae TWIG yn rhaglen sy'n canolbwyntio ar goetiroedd. Rhaid i chi sicrhau bod eich prosiect yn bodloni o leiaf tri deilliant hanfodol y Goedwig Genedlaethol. Gallai plannu coed gynnwys gwaith i wella cysylltedd safleoedd (megis coridor o wrychoedd neu goed), felly os byddai maint bach o blannu stryd yn cyd-fynd â'r agwedd honno, gallai fod yn gymwys fel rhan o brosiect ehangach sy'n bodloni canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol.
A ellir cynnwys costau ar gyfer mynd i'r afael â Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS)?
Gallwch, mae modd cynnwys cost rheoli INNS fel rhan o'ch prosiect TWIG.
A allem ni gynnwys plannu/gwella isdyfiant gyda phlanhigion brodorol?
Gallai, mae'n bosibl i blannu isdyfiant gyda phlanhigion brodorol fod yn rhan o waith gwella coetir. Rydym yn argymell i chi gysylltu â'ch Swyddog Cyswllt Coetiroedd i drafod addasrwydd y gwaith hwn.
Oes gennych drothwy o ran lleiafswm arwynebedd/maint ar gyfer plannu coetir newydd?
Nac oes, nid oes lleiafswm maint ar gyfer plannu newydd.
Gofyniad sensitifrwydd isel: beth os yw eich safle hyd at 2 hectar ac mae ganddo gymysgedd o ardaloedd sensitifrwydd isel ac ardaloedd o sensitifrwydd uwch?
Bydd unrhyw ardaloedd plannu nad ydynt yn cael eu hystyried yn sensitifrwydd isel yn ddarostyngedig i'r gofyniad i wneud cais i Gynllun Cynllunio Creu Coetiroedd Llywodraeth Cymru. Os ydych chi'n ansicr, cysylltwch â'ch Swyddog Cyswllt Coetiroedd.