Derbyn eich grant: Grant Buddsoddi mewn Coetir (rownd 6)
Cyflwyniad
Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn rhaglen i dirfeddianwyr greu coetiroedd i gymunedau lleol eu defnyddio a’u mwynhau, fel rhan o fenter Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae’n cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Ar ôl i grant gael ei ddyfarnu i chi, mae'n bwysig deall y camau nesaf y mae'n rhaid i chi eu cymryd. Mae’r arian y byddwch yn ei dderbyn yn arian cyhoeddus gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau y caiff ei reoli mewn ffordd atebol.
Trwy ddarllen a deall y gofynion a amlinellir yn yr arweiniad hwn, eich cais wedi'i gwblhau, yr arweiniad ymgeisio a'r telerau ac amodau (gan gynnwys ein diffiniadau), gallwch fod yn siŵr y bydd eich prosiect yn cydymffurfio â'n gofynion.
Ar ôl darllen y dogfennau hyn, os oes gennych gwestiynau neu bryderon sydd heb eu hateb, cysylltwch â ni am gefnogaeth bellach. Eich pwynt cyswllt cyntaf â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw eich Rheolwr Buddsoddi.
Mae'r holl arweiniad ar gael yn adrannau Ariannu ac Arweiniad arfer da y wefan.
Llinell amser y prosiect
- rhowch fwy o wybodaeth i ni am y prosiect cyn y gallwch gytuno i'ch grant
- cytunwch i'ch telerau grant o fewn chwe mis o'r dyddiad y gwnaethoch dderbyn yr e-bost yn gofyn i chi wneud hynny
- cyflwynwch weithgaredd eich prosiect
- cyflwyno adroddiad cwblhau a gwerthusiad prosiect cyn Dyddiad Dod i Ben y Grant sef 31 Rhagfyr 2027.
- cydymffurfiwch â'r telerau y cytunwyd arnynt am gyfnod eich contract grant
Rhowch fwy o wybodaeth i ni am y prosiect
Ar ôl i ni ddweud wrthych bod grant wedi cael ei ddyfarnu i chi, byddwch yn gallu mewngofnodi i'ch cyfrif a rhoi mwy o wybodaeth i ni am eich prosiect. Bydd hyn yn cynnwys cwestiynau am:
- swyddi a chyfleoedd hyfforddi a fydd yn cael eu cefnogi drwy eich prosiect
- unrhyw wirfoddolwyr neu ymwelwyr a allai fod gan eich prosiect
- effaith amgylcheddol eich prosiect
- sut byddwch yn cydnabod ac yn hyrwyddo eich grant
Nid yw'r cwestiynau hyn yn rhan o'ch cais - ni fydd eich atebion yn effeithio ar eich dyfarniad grant. Gofynnwn y cwestiynau hyn i helpu i gasglu data ar effaith ein cyllid. Rydym yn casglu tystiolaeth o bob rhan o'n portffolio i helpu i lywio ein hymarfer a sut rydym yn cyflwyno ein strategaeth.
I’ch helpu i ateb y cwestiynau ychwanegol hyn am eich prosiect, darllenwch y canllaw a’r cwestiynau Rhowch fwy o wybodaeth i ni am y prosiect.
Bydd angen i chi gwblhau'r dasg hon cyn y gallwch gytuno i delerau eich grant a dechrau eich prosiect.
Cytuno i'r telerau ac amodau
Ar ôl i chi roi mwy o wybodaeth i ni am eich prosiect, byddwch yn derbyn e-bost yn eich gwahodd i fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein i wirio a chytuno i fanylion eich prosiect a llofnodi telerau ac amodau eich grant.
I gytuno i'r grant, bydd angen i chi:
- wirio bod y manylion sydd gennym am eich prosiect yn gywir
- anfon unrhyw dystiolaeth newydd ar gyfer eich prosiect atom, er enghraifft cyfraniadau arian parod, caniatadau neu drwyddedau
- ddweud wrthym a fu unrhyw newidiadau sylweddol i'ch prosiect ers i chi gyflwyno eich cais, er enghraifft newidiadau i bartneriaid y prosiect neu gyfraniadau arian parod
- rhoi manylion dau lofnodai cyfreithiol ar gyfer eich sefydliad i ni, fel y gallwn anfon dolen atynt i lawrlwytho, darllen, llofnodi ac uwchlwytho’r telerau ac amodau. Os mai chi yw'r llofnodwr cyfreithiol ar gyfer eich sefydliad, byddwch yn cael eich tywys yn syth i'r broses telerau ac amodau yn y cam hwn heb fod angen e-bost.
- lawrlwytho, darllen a llofnodi'r telerau ac amodau
Bydd angen hefyd i chi anfon y canlynol atom, os yn berthnasol:
- Prawf o berchnogaeth ar eiddo gan gynnwys, er enghraifft, copïau diweddar o gofrestr teitl y Gofrestrfa Tir (gyda chynllun), lesau a thystiolaeth o unrhyw forgeisi presennol. Os nad yw'r enw ar y dogfennau perchnogaeth hyn yn cyfateb yn union i enw'ch sefydliad, rhowch wybod i ni cyn i chi gytuno i'r telerau ac amodau fel y gallwn ei ddiweddaru.
- cynllun prosiect a chofrestr risgiau wedi'u diweddaru os bu newidiadau sylweddol i'ch prosiect ers i chi wneud eich cais am grant
- rhagolwg llif arian parod y prosiect, yn dangos pryd y disgwyliwch dderbyn unrhyw gyfraniadau arian parod a thaliadau grant
- strwythur rheoli prosiect a dulliau o ddewis ymgynghorwyr, contractwyr a chyflenwyr
Cyn i ni allu prosesu eich telerau ac amodau, bydd angen i chi fod wedi gwneud y canlynol, os yn berthnasol:
- sicrhau'r holl gyfraniadau arian parod, caniatadau statudol ac unrhyw drwyddedau angenrheidiol
- bodloni ein gofynion o ran perchnogaeth
Rhaid i chi gyflwyno'r wybodaeth hon o fewn chwe mis i dderbyn yr e-bost.
Er bod gennym gontract safonol ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau, mae'n bosibl y byddwn yn amrywio ein prosesau a’n telerau gan ddibynnu ar amgylchiadau penodol eich prosiect. Os yn berthnasol, byddwch yn cael gwybod am unrhyw delerau ychwanegol yn y cam hwn.
Unwaith y byddwn wedi prosesu’r wybodaeth rydych wedi'i darparu, byddwn yn cadarnhau hyn i chi mewn e-bost. Yna gallwch chi ddechrau gweithio ar eich prosiect. Ni ddylech ddechrau unrhyw waith ar eich prosiect hyd nes y byddwch wedi derbyn caniatâd ysgrifenedig gennym i wneud hynny. Os byddwch yn dechrau unrhyw waith cyn cael y caniatâd hwn, fe fydd ar eich menter eich hun.
Sut y byddwn yn talu eich grant
Ar ôl i chi gytuno i delerau'r grant, gofynnir i chi fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein i ddarparu eich manylion banc.
Unwaith y byddwch wedi darparu eich manylion banc a'u bod wedi'u gwirio gennym, mae'r taliad cyntaf yn cael ei brosesu a thelir 50% o'r grant i'r cyfrif banc y gwnaethoch ddarparu manylion amdano.
Ar ôl i chi wario'r 50% cyntaf o gostau eich prosiect, byddwch yn gallu cyflwyno cais am daliad ar-lein am y 30% nesaf o'ch grant. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos sut y gwariwyd y 50% cyntaf o gostau eich prosiect.
Byddwn yn talu'r 20% sy'n weddill o'ch grant mewn ôl-ddyledion unwaith y byddwch wedi gwario holl gostau eich prosiect. Rhaid i chi gyflwyno cais am daliad terfynol a thystiolaeth i ddangos sut y gwariwyd y taliad blaenorol o 30% o'ch grant. Rhaid i chi hefyd ddarparu'r adroddiad cwblhau, gwerthusiad a thystiolaeth o gydnabod y grant fel y cytunwyd yn eich contract.
Unwaith y byddwch wedi gwneud eich cais am daliad terfynol, ni fyddwn yn derbyn unrhyw geisiadau pellach am daliadau gennych. Dylech felly gytuno ar eich cyfrifon terfynol gyda'ch contractwyr a'ch cyflenwyr cyn i chi wneud cais am y taliad grant terfynol.
Os yw eich prosiect yn ymwneud â chaffael treftadaeth, byddwn yn talu swm llawn y grant sydd ei angen ar gyfer y pryniant mewn un taliad.
Anelwn at ryddhau pob taliad grant o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais am daliad a'r dogfennau ategol gofynnol.
Os byddwch yn gwario llai na'ch costau cytunedig a bod eich prosiect yn cael ei gwblhau o dan y gyllideb, bydd angen i chi ddychwelyd unrhyw arian gan y grant Loteri Genedlaethol a dalwyd i chi nad ydych wedi'i wario. Byddwn yn cytuno â chi ar y swm sydd i'w ddychwelyd fel rhan o gwblhau eich prosiect.
Taliadau Cynnal a Chadw ar gyfer cyflwyno Cynlluniau Rheoli Coetir
Bydd arnom angen cydnabyddiaeth ffurfiol ac ymrwymiad i'ch rhwymedigaethau mewn perthynas â darparu, rheoli a chynnal a chadw'r coetir y tu hwnt i oes y prosiect (am gyfnod o dair blynedd) fel y nodir yn y Cynllun Rheoli Coetir a ddylai fod ar waith cyn i'ch prosiect gael ei gwblhau.
- Dylech glustnodi arian at y diben hwn drwy gydol eich prosiect hyd at y swm y cytunwyd arno a hawlio'r swm hwn ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau. Ni ddylai hyn fod yn fwy na'r swm y gofynnwyd amdano yn eich cais.
- Wrth gwblhau'r prosiect bydd angen i chi anfon llythyr wedi'i lofnodi atom gan uwch aelod o staff sydd â throsolwg o'r gyllideb (e.e. Cyfarwyddwr Cyllid neu gyfwerth) gan gadarnhau bod y taliadau cynnal a chadw wedi'u clustnodi ar gyfer y cyfnod tair blynedd dilynol, sut y caiff y cronfeydd hyn eu gwario, a chan gadarnhau'r swm a glustnodwyd ar gyfer y gwaith hwn cyn y gallwn dalu'r taliad terfynol o'ch grant. Dylid cyflwyno cyfriflen banc fel tystiolaeth o hyn.
- Ar ddiwedd y cyfnod tair blynedd efallai y byddwn yn gofyn am dystiolaeth gennych bod y taliadau cynnal a chadw wedi'u gwario fel y nodir yn eich Cynllun Rheoli Coetir.
- Disgwyliwn i chi gadw cofnodion o anfonebau a derbynebau i ddangos tystiolaeth o'r gwariant hwn ac mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi anfon y dystiolaeth atom i'w dilysu.
Fel gyda holl gostau eraill y prosiect, bydd eich taliadau grant yn adlewyrchu canran y grant y cytunwyd arni. Er enghraifft, os yw canran eich grant yn 100% a'ch bod yn rhoi £5,000 o'r neilltu, eich taliad grant fydd £5,000. Os yw canran eich grant yn 85% a'ch bod wedi rhoi £5,000 o'r neilltu, eich taliad grant fydd £4,250.
Cwblhau eich prosiect
Rhaid i chi gwblhau eich prosiect a chyflwyno adroddiad cwblhau cyn Dyddiad Dod i Ben y Grant sef 31 Rhagfyr 2027.Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am ddiweddariadau ychwanegol ar eich cynnydd yn ystod oes eich prosiect. Byddwn yn eich hysbysu am yr amlder sy'n eich cefnogi orau ac sy'n adlewyrchu risg y prosiect.
Mae hyd yr amser y mae telerau eich contract grant yn berthnasol yn dibynnu ar y gweithgareddau craidd a gyflawnir yn eich prosiect.
Ar gyfer prosiectau sy'n seiliedig ar weithgareddau, er enghraifft arddangosfa neu ddigwyddiad heb unrhyw allbynnau digidol neu waith cyfalaf, daw'r telerau ac amodau i ben ar ddyddiad cwblhau'r prosiect.
Ar gyfer prosiectau sy'n creu allbynnau digidol, er enghraifft creu gwefan, mae'r telerau ac amodau'n berthnasol tan bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau'r prosiect. Os yw'r ymgeisydd arweiniol yn berchennog preifat ar dreftadaeth, bydd y telerau'n berthnasol am 10 mlynedd o ddyddiad cwblhau'r prosiect.
Ar gyfer prosiectau cyfalaf, er enghraifft adeiladu o'r newydd neu waith adfer, mae'r telerau'n berthnasol tan bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau'r prosiect. Os ydych yn unigolyn preifat neu'n sefydliad masnachol er-elw, bydd y telerau ac amodau'n berthnasol am 10 mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau'r prosiect.
Os yw eich prosiect yn ymwneud â phrynu eitem treftadaeth, tir neu adeilad, bydd y telerau ac amodau'n berthnasol am gyfnod amhenodol. Os, yn y dyfodol, y byddwch am werthu, dinistrio neu waredu'r hyn yr ydych wedi'i brynu, rhaid i chi ofyn am ein caniatâd a gallwn hawlio'ch grant cyfan neu ran ohono'n ôl neu ofyn am gyfran o'r enillion yn gymesur â swm y grant Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gaffael adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth yn yr arweiniad ymgeisio.
Pan fyddwn wedi derbyn yr holl ddogfennaeth angenrheidiol i gofnodi bod eich prosiect wedi'i gwblhau, byddwn yn cadarnhau hyn gyda chi. Gelwir hyn yn ddyddiad cwblhau'r prosiect.
Wrth gwblhau rydym yn golygu:
- bod eich prosiect wedi'i orffen, a'ch bod wedi cyflawni'ch dibenion cymeradwy
- rydych wedi cydnabod eich grant fel y nodir yn ein harweiniad ar sut i gydnabod eich grant gan Lywodraeth Cymru
- rydych wedi gwerthuso eich prosiect a chyflwyno adroddiad cwblhau a rhestr wirio Mesur Llwyddiant
- rydych wedi cyflwyno llythyr yn cadarnhau bod y Taliadau Cynnal a Chadw wedi’u gosod o’r neilltu ar gyfer y cyfnod dair blynedd dilynol, sut y caiff yr arian hwn ei wario, ac yn cadarnhau’r swm a glustnodir ar gyfer y gwaith hwn.
- rydych chi wedi cyflwyno Cynllun Rheoli Coetir wedi'i ddiweddaru/terfynol.
- gallwch ddarparu ffotograffau digidol manylder uchel sy'n dogfennu eich prosiect
- os oedd eich prosiect yn cynnwys gwaith cyfalaf, rydych wedi darparu tystysgrif cwblhau ymarferol
- os yn berthnasol, rydych wedi rhestru allbynnau digidol y prosiect a darparu cyfeiriad gwe (URL) y wefan neu wefannau lle gellir cael mynediad iddynt
Byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad â chi o bryd i'w gilydd ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau gan gynnwys drwy ein harolygon cwsmeriaid.
Gweithio gyda ni
Rydym yn eich annog i gadw mewn cysylltiad â ni, fel y gallwn glywed am y pethau rydych yn eu cyflawni drwy gydol eich prosiect.
Er nad yw bob amser yn bosibl i ni ymweld neu gwrdd â’r sefydliadau a ariannwn, gofynnir i chi ein gwahodd i ddigwyddiadau ac agoriadau prosiect allweddol a byddwn yn ceisio anfon cynrychiolydd lle bo modd.
Rydym yn deall y gall problemau neu faterion arwyddocaol godi yn ystod prosiect. Gallai hyn gynnwys unrhyw broblemau o fewn eich sefydliad, newidiadau i gostau'r prosiect, oedi difrifol, methiant i gyflawni eich dibenion cymeradwy neu gyflwyno yn erbyn ein hegwyddorion buddsoddi. Rhaid i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl, fel y gallwn ymateb a'ch cefnogi fel y bo'n briodol.
Disgwyliwn i chi ymateb yn brydlon i unrhyw geisiadau am wybodaeth ac i drafod unrhyw newidiadau sylweddol i'ch prosiect gyda ni. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau i bolisi neu arferion grant y Loteri Genedlaethol neu Lywodraeth Cymru a allai effeithio ar eich ariannu.
Ni allwch newid dibenion cymeradwy eich prosiect heb gael ein cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw. Os ydych am i ni ystyried unrhyw newidiadau i’ch dibenion cymeradwy, rhaid i chi anfon manylion ysgrifenedig y rhesymau dros y cais ac esbonio sut y bydd yn effeithio ar:
- ansawdd eich prosiect
- cost eich prosiect
- yr amser sydd ei angen arnoch i gwblhau eich prosiect
- hyfywedd eich prosiect yn y dyfodol
Mae'n bosibl wedyn y byddwn yn ailasesu'r prosiect neu'n cymryd unrhyw gamau eraill yr ystyriwn eu bod yn angenrheidiol. Efallai y byddwn yn penderfynu rhoi caniatâd ar gyfer y newid dim ond os byddwch yn cytuno i delerau ac amodau ychwanegol fel y bo angen.
Rhaid i unrhyw newidiadau y cytunir arnynt gyda ni fod yn ysgrifenedig a dylid eu hadrodd hefyd yn eich diweddariadau prosiect ac/neu adroddiad cwblhau fel y bo'n berthnasol
Os oes angen i chi wneud mân newidiadau i'r gyllideb a symud arian rhwng y penawdau cost a ddarparwyd yn eich cais er mwyn cyflawni eich dibenion cymeradwy, gallwch adrodd ar hyn yn eich diweddariad prosiect. Rhaid i chi ddangos sut mae'r newidiadau hyn wedi eich helpu i gyflwyno eich Prosiect.
Rhaid i chi gysylltu â ni ymlaen llaw os ydych am gynnig unrhyw newidiadau sylweddol i'r penawdau costau hyn ac ar gyfer unrhyw wariant mawr o'ch cyllideb wrth gefn.
Os bydd cyfanswm cost y prosiect yn cynyddu yn ystod y prosiect, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddwn yn ystyried cynyddu eich grant. Yn yr achos hwn bydd yn rhaid i chi ddarparu gwybodaeth bellach a gaiff ei hadolygu ar sail yr achos unigol.
Diweddariadau prosiect
Wrth gytuno i delerau ac amodau eich grant, byddwn yn rhoi gwybod i chi faint o ddiweddariadau prosiect y disgwyliwn i chi eu darparu yn ystod cyfnod cyflwyno'ch prosiect.
Gan ddefnyddio'r diweddariadau hyn, byddwn yn monitro cynnydd eich prosiect i gadarnhau ei fod yn cyflwyno'r prosiect a fanylwyd yn eich cais a'r dibenion cymeradwy a nodir yn eich contract grant.
Dylai eich diweddariadau prosiect gynnwys y canlynol:
- ffotograffau yn dangos cynnydd eich prosiect (gorfodol)
- cofnod o weithgareddau neu ddigwyddiadau rydych wedi’u trefnu (gorfodol)
- disgrifiadau swydd/manylion recriwtio (gorfodol os yn berthnasol)
- adroddiadau caffael (gorfodol os yn berthnasol)
- cynnydd o ran cyrraedd cerrig milltir allweddol, er enghraifft penodi contractwyr neu staff
- materion yn codi er mwyn i ni allu ymateb a'ch cefnogi fel y bo'n briodol
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein a dewis y prosiect yr hoffech roi diweddariad ar ei gyfer. Yna bydd angen i chi ateb cyfres o gwestiynau i roi diweddariad ar sut gynnydd y mae eich prosiect yn ei wneud.
Ar ôl i chi ddarparu'r wybodaeth hon ac uwchlwytho unrhyw dystiolaeth ategol, byddwch yn gallu cyflwyno eich diweddariad prosiect.
Byddwch hefyd yn gallu cyflwyno cais am daliad os oes angen.
Darparu tystiolaeth o wariant
Rhaid i chi ddarparu anfonebau ar gyfer yr holl wariant dros £500. Dylai pob anfoneb a gyflwynir i ni fod ar gyfer gwaith cymwys tuag at y prosiect rydym wedi cytuno i'w hariannu. Dylent fod yn glir, yn ddarllenadwy a heb gael eu difrodi na'u hystrywio.
Dylai'r anfoneb gael ei chyfeirio at y sefydliad sy'n cyflwyno'r cais am daliad.
Rhaid i anfonebau gynnwys:
- rhif anfoneb
- dyddiad y cawsant eu codi
- dyddiad y disgwylir y taliad a'r telerau talu
- sut mae'r taliad i gael ei wneud ac i bwy
- manylion cwmni, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, rhif cwmni, rhif cofrestru TAW (os yn gofrestredig ar gyfer TAW)
- disgrifiad o'r gwasanaethau a ddarparwyd
- y swm gros (heb TAW), TAW os yn gofrestredig ar gyfer TAW a'r (cyfanswm) net sy'n ddyledus
Gallwch ddarparu tabl ar wahân yn manylu ar gostau o dan £500, gan gynnwys y cyfanswm hwn fel un llinell gwariant yn eich cais am daliad.
Dylid dangos tystiolaeth o gostau cyflog trwy ddarparu slipiau cyflog neu lythyr wedi'i lofnodi gan aelod o'ch sefydliad sydd ag awdurdod ariannol.
Os yw eich prosiect yn ymwneud â chaffael treftadaeth, bydd angen i chi ddarparu anfoneb i ni am y pris prynu llawn.
Dylid adrodd am yr holl arian grant a wariwyd ar y prosiect yn erbyn y penawdau cost yn eich cais.
Ni allwn dalu costau TAW y gallwch ei adennill. Eich cyfrifoldeb chi yw ceisio cyngor priodol ynghylch adennill TAW.
Os bydd eich statws TAW yn newid yn ystod eich prosiect, byddwn yn lleihau ein cyfraniad at y costau os ydych wedi llwyddo i hawlio'r TAW yn ôl.
Hyrwyddo eich grant
Ariennir y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) ar y cyd gan Raglen Coedwig Genedlaethol i Gymru Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae hyrwyddo a chydnabod Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn un o amodau’r Contract Grant. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein hisafswm gofynion cydnabyddiaeth ar ein gwefan Mae enghreifftiau o bethau llawn dychymyg y mae prosiectau wedi'u gwneud i'w gweld ar ein gwefan.
Rhaid i chi gydnabod eich grant yn gyhoeddus mor fuan ag y bydd eich prosiect yn dechrau drwy arddangos logo partneriaeth Y Loteri Genedlaethol/ Llywodraeth Cymru.
Rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod yn cynnwys logo partneriaeth Y Loteri Genedlaethol/ Llywodraeth Cymru ar unrhyw wybodaeth rydych yn ei chynhyrchu am eich prosiect, er enghraifft, ar wybodaeth neu ddeunyddiau ymgynghori cyhoeddus neu godi arian. Rhaid i chi gynnwys y logo hefyd ar bob dyluniad neu gynllun a gynhyrchwch, ar bob adroddiad neu arolwg arbenigol, ac ar bob dogfen dendr neu hysbyseb swydd a ariennir gan eich grant. Cyfeiriwch at ein gwefan am fwy o wybodaeth.
Os na fyddwch yn cydymffurfio â'n canllawiau cydnabyddiaeth rydym yn cadw'r hawl i atal taliadau ac i ofyn am ad-daliad o ran neu'r cyfan o'ch grant.
Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am gydnabod eich Grant.
Mae'n bwysig rhoi cyhoeddusrwydd i'ch dyfarniad grant i'r cyfryngau lleol fel bod y cyhoedd yn gwybod ble mae eu harian yn cael ei wario. Byddwn yn cyhoeddi'r ffaith eich bod wedi cael dyfarniad grant ar ein gwefan o fewn 20 diwrnod i'ch grant gael ei ddyfarnu.
Gallwn eich cynorthwyo gydag ymholiadau am gyhoeddusrwydd a'r cyfryngau.
Rheoli eich data
Y Gronfa Treftadaeth a Llywodraeth Cymru fydd y cyd-reolwyr data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperwch mewn perthynas â’ch cais am grant neu gais am arian grant. Byddwn yn ei brosesu'n unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio ynom i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio hunaniaeth.
Bydd eich data personol a data sy'n gysylltiedig â'r grant yn cael eu rhannu â rheolydd data arall, Llywodraeth Cymru, ac unrhyw gontractwr a benodir gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad allanol o’r Rhaglen Coedwig Genedlaethol I adolygu effaith, perfformiad a chostau'r cynllun. Byddwch yn cael eich hysbysu pan fydd gwerthusiad allanol yn cael ei gynnal a byddwch yn cael cyfle i optio allan.
I ddysgu mwy am sut y caiff eich data ei brosesu o dan y rhaglen grant hon, gweler ein polisi preifatrwydd.
Diweddariadau i'r arweiniad
Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.