Pecyn Cymorth Ecwiti Hiliol mewn Natur

Pecyn Cymorth Ecwiti Hiliol mewn Natur

Canllaw'r Gronfa Treftadaeth i recriwtio a meithrin talent gyrfa gynnar amrywiol.

Rydym wedi creu'r pecyn cymorth yma i helpu sefydliadau treftadaeth naturiol i ddatblygu dull cynhwysol a theg o recriwtio pobl ar ddechrau eu gyrfaoedd. Canolbwyntir yn benodol ar bobl ifanc 18-25 oed o gymunedau ethnig amrywiol.  

Gall helpu unrhyw un sy'n awyddus i:  

  • recriwtio a hyfforddi sylfaen o wirfoddolwyr mwy amrywiol 
  • darparu lleoliadau gwaith a hyfforddiant sgiliau, yn enwedig y rhai sydd wedi'u hanelu at dalent lefel mynediad a/neu heb eu gwasanaethu'n ddigonol 
  • adeiladu a chryfhau cydnerthedd a llywodraethu sefydliadol   

Anghydraddoldebau mynediad

Dim ond 3.1% o weithlu sector yr amgylchedd yw staff o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

Mae effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar ragolygon cyflogaeth pobl ifanc wedi ehangu ymhellach y bylchau a'r prinder sgiliau presennol yn y DU.

Gobeithiwn y bydd y pecyn cymorth hwn yn helpu:

  • y sector treftadaeth naturiol i fynd i'r afael â'r materion rhyng-gysylltiedig hyn
  • pobl ifanc o gefndiroedd ethnig amrywiol yn cael cyfleoedd yn y sector yma

Sut y gwnaethom greu'r pecyn cymorth

Mae'r pecyn cymorth wedi'i ddatblygu a'i lywio gan fewnwelediadau a gasglwyd drwy gyfweliadau rhithwir gyda nifer o brosiectau, sefydliadau a phartneriaid amgylcheddol rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2021.

Buom yn siarad â phobl sy'n gweithio'n galed i wella mynediad i sector yr amgylchedd, yn benodol ar gyfer pobl ifanc a chymunedau ethnig amrywiol.

Dechrau arni

Lawrlwythwch y pecyn cymorth o'r dudalen hon i ddechrau. Bydd fersiwn Cymraeg o'r pecyn cymorth ar gael cyn bo hir.