Ymholiad Prosiect: Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) (rownd 6)
Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 6 Mai 2025.
Mae'r Ymholiad Prosiect yn gam gorfodol cyn symud ymlaen at gais TWIG (rownd 6) llawn.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch i benderfynu p'un a fyddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn ai beidio. Nid yw gwahoddiad i wneud cais yn gwarantu grant gennym yn y dyfodol, ond mae'n nodi ein bod yn gweld potensial yn eich cynigion cychwynnol.
Rhaid i chi gyflwyno eich Ymholiad Prosiect erbyn 12 hanner dydd ar 27 Mai 2025.
Cyn cyflwyno
Cyfeiriwch at arweiniad ymgeisio llawn y rhaglen.
Cwestiynau Ymholiad Prosiect
Gallwch weld y cwestiynau Ymholiad Prosiect yma.
Ydych chi wedi siarad ag unrhyw un yn y Gronfa Treftadaeth am eich syniad?
Os ydych, dywedwch wrthym beth yw eu henw. Dywedwch wrthym hefyd os ydych wedi siarad â Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol i Gymru am eich prosiect.
Beth yw’r angen am y prosiect hwn?
Beth yw'r angen am y prosiect hwn o ran cefnogi amcanion y rhaglen Grant Buddsoddi mewn Coetir? A oes risg benodol i'r safle(oedd)?
Dywedwch wrthym am unrhyw ymgynghoriad rydych chi wedi'i wneud gyda'ch cymuned leol neu bartneriaid y prosiect.
Mae gennych 200 o eiriau.
Disgrifiwch yr hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod y prosiect.
Gofynnir i chi gynnwys unrhyw dasgau y mae'n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni nod y prosiect. Er enghraifft, disgrifiwch pa gamau penodol y byddwch yn eu cymryd wrth adfer coetir.
Dywedwch wrthym ba gam o gynllunio’r prosiect yr ydych wedi'i gyrraedd, er enghraifft a ydych wedi cwblhau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, neu a ydych wedi nodi a gwneud cais am ganiatadau perthnasol.
Mae gennych 200 o eiriau.
A oes gennych deitl ar gyfer y prosiect?
Cofiwch gynnwys y rhagddodiad #COED6 yn nheitl eich prosiect.
Er enghraifft, #COED6 Adfer Coetir.
Os cewch wahoddiad i gyflwyno cais llawn gallwch newid eich teitl ond rhaid i chi gynnwys y rhagddodiad o hyd.
Dywedwch wrthym am dreftadaeth y prosiect.
Ar gyfer y rhaglen hon, mae treftadaeth yn cyfeirio at y safle(oedd) y bydd y prosiect yn gweithio arnynt. Dywedwch wrthym:
- Ble fydd y gwaith yn digwydd?
- Pwy sy'n berchen ar/rheoli'r safle(oedd)?
- Beth yw cyflwr presennol y coetir?
- Pam mae'r safle yn bwysig? (ar gyfer bioamrywiaeth/bywyd gwyllt a phobl).
Mae gennych 100 o eiriau.
Amlinellwch sut y bydd eich prosiect yn ymateb i'n pedair egwyddor fuddsoddi.
Dywedwch wrthym sut y byddwch yn cyflawni deilliannau'r Goedwig Genedlaethol. Ar gyfer y rhaglen TWIG - trwy gwrdd â'r tri deilliant Coedwig Genedlaethol hanfodol ac unrhyw un o'r deilliannau hynod ddymunol sy'n berthnasol i'ch prosiect, rydych wrth reswm yn bodloni un neu fwy o'n Hegwyddorion Buddsoddi. Rydym wedi nodi isod sut mae deilliannau'r Goedwig Genedlaethol yn cyd-fynd â'r Egwyddorion Buddsoddi.
Achub treftadaeth (hanfodol): Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn arwain at goetiroedd cydnerth o ansawdd da, wedi’u dylunio a’u rheoli’n dda (deilliant 1 y Goedwig Genedlaethol).
Diogelu'r amgylchedd (hynod ddymunol): Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn adfer cysylltedd rhwng safleoedd coetir neu'n cefnogi bioamrywiaeth (deilliant 4 y Goedwig Genedlaethol), a sut y bydd y camau y byddwch yn eu cymryd yn lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad (hanfodol): Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn gwneud coetiroedd yn fwy croesawgar, hygyrch a deniadol i ymwelwyr. Sut fydd cymunedau'n cymryd rhan yn weithredol yn y prosiect? (deilliannau 2 a 3 y Goedwig Genedlaethol).
Cynaladwyedd sefydliadol (hynod ddymunol): Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn creu safle amlbwrpas, er enghraifft, sy'n cael eu defnyddio ar gyfer mentrau hamdden a lleol. (deilliant 5 y Goedwig Genedlaethol). A yw eich prosiect yn cynnwys unrhyw elfennau sy'n dangos dysgu, ymchwil ac arloesi? (deilliant 6 y Goedwig Genedlaethol).
Mae gennych 300 o eiriau.
Pwy fydd yn cymryd rhan yn y prosiect?
Dywedwch wrthym bwy fydd yn rhedeg y prosiect, unrhyw bartneriaethau ac a fydd pobl yn gwirfoddoli ar y prosiect.
Mae gennych 100 o eiriau.
Faint o amser ydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn ei gymryd?
Rhowch amcangyfrif o'r dyddiadau dechrau a dod i ben. Noder na all prosiectau ddechrau cyn mis Tachwedd 2025 a bod yn rhaid iddynt ddod i ben erbyn 31 Rhagfyr 2027, gan gynnwys gwerthuso ac adrodd.
Mae gennych 50 o eiriau.
Faint mae'r prosiect yn debygol o gostio?
Os ydych yn gwybod, dywedwch wrthym am y costau pwysicaf, wedi'u rhannu i gostau cyfalaf a refeniw. Gellir amcangyfrif y costau hyn.
Mae gennych 200 o eiriau.
Faint o ariannu ydych chi’n bwriadu gwneud cais amdano gennym?
£[nodwch swm]
Sut i gyflwyno
Pan fyddwch yn barod, cwblhewch y cwestiynau ar ein gwasanaeth ar-lein erbyn 12 hanner dydd ar 27 Mai 2025.
Cyn cyflwyno, bydd angen i chi gofrestru cyfrif i chi'ch hun ac i'r sefydliad yr ydych yn gwneud cais amdano os nad oes gennych gyfrif eisoes.
Clywed yn ôl gennym
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno ymholiad byddwn yn cysylltu â chi ym mis Mehefin i'ch hysbysu am y canlyniad. Os bydd eich ymholiad yn llwyddiannus fe gewch eich gwahodd i wneud cais llawn erbyn y terfyn amser o 12 hanner dydd ar 19 Awst 2025.
Diweddariadau i'r arweiniad
Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.