Cwestiynau ymgeisio: Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) (rownd 6)
Cyn y gallwch wneud cais am grant TWIG rhwng £10,000 a £25,000, rhaid i chi gyflwyno Ymholiad Prosiect i ddweud wrthym am eich syniad. Os ydych yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais. Ar ôl i chi gael eich gwahodd i wneud cais, bydd gennych tan 12 hanner dydd ar 19 Awst 2025 i gyflwyno cais.
Rhaid i chi ddefnyddio'r canllaw hwn i'ch cynorthwyo wrth gwblhau ffurflen gais ar-lein am grant TWIG (Rownd 6) o £10,000 - £250,000.
Defnyddiwch y canllaw hwn:
- i weld pa gwestiynau sy'n ymddangos yn y cais
- am arweiniad ar y ffordd orau o ateb cwestiynau'r cais
- am arweiniad ar sut i ffitio meini prawf y Rhaglen TWIG i'n ffurflen gais safonol
Mae terfyn geiriau i bob cwestiwn; fodd bynnag, nid oes angen i chi gyrraedd hwn. Dim ond yr wybodaeth y gofynnwn amdani sy'n berthnasol i'ch prosiect y mae angen i chi ei chynnwys.
Ynghylch eich gweledigaeth
Disgrifiwch yr hyn yr hoffai eich sefydliad ei gyflawni drwy eich prosiect.
Byddwn yn defnyddio eich ateb i hysbysu pobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect.
Dywedwch wrthym beth rydych yn gobeithio ei gyflawni a'r hyn yr ydych yn gobeithio fydd etifeddiaeth eich prosiect.
Ar gyfer eich cais TWIG, dywedwch wrthym:
- ar beth y byddwch yn gwario'r ariannu (yn gyffredinol). Mae lle ychwanegol ar gyfer cyllideb lawn yn ddiweddarach yn y ffurflen gais.
- sut rydych yn meddwl y bydd eich syniad yn cyfrannu at ddatblygiad rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol
- sut rydych wedi cyfeirio at Safonau Coedwigaeth y DU (UKFS), a sut y maent yn effeithio ar eich cynnig
- sut y caiff unigolion a chymunedau eu cefnogi i gymryd rhan
- sut y bydd y gwaith a gynigir yn sicrhau manteision lluosog sy'n rhychwantu llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol
[Maes testun – 150 gair]
Ynghylch eich ffocws treftadaeth
Dywedwch wrthym am y dreftadaeth y byddwch yn canolbwyntio arni fel rhan o'r prosiect hwn.
Rhowch ddisgrifiad o'r tir y byddwch yn gweithio arno fel y mae heddiw. Dylech gynnwys y fath wybodaeth â'r: lleoliad, maint y safle, cyflwr presennol y safle, pwy sy'n ei reoli, unrhyw rywogaethau neu nodweddion pwysig neu warchodedig, defnyddiau presennol a lefelau cyfranogiad cymunedol.
Peidiwch â defnyddio'r adran hon i ddweud wrthym am eich prosiect, neu beth fydd yn digwydd yn ystod eich prosiect. Byddwn yn gofyn i chi am hyn yn nes ymlaen yn y cais.
[Maes testun – 500 gair]
A yw'r dreftadaeth hon mewn perygl?
Os ydy, esboniwch pam fod y dreftadaeth o dan fygythiad, sut mae'n cael ei rheoli ar hyn o bryd, a pha gamau sydd wedi'u cymryd (os o gwbl) i isafu'r risg.
Ystyriwch y canlynol: a yw natur (cynefinoedd a rhywogaethau) o dan fygythiad ar y safle a/neu yn eich ardal leol a sut y bydd y prosiect hwn yn helpu.
[Maes testun – 500 gair]
Ynghylch eich prosiect
Beth yw teitl eich prosiect?
Rhowch deitl neu enw i ni allu cyfeirio at eich prosiect.
Dechreuwch enw/teitl eich prosiect gyda'r rhagddodiad #COED6. Er enghraifft, #COED6 Beddgelert neu #COED6 Creu Coetir Bangor.
Mae hyn yn ein helpu i adnabod eich cais yn gywir, a gallai methu â gwneud hyn olygu bod eich cais yn methu’r dyddiad cau.
Bydd hwn yn cael ei weld gan y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, ac os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw bostiadau cyhoeddus a wneir am eich prosiect a'i gyhoeddi ar ein gwefan. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis teitl rydych chi'n hapus i amrywiaeth eang o bobl ei weld.
Rydym yn eich annog i gadw eich teitl yn fyr ac yn ddisgrifiadol.
[Mewnbynnu testun – 255 nod]
Pryd fydd eich prosiect yn digwydd?
Rhowch amserlen ar gyfer eich prosiect. Gall hwn fod yn amcangyfrif.
Dylech dderbyn penderfyniad ar eich cais TWIG ym mis Hydref 2025. Ar gyfer y rownd hon o'r Rhaglen TWIG, rhaid i'ch prosiect gael ei gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2027. Mae hyn yn cynnwys yr holl adrodd a gwerthuso terfynol.
Ble mae eich prosiect yn digwydd?
Os yw eich prosiect yn digwydd ar fwy nag un safle, dywedwch wrthym ble y bydd y rhan fwyaf o'ch prosiect yn digwydd.
- yr un lle â chyfeiriad fy sefydliad [Blwch ticio]
- rhywle arall [Blwch ticio]
Os rhywle arall:
Dywedwch wrthym beth yw cyfeiriad eich prosiect.
[Nodi cod post > dewis cyfeiriad > golygu manylion y cyfeiriad a ddewisir]
Rydym yn deall efallai nad oes gennych god post. Dywedwch wrthym beth yw'r cod post agosaf at leoliad eich prosiect.
Ydych chi eisiau ychwanegu cyfeirnod grid?
Ychwanegwch gyfeirnod grid os yw eich prosiect yn cael ei gynnal ar draws ardal fawr, ar fwy nag un safle neu mewn lle sy'n anodd ddod o hyd iddo gan ddefnyddio cod post. Er enghraifft, cofeb mewn lleoliad anghysbell neu ardal benodol o fewn tirwedd fwy.
Defnyddir cyfeirnodau grid i ddod o hyd i union leoliad ar fap. Gallant edrych yn wahanol gan ddibynnu ar ba ran o'r Deyrnas Unedig y maent yn cyfeirio ati. Yng Nghymru, mae cyfeirnodau grid fel arfer yn edrych fel hyn: SJ33889035
I gael canlyniad mwy cywir, dylech ddefnyddio cyfeirnodau grid gydag 8 neu 10 rhif. Gallwch ddod o hyd i gyfeirnodau grid ar gyfer y safleoedd neu'r ardaloedd sy'n gysylltiedig â'ch prosiect trwy ddefnyddio offeryn fel OS Grid Reference Finder.
- Nac ydym, nid ydym am ychwanegu cyfeirnod grid [Blwch ticio]
- Ydym, rydym am ychwanegu cyfeirnod grid [Blwch ticio]
Os ydym: Rhowch gyfeirnod grid [Maes testun – 20 nod]
Os hoffech ychwanegu cyfeirnod grid arall, bydd modd i chi ychwanegu mwy ar y dudalen nesaf.
Mwy o wybodaeth:
Rhowch fwy o wybodaeth am y cyfeirnod grid. Er enghraifft, enw'r safle neu ddisgrifiad o'r ardal y mae'n ei chwmpasu.
[Maes testun – 50 gair]
A ydych wedi derbyn unrhyw gyngor gennym ynghylch y prosiect hwn?
Dylech ateb Ydym i'r cwestiwn hwn a chynnwys unrhyw adborth a gawsoch gan y Gronfa Treftadaeth ar eich Ymholiad Prosiect.
[Maes testun – 500 gair]
A ydych wedi derbyn unrhyw gyngor gan unrhyw un arall am y prosiect hwn?
Dylech ateb Ydym i'r cwestiwn hwn. Rhowch wybod i ni am unrhyw gyngor rydych wedi'i dderbyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Llais y Goedwig, Cadw, Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor Sir neu sefydliadau perthnasol eraill yn eich ardal.
Yn benodol, rhowch wybod i ni am unrhyw gymorth yr ydych wedi'i dderbyn gan swyddogion cyswllt Coetir CNC ynghylch rhaglen y Goedwig Genedlaethol i Gymru a sut mae'r cyngor hwn wedi llywio'ch cynlluniau.
Dywedwch wrthym a ydych wedi derbyn unrhyw gyngor arbenigol arall am eich prosiect.
Gallai hyn gynnwys:
- unrhyw ymgynghoriad rydych wedi'i wneud gyda'ch cymuned leol a'r rhai a fydd yn ymwneud â'ch prosiect
- unrhyw gyngor cyn-ymgeisio ar faterion cynllunio, er enghraifft gan eich awdurdod lleol neu gan archeolegydd
- cyngor ar sut i ymdrin â lles y cyfranogwyr yn eich prosiect, er enghraifft gan elusen neu grŵp lleol a all ddarparu cymorth sy’n berthnasol i’w profiad o lygad y ffynnon
[Maes testun – 500 gair]
Dywedwch wrthym beth fyddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.
Rhowch drosolwg o'r hyn y byddwch yn ei wneud yn ystod eich prosiect.
Er enghraifft, disgrifiwch unrhyw:
- gamau y byddwch yn eu cymryd i adfer coetir
- gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud
- digwyddiadau y byddwch yn eu cynnal
- cynlluniau neu adnoddau y byddwch yn eu creu
Mae hyn yn ein helpu i ddeall beth yw diben eich prosiect.
Dylai eich cynllun prosiect ddarparu gwybodaeth fanylach am bob elfen o'ch prosiect.
Anogir plannu coed risg isel, ar raddfa fach o hyd at 2 hectar fel rhan o’ch prosiect. Dylech ystyried arweiniad Safon Coedwigaeth y DU a Map Cyfleoedd Coetir 2025 i nodi ardaloedd sensitifrwydd isel y gallech eu cynnwys yn eich cais TWIG ar gyfer plannu coed o 0.1 i 2 hectar.
Bydd angen i bob prosiect sy'n ymwneud â chreu coetir o fwy na dau hectar, neu lai na 2 hectar ond ddim mewn ardal sensitifrwydd isel, wneud cais i Gynllun Cynllunio Creu Coetir Llywodraeth Cymru cyn gwneud cais am arian grant TWIG.
Bydd angen Cynllun Rheoli Coetir (CRhC) ar bob prosiect, sy’n sicrhau bod:
- coetiroedd yn cael eu rheoli'n unol ag egwyddorion Safon Coedwigaeth y DU.
- coetiroedd yn dangos bod meini prawf hanfodol y Goedwig Genedlaethol yn cael eu cyflawni, sef 'coetiroedd cydnerth o ansawdd da, sydd wedi'u dylunio a'u rheoli'n dda’
Os oes gennych Gynllun Rheoli Coetir yn barod, dylech gyflwyno hwn fel rhan o'ch cais.
Os nad oes gennych Gynllun Rheoli Coetir yn barod, dylech gynnwys y costau i ddatblygu un yn eich cais. Bydd angen i chi anfon hwn atom cyn i'r prosiect ddod i ben.
[Maes testun – 500 gair]
A fydd gwaith cyfalaf yn rhan o'ch prosiect?
Dylech ateb Bydd i'r cwestiwn hwn. Rhowch fanylion y gwaith a'r costau gan gofio bod arian refeniw yn uchafswm o 25% o'r grant hwn. Yn ogystal, gellir defnyddio hyd at 10% o'r elfen gyfalaf ar gyfer cynllunio'r prosiect a chostau gweithredu prosiect uniongyrchol eraill.
Diffinnir gwaith cyfalaf fel gwaith sy'n creu neu'n gwella ased. Gall hwn gynnwys gwaith ffisegol ar dirweddau, byd natur ac adeiladau, atgyweirio, cadwraeth, adeiladu o'r newydd, digideiddio ac allbynnau digidol o bob math.
Rhai enghreifftiau o waith cyfalaf yw:
- plannu coed
- adeiladu llwybrau hygyrch
- gosod paneli dehongli
Wrth allbynnau digidol rydym yn golygu unrhyw beth a grëir mewn fformat digidol gyda'n hariannu, sydd wedi'i ddylunio i roi mynediad i dreftadaeth neu helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu amdani. Er enghraifft, arolygon amgylcheddol, deunyddiau addysgol a chynnwys arddangos digidol. Gallai eich allbynnau digidol gynnwys:
- ffotograffau, recordiadau sain a fideo
- dogfennau electronig a chronfeydd data
- cynnwys gwefannau ac apiau
- meddalwedd a chod
- modelau 3D
Os yw allbynnau digidol yn rhan o'ch prosiect a bod gan bobl neu sefydliadau eraill hawliau perchnogaeth neu eiddo deallusol, bydd angen i chi ddweud wrthym am hyn.
Mae'r rhaglen TWIG ar gyfer tirfeddianwyr a/neu'r rhai sydd â rheolaeth lawn dros dir felly mae'n bwysig i chi ddweud wrthym pwy sy'n berchen ar y dreftadaeth.
Os mai eich sefydliad chi sy'n berchen ar y dreftadaeth, dywedwch wrthym:
- a oes gan eich sefydliad rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth
- a oes gan eich sefydliad les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les
- a oes gan eich sefydliad, neu a yw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad neu dir, neu eitem treftadaeth. Os oes, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni. Os oes gennych un, uwchlwythwch ddogfen o berchnogaeth.
Os yw sefydliad partner yn berchen ar y dreftadaeth, dywedwch wrthym:
- enw'r sefydliad partner
- a oes gan y partner yn y prosiect rydd-ddaliad ar yr adeilad neu dir, neu a yw'n berchen yn gyfan gwbl ar yr eitemau treftadaeth
- a oes gan y partner yn y prosiect les ar yr adeilad neu dir a faint o flynyddoedd sy'n weddill ar y les
- a oes gan y partner yn y prosiect, neu a yw'n bwriadu cymryd, morgais neu fenthyciadau eraill sydd wedi'u sicrhau ar yr adeilad neu dir, neu eitem treftadaeth
- os oes, rhowch fanylion y benthyciwr a maint y morgais neu fenthyciad i ni
Rydym yn disgwyl i chi fod yn berchennog ar unrhyw dir yr ydych yn gwario’r grant arno neu fod gennych brydles sy’n bodloni ein gofynion ac yn darparu tystiolaeth o berchnogaeth, gan gynnwys copi swyddfa diweddar gan y Gofrestrfa Tir yn dangos mai chi sy’n berchen ar y tir (neu ar gyfer tir nad yw'n gofrestredig, y gweithredoedd perthnasol). Dylai'r rhain gael eu huwchlwytho i'ch cais nawr.
[Maes testun – 500 gair]
Uwchlwytho dogfen o berchnogaeth.
[Dewis ffeil]
Os dewiswch 'Bydd, gwaith cyfalaf yw rhan o'n prosiect', bydd angen hefyd i chi ateb y pum cwestiwn nesaf:
A oes angen unrhyw ganiatâd arnoch i wneud y gwaith cyfalaf?
Dylech ateb Oes i'r cwestiwn hwn. Disgwylir y bydd pob ymgeisydd yn dod o hyd i'r caniatadau angenrheidiol gan eu hawdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), neu gyrff eraill fel Cadw cyn cyflwyno cais.
Os nad oes gennych eich holl ganiatadau yn eu lle, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi gwneud cais am y caniatadau perthnasol yn eich dogfennau ategol.
Enghreifftiau o'r hyn y gallai fod angen caniatâd ar ei gyfer:
- cydsyniad gan berchennog ased treftadaeth
- hawliau mynediad gan dirfeddiannwr
- trwyddedau cwympo coed
- trwyddedau rhywogaethau a warchodir
- caniatâd cynllunio neu Orchmynion Datblygu Cyffredinol a Ganiateir (GDPO) ar gyfer traciau, ffyrdd, toiledau compostio
A yw arolwg cyflwr wedi'i gynnal yn ystod y pum mlynedd diwethaf?
Cyn i chi wneud cais, rhaid i chi ystyried a oes angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ar gyfer eich cynigion. Dangoswch eich bod wedi gwirio'r meini prawf perthnasol ac nad yw'r cynigion yn dod o fewn y mathau penodedig hynny sy'n ofynnol ar gyfer AEA.
Os oes angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, dywedwch wrthym beth yw’r canlyniad neu rhowch dystiolaeth yn eich dogfennau ategol eich bod wedi gwneud cais am un.
Rhowch wybod i ni am unrhyw arolygon ecolegol neu archeolegol sydd wedi'u cwblhau ar y tir nad ydynt yn dod o dan eich Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol.
[Maes testun – 500 gair]
A oes unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r dreftadaeth a allai effeithio ar eich prosiect?
Dywedwch wrthym os yw’r gofrestr teitl neu ddogfennau perchnogaeth eraill yn cynnwys unrhyw waharddiadau neu gyfyngiad ar ei defnydd neu berchnogaeth, neu a oes angen unrhyw ganiatadau ar gyfer unrhyw drafodion. Os oes, bydd angen i chi roi'r manylion llawn a thystiolaeth bod y rhain wedi'u bodloni.
Gallai hyn gynnwys:
- Cyfamod Cyfyngol sy’n cyfyngu ar y math o ddefnydd ar gyfer y tir neu’r eiddo
- cyfyngiad sy’n rhoi hawl i barti arall gael ei hysbysu am unrhyw drafodion neu nodi amodau y byddai angen eu datrys cyn gwerthu’r eiddo
Ateb:
Nac oes, nid oes unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r dreftadaeth [Blwch ticio]
Oes, mae yna amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r dreftadaeth [Blwch ticio]
Os oes: Dywedwch fwy wrthym am unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r ased treftadaeth a allai effeithio ar eich prosiect
[Maes testun – 500 gair]
Nid wyf yn siŵr a oes unrhyw amodau, cyfyngiadau neu gyfamodau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â’r dreftadaeth [Blwch ticio]
A yw'r dreftadaeth hon ar y Gofrestr Mewn Perygl?
Atebwch Nac ydy i'r cwestiwn hwn.
A fyddwch yn creu unrhyw waith digidol fel rhan o'ch prosiect?
Wrth allbynnau digidol rydym yn golygu unrhyw beth a grëir mewn fformat digidol gyda'n hariannu, sydd wedi'i ddylunio i roi mynediad i dreftadaeth neu helpu pobl i ymgysylltu â threftadaeth a dysgu amdani.
Dywedwch wrthym a fyddwch yn creu unrhyw allbynnau digidol fel rhan o'ch prosiect. Bydd angen i’r allbynnau digidol y byddwch yn eu creu fodloni ein gofynion digidol, a bod ar gael, yn hygyrch ac yn agored. Gallwch ddarllen mwy am ein gofynion digidol ar ein gwefan.
Gallai eich allbynnau digidol gynnwys:
- ffotograffau, recordiadau sain a fideo
- dogfennau electronig a chronfeydd data
- cynnwys gwefannau ac apiau
- meddalwedd a chod
- modelau 3D
Ateb:
Na fyddwn, nid ydym yn creu unrhyw waith digidol [Blwch ticio]
Byddwn, rydym yn creu gwaith digidol [Blwch ticio]
Os byddwn: Dywedwch wrthym sut y byddwch yn sicrhau bod y gwaith digidol hwn yn bodloni ein gofynion digidol.
[Maes testun – 500 gair]
A fyddwch yn caffael unrhyw adeiladau, tir neu eitemau treftadaeth fel rhan o'ch prosiect?
Atebwch Na fyddwn i'r cwestiwn hwn. Ni chaniateir caffael tir o dan y cynllun hwn.
Mae ein hariannu'n ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022. Dywedwch wrthym a ydych o'r farn bod yr ariannu y gwnaed cais amdano yn Gymhorthdal o dan y Ddeddf ac am unrhyw gyngor yr ydych efallai wedi'i geisio.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bwysig cofio bod ein grant yn dod o arian cyhoeddus ac y gall fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022.
Gallwch ddysgu mwy am reoli cymhorthdal yn adran Gofynion cyfreithiol a pholisi arweiniad y rhaglen.
[Maes testun – 500 gair]
Sut fyddwch chi'n cynnal buddion eich prosiect ac yn talu unrhyw gostau cysylltiedig?
Dywedwch wrthym sut y byddwch yn rheoli buddion eich prosiect ar ôl i'r ariannu ddod i ben.
Disgrifiwch yma sut y byddwch yn rheoli’r safle yn y dyfodol, er enghraifft a fyddwch yn parhau i gyflogi staff i helpu i'w chynnal a'i chadw.
Dywedwch wrthym sut y byddwch yn sicrhau bod unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn eiddo i'r gymuned ac yn cael eu cyflwyno dros y gymuned, gan y gymuned.
Os oes gennych Gynllun Rheoli Coetir yn barod, dylech gyflwyno hwn fel rhan o'ch cais.
Os nad oes gennych Gynllun Rheoli Coetir yn barod, dylech gynnwys y costau i ddatblygu un yn eich cais. Bydd angen i chi anfon hwn atom cyn i'r prosiect ddod i ben.
Cofiwch: os ydych yn plannu coed, gallwn wneud un taliad cynnal a chadw ar ddiwedd y prosiect i dalu am gynnal a chadw coed am dair blynedd ar ôl y prosiect. Mae taliadau cynnal a chadw ar gyfradd sefydlog fel a ganlyn:
Blwyddyn 1: £400 yr hectar o blannu newydd
Blwyddyn 2: £300 yr hectar
Blwyddyn 3: £250 yr hectar
[Maes testun – 500 gair]
Ynghylch am yr angen am eich prosiect
Pam mae angen i'ch prosiect ddigwydd?
Mae'r gronfa hon yn gystadleuol a bydd angen i chi esbonio pam fod angen i'r prosiect hwn ddigwydd nawr.
Er enghraifft:
- A oes pwysau datblygu penodol ar y tir?
- A oes cyfle unwaith ac am byth i ailgysylltu coetiroedd ynysig?
- A yw'r gymuned wedi bod yn awyddus i wella neu greu coetir yn eu hardal?
- A oes rhwystrau i gyfranogiad yn eich cymuned y mae'r prosiect hwn yn mynd i'r afael â hwy?
[Maes testun – 500 gair]
A oes cymuned benodol y mae eich prosiect wedi ymrwymo i'w gwasanaethu? Dewiswch unrhyw un sy'n berthnasol.
Dewiswch o'r rhestr isod i adlewyrchu pwy fydd eich prosiect yn ei gefnogi. Dewiswch unrhyw a phob un sy'n berthnasol, neu dewiswch 'dim un o'r uchod' os nad yw hyn yn berthnasol i'ch prosiect.
Os byddwch yn dewis yr opsiwn 'grwpiau penodol nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys', dywedwch fwy wrthym am y grwpiau neu'r cymunedau hyn.
Os ydych yn gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed fel rhan o'ch prosiect, bydd angen i chi fod wedi rhoi polisïau ac arferion diogelu ar waith. Dylech hefyd sicrhau bod lles staff y prosiect, cyfranogwyr ac ymwelwyr yn cael ei ystyried trwy gydol eich prosiect.
Dylech wneud addasiadau rhesymol i'r ffordd yr ydych yn cyflwyno'ch prosiect neu wasanaethau fel y gall pawb gymryd rhan.
- Cymunedau sy’n profi annhegwch, gwahaniaethu neu anghydraddoldeb ethnig neu hiliol [Blwch ticio]
- Cymunedau ffydd [Blwch ticio]
- Pobl sydd wedi mudo a/neu sydd â phrofiad o’r system fewnfudo [Blwch ticio]
- Pobl f/Fyddar, anabl, dall, â golwg rhannol a/neu niwrowahanol [Blwch ticio]
- Pobl hŷn (65 oed a throsodd) [Blwch ticio]
- Pobl iau (o dan 25 oed) [Blwch ticio]
- Menywod a merched [Blwch ticio]
- Pobl LHDTC+ [Blwch ticio]
- Pobl sydd o dan anfantais addysgol neu economaidd [Blwch ticio]
- Grwpiau penodol nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys [Blwch ticio]
- Dim un o'r uchod [Blwch ticio]
Pwy arall ydych chi wedi cysylltu â nhw ynghylch ariannu eich prosiect?
Dywedwch wrthym am unrhyw ariannu arall:
- rydych wedi'i sicrhau i helpu tuag at gost eich prosiect
- rydych yn bwriadu gwneud cais amdano i gefnogi'r prosiect hwn
- y byddwch yn ei godi drwy godi arian neu gyfraniadau torfol
Dywedwch wrthym a ydych wedi codi unrhyw gyfraniadau nad ydynt yn arian parod i'ch helpu i gyflwyno'ch prosiect.
Er y gallwn ariannu cost gyfan y prosiect, dylech esbonio pam na allwch godi unrhyw ariannu arall naill ai o'ch adnoddau eich hun neu o ffynonellau eraill.
[Maes testun – 500 gair]
Ein hegwyddorion buddsoddi
Bydd ein pedair egwyddor fuddsoddi'n cyfeirio ein holl benderfyniadau gwneud grantiau o dan ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033
Ein hegwyddorion buddsoddi yw:
- achub treftadaeth
- diogelu'r amgylchedd
- cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
- cynaladwyedd sefydliadol
Ar gyfer y rhaglen TWIG rydym wedi paru’r Egwyddorion Buddsoddi â deilliannau’r Goedwig Genedlaethol. Dywedwch wrthym sut rydych chi'n bodloni 3 Deilliant Hanfodol y Goedwig Genedlaethol ac unrhyw un o'r deilliannau hynod ddymunol trwy ddarllen yr arweiniad isod. Nid oes angen ond i chi gwblhau'r adrannau hynny sy'n berthnasol i'ch prosiect.
Ceir rhagor o fanylion am ddeilliannau'r Goedwig Genedlaethol yn adran 'Sut rydym yn asesu'ch cais' yr Arweiniad Ymgeisio TWIG.
Esboniwch sut fydd eich prosiect yn achub treftadaeth.
Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn arwain at goetiroedd cydnerth o ansawdd da, wedi’u dylunio a’u rheoli’n dda (deilliant 1 y Goedwig Genedlaethol).
[Maes testun – 500 gair]
Esboniwch sut fydd eich prosiect yn diogelu'r amgylchedd.
Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn adfer cysylltedd rhwng safleoedd coetir neu'n cefnogi bioamrywiaeth (deilliant 4 y Goedwig Genedlaethol), a sut y bydd y camau y byddwch yn eu cymryd yn lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
[Maes testun – 500 gair]
Esboniwch sut fydd eich prosiect yn cynyddu cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad.
Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn gwneud coetiroedd yn fwy croesawgar, hygyrch a deniadol i ymwelwyr. Sut fydd cymunedau'n cymryd rhan yn weithredol yn y prosiect? (deilliannau 2 a 3 y Goedwig Genedlaethol).
[Maes testun – 500 gair]
Esboniwch sut fydd eich prosiect yn gwella'ch cynaladwyedd sefydliadol.
Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn creu safleoedd amlbwrpas, er enghraifft, sy'n cael eu defnyddio ar gyfer mentrau hamdden a lleol (deilliant 5 y Goedwig Genedlaethol). A yw eich prosiect yn cynnwys unrhyw elfennau sy'n dangos dysgu, ymchwil ac arloesi? (deilliant 6 y Goedwig Genedlaethol). Dylech gynnwys cynlluniau cefnogi neu gyflwyno sgiliau a hyfforddiant yma.
[Maes testun – 500 gair]
Cyflwyno eich prosiect
Pam mai eich sefydliad chi yw'r un gorau i gyflwyno'r prosiect hwn?
Dywedwch wrthym pam y dylai eich sefydliad chi'n benodol redeg y prosiect hwn.
Gall hyn gynnwys:
- unrhyw brofiad sydd gan eich sefydliad o redeg prosiectau tebyg
- gwybodaeth a sgiliau staff a/neu aelodau Bwrdd ac Ymddiriedolwyr
- capasiti eich sefydliad i gyflwyno'r prosiect ar yr un pryd â'ch gwaith arferol
- eich cysylltiadau â phrosiectau neu sefydliadau perthnasol eraill
[Maes testun – 500 gair]
Sut fyddwch chi'n rheoli cyflwyniad eich prosiect?
Dywedwch wrthym sut y bydd eich prosiect yn cael ei reoli o ddydd i ddydd ac am y bobl a fydd yn ymwneud ag ef.
Dylai hyn gynnwys dweud wrthym:
- bwy fydd yn gwneud penderfyniadau, profiad y bobl sy'n cymryd rhan a'u rolau yn y prosiect
- am swyddi staff, prentisiaid, hyfforddeiaethau, neu unrhyw gyfleoedd cyflogedig eraill, y bydd eich prosiect yn eu creu
- am unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli y bydd eich prosiect yn eu creu. Gwirfoddolwyr yw pobl sy'n rhoi o'u hamser am ddim i helpu cyflwyno eich prosiect
- os ydych yn symud aelod staff presennol i swydd sydd wedi'i chreu gan y prosiect hwn, neu'n ymestyn oriau aelod staff presennol i weithio ar y prosiect, dywedwch wrthym beth yw eu cymwysterau ar gyfer y rôl
Cofiwch, rhaid i chi hysbysebu pob swydd staff newydd yn agored, oni bai eich bod yn symud aelod staff presennol i swydd sydd wedi'i chreu gan y prosiect hwn neu'n ymestyn oriau aelod staff presennol i weithio ar y prosiect.
[Maes testun – 500 gair]
A fydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno gan bartneriaeth?
Os Bydd, dywedwch wrthym pwy yw eich partneriaid, natur eich partneriaethau a sut y byddwch yn gweithio ar y cyd.
Hoffem weld eich cytundeb partneriaeth os ydych yn gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni eich prosiect. Os oes gennych un, gallwch ei uwchlwytho yma.
Dylai'r ddogfen hon amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r holl bartneriaid a dylai pob parti ei llofnodi. Dylai'r cytundeb hwn adlewyrchu anghenion eich prosiect ac mae'n bosibl y bydd angen i chi geisio cyngor annibynnol.
Nid oes angen i chi ddarparu cytundeb partneriaeth oni bai bod sefydliad arall yn cyflwyno rhan sylweddol o'ch prosiect.
[Maes testun – 500 gair]
Sut fyddwch chi'n gwerthuso eich prosiect?
Rhaid i chi werthuso eich prosiect a darparu adroddiad gwerthuso ysgrifenedig ar ôl i chi orffen eich prosiect.
Bydd angen i chi greu cynllun gwerthuso ar ddechrau eich prosiect. Braslun yw hwn o sut y byddwch yn cywain data i fesur, dadansoddi a deall yr hyn rydych chi'n ei wneud ac yn y pen draw i ddarparu tystiolaeth o'r canlyniadau y mae eich prosiect wedi'u cyflawni.
Dywedwch wrthym pwy fydd yn gwneud eich gwerthusiad. Gallai hyn fod yn staff yn eich sefydliad neu'n unigolyn neu sefydliad y bydd angen i chi ei gyflogi. Dylech ddarparu brîff ar gyfer y gwaith hwn fel dogfen ategol.
Byddem yn disgwyl gweld costau ar gyfer eich gwerthusiad wedi'u cynnwys yn eich costau prosiect.
[Maes testun – 500 gair]
A fydd unrhyw ran o'ch prosiect yn digwydd yng Nghymru?
Atebwch Bydd. Rhaid i'ch prosiect ddigwydd yng Nghymru i fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen TWIG.
Rhaid i chi gynnwys y Gymraeg ym mhob agwedd o'ch gwaith.
Dywedwch wrthym sut y byddwch yn defnyddio'r Gymraeg yn eich prosiect, a chofiwch sicrhau bod yr wybodaeth hon wedi'i chynnwys yng nghyllideb a chynllun eich prosiect. Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer cyfieithu o dan y categori costau 'Arall' yn yr adran costau prosiect.
[Maes testun – 500 gair]
Dywedwch wrthym am unrhyw heriau allweddol neu risgiau posibl i'ch prosiect yr ydych wedi'u nodi.
Rydym yn gwybod bod pob prosiect yn wynebu heriau a risgiau. Dywedwch wrthym am yr heriau neu'r risgiau yr ydych wedi'u nodi, a allai effeithio ar eich prosiect.
Dylai eich cofrestr risgiau ddarparu gwybodaeth fanylach am yr heriau neu'r risgiau hyn a sut y byddwch yn eu rheoli.
Byddem yn disgwyl gweld cronfa wrth gefn yn eich costau prosiect i helpu rheoli'r heriau neu'r risgiau a nodwyd.
[Maes testun – 500 gair]
Costau prosiect
Dywedwch wrthym faint y bydd yn ei gostio i gyflwyno eich prosiect
Dylech gynnwys yr holl gostau sy'n gysylltiedig â'ch prosiect.
Cyfeiriwch at adran “Pa gostau allwch chi wneud cais amdanynt?” yr arweiniad ymgeisio TWIG. Cofiwch y gellir defnyddio uchafswm o 25% o'r grant hwn fel arian refeniw. Ar ben hynny, gellir defnyddio hyd at 10% o'r elfen gyfalaf ar gyfer cynllunio'r prosiect a chostau gweithredu prosiect uniongyrchol eraill.
Cofiwch gynnwys costau cyfieithu Cymraeg, gwerthuso, cydnabyddiaeth, swm wrth gefn a chostau cynnal a chadw ar ôl y prosiect os ydych yn plannu coed.
Llenwch ac uwchlwythwch dempled Costau'r Rhaglen TWIG sydd ar gael ar y dudalen templedi TWIG. Mae'r ddogfen hon yn orfodol a bydd yn rhoi dadansoddiad manylach o'r costau refeniw a chyfalaf sy'n ofynnol gyda'ch cais.
Bydd angen i chi ychwanegu cost newydd ar gyfer pob cost prosiect wahanol.
Er enghraifft, os ydych yn recriwtio tri aelod staff newydd i reoli'ch prosiect, bydd angen i chi ychwanegu tair cost staff newydd wahanol.
Bydd angen i bob cost fod â'i disgrifiad a'i swm ei hun.
Os ydych yn hawlio TAW ar unrhyw un o'ch costau prosiect, cofiwch sicrhau'n gyntaf na ellir ei hadennill trwy ffynonellau eraill. Ni allwn dalu costau TAW y gallwch ei adennill.
Os bydd eich statws TAW yn newid yn ystod eich prosiect, byddwn yn lleihau ein cyfraniad at y costau os ydych wedi llwyddo i hawlio'r TAW yn ôl.
A ydych yn derbyn unrhyw gyfraniadau arian parod i gefnogi eich prosiect?
Cyfraniadau arian parod yw cronfeydd eraill y disgwyliwch eu derbyn tuag at gost eich prosiect. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfraniad arian parod gan eich sefydliad eich hun.
Os ydym: Uwchlwythwch dystiolaeth. Gallai hwn fod yn llythyr yn cadarnhau’r cynnig neu’n gopi o gyfriflenni banc yn dangos yr arian yn eich cyfrif.
A ydych yn derbyn unrhyw gyfraniadau nad ydynt yn arian parod i gefnogi eich prosiect?
Cyfraniadau nad ydynt yn arian parod yw pethau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich prosiect nad oes angen i chi dalu amdanynt.
Er enghraifft, defnyddio ystafell mewn busnes lleol, neu ddeunyddiau a roddir gan gwmni lleol.
Rhowch amcangyfrif o faint y byddai hyn wedi'i gostio os oedd angen i'ch prosiect dalu amdano.
Dogfennau ategol
Bydd angen i chi ddarparu'r dogfennau ategol perthnasol a amlinellir yn yr adran hon fel rhan o'r broses ymgeisio. Gofynnir i chi lawrlwytho a chwblhau'r templedi angenrheidiol yma fel rhan o'ch cais.
Rhaid i chi ddarparu'r dogfennau gorfodol a ganlyn:
- dogfen lywodraethu (oni bai eich bod wedi’ch eithrio)
- gwybodaeth cyfrifon
- cynllun prosiect, gan gynnwys rhestr wirio caniatadau, cofrestr risgiau a rhestr wirio mesur llwyddiant
- templed costau
- dogfennau perchnogaeth tir (Cofrestrfa Tir, neu les neu Benawdau Telerau)
- map o'r safle
- tystiolaeth o ymgeisio am ganiatadau
Yn ychwanegol at y dogfennau gorfodol, gallwch gynnwys y dogfennau canlynol lle bo’n berthnasol hefyd:
- Cynllun Rheoli Coetir (gorfodol os yw eisoes yn bodoli)
- cytundeb partneriaeth (gorfodol os ydych yn gweithio mewn partneriaeth)
- disgrifiadau swydd (gorfodol os ydych yn creu swyddi neu brentisiaethau newydd fel rhan o’ch prosiect)
- briffiau ar gyfer gwaith a gomisiynir (os yn berthnasol)
- cyfrifiadau Adennill Costau Llawn (os yn berthnasol)
- tystiolaeth o gefnogaeth, megis llythyrau, e-byst neu fideos cefnogol (dewisol)
- delweddau o'r wefan (dewisol)
Cyfrifon
Uwchlwythwch gyfrifon eich sefydliad.
Rhaid i chi ddarparu eich cyfrifon diweddaraf sydd wedi'u harchwilio neu eu dilysu gan gyfrifydd.
Mae angen i gyfrifon fod:
- yn enw cyfreithiol eich sefydliad
- â dyddiad arnynt
- â llofnod mewn llawysgrifen. Nid yw hyn yn cynnwys llofnodion digidol
- â theitl y sawl sy'n eu llofnodi arnynt. Rhaid i'r person hwn fod yn gyfarwyddwr, ymddiriedolwr, cyfrifydd, neu berson uwch arall yn eich sefydliad
Os yw cyfrifon eich sefydliad yn hŷn na 18 mis, rhaid hefyd i chi ddarparu tri mis o'ch cyfriflenni banc diweddaraf. Dylai hyn fod y tri mis cyn y dyddiad yr ydych yn cyflwyno'ch cais.
Os sefydlwyd eich sefydliad lai na 14 mis yn ôl ac nid oes gennych set o gyfrifon wedi'u harchwilio, rhaid i chi ddarparu eich tair cyfriflen banc ddiwethaf, neu lythyr gan eich banc yn cadarnhau bod eich sefydliad wedi agor cyfrif.
Nid oes angen i ni weld eich cyfrifon os ydych yn sefydliad cyhoeddus, er enghraifft awdurdod lleol neu brifysgol.
Uwchlwytho eich cyfrifon [Dewis ffeil]
Cynllun prosiect, gan gynnwys rhestr wirio caniatadau, cofrestr risgiau a rhestr wirio mesur llwyddiant
Ar gyfer y rhaglen TWIG, rydym wedi cyfuno'r cynllun prosiect, y rhestr wirio caniatadau, y rhestr wirio mesur llwyddiant a'r gofrestr risgiau mewn un ddogfen i chi ei chwblhau a'i chyflwyno. Dylech lawrlwytho'r ddogfen hon o'n tudalen templedi a chyflwyno'r ddogfen wedi'i chwblhau gyda'ch cais.
Cynllun Prosiect
Dylai'r cynllun prosiect ddarparu gwybodaeth fanwl am y tasgau y gwnaethoch eu hamlinellu yn eich cais.
Ar gyfer pob tasg, gwnewch hi'n CAMPUS:
- cyraeddadwy
- amserol
- mesuradwy
- uchelgeisiol
- synhwyrol
Gosod allan eich cynllun prosiect
Rydym yn argymell bod eich cynllun prosiect mewn trefn gronolegol. Dyma le y byddwch yn dweud wrthym am y pethau y bydd eich prosiect yn eu gwneud ac yn eu cynhyrchu. Dywedwch wrthym beth fydd allbynnau eich prosiect a phwy fydd yn cymryd rhan ynddo. Dylech gynnwys rhifau lle bo modd.
Dylai'r cynllun prosiect ganolbwyntio ar y tasgau y mae'n rhaid eu cwblhau i wneud y prosiect yn llwyddiant. Dylech gynnwys yr holl weithgareddau a cherrig milltir allweddol yr ydych yn gobeithio eu cyflawni.
Pan gaiff ei lenwi, dylai'r tabl roi cynllun realistig i chi a'ch cydweithwyr ar gyfer cyflawni eich prosiect. Fodd bynnag, rydym yn deall bod y cynllun yn debygol o newid a gwella wrth i'ch prosiect ddatblygu.
Byddwn yn gofyn i chi gywain data drwy gydol eich prosiect i fesur llwyddiant eich cynlluniau ac yn gofyn i chi fyfyrio arnynt yn eich gwerthusiad prosiect.
Uwchlwythwch eich cynllun prosiect, gan gynnwys y rhestr wirio caniatadau a'r gofrestr risgiau. Dylai hwn gael ei lawrlwytho o'n tudalen templedi a'i gwblhau.
Rhestr wirio caniatadau a rhestr wirio Mesur Llwyddiant
Ar gyfer y rhaglen TWIG, gofynnwn i chi ddarparu manylion y caniatadau angenrheidiol sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich prosiect gan yr awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), neu gyrff eraill fel Cadw. Os nad yw'r caniatadau hyn wedi'u sicrhau, mae angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi gwneud cais amdanynt yn eich dogfennau ategol.
Bydd y rhestr wirio Mesur Llwyddiant yn ein helpu i werthuso cynnydd tuag at dargedau'r Goedwig Genedlaethol. Cwblhewch yr wybodaeth ar y tab hwn.
Cofrestr Risgiau
Mae cofrestr risgiau'n ddogfen, fel arfer wedi'i llunio fel tabl, sy'n rhestru'r holl risgiau a nodwyd gan sefydliad ac wedi'u blaenoriaethu yn nhrefn pwysigrwydd.
Rydym yn gwybod bod pob prosiect yn wynebu heriau a risgiau. Byddwn am weld pa risgiau yr ydych wedi'u hystyried, yr effaith y byddai'r risg yn ei chael ar eich prosiect a sut y byddech yn cynllunio i reoli pob risg.
Ar gyfer pob risg, amlinellwch:
- natur y risg, er enghraifft technegol, marchnad, ariannol, economaidd, rheoli, cyfreithiol
- disgrifiad o'r risg
- y cyfle y bydd y risg yn digwydd, gan ddefnyddio gwerth canrannol neu radd isel, canolig neu uchel
- yr effaith y gallai'r risg ei chael ar gostau, amser ac ansawdd y prosiect
- yr effaith gyffredinol y gallai’r risg ei chael ar gyflwyno’r prosiect
- sut y byddech yn rheoli’r risg
Uwchlwytho eich cynllun prosiect a'ch cofrestr risgiau [Dewis ffeiliau]
Disgrifiadau swydd
Uwchlwythwch ddisgrifiadau swydd ar gyfer unrhyw staff neu brentisiaid newydd (os yn berthnasol)
Os ydych yn bwriadu recriwtio staff neu brentisiaid newydd i helpu cyflwyno eich prosiect, mae angen i chi ddarparu disgrifiad swydd ar gyfer pob swydd newydd. Os ydych yn symud aelod presennol o staff i rôl ar y prosiect, neu'n ymestyn ei oriau i gefnogi'r prosiect, mae angen i chi ddarparu disgrifiad swydd o hyd.
Dylai pob disgrifiad swydd gynnwys y cyflog a'r oriau gwaith arfaethedig.
Uwchlwytho unrhyw ddisgrifiadau swydd [Dewis ffeil]
Briffiau
Uwchlwythwch friffiau ar gyfer unrhyw waith a gomisiynir (os yn berthnasol)
Mae briffiau'n disgrifio unrhyw waith yr ydych yn bwriadu ei gomisiynu yn ystod eich prosiect.
Os ydych yn comisiynu gwaith, er enghraifft gan ecolegydd, dylech ddarparu brîff. Dylai'r brîff ddisgrifio'r gwaith, faint o amser y bydd yn ei gymryd, a faint y bydd yn ei gostio.
Gallwch chi ddod o hyd i dempled o frîff ar ein gwefan.
Uwchlwytho unrhyw friffiau ar gyfer gwaith [Dewis ffeil]
Adennill costau llawn
Uwchlwythwch gyfrifiadau ar gyfer adennill costau llawn (os yn berthnasol)
Os ydych wedi cynnwys adennill costau llawn fel pennawd cost yng nghostau eich prosiect, rhaid i chi ddarparu dogfen sy'n dangos sut rydych wedi cyfrifo hyn.
Dylai costau fod yn gymesur â'r amser neu'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer eich prosiect. Gallwn hefyd dalu cyfran o gost aelod staff presennol, ar yr amod nad yw'n gweithio'n gyfan gwbl ar y prosiect a ariennir mewn swydd newydd.
Uwchlwytho eich cyfrifiad adennill costau llawn [Dewis ffeil]
Delweddau
Uwchlwythwch ddelweddau o'r prosiect (os yn berthnasol)
Darparwch hyd at chwe delwedd sy'n helpu rhoi darlun o'ch prosiect.
Gallai hyn gynnwys:
- delwedd o fap o'r ardal yn dangos y lleoliadau sy'n berthnasol i'ch prosiect, os yw'n digwydd ar draws mwy nag un lle neu ar draws ardal eang.
Gwnewch yn siŵr bod gennych bob caniatâd sydd ei angen i rannu'r delweddau hyn gyda ni, gan y byddwn o bosibl yn defnyddio'r rhain i ddweud wrth bobl, gan gynnwys y sawl sy'n gwneud ein penderfyniadau, am eich prosiect. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio unrhyw ddelweddau a anfonwch atom i hyrwyddo'ch prosiect yn gyhoeddus.
Uwchlwytho unrhyw ddelweddau [Dewis ffeil]
Tystiolaeth o gefnogaeth
Defnyddiwch yr adran hon i uwchlwytho unrhyw ddogfennau ategol ychwanegol sy'n benodol i TWIG. Mae'r dogfennau gorfodol y dylech eu huwchlwytho yma yn cynnwys:
- templed costau
- Cynllun Rheoli Coetir (gorfodol os yw eisoes yn bodoli)
- tystiolaeth o ganiatadau (e.e. Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, trwyddedau cwympo coed, caniatadau cynllunio). Os nad yw'r rhain wedi'u sicrhau, atodwch dystiolaeth eich bod wedi gwneud cais amdanynt.
Gallwch uwchlwytho hyd at chwe dogfen ychwanegol.
Uwchlwytho unrhyw dystiolaeth o gefnogaeth [Dewis ffeil]
Gwirio eich atebion
Caiff crynodeb o'ch holl atebion ei ddangos i chi.
Bydd gennych yr opsiwn hefyd i fynd yn ôl a newid ateb os oes angen.
Cadarnhau'r datganiad
Gofynnir i chi ddarllen ein datganiad a chytuno iddo.
Gan eich bod chi nawr yn hapus gyda'ch cais, rydych yn barod i wneud cais am ariannu.
Rydym yn cynnal ymchwil defnyddwyr ansoddol i'n helpu datblygu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau. Gallai hyn amrywio o arolwg 20 munud i gyfweliad 2 awr.
Ticiwch y blwch hwn os hoffech gymryd rhan yn ein hymchwil, neu i gael mwy o wybodaeth. [Blwch ticio]
Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Ticiwch y blwch os hoffech gael eich hysbysu am ein gwaith [Blwch ticio]
Rwyf wedi darllen y datganiad ac yn cytuno iddo. [Blwch ticio]
Datganiad
a) Diogelu Data
Rydym yn ymrwymedig i fod mor agored a thryloyw â phosibl. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynglŷn â sut rydym yn asesu ac yn gwneud penderfyniadau ar ein grantiau a sut y byddwn yn defnyddio eich ffurflen gais a'r dogfennau eraill rydych yn eu rhoi i ni. Rydym yn dilyn yr holl gyfreithiau a rheoliadau diogelu data sy'n berthnasol ac mewn grym o bryd i'w gilydd (y 'ddeddfwriaeth Diogelu Data'). Fel y diffinnir gan y ddeddfwriaeth Diogelu Data mae Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (sy'n gweinyddu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) yn rheolydd data. Mae ein Polisi Preifatrwydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol gan gynnwys gwybodaeth gyswllt ein Swyddog Diogelu Data. Gellir dod o hyd iddo ar wefan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Fel rhan o'r broses ymgeisio byddwn yn casglu eich enw, gwybodaeth gyswllt a swydd yn y sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli yn ogystal ag unrhyw wybodaeth bersonol ychwanegol rydych yn ei darparu amdanoch chi eich hun neu am bobl eraill sy'n ymwneud â'ch prosiect. Efallai y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth hon gydag un o'r ymgynghorwyr ar ein Cofrestr Gwasanaethau Cefnogi os byddant yn cael eu penodi i roi cefnogaeth i chi ar eich prosiect. Nid ydym yn trosglwyddo eich data i unrhyw drydydd partïon sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r UE.
Efallai y byddwn yn defnyddio'ch ffurflen gais a dogfennau eraill a roddwch i ni, a'r data sydd wedi'i gynnwys ynddynt, i:
- Benderfynu a fyddwn ni'n rhoi grant i chi.
- Darparu copïau i unigolion neu sefydliadau eraill sy'n helpu ni i asesu, monitro a gwerthuso grantiau.
- Rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda ni sydd â diddordeb dilys mewn ceisiadau a grantiau'r Loteri Genedlaethol neu raglenni ariannu penodol.
- Cadw mewn cronfa ddata a defnyddio at ddibenion ystadegol.
- Os byddwn ni'n cynnig grant i chi, byddwn ni'n cyhoeddi gwybodaeth amdanoch chi sy'n ymwneud â'r gweithgaredd rydym wedi'i ariannu, gan gynnwys swm y grant a'r gweithgaredd yr oedd i dalu amdano. Efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn ein datganiadau i'r wasg, yn ein cyhoeddiadau printiedig ac ar-lein, ac yng nghyhoeddiadau neu ar wefannau adrannau llywodraeth perthnasol ac unrhyw sefydliadau partner sydd wedi ariannu'r gweithgaredd gyda ni.
- Os byddwn yn cynnig grant i chi, byddwch yn cefnogi ein gwaith o ddangos gwerth treftadaeth drwy gyfrannu (pan ofynnir i chi) at weithgareddau cyhoeddusrwydd yn ystod y cyfnod y byddwn yn darparu ariannu ar ei gyfer a chymryd rhan mewn gweithgareddau i rannu dysgu, y byddwn o bosibl yn cysylltu grantïon eraill â chi i wneud hynny. Gall hyn gynnwys rhannu eich gwybodaeth ac unrhyw gyhoeddusrwydd dilynol gyda dosbarthwyr partner trydydd parti.
b) Rhyddid Gwybodaeth
Fel sefydliad cyhoeddus rydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 sy’n rhoi hawl mynediad i’r cyhoedd i’r wybodaeth a ddaliwn, oni bai bod unrhyw eithriadau'n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth gofnodedig a ddarparwyd i ni gan ein hymgeiswyr a grantïon.
Pan fyddwch yn cwblhau'r Datganiad ar ddiwedd y ffurflen gais, rydych yn cadarnhau nad oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad i ni ryddhau'r ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth arall a ddarparwch i ni i unrhyw un sy'n gofyn am weld nhw ar ôl i'ch cais gwblhau'r broses asesu. Os oes unrhyw wybodaeth nad ydych eisiau iddi fod ar gael yn gyhoeddus, gofynnir i chi esbonio eich rhesymau isod:
[Blwch testun]
Os byddwn yn derbyn cais am wybodaeth byddwn bob amser yn ymgynghori â chi'n gyntaf ac yn cymryd eich sylwadau i ystyriaeth, a byddwn yn cymhwyso’r eithriadau yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Fodd bynnag, ni sy'n penderfynu a fyddwn yn rhyddhau eich gwybodaeth neu'n ei dal yn ôl ac ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydych yn ei ddioddef o ganlyniad i ni gyflawni'r cyfrifoldebau hyn.
- Cadarnhaf fod y sefydliad sydd wedi'i enwi ar y cais hwn wedi rhoi'r awdurdod i mi gwblhau'r cais hwn ar ei ran.
- Cadarnhaf fod y gweithgaredd yn y cais yn dod o dan ddibenion a phwerau cyfreithiol y sefydliad.
- Cadarnhaf fod gan y sefydliad y pŵer, os dyfernir grant iddo, i dderbyn y grant ac i'w dalu'n ôl.
- Cadarnhaf fod yr wybodaeth yn y cais hwn yn wir ac yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth.
- Rwy’n cydsynio i’m data personol gael ei ddefnyddio fel y disgrifir ac yn deall os bydd y gofyniad yn newid o’r hyn a ddisgrifiwyd y byddaf yn cael gwybod am hynny mor fuan â phosibl.
Cyflwyno'r cais
Mae eich cais wedi cael ei gyflwyno!
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Byddwn yn anfon e-bost atoch cyn bo hir gyda rhif cyfeirnod prosiect.
- Byddwn yn gwirio'ch cais a'r wybodaeth a ddarparwyd, i sicrhau bod gennym bopeth sydd ei angen arnom i asesu'ch cais. Bydd hyn yn cynnwys gwirio eich bod wedi darparu'r holl ddogfennau ategol priodol.
- Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth neu ddogfennau os bydd angen.
- Byddwn yn gwirio eich cais ac unwaith y bydd gennym bopeth sydd ei angen arnom i asesu eich cais, byddwn yn rhoi ein penderfyniad i chi tua diwedd mis Hydref 2025.
Diweddariadau i'r arweiniad
Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.