Cyflwyniad i hygyrchedd ar-lein
Cyflwyniad
Mae dros 16 miliwn o bobl anabl yn y DU – tua un o bob pedwar o’r boblogaeth.
Mae'r model cymdeithasol o anabledd, wedi'i esbonio gan yr elusen anabledd Scope, yn dangos sut mae pobl yn cael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas. Rydym yn mynd i'r afael â rhwystrau corfforol gyda rampiau a bariau gafael, ac agweddau negyddol gydag addysg ac empathi. Mae gwefan anhygyrch yn rhwystr digidol.
Mae yna gyfreithiau sy'n atal gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anableddau. Mae pob cam tuag at wella hygyrchedd, ni waeth pa mor fach, yn helpu i rannu treftadaeth â phobl a fyddai fel arall wedi'u heithrio.
Nod yr arweiniad hwn yw eich cefnogi i fodloni gofynion hygyrchedd digidol y Gronfa Treftadaeth ar gyfer eich prosiect. Rydym am greu adnoddau treftadaeth ddigidol y gall cynifer o bobl â phosibl eu mwynhau.
Egwyddorion arweiniol
Mae hygyrchedd ar-lein yn ymwneud â phobl
Mae hygyrchedd ar-lein yn ymwneud â sicrhau y gall pobl ag anableddau gael mynediad at eich cynnwys digidol. Gallwn ni wneud hyn trwy:
- wneud cynnwys yn hawdd i'w ddarllen
- cadw rhyngweithio'n syml
- cynnig sawl ffordd o wneud pethau
Mae hygyrchedd yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sy'n ymwneud â chreu a chyhoeddi cynnwys digidol. Gall penderfyniadau a gweithredoedd ar unrhyw adeg gael effaith, er gwell neu er gwaeth.
Mae pobl yn cyrchu cynnwys digidol mewn gwahanol ffyrdd
Bydd pobl ag anableddau gwahanol, neu hyd yn oed yr un anabledd, yn wynebu rhwystrau gwahanol. Weithiau, bydd ateb hygyrchedd un person yn achosi her i rywun arall.
Mae Consortiwm y We Fyd-eang (W3C), sefydliad rhyngwladol sy'n datblygu safonau'r we, wedi ysgrifennu am sut mae pobl ag anableddau yn defnyddio'r we mewn gwahanol ffyrdd. Mae deall rhwystrau posibl yn golygu y gallwn gynllunio sut i'w lliniaru.
Taith o gynnydd yw hygyrchedd, nid perffeithrwydd. Anelwch at gyfaddawdau synhwyrol i gefnogi cynifer o bobl â phosibl.
Beth yw cyfrifoldebau hygyrchedd digidol fy mhrosiect?
Mae cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad yn un o'r pedair egwyddor fuddsoddi sy'n llywio penderfyniadau grant y Gronfa Treftadaeth. Mae'r egwyddor hon yn cydnabod y rôl sydd gan dechnoleg ddigidol wrth wneud treftadaeth yn fwy hygyrch a phleserus, a galluogi prosiectau i gynyddu eu heffaith a'u cyrhaeddiad.
Os cewch grant gan y Gronfa Treftadaeth, rhaid i chi lynu wrth safonau hygyrchedd cydnabyddedig fel y gall cynifer o bobl â phosibl gael mynediad at eich allbynnau digidol:
- grantiau rhwng £10,000 a £250,000 – rhaid i wefannau a chynnwys gwefannau fodloni safon hygyrchedd Lefel A W3C (A Sengl) o leiaf
- grantiau dros £250,000 – rhaid i wefannau a chynnwys gwefannau fodloni safon hygyrchedd Lefel AA (A Dwbl) W3C o leiaf
Safonau hygyrchedd W3C
Mae W3C yn creu ac yn cyhoeddi Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG), y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd cynnwys gwe.
Mae 13 o ganllawiau yn WCAG, wedi'u rhannu'n ofynion unigol neu ‘feini prawf llwyddiant’. Mae pob un yn ymwneud â lefel hygyrchedd benodol: Lefel A, Lefel AA neu Lefel AAA.
Mae gan wefannau sy'n bodloni'r safon A Sengl sylfaen dda o hygyrchedd, ond byddant yn dal i gynnwys rhwystrau i lawer o bobl anabl. Bydd gwefannau sy'n bodloni'r safon A Dwbl yn fwy hygyrch. Y lefel uchaf yw'r safon A Driphlyg, sydd y tu hwnt i gwmpas y canllaw hwn.
Deddfwriaeth hygyrchedd y DU
Mae gan bobl anabl hawliau cyfreithiol i gyrchu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau. Mae deddfwriaeth hygyrchedd yn amrywio ar draws y DU ac yn dibynnu ar y math o sefydliad sydd gennych.
Yn y DU, mae Deddf Cydraddoldeb 2010, ac yng Ngogledd Iwerddon Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, yn nodi bod yn rhaid i sefydliadau gwladol wneud ‘addasiadau rhesymol’ i sicrhau bod eu gwasanaethau’n hygyrch i ddefnyddwyr anabl. Mae hyn yn cynnwys mynediad digidol fel gwefannau, apiau a dogfennau fel ffeiliau PDF.
Mae gwefan Scope for Business yn darparu gwybodaeth am gyfraith y DU a hygyrchedd digidol. Mae Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon yn egluro cyfraith gwahaniaethu ar sail anabledd Gogledd Iwerddon (PDF).
Mae Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus 2018 yn berthnasol i'r DU gyfan, ac yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus – sefydliadau sy'n eiddo i'r llywodraeth, a weithredir ganddi, neu a ariennir yn sylweddol ganddi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus – fodloni safon hygyrchedd Lefel AA WCAG 2.2 a chyhoeddi datganiad hygyrchedd ar gyfer eu gwefan neu ap symudol.
Y ffordd orau o achub y blaen ar ddeddfwriaeth hygyrchedd yw gwneud eich cynnwys digidol yn hygyrch, gan fodloni Lefel AA WCAG 2.2. Mae'r gyfraith yn cynnwys eithriadau lle mae hyn yn creu baich anghymesur ar sefydliad, ond disgwylir i chi fod wedi asesu eich anghenion drwy gynnal asesiad hygyrchedd.
Dylai pob gwefan wneud addasiadau rhesymol, fel darparu testun alt ar gyfer delweddau. Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â llawer o hanfodion pwysig hygyrchedd.
Cynllunio ar gyfer hygyrchedd digidol
Bydd nodi problemau hygyrchedd o'r cychwyn cyntaf yn arbed amser ac yn sicrhau eich bod wedi cynnwys unrhyw gostau perthnasol yn eich cais.
Dewis platfform gwefan DIY
Efallai y bydd angen i'ch prosiect adeiladu gwefan gost isel, hawdd ei rheoli. Mae offer ar-lein fel WordPress, Wix a Squarespace yn cynnig themâu parod. Cofiwch gynnwys hygyrchedd wrth chwilio am themâu. Gallwch chwilio am themâu WordPress gan ddefnyddio'r tag ‘accessibility-ready’. Nid yw themâu sydd wedi'u labelu fel rhai hygyrch yn gwarantu hygyrchedd.
Gallech wirio tudalen arddangos (demo) gan ddefnyddio'r offer a dulliau ‘checking web pages’, os ydych chi'n gyfforddus yn gwneud hynny. Bydd hyn yn eich helpu i osgoi themâu gyda'r problemau cyffredin hyn:
- testun ar ben cefndir delwedd neu fideo
- carwseli sleidiau neu fideos cefndir na ellir eu stopio
- ffenestri naid sy'n cuddio cynnwys ac na all defnyddiwr bysellfwrdd eu canslo
- porthiannau cyfryngau cymdeithasol na all defnyddiwr bysellfwrdd eu hepgor
Mae hygyrchedd tudalennau gwe hefyd yn dibynnu ar y cynnwys rydych chi'n ei ychwanegu. Gwiriwch eich tudalennau gwe pryd bynnag y byddwch yn ychwanegu neu'n golygu cynnwys.
Rhestr wirio ar gyfer cyflenwyr trydydd parti
Chi sy'n gyfrifol am hygyrchedd unrhyw wefan neu gynnwys digidol rydych chi'n ei gomisiynu, ac yn anffodus, nid yw pob datrysiad parod yn hygyrch.
Gwnewch eich ymchwil cyn ymrwymo i gynnyrch neu wasanaeth gan gyflenwr allanol. Dylech ystyried:
- A allant fodloni WCAG 2.2 ar lefel A neu AA?
- A oes ganddynt strategaeth brofi? A yw'n cynnwys pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol?
- A oes ganddyn nhw fap hygyrchedd?
- A ydyn nhw'n cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i olygyddion cynnwys?
Mae gan AbilityNet rhestr wirio caffael hygyrchedd wych y gallwch weithio drwyddi os ydych chi'n comisiynu gwasanaethau neu wefannau digidol.
Byddwch yn ofalus gyda throshaenau hygyrchedd
Mae troshaen hygyrchedd (a elwir weithiau'n ategyn, teclyn neu far offer hygyrchedd) yn ddarn o feddalwedd trydydd parti sy'n cael ei ychwanegu at wefan gan ddefnyddio darn o god ac wedi'i ddylunio i wella hygyrchedd ar unwaith i bobl ag anableddau.
Byddwch yn ofalus o unrhyw feddalwedd sy'n honni ei bod yn trwsio problemau hygyrchedd yn awtomatig. Mae gwefan Scope for Business yn tynnu sylw at y ffaith nad yw troshaenau hygyrchedd yn gwella hygyrchedd y safle. Gallant achosi problemau i bobl sy'n defnyddio technolegau cynorthwyol, ac ni fyddant yn golygu eich bod yn cydymffurfio â WCAG na rheoliadau hygyrchedd.
Gweithio gyda gwirfoddolwyr
Rhannwch y canllaw hwn gyda gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â chreu cynnwys digidol, yn enwedig yr adrannau ar arfer da o ran cynnwys a sut i wirio hygyrchedd digidol. Os ydyn nhw'n newydd i hygyrchedd, ystyriwch y ffordd orau o'u cefnogi – gydag amser ac ymarfer bydd hygyrchedd yn dod yn gyfarwydd.
Arfer da o ran cynnwys
Gweithio gyda thestun
Mae llawer o gynnwys digidol yn seiliedig ar destun. Os gellir copïo a gludo testun, gellir ei ddarllen yn uchel hefyd gan offer testun-i-leferydd neu ddarllenydd sgrin. Mae gallu gwrando ar destun yn helpu pobl â golwg gwael neu ddim golwg a niwroamrywiaeth i ymgysylltu â'ch cynnwys.
Nid yw testun o fewn delweddau yn hygyrch i ddarllenwyr sgrin. Osgowch roi testun mewn siapiau a blychau mewn dogfennau digidol – mae hyn hefyd yn anhygyrch.
Trefnu cynnwys gyda phenawdau
Mae penawdau'n ychwanegu strwythur at eich cynnwys, ac yn helpu defnyddwyr sy'n gallu gweld i sganio'ch tudalen. Maent hefyd yn caniatáu i bobl lywio cynnwys tudalen, naill ai gyda'r offer sydd wedi'u hymwreiddio mewn dogfennau neu borwyr gwe, neu gyda darllenwyr sgrin y gellir eu defnyddio ar draws gwahanol gymwysiadau.
Nid yw'n ddigon gwneud i destun edrych yn fwy bras ac o ran maint – mae angen i chi ddefnyddio'r offer pennawd yn system rheoli cynnwys eich gwefan (CMS) neu feddalwedd golygu dogfennau.
Gallwch addasu ymddangosiad diofyn penawdau, ond rhaid iddynt fod â chyferbyniad lliw da.
Mae'r penawdau wedi'u rhifo o 1 i 6. Defnyddiwch un Pennawd 1 yn unig fesul dogfen neu dudalen – fel arfer dyma fydd eich teitl, a 'r man cychwyn i ddarllenwyr sgrin. Triniwch benawdau fel doliau nythu Rwsiaidd. Defnyddiwch Bennawd 2 ar gyfer adrannau, Pennawd 3 ar gyfer is-adrannau, ac yn y blaen.
Cadwch y penawdau mewn trefn; Gall defnyddio Pennawd 4 ar ôl Pennawd 2 fod yn ddryslyd. Dylai offer golygu ganiatáu i chi weld y penawdau rydych chi'n eu defnyddio, fel y gallwch wirio'r drefn. Osgowch benawdau gwag. Gall hyn ddigwydd pan fydd testun mewn pennawd yn cael ei ddileu ond nid yw'r pennawd yn cael ei dynnu'n llwyr.
Defnyddiwch restrau i dorri blociau testun mwy i lawr
Mae cyfres o eitemau neu ddilyniant o gamau'n haws i'w dilyn pan gânt eu cyflwyno fel rhestr gyda bwledi neu rifau.
Nid yw rhestrau a grëir trwy ychwanegu llinell doriad, seren, rhif neu ddelwedd â llaw ar ddechrau pob llinell yn hygyrch. Rhaid fformatio rhestrau'n gywir gan ddefnyddio'r offer a ddarperir gan eich CMS neu feddalwedd golygu dogfennau. Trwy wneud hyn, gall pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddweud faint o eitemau sydd mewn rhestr, a pha eitem maen nhw arni.
Gall alinio testun wella darllenadwyedd
Defnyddiwch destun wedi'i alinio i'r chwith ar gyfer ieithoedd o'r chwith i'r dde. Mae testun wedi'i unioni'n anoddach i rai pobl ei ddarllen oherwydd y bylchau anwastad rhwng geiriau, felly osgowch hyn.
Cyfyngwch destun wedi'i alinio yn y canol i linellau byrion yn unig. Mae ceisio dod o hyd i ddechrau'r llinell nesaf pan fydd llawer o resi o destun wedi'i alinio yn y canol yn anoddach ar y llygaid a'r ymennydd.
Mae iaith syml yn haws i'w deall
Mae geiriau syml a brawddegau byrrach yn haws i'w darllen. Osgowch jargon diangen. Os oes rhaid i chi ddefnyddio termau arbenigol neu dechnegol, esboniwch nhw pan fyddwch chi'n eu defnyddio gyntaf. Mae gan Hemingway Editor cyfrifiannell darllenadwyedd rhad ac am ddim y gallwch ei ddefnyddio i wirio'ch cynnwys.
Mae cyferbyniad lliw da yn hanfodol
Mae testun golau ar gefndir golau yn anodd i bawb ei ddarllen. Gwnewch yn siŵr bod gan y testun ddigon o gyferbyniad â'r cefndir.
Mae'r rheolau ar gyfer cyferbyniad lliw yn dibynnu ar faint y ffont ac a yw'r testun yn fras. Mae yna hefyd reolau cyferbyniad lliw ar gyfer eitemau nad ydynt yn destun, fel cefndiroedd botymau. Mae'r postiad blog hwn gan Lywodraeth y DU am gyferbyniad lliw yn rhoi mwy o fanylion.
Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio emojis
Dylid defnyddio emojis yn anaml, oherwydd eu bod yn gwneud cynnwys yn anoddach i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin ei ddeall. Mae'r fideo hwn o ddarllenydd sgrin yn darllen testun gydag emojis yn dangos y rhwystrau posibl yn glir. Peidiwch â defnyddio emojis yn lle geiriau – defnyddiwch nhw ar ddiwedd brawddegau – a byddwch yn ymwybodol y gall ystyr emojis amrywio rhwng grwpiau oedran a chymunedau, ac y gall newid dros amser.
Rhaid i destun dolenni fod yn ddisgrifiadol
Mae creu dolenni hygyrch, wedi'i esbonio yma gan Make Things Accessible, yn gofyn am ddefnyddio testun dolen ystyrlon ac unigryw. Pan fydd dolenni yn hygyrch, gall defnyddwyr darllenwyr sgrin eu defnyddio i lywio eich cynnwys. Dylech:
- osgoi defnyddio testun dolen generig fel ‘cliciwch yma’ neu ‘darllen mwy’
- osgoi defnyddio cyfeiriadau gwefannau fel testun dolen
- cynnwys y math o ffeil wrth gysylltu â dogfen i'w lawrlwytho – rhowch ef ar ddiwedd y testun dolen, mewn cromfachau
- Osgowch wneud i ddolenni agor mewn ffenestri newydd. Os na allwch ei osgoi, rhowch wybod i bobl y bydd yn digwydd – rhowch ef ar ddiwedd testun y ddolen, mewn cromfachau.
Dyma enghraifft o destun ar gyfer dolen: Adroddiad Blynyddol 2026 (PDF, yn agor mewn ffenestr newydd)
Gweithio gyda delweddau
Gall delwedd ategu eich testun, neu gall fod y prif ddarn o gynnwys. Mae'n bwysig disgrifio delweddau ystyrlon i bobl na allant eu gweld na fel arall eu deall.
Dylai eich CMS neu feddalwedd golygu dogfennau ddarparu opsiwn ychwanegu disgrifiad testun amgen (testun alt) wrth ychwanegu delwedd. Mae testun alt da yn:
- fyr ac yn gryno
- canolbwyntio ar yr hyn y mae angen i bobl ei wybod heb fanylion diangen
- nid yw'n dechrau gyda ‘Delwedd o’ na ‘Dolen i’
Er enghraifft, gallai'r testun amgen ar gyfer fâs hynafol fod: fâs porslen gyda phatrymau blodau glas wedi'u peintio â llaw a dolenni aur goreurog.
Bydd yr union destun a ddefnyddiwch yn dibynnu ar sut a pham rydych chi'n defnyddio delwedd. Dylai'r testun alt ar gyfer logo sy'n cysylltu â gwefan arall ddechrau gyda thestun y logo a gorffen gyda 'hafan' os mai dyna'r dudalen sy'n cael ei chysylltu. Mae gan W3C goeden benderfynu testun alt i'ch helpu i benderfynu.
Beth i'w gynnwys mewn capsiynau delweddau
Efallai y bydd gennych yr opsiwn o gynnwys capsiwn gweladwy gyda delwedd. Er bod testun alt yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio agweddau allweddol ar lun i bobl na allant ei weld, defnyddir testun capsiwn ar gyfer manylion ychwanegol neu wybodaeth gysylltiedig sy'n ddefnyddiol i bawb:
- y cyd-destun golygyddol: pwy, beth, pam, ble a phryd
- nodi ffynhonnell y ddelwedd
- unrhyw wybodaeth hawlfraint, gan gynnwys manylion trwydded agored
Ni ddylai'r testun alt a'r testun capsiwn fod yr un peth. Gan barhau gyda'n enghraifft o fâs hynafol, gallai'r capsiwn ddweud: Fâs Iseldiraidd o'r 18fed Ganrif, Amgueddfa Brydeinig, delwedd parth cyhoeddus.
Sut i ddisgrifio ffeithluniau
Mae ffeithlun fel poster sy'n adrodd stori neu'n esbonio pwnc, gyda brawddegau byrion, lluniau, eiconau a siartiau. Nid oes terfyn uchaf ar destun alt, ond nid ei ddefnyddio i gyfleu'r ystyr llawn yw'r profiad gorau i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. Defnyddiwch ddisgrifiad testun alt byr ar gyfer y ddelwedd a rhowch y manylion llawn yn y testun ar y dudalen. Mae gan Goleg Imperial Llundain enghraifft dda ar ei dudalen delweddau hygyrch.
Disgrifio diagramau a siartiau cymhleth
Mae gan adran hygyrchedd Prifysgol Talaith Pennsylvania arweiniad manwl ar gyfer:
- cipluniau sgrin i ddarlunio dogfennaeth
- graffiau a siartiau
- siartiau llif
- mapiau
- hafaliadau mathemategol a gwyddonol
Tablau ar gyfer data
Mae tablau'n defnyddio grid gweledol o resi llorweddol a cholofnau fertigol i helpu esbonio perthnasoedd rhwng darnau o ddata. Gallant hefyd fod yn ddefnyddiol i gyflwyno cynnwys strwythuredig. Rhaid fformatio tablau mewn ffordd benodol i wneud yn siŵr y gall pobl na allant weld y grid eu deall.
Cyflwynwch bob tabl gyda phennawd clir, disgrifiadol. Defnyddiwch yr offer a ddarperir yn eich CMS neu feddalwedd golygu dogfennau i:
- ychwanegu capsiwn neu destun alt yn crynhoi cynnwys y tabl
- nodi'r rhes a/neu'r golofn pennawd
- atal rhesi rhag torri ar draws tudalennau mewn dogfennau
Mae darllenwyr sgrin yn darllen tablau o'r chwith i'r dde ac o'r brig i'r gwaelod. Cadwch dablau mor syml â phosibl trwy beidio â rhannu na chyfuno celloedd. Dilynwch reol 'un gell, un eitem' a pheidiwch â defnyddio toriadau llinell. Osgowch gelloedd gwag – defnyddiwch 'dim data' neu 'ddim yn berthnasol' yn lle.
Cynnwys amlgyfrwng a rhyngweithiol
Mae'n well gan rai pobl wylio neu wrando ar gynnwys na darllen llawer o destun. Mae dewis arall i destun yn bwysig o hyd i bobl sydd â golwg neu glyw cyfyngedig, ond maent hefyd yn dda i bobl mewn amgylcheddau swnllyd, neu leoedd sy'n mynnu tawelwch.
Osgowch wneud i sain neu fideo chwarae'n awtomatig, gall hyn dynnu sylw ac achosi anghysur corfforol (e.e. cyfog, pendro). Os na allwch analluogi chwarae awtomatig, gwnewch yn siŵr y gall pobl oedi chwarae o leiaf.
Cynllunio ar gyfer canlyniad hygyrch
P'un a ydych chi'n creu eich cynnwys amlgyfrwng eich hun, neu'n ystyried comisiwn, edrychwch ar gyngor cynllunio cyfryngau sain a fideo W3C cyn recordio. Bydd yn arbed amser ac arian i chi.
Dewisiadau arall i destun ar gyfer cynnwys clyweled
Mae angen trawsgrifiad ar gynnwys sain yn unig, sef fersiwn testun o'r sain fel y gall Pobl F/fyddar ddeall y cynnwys. Mae angen capsiynau (a elwir hefyd yn isdeitlau) ar gynnwys fideo. Rhaid disgrifio gwybodaeth weledol bwysig a gyflwynir yn y fideo, gan gynnwys testun ar y sgrin, mewn trawsgrifiad. Mae W3C yn cynnig arweiniad ar wneud cynnwys sain a fideo yn hygyrch.
Mae llawer o offer fideo yn cynnig capsiynau awtomataidd. Mae YouTube yn cynnig teclyn capsiynu awtomatig. Mae'n bwysig gwirio cywirdeb capsiynau a gynhyrchir yn awtomatig, gallwch olygu capsiynau YouTube â llaw os oes angen.
Cynnwys rhyngweithiol
Efallai yr hoffech ychwanegu cwis rhyngweithiol, gêm neu fap fideo ymdrochol at eich gwefan. Oni bai ei fod wedi'i ddylunio i fod yn hygyrch, er enghraifft, gan gefnogi mynediad â bysellfwrdd, mae'n debygol na fydd rhai pobl yn gallu rhyngweithio â'ch cynnwys.
Yn hytrach nag osgoi'r fath gynnwys, gallwch helpu defnyddwyr darllenwyr sgrin i fynd heibio iddo drwy ychwanegu dolen sgipio, fel yr esbonnir ar wefan Make Things Accessible. Meddyliwch hefyd am ddarparu cynnwys mewn fformatau amgen, hygyrch.
Ffurflenni
Mae’n debyg bod gan eich gwefan lawer o ffurflenni ar-lein – er enghraifft i anfon ymholiad, gwneud rhodd, neu gadw lle mewn digwyddiad. Mae ffurflenni hygyrch yn haws i'w cwblhau ac mae pobl yn fwy tebygol o'u defnyddio.
Rhaid i bob maes mewnbwn mewn ffurflen fod â label clir. Mae labeli'n helpu pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol i wybod pa fanylion i'w nodi, a phryd mae maes yn orfodol.
Peidiwch â dibynnu ar liw yn unig i nodi pan fydd problem gyda ffurflen. Nid yw ychwanegu ffin goch yn ddigon da i rywun sydd â golwg gwael neu ddim golwg o gwbl.
Gall ffurflenni fynd yn dechnegol iawn. Mae WebAIM wedi llunio canllaw i greu ffurflenni hygyrch. Efallai bod hwn yn faes lle y byddech chi'n elwa o gymorth proffesiynol.
Offer defnyddiol ar gyfer golygyddion cynnwys
Gall yr offer rhad ac am ddim hyn eich helpu i nodi problemau gyda'ch cynnwys wrth olygu'ch tudalennau gwe – er enghraifft dod o hyd i ddelweddau sydd heb destun alt:
- Sa11y (yn cefnogi WordPress, Joomla ac unrhyw borwr bwrdd gwaith)
- Editoria11y (yn cefnogi WordPress, Drupal a Squarespace)
Gellir eu gosod yn eich CMS. Mae gan Sa11y offeryn nodau tudalen hefyd y gellir ei osod mewn unrhyw borwr gwe bwrdd gwaith.
Cyfryngau cymdeithasol
Mae mwy o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol nag erioed. Mae rhai'n canolbwyntio mwy ar destun, tra bod eraill wedi'u hanelu at ddelweddau a fideo. Mae rhai llwyfannau’n fwy hygyrch i bobl anabl nag eraill, felly bydd defnyddio mwy nag un yn eich helpu i gyrraedd mwy o bobl.
Defnyddir hashnodau yn aml ar wefannau cyfryngau cymdeithasol i dagio a chwilio am wybodaeth. Mae RNIB wedi creu canllaw defnyddiol i gyfryngau cymdeithasol ac yn argymell Camel Case ar gyfer hashnodau – er enghraifft #HunlunAmgueddfa – gan fod res o lythrennau bach yn unig yn anos eu darllen.
Gweminarau a chyflwyniadau
Gall digwyddiadau ar-lein fod yn opsiwn hygyrch i lawer o bobl. Mae recordio digwyddiad yn golygu y gall pobl wylio pryd, a pha mor aml, y mynnant. Gallwch ddarllen awgrymiadau i gynnal digwyddiadau ar-lein hygyrch a chynhwysol gan Lywodraeth y DU.
Wrth ystyried gwahanol lwyfannau gweminar, edrychwch ar wefannau i weld pa nodweddion hygyrchedd maen nhw'n eu cynnwys. Os na allwch ddod o hyd i hyn, cysylltwch â'r darparwyr a gofynnwch.
Gwnewch yn siŵr bod ffurflenni cofrestru'n cynnwys cwestiynau am unrhyw addasiadau penodol a fyddai'n ddefnyddiol i bobl ag anableddau. Caniatewch amser i ddilyn i fyny ar geisiadau am gymorth ychwanegol. Gall gofynion cymhleth fod y tu hwnt i'ch set sgiliau, yr offer sydd ar gael a'ch cyllideb. Yn gyffredinol, mae pobl yn gwerthfawrogi pan fyddwch yn ymateb iddynt, a gall trafodaethau helpu i nodi cyfaddawdau defnyddiol.
Rhannwch eich sleidiau cyn y weminar, os gallwch chi. Mae hyn yn helpu pobl â golwg isel neu ddim golwg a niwroamrywiaeth i'w dilyn yn haws. Gall pobl barhau i gyfeirio at eu copi lleol os yw'r cysylltiad rhyngrwyd yn wan.
Sut i wirio hygyrchedd digidol
Ni fydd modd i chi wneud gwelliannau effeithiol na ysgrifennu datganiad hygyrchedd gwefan cywir heb ddeall pa mor hygyrch y mae eich gwefan. Dechreuwch gyda phrofion hygyrchedd awtomataidd. Er na allant ddod o hyd i bopeth, maent yn gyflym i'w rhedeg ac yn dda wrth ddal y problemau mwyaf cyffredin a sylfaenol. Bydd trwsio'r rhain yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl.
Mae rhai offer defnyddiol am ddim wedi'u crybwyll isod. Os nad ydych yn gyfarwydd â'u defnyddio, efallai na fyddwch yn deall canlyniadau'r profion yn llawn a sut i drwsio pethau ac efallai y bydd angen cymorth arbenigol arnoch chi. Blaenoriaethwch yr hyn sy'n gwneud synnwyr ac sydd o fewn eich rheolaeth, fel ychwanegu testun alt i ddelwedd.
Gwirio tudalennau gwe
Os oes gennych wefan fawr, ni fydd angen i chi wirio pob tudalen. Dewiswch sampl sy'n cynrychioli'r gwahanol fathau o gynnwys, cynlluniau tudalen a rhyngweithioldeb ar eich gwefan:
- tudalennau hanfodol (megis tudalen gyswllt, ffurflenni archebu, eich datganiad hygyrchedd)
- y tudalennau yr ymwelir â nhw amlaf (megis yr hafan, tudalennau cynnwys amlwg)
- tudalennau gyda chynnwys fideo/sain a nodweddion rhyngweithiol
- tudalennau â llawer o ddelweddau arnynt (fel orielau lluniau)
Mae WAVE yn offeryn rhad ac am ddim sy'n gwirio gwefannau trwy gopïo a gludo eu cyfeiriad gwe. Mae hefyd ar gael fel estyniad porwr, fel y mae axe DevTools ac ARC Toolkit. Bydd pob un yn eich helpu i nodi problemau hygyrchedd, ond mae WAVE yn defnyddio iaith lai technegol; dewiswch pa un bynnag rydych fwyaf cyfforddus ag ef.
Yna gwiriwch am y problemau penodol hyn gyda'r offer canlynol er mwyn bod yn drylwyr:
- HeadingsMap, i adolygu strwythur y pennawd
- Target size, i wirio bod dolenni, botymau a meysydd ffurflen yn ddigon mawr
Yn olaf, dilynwch yr arweiniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i brofi'r canlynol â llaw:
Gwirio dogfennau digidol
- Mae gwiriwr hygyrchedd Microsoft Office ar gael ar gyfer Word, Powerpoint, Excel, Outlook ac OneNote
- ar gyfer Google Workspace mae estyniadau am ddim ar gael i wirio Google Docs, Google Slides a Google Sheets (am ddim gyda nodweddion am dâl)
- Colour Contract Analyser, a all wirio tudalennau gwe hefyd
- PAC PDF Accessibility Checker, y gellir ei lawrlwytho ar gyfer Windows
- PAVE 2.0, sef offeryn ar-lein i wirio PDFs
Mae yna rai gwiriadau â llaw ar gyfer dogfennau digidol y dylech eu gwneud hefyd, ar gyfer pethau fel trefn darllen a thestun dolen ystyrlon.
Ysgrifennu datganiad hygyrchedd
Mae darparu datganiad hygyrchedd yn arfer da ar gyfer unrhyw wefan neu gymhwysiad digidol, oherwydd y canlynol:
- mae bod yn glir ac yn dryloyw am rwystrau'n arbed amser i bobl anabl
- mae darparu manylion cyswllt yn meithrin ymdeimlad o ymddiriedaeth
Mae datganiad hygyrchedd yn darparu gwybodaeth i bobl a allai gael problemau wrth ddefnyddio eich gwefan. Mae gan W3C gyngor ar sut i lunio datganiad hygyrchedd clir.
Mae'n ofynnol i gyrff sector cyhoeddus ddarparu datganiad hygyrchedd gan ddefnyddio geiriad penodol, fel yr esbonnir yn y canllaw sut-mae-gwneud hwn gan Make Things Accessible. Mae datganiad hygyrchedd yr Amgueddfa Brydeinig yn enghraifft dda.
Awdur a chyfranwyr
Ynglŷn â'r awdur
Nicola Saunders yw Prif Ddatblygwr Pen-Blaen Studio 24, asiantaeth ddigidol sy'n arbenigo mewn dylunio a datblygu gwefannau hygyrch. A hithau'n gweithio yn y byd digidol ers dros 15 mlynedd, mae wedi helpu llawer o gleientiaid i ystyried, deall a gwella hygyrchedd, gan gynnwys W3C, RNIB, ac Amgueddfa Fitzwilliam. Nicola yw awdur Studio 24 Guide to accessible content hefyd.
Cyfranwyr
Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth: Hygyrchedd Ar-lein (2020) gan Alistair McNaught, McNaught Consulting, ar gyfer Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, wedi'i drwyddedu o dan CC BY 4.0.
Rwy'n ddiolchgar i'r bobl ganlynol am eu hadolygiadau:
- Simon Jones, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr, Studio 24
- Josie Fraser, Pennaeth Polisi Digidol, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Rhannu'r canllaw hwn
Mae'r gwaith hwn wedi'i rannu o dan drwydded Creative Commons Priodoliad 4.0 Rhyngwladol (CC BY 4.0). Gofynnir i chi ei briodoli fel ‘Cyflwyniad i hygyrchedd ar-lein (2026) gan Nicola Saunders, Studio 24, ar gyfer Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, wedi'i drwyddedu o dan CC BY 40.’