Digideiddio ar gyllideb dynn: canllaw i brosiectau digidol isel eu cost

Digideiddio ar gyllideb dynn: canllaw i brosiectau digidol isel eu cost

Mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o ddigideiddio isel ei gost ac mae’n casglu enghreifftiau ysbrydoledig o brosiectau gan fudiadau a sefydliadau.

Gwybodaeth am y canllaw hwn 

Gobeithio bydd y canllaw hwn yn tanio meddwl creadigol am sut gall eich prosiect digideiddio chi ddefnyddio neu addasu strategaethau y mae eraill wedi rhoi prawf arnynt.

Mae CC BY yn trwyddedu’r canllaw hwn. Ystyr hynny yw eich bod yn gallu ei ddefnyddio’n sail ar gyfer creu adnoddau newydd sy’n cwmpasu deunyddiau treftadaeth neu dechnegau digideiddio eraill.  

Diffinio digideiddio

Yn ôl y DCMS, ystyr digideiddio yw “gwneud copïau ar ffurf ddigidol o’r gwreiddiol diriaethol – er enghraifft trwy sganio neu dynnu ffotograffau o eitemau 2D neu drosglwyddo cynnwys riliau o ffilm neu dâp sain i fformatau digidol. Hefyd, gall gyfeirio at sganio gwrthrychau yn 3D neu, yn frasach, unrhyw ffotograffiaeth ddigidol o gasgliadau”.

At ein dibenion ni, gall digideiddio hefyd gynnwys prosiectau sy’n gwella ansawdd neu’r rheolaeth ar eich casgliadau digidol presennol, fel prosiectau sy’n canolbwyntio’n benodol ar gyfoethogi metadata neu baratoi delweddau digidol neu recordiadau sain i’w cyhoeddi ar blatfformau poblogaidd. 

Cyfleoedd

Gall digideiddio isel ei gost arwain at adenillon sylweddol pan fydd deunyddiau treftadaeth yn cael eu rhyddhau i gynulleidfa ehangach. Mae gweithio gyda chyllideb isel, neu ddim cyllideb, yn gyfle i feddwl yn greadigol am ba ddeunyddiau rydych chi’n eu defnyddio a sut i rannu’r deunyddiau hynny gyda’r cyhoedd. Gallai faint y gallwch ei wneud ar gyllideb isel eich synnu chi.

Cyfyngiadau

Mae gwneud llawer gydag ychydig yn gofyn am osod disgwyliadau realistig. Er enghraifft, gallai digideiddio isel ei gost gynnwys gweithio gydag amrediad cyfyngedig o ddeunyddiau neu ddigideiddio gan ddefnyddio offer sydd gennych yn barod.

Hefyd, gallech gyhoeddi’r asedau digidol ar blatfformau presennol yn lle creu gwefan newydd. A does dim o’i le ar hynny! Mae rhannu rhywfaint o’ch deunyddiau gyda’r cyhoedd yn well na rhannu dim. Hefyd, mae dechrau’n fach yn ffordd wych o ddysgu a chynllunio ar gyfer prosiectau digideiddio mwy o faint yn y dyfodol.

Enghreifftiau

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys enghreifftiau go iawn o strategaethau cost isel y gallwch eu defnyddio yng nghamau gwahanol digideiddio.

Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys sefydliadau sy’n fwy o faint neu sydd â mwy o adnoddau na’ch prosiect chi. Peidiwch â gadael i hyn eich digalonni chi. Yn hytrach, ystyriwch beth mae’r sefydliadau hyn wedi’i wneud, a sut gwnaethon nhw hynny, i ystyried a allech chi ddyblygu rhywbeth tebyg.

Adnoddau

Mae llawer o adnoddau rhagorol ar gael am ddim i’ch cynorthwyo â phob cam o’r broses ddigideiddio. Mae dolenni i’r rhain wedi’u cynnwys isod ac yn yr adran ganlynol.

 


Camau allweddol at ddigideiddio

Mae’r adran hon yn cynnig golwg gyffredinol ar y broses ddigideiddio, wedi’i threfnu’n ddeg cam.

 

Cam 1. Cynllunio’ch prosiect

Gall llawer o’r gwaith paratoi ar gyfer eich prosiect gael ei wneud heb gyllideb o gwbl. Rhai cwestiynau i’w hystyried i ddechrau yw:

  • Beth allwn ni ei wneud heb gyllid neu cyn cael cyllid?
  • Beth yw’r cynllun os na fyddwn yn cael cyllid?

Dylech:

  • osod amcanion eich prosiect
  • nodi’r cyhoedd rydych am eu cyrraedd
  • rhestru’r adnoddau sydd gennych yn barod (amser, arian, pobl)
  • asesu eich anghenion ar gyfer cyflawni’r prosiect

Defnyddiwch gynlluniwr prosiect digideiddio Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i baratoi eich prosiect.

 

Cam 2. Clirio hawliau i gael at y deunyddiau

Eich nod yw diogelu’r deunyddiau treftadaeth a galluogi’r cyhoedd i gael atynt. Os ydych chi’n berchen ar hawliau yn y deunyddiau, dylech gynllunio cyhoeddi’r deunyddiau ar ffurf Creative Commons Attribution 4.0 International (CC BY 4.0), sy’n caniatáu am unrhyw ddefnydd ar y deunyddiau gyda phriodoliad. Os nad oes unrhyw un yn berchen ar yr hawliau yn y deunyddiau, defnyddiwch adnodd Creative Commons CC0 1.0 Universal (CC0 1.0) Public Domain Dedication.

Bydd angen i chi archwilio’r deunyddiau i weld a yw’r hawliau ynddynt yn eich atal rhag defnyddio CC BY neu CC0. Er enghraifft, ni allwch ddefnyddio’r rhain:

  • os nad yw perchennog hawlfraint wedi rhoi caniatâd
  • os nad yw statws yr hawlfraint yn hysbys
  • os yw’r deunyddiau’n sensitif neu os oes hawliau eraill ynddynt

Hefyd, bydd angen i chi gydymffurfio â deddfau diogelu data ynghylch unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei dal a’i chyhoeddi am bobl fyw.

Gofynnwch i chi’ch hun: faint o eitemau sydd, pa hawliau sydd gennym i gyhoeddi’r deunyddiau ar-lein ac a allwn ddefnyddio CC BY neu CC0 (neu unrhyw ddatganiad hawliau arall)? Rhannwch eich deunyddiau i’r categorïau canlynol:

  • nid oes angen caniatâd
  • rhoddwyd caniatâd yn barod
  • gellir ceisio caniatâd
  • nid yw’r statws hawlfraint yn hysbys
  • nid yw’n bosibl eu cyhoeddi

Os ydych chi’n gweithio ar gyllideb dynn, gallech ddechrau gyda deunyddiau nad oes angen caniatâd ar eu cyfer neu gyda’r deunyddiau mwyaf defnyddiol er mwyn treialu eich rhaglen ddigideiddio.   

Adnoddau

 

Cam 3. Trefnu eich tîm

Nodwch eich tîm a’i drefnu. A fyddwch chi’n defnyddio staff, gwirfoddolwyr neu ymgynghorwyr? Rhestrwch aelodau eich tîm a neilltuo cyfrifoldebau. Gallai aelodau’r tîm elwa o hyfforddiant penodol. Gall gwella sgiliau eich tîm helpu i leihau costau yn y tymor hir sy’n gysylltiedig ag ymgynghori neu ddefnyddio contractio allanol.

Hefyd, gall gwirfoddolwyr chwarae rôl werthfawr, gan eich helpu i ymgysylltu’n uniongyrchol â’ch cymuned. Gall gweithio gyda gwirfoddolwyr helpu i leihau costau sy’n gysylltiedig â digideiddio, catalogio a chyhoeddusrwydd. Byddwch yn ymwybodol nad yw hyn bob amser yn opsiwn heb gost. Bydd cynorthwyo gwirfoddolwyr â chostau cymryd rhan yn galluogi grŵp mwy amrywiol i ymwneud. Mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu fwyaf at brosiectau sydd â:

  • llif gwaith profedig
  • tasgau wedi’u cofnodi’n dda
  • tîm sy’n cael ei reoli’n dda
  • syniad clir o gwmpas y prosiect

Gall buddsoddiad bach yn yr uchod (gan gynnwys rheoli gwirfoddolwyr a chostau cymryd rhan gan wirfoddolwyr) arwain at fuddion sylweddol ymhellach ymlaen.

Adnodda

 

 

Cam 4. Dewis eich offer

Penderfynwch a fyddwch yn rhentu neu’n prynu’r offer digideiddio y bydd ei angen arnoch. Bydd yr hyn y byddwch yn ei ddefnyddio yn dibynnu ar y deunyddiau treftadaeth a’r dull digideiddio (sganio, ffotograffiaeth, recordio sain), ynghyd ag ansawdd yr allbynnau digidol a ddymunir ac unrhyw gyllideb sydd ar gael. Bydd angen i chi ymchwilio i ba offer sydd ar gael.

Mae opsiynau cyfeillgar i’r gyllideb yn cynnwys:

  • defnyddio’r hyn sydd gennych yn barod, fel ffôn clyfar
  • rhentu offer oddi wrth sefydliad arall
  • prynu offer isel ei gost

Ar gyfer delweddau, gallwch ddefnyddio:

  • ffôn clyfar
  • sganiwr dogfennau
  • sganiwr ffilmiau
  • camera, trybedd a goleuadau

Ar gyfer deunyddiau clyweled, gallwch ddefnyddio:

  • ffôn clyfar
  • recordydd sy’n cael ei ddal â llaw
  • gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith
  • microffon yn gysylltiedig â dyfais recordio

Holwch brosiectau tebyg am beth ddefnyddion nhw i ddigideiddio. Chwiliwch am arbenigwr i’ch helpu i ddewis y dulliau a’r offer digideiddio mwyaf addas ar gyfer eich deunyddiau (e.e. ffotograffwr proffesiynol, sganwyr neu gyflenwyr).

Adnodda

 

Cam 5. Digideiddio’r deunyddiau

Gosodwch eich deunyddiau a’u digideiddio. Os nad ydych wedi gwneud yn barod, nawr yw’r amser i gael cyngor gan arbenigwr i wneud yn siŵr eich bod chi’n gweithio gyda manylebau technegol sy’n addas i’ch prosiect.

Adnodda

 

Cam 6. Golygu’r deunyddiau digidol

Nawr, mae angen golygu eich deunyddiau digidol. Er enghraifft, gall fod angen i chi gywiro lliwiau a gwneud addasiadau eraill i ddelweddau. Yn achos recordiadau sain newydd, gall fod angen i chi gael gwared ar sŵn cefndir neu seiniau digroeso eraill. Bydd angen i chi newid maint, ailfformatio neu gywasgu’r asedau cyn eu cyhoeddi ar-lein.

Os ydych chi’n ddechreuwr, gallwch ymarfer golygu gan ddefnyddio rhywfaint o’r feddalwedd hwylus i ddefnyddwyr sydd ar gael yn rhad ac am ddim isod.

Adnodda

  • Gimp (neu XGimp i ffonau symudol) – dyma un o lawer o raglenni golygu ffotograffau ffynhonnell agored
  • Photoshop Express – dyma raglen golygu delweddau sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan Adobe
  • Audacity – dyma feddalwedd ffynhonnell agored boblogaidd ar gyfer golygu sain, ond gallai Ocenaudio fod yn fwy hwylus i chi.

 

Cam 7. Ychwanegu metadata a datganiadau hawliau

Ychwanegu metadata at eich deunyddiau wedi’u digideiddio yw’r broses o gatalogio. Chi sy’n dewis pa fetadata i’w ychwanegu.

Er enghraifft, efallai y byddwch am ychwanegu gwybodaeth fel y creawdwr, y deunyddiau ffynhonnell, y dyddiad creu, y lle, y gwrthrych neu’r unigolyn sy’n cael ei gynrychioli, ac unrhyw hawliau yn y deunyddiau neu ganiatâd ynghylch eu hailddefnyddio. Mae’n syniad da edrych i weld sut mae archifau eraill wedi catalogio eu casgliadau a gwneud nodyn o’r safonau a ddefnyddiant.

Bydd angen i chi lunio templed (rhestr o feysydd data mewn taenlen) sy’n addas i’ch cynnwys, eich gallu i lenwi’r meysydd â gwybodaeth, a pha wybodaeth sy’n ddefnyddiol i ddefnyddwyr. Gallwch gofnodi eich metadata mewn taenlen gan ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored fel Google Sheets neu feddalwedd safonol fel Microsoft Excel. Pan fyddwch yn barod, gall y wybodaeth hon gael ei hychwanegu at y deunyddiau wedi’u digideiddio gan ddefnyddio meddalwedd am ddim fel Adobe Bridge neu wrth lwytho i blatfformau penodol fel Wikimedia Commons neu Flickr Pro.

Defnyddiwch yr egwyddorion syml hyn i arbed amser ac arian yn nes ymlaen:

  • casglwch wybodaeth mor agos at y ffynhonnell â phosibl
  • nid oes angen i chi aros i’ch system ar-lein fod yn barod – gall y rhan fwyaf o gronfeydd data ar-lein neu feddalwedd lanlwytho fewnforio data taenlen os yw’n gyson ac yn gysylltiedig ag enw ffeil
  • defnyddiwch gyfres safonol o feysydd ar gyfer mewnbynnu’r holl ddata
  • llenwch feysydd yn gyson (er enghraifft, gosodwch fformat dyddiadau, fel DD-MM-BBBB)
  • ysgrifennwch ganllaw i weinyddwyr a gwirfoddolwyr ar sut i fewnbynnu data
  • ceisiwch wahanu mathau o ddata yn feysydd gwahanol lle bo’n bosibl (er enghraifft, lle a dyddiad)
  • defnyddiwch ddata a fydd yn helpu eich defnyddwyr i ddod o hyd i’r cynnwys (er enghraifft, categorïau neu allweddeiriau)
  • cofnodwch unrhyw hawliau a chaniatâd ynghylch ailddefnyddio (er enghraifft, CC BY 4.0, CC0 neu ddatganiad hawliau arall)

Adnoddau ar fetadata

  • Adobe Bridge – rhaglen rad ac am ddim sy’n caniatáu i chi gael rhagolwg o fetadata, ei drefnu a’i ychwanegu at ddeunyddiau wedi’u digideiddio.
  • Inselect gan yr Amgueddfa Hanes Naturiol, Llundain – dyma raglen ffynhonnell agored sy’n awtomeiddio tocio delweddau unigol o sbesimenau o sganiau drâr-cyfan.
  • Community Archives and Heritage Group – mae ganddynt restr o feysydd data a argymhellir.
  • Canllawiau Digido ar gyfer Casgliad y Werin Cymru – mae ganddynt adran ar fetadata technegol a metadata disgrifiadol.
  • Infokit Jisc – mae ganddo ganllaw cyffredinol i fetadata.
  • Managing Digital Files gan y Ganolfan Data, Diwylliant a Chymdeithas, Prifysgol Caeredin – mae’n darparu mwy o arweiniad.

Adnoddau ar labelu a rheoli hawliau

 

Cam 8. Storio eich deunyddiau digidol

Nawr, mae angen cadw copïau wrth gefn o’ch deunyddiau digidol.

Dylech gadw copïau wrth gefn o’r canlynol:

  • ffeiliau archif heb eu cywasgu (fel TIFF ar gyfer delweddau neu WAV ar gyfer recordiadau sain)
  • ffeiliau mynediad wedi’u cywasgu (fel JPEG ar gyfer delweddau neu MP3 ar gyfer recordiadau sain)
  • metadata a gyfrannwyd at y deunyddiau wedi’u digideiddio

Dilynwch y rheol 3-2-1 bob amser, sef cadw:

  • 3 chopi o’ch data ar
  • 2 wahanol fath o gyfrwng (e.e. gyriant caled a’r cwmwl) ac
  • 1 copi wrth gefn sy’n cael ei storio oddi ar y safle

Dyma’r cam cyntaf at ddiogelu digidol ar gyfer pob casgliad. Gall cadw deunyddiau digidol yn gywir olygu mynd i gostau ychwanegol. Mae rhai platfformau yn cynnig storio am ddim, a all helpu i leihau costau. Ystyriwch y rhain ar gyfer y rheol 3-2-1.

Adnodda

 

Cam 9. Cyhoeddi eich deunyddiau digidol

Dewiswch y platfform cyhoeddi ar gyfer eich deunyddiau digidol. Mae angen i chi ymchwilio i blatfformau er mwyn nodi’r platfform cywir ar sail eich anghenion ac amcanion eich prosiect. Arbedwch amser trwy:

  • edrych i weld beth mae sefydliadau bach neu brosiectau cymharol eraill wedi’i ddefnyddio
  • siarad â phrosiectau eraill am eu profiadau o’r platfformau hynny

Cwestiynau i’w gofyn wrth ddewis platfform ar-lein:

  • Beth yw’r gofynion cyllidebol a’r costau parhaus ar gyfer defnyddio’r platfform? Er enghraifft, beth yw’r costau storio a’r costau cynnal a chadw parhaus? A yw’r rhain yn bosibl i’ch sefydliad chi?
  • A yw casgliadau eraill yn defnyddio’r platfform hwn?
  • A yw’r platfform yn cefnogi’r drwydded neu’r label rydym am ei (d)defnyddio?
  • A yw’r platfform yn arddangos eich cynnwys mewn ffyrdd sy’n ddeniadol i’ch defnyddwyr?
  • A allwch addasu ei olwg a’i naws?
  • A yw’r platfform yn hawdd i ddefnyddwyr a’ch tîm (staff, gwirfoddolwyr) ei ddefnyddio?
  • A yw’r platfform yn dilyn canllawiau hygyrchedd y we i bobl ag anableddau?
  • A allwch gatalogio eich cynnwys ar-lein?
  • A allwch arddangos eich data catalogio yn gywir?
  • A yw’n hawdd i ddefnyddwyr chwilio am gynnwys?
  • A oes ffyrdd o grwpio eich cynnwys yn gategorïau i’w gwneud hi’n hawdd i ddefnyddwyr ddod o hyd iddo?
  • A yw technoleg y platfform yn addas i’ch defnyddwyr? (e.e. mynediad trwy ffôn symudol)
  • Sut mae’r data’n cael ei storio, sut cedwir copïau wrth gefn ohono a sut gellir ei adfer?
  • A yw’n hawdd lawrlwytho’r casgliad cyfan i gadw copi wrth gefn ohono neu i’w osod yn rhywle arall (cludadwyedd data)?
  • Pa fath o gymorth sy’n hygyrch neu sy’n cael ei ddarparu gan wasanaeth y platfform?
  • A yw’r platfform yn gydnaws â’r hawliau a’r caniatâd yn eich deunyddiau (gweler Cam 2)?
  • A yw’r platfform yn caniatáu i chi olrhain ymgysylltiad gan ddefnyddwyr (edrychiadau, lawrlwythiadau)?

Adnodda

Mae enghreifftiau o blatfformau am ddim neu blatfformau isel eu cost i reoli a chyhoeddi eich deunyddiau yn cynnwys Flickr Pro, Wikimedia Commons, GitHub, Sketchfab, Europeana ac Art UK.

Os oes angen platfform arnoch gyda swyddogaethau estynedig ac mae gennych amser a diddordeb mewn ymhél â hyn, mae Omeka yn system rheoli cynnwys ffynhonnell agored ar gyfer cyhoeddi casgliadau ar-lein. Gall Omeka gymryd amser i’w dysgu, ond gall hyfforddiant ffynhonnell agored a chymuned frwd Omeka helpu. Mae ganddynt fforymau, modiwlau a llawlyfrau am ddim, a grwpiau datblygwyr a defnyddwyr gweithgar y gallwch droi atynt am gymorth.

Mae llawer o blatfformau yn rhoi arweiniad ar sut i lanlwytho deunyddiau i’w safle. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

Gwnewch yn siŵr eich bod yn hysbysebu eich prosiect yn helaeth hefyd i gynyddu ei gyrhaeddiad a’i effaith. Defnyddiwch eich gwefan a’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i roi gwybod i ddefnyddwyr ymhle y gallant ddod o hyd i’ch deunyddiau. Cadwch drywydd ar ymgysylltiad defnyddwyr a chasglwch enghreifftiau o hynny. Mae rhai platfformau yn cofnodi edrychiadau a lawrlwythiadau ac yn olrhain ble caiff eich deunyddiau eu hailddefnyddio.

  • Mae gan Wikimedia offer sy’n cofnodi sawl edrychiad gaiff eich deunyddiau ledled yr erthyglau Wikipedia lle y cânt eu defnyddio.
  • Hefyd, mae gan Flickr Pro nodweddion a chytundebau sy’n caniatáu am olrhain ymgysylltiad ymwelwyr ac mae’n ddewis isel ei gost os na ellir defnyddio trwyddedau agored.

 

Cam 10. Adneuo’r deunyddiau digidol

Dylech archifo neu adneuo eich deunyddiau mewn storfa i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu cael atynt y tu hwnt i gyfnod y prosiect. Gall hyn fod yn ofyniad cyllido.

Bydd sut neu ble rydych chi’n archifo’r deunyddiau yn dibynnu ar eich prosiect a’r math o ddeunyddiau y mae’n eu cynhyrchu. Er enghraifft, os yw’ch prosiect yn brosiect ar y we, nod UK Web Archive yw casglu holl wefannau’r DU o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae enghreifftiau o wefannau prosiect wedi’u harchifo yn cynnwys Altogether Archaeology a Castleton Historical Society.

Gydag asedau digidol, setiau data neu god meddalwedd, mae storfeydd ffynhonnell agored yn caniatáu i chi hunanarchifo unrhyw ddeunyddiau cyhoeddus neu ddeunyddiau sydd â thrwydded agored. Mae amgueddfeydd ac eraill, fel y Llyfrgell Brydeinig, yn defnyddio GitHub.

 


Ble y gall costau godi

Gall costau godi mewn mannau gwahanol.

 

  • Llafur: Costau staff, costau gwirfoddolwyr, recriwtio, hyfforddiant
  • Offer: Technoleg ddigideiddio, meddalwedd, neu danysgrifiadau meddalwedd
  • Storio: Gyriannau caled, tanysgrifiadau cwmwl, ffioedd platfformau eraill (Flickr Pro), parth a lletya gwefan
  • Arbenigedd: Gan ymgynghorwyr, cyflenwyr, aelodau cymuned ar gynllunio prosiect, casgliadau, digideiddio, data, rheoli asedau a rheoli hawliau
  • Ymgysylltu: Gwefannau, cyhoeddusrwydd, ymgysylltu â’r cyhoedd, digwyddiadau, teithio

Meddyliwch sut gallwch chi wrthbwyso hyn i wneud y mwyaf o’ch cyllideb.

Enghraifft 1: Defnyddiwch eich cyfarpar digideiddio presennol, platfform am ddim a meddalwedd rheoli delweddau am ddim. Bydd hyn yn rhyddhau cyllid ar gyfer hyfforddiant i wella sgiliau eich tîm.

Enghraifft 2: Yn hytrach na phrynu offer digideiddio, gwahoddwch ymwelwyr i dynnu ffotograffau o ddarnau gwaith a ddewiswyd ymlaen llaw sy’n cael eu harddangos a’u lanlwytho i Wikimedia Commons. Bydd hyn yn rhyddhau cyllid ar gyfer gweithdai i olygu Wikipedia a chyfrannu gwybodaeth newydd am eich casgliadau.

Gall y canllaw tair rhan hwn ar brisio prosiectau digidol eich helpu i amcangyfrif faint i’w wario ar offer digideiddio, meddalwedd, casgliadau a systemau rheoli asedau digidol, ac unrhyw hyfforddiant neu arbenigedd y cewch trwy gontract allanol.

 


Syniadau digideiddio isel eu cost o brosiectau go iawn

Gall dysgu o brosiectau eraill eich helpu i feddwl yn greadigol am ddigideiddio ar gyllideb dynn. Gall eich prosiect chi adeiladu ar strategaethau profedig sefydliadau eraill.

Nid oes angen i brosiect digideiddio gynnwys digideiddio “o ben i ben”. Gallech ddefnyddio deunyddiau sydd wedi’u digideiddio yn barod a chanolbwyntio ar un agwedd ar ddigideiddio ar gyfer prosiect, fel cyfoethogi metadata neu hygyrchedd. Mae enghraifft arall yn cynnwys paratoi eich casgliadau digidol ar gyfer cyfanredwyr data, fel Europeana. Mae’r prosiectau digideiddio hyn yn bwysig ac yn ddefnyddiol yn eu rhinwedd eu hunain.

Mae’r enghreifftiau isod yn arddangos syniadau gwahanol i ysbrydoli eich prosiect digideiddio chi. Er y daw rhai ohonynt o sefydliadau â digon o adnoddau, nid oes angen cyllid sylweddol ar y gweithgareddau sy’n cael sylw.

Low-cost digitisation ideas

 

Syniad 1. Digideiddio gyda ffonau clyfar

Strategaeth: Digideiddio gan ddefnyddio offer sydd wrth law yn barod gan y rhan fwyaf o bobl: ffonau clyfar

Gall ffonau clyfar gael eu defnyddio i dynnu ffotograffau o ddeunyddiau treftadaeth 2D a 3D, yn ogystal â gwneud modelau 3D gan ddefnyddio ffotogrametreg. Mae gan rai modelau mwy newydd o’r iPhone synwyryddion LiDAR hyd yn oed, sy’n galluogi sganio 3D.

Defnyddiwyd gan: Folger Shakespeare Library

Ar gais, mae llyfrgellwyr cyfeirio yn defnyddio ffonau clyfar i dynnu lluniau’n gyflym o fanylion penodol o lyfrau a’u hanfon at bobl. Yna, mae’r delweddau hyn ar gael yn Folger Reference Image Collection o dan Adnodd Cyflwyno Cyhoeddus CC0 fel y gall unrhyw un eu haddasu, eu dosbarthu a’u copïo heb ganiatâd. Mae gan y casgliad presennol dros 5,000 o ddelweddau ffôn clyfar!

Gwersi: Mae rhywbeth yn well na dim

Er y gall ansawdd delweddau ffonau clyfar fod yn gyfyngedig, yn enwedig heb ddefnyddio goleuo ac offer arall, gallant gael eu cyhoeddi gyda chydraniad digon uchel fel bod eich casgliadau yn hygyrch i fwy o bobl.

 

Syniad 2. Gwella eich metadata

Strategaeth: Glanhau, mireinio neu gyfoethogi metadata eich casgliadau

Gallwch wneud eich casgliadau data yn fwy defnyddiol a hygyrch i ddefnyddwyr trwy ychwanegu gwybodaeth am y deunyddiau yn y ffeiliau digidol eu hunain.

Dechreuwch gyda gwybodaeth sydd gennych eisoes am y deunyddiau neu wybodaeth y gallwch ei chynhyrchu heb wneud mwy o ymchwil (fel y dyddiad a’r man creu neu gyhoeddi, lleoliad y deunyddiau, disgrifiad o’r bobl, y lleoedd neu’r golygfeydd sy’n cael eu cynrychioli, ac ati).

Defnyddiwyd gan: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Trosodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru fetadata presennol eu casgliadau i Wikidata, gan arwain at gyfoethogi data a mynediad hawdd at offer i ymholi a delweddu’r casgliadau. Roedd y casgliadau a ddewiswyd yn rhychwantu paentiadau a deunydd print, a Llawysgrifau Peniarth. Yn gyntaf, fe wnaeth y Llyfrgell lanhau a mireinio’r metadata er mwyn gallu ei fapio i endidau yn Wikidata.

Trwy wella’u metadata, galluogodd y Llyfrgell i’w gasgliadau gael eu chwilio’n haws gan ddefnyddwyr a chynhyrchodd wybodaeth newydd am dueddiadau yn y llawysgrifau.

Gwersi: Mae’n werth chweil gweithio ar ochr ôl eich casgliadau digidol

Nid yw ychwanegu neu gyfoethogi metadata yn gofyn am offer na sgiliau technegol heblaw cyfrifiadur sylfaenol a Microsoft Excel, neu raglen fel Adobe Bridge, ond gall ychwanegu, didoli neu wirio’r data gymryd amser.

 

Syniad 3. Treialu’r gwaith gyda chasgliad bach

Strategaeth: Defnyddio casgliad bach o ddeunyddiau i dreialu’r gwaith, datblygu sgiliau a dylunio llifoedd gwaith

Dechreuwch drwy ddefnyddio detholiad bach o ddeunyddiau, fel casgliad sy’n bwysig i genhadaeth eich sefydliad. Defnyddiwch y deunyddiau hyn i dreialu eich cynllun digideiddio a dilyn trywydd unrhyw effaith. Gall y data hwn helpu i gefnogi prosiectau dilynol a cheisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau digideiddio newydd.  

Defnyddiwyd gan: Y Royal Albert Memorial Museum

luniodd y Royal Albert Memorial Museum bartneriaeth ag ymchwilwyr Prifysgol o The GLAM-E Lab i archwilio mynediad agored. Fe wnaeth yr Amgueddfa dreialu’r gwaith gan ddefnyddio grŵp o 63 o gopïau digidol o baentiadau cyhoeddus o ardal de-orllewin Dyfnaint. Mae’r 63 o gopïau digidol hyn bellach ar gael o dan CC0 ar Wikimedia Commons.

Yna, sefydlodd yr Amgueddfa dudalen gategori Wikipedia a defnyddiodd adnodd ffynhonnell agored o’r enw BaGLAMa i gofnodi edrychiadau ac ymgysylltiad y cyhoedd ar draws Wikipedia. Bydd yr Amgueddfa yn defnyddio’r wybodaeth hon, ynghyd â ffactorau eraill, i lywio gwaith yn y dyfodol ar fynediad agored ac ymgysylltu â Wikipedia.

Gwersi: Yn ara’ deg mae mynd ymhell

Gallwch wneud y gwaith yn fwy hwylus trwy ddechrau gyda phrosiect llai. Yna, gallwch brofi a mireinio eich cynlluniau, gan roi eich sefydliad mewn sefyllfa well i uwchraddio’r gwaith yn ddiweddarach.

 

Syniad 4. Defnyddio platfformau am ddim i gyhoeddi deunyddiau at unrhyw ddiben ailddefnyddio

Strategaeth: Defnyddio Wikimedia Commons i gyhoeddi deunyddiau sy’n gyhoeddus neu sydd â thrwydded agored

Yn gyffredinol, sylwch fod gennych fwy o opsiynau os gall eich deunyddiau gael eu cyhoeddi trwy offer parth cyhoeddus a thrwyddedau agored, fel CC0 a CC BY. Mae platfformau Wikipedia yn galluogi eich sefydliad i ddilyn trywydd ymgysylltiad y cyhoedd a manylion eraill am ailddefnyddio.

Hefyd, bydd eich deunyddiau’n cylchredeg y tu hwnt i blatfformau Wikimedia os cânt eu cyhoeddi trwy offer parth cyhoeddus a thrwyddedau agored.

Defnyddiwyd gan: Llawer o sefydliadau ledled y byd

Yn y DU, mae Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerwysg yn defnyddio Wikimedia Commons fel prif blatfform ar gyfer cyhoeddi deunyddiau CC0.

Mae rhai sefydliadau’n cyhoeddi ar Wikimedia Commons yn ogystal â phlatfformau eraill. Mae enghreifftiau’n cynnwys: Amgueddfeydd ac Orielau Aberdeen (CC0); yr Amgueddfa Hanes Naturiol, Llundain (CC BY); y Llyfrgell Brydeinig (CC0 ac eraill); a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban (CC0 ac eraill).

Gwersi: Bydd cyhoeddi ar blatfformau poblogaidd yn ymestyn cyrhaeddiad ac effaith eich prosiect

Er bod swyddogaethau’r platfformau hyn yn gyfyngedig, mae cwrdd â’r cyhoedd ble y maen nhw yn barod yn ffordd wych o dynnu sylw at eich casgliadau. Gallwch ddefnyddio’r cyfle hwn i ailgyfeirio defnyddwyr at eich gwefan i ddysgu rhagor am eich casgliad, eich prosiect a’ch sefydliad.

 

Syniad 5. Defnyddio platfformau isel eu cost i gyhoeddi deunyddiau â chyfyngiadau ar hawliau

Strategaeth: Defnyddio Flickr Pro i gyhoeddi deunyddiau dan hawlfraint y mae gennych ganiatâd i’w rhannu ar-lein

Os yw hawliau trydydd parti yn cyfyngu ar ddeunyddiau digidol, gall gwasanaethau isel eu cost, fel Flickr Pro, helpu gyda chyhoeddi o dan amrywiaeth ehangach o drwyddedau a datganiadau hawliau.

Defnyddiwyd gan: Llyfrgelloedd Newcastle

Mae Llyfrgelloedd Newcastle yn defnyddio Flickr Pro i gyhoeddi ffotograffau o’u casgliadau ac o ddigwyddiadau a gynhelir yn y llyfrgelloedd. Mae’r casgliad hwn bellach yn cynnwys dros 6,500 o ddelweddau cyhoeddus hanesyddol o Newcastle upon Tyne a’r cyffiniau.

Mae’r Llyfrgell yn diweddaru ei ffrwd ffotograffau a’i halbymau yn rheolaidd gyda ffotograffau cyhoeddus newydd eu digideiddio, ynghyd â ffotograffau trwydded agored staff o’r llyfrgelloedd, mynychwyr neu ddigwyddiadau, y cedwir hawlfraint ynddynt.

Gwersi: Mae cyhoeddi deunyddiau gyda chyfyngiadau ar eu hailddefnyddio yn bosibl ac yn werth chweil

Bydd rhoi deunyddiau ar-lein (gyda chaniatâd) yn galluogi cynulleidfa ehangach i weld eich sefydliad a’ch casgliadau, hyd yn oed os oes cyfyngiad ar eu hailddefnyddio.

 

Syniad 6. Cydweithredu ag arbenigwyr ar eich prosiect

Strategaeth: Cydweithredu ag arbenigwyr a all gyfrannu at y prosiect digideiddio

Gallai’r rhain gynnwys ymchwilwyr, prifysgolion neu gymunedau lleol. Gall ymgynghorwyr eich helpu i ddylunio eich prosiect neu i glirio hawliau. Gall Diweddarwr Wikipedia Preswyl eich helpu i baratoi a llwytho eich deunyddiau i blatfformau Wikimedia. Mae gan arbenigwyr cymunedol wybodaeth am y deunyddiau hefyd.

Defnyddiwyd gan: Prosiect Nomad

Cydweithredodd Nomad â chymunedau Somalïaidd i archwilio sut gallai digideiddio 3D a realiti cymysg ymdrochol gyd-destunoli gwrthrychau Somalïaidd gyda gwybodaeth gan y bobl a’r traddodiadau y maent yn perthyn iddynt.

Cynhaliodd Nomad weithdai gyda chyfranogwyr a rannodd storïau ac a ddefnyddiodd ffotogrametreg i greu modelau 3D o wrthrychau o’u casgliadau personol. Hefyd, fe wnaeth y prosiect gynnwys casgliadau o wrthrychau 3D, ffotograffau a recordiadau sain o’r Amgueddfa Brydeinig, y Llyfrgell Brydeinig ac Amgueddfa Powell-Cotton.

Gwersi: Dau aderyn, un ergyd

Trwy weithio gyda chymuned ac arbenigwyr lleol, gallwch leihau’r costau sy’n gysylltiedig ag ymchwilio i’ch deunyddiau ac ymgysylltu’n uniongyrchol â defnyddwyr a rhanddeiliaid. Bydd angen i chi neilltuo amser a dyrannu costau ar gyfer teithio, gweithdai neu gostau rhesymol fel y gallant gymryd rhan.

 

Syniad 7. Gwahodd ymwelwyr i ddigideiddio’r casgliadau sy’n cael eu harddangos

Strategaeth: Gwahodd ymwelwyr i ddigideiddio treftadaeth sydd eisoes yn cael ei harddangos

Lluniwch restr sborion o’r eitemau treftadaeth rydych chi wedi clirio’r hawliau arnynt ac am eu digideiddio. Crëwch dudalen brosiect sy’n seiliedig ar reolau a chanllawiau y mae sefydliadau eraill yn eu defnyddio. Hysbysebwch y digwyddiad a gofynnwch i ymwelwyr ddod â’u camerâu digidol neu eu ffonau clyfar eu hunain.

Defnyddiwyd gan: Llawer o sefydliadau ledled y byd

Yn y Deyrnas Unedig, defnyddiodd Amgueddfa Victoria & Albert Wikipedia Loves Art i ddigideiddio a llwytho casgliadau i Wikimedia Commons. Mae Wikipedia Loves Art yn fath o helfa sborion ffotograffau a chystadleuaeth ffotograffiaeth cynnwys am ddim a gynhelir ar y cyd ag amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol partner, gyda phobl yn cystadlu i dynnu ffotograffau sy’n anelu at ddarlunio erthyglau Wikipedia orau. Mae cystadlaethau tebyg yn cynnwys Wiki Loves Folklore, Wiki Loves Earth a Wiki Loves Monuments.

Mae defnyddio Wikipedia yn golygu y gallwch greu rheolau i ddefnyddwyr gyda chanllawiau clir sy’n cynnig gair i gall am ffotograffiaeth, rhestr o ddarnau gwaith celf i’w dal, a pha fath o nodiadau a thagiau i’w hychwanegu wrth lanlwytho. Ar ôl eu llwytho i Wikimedia Commons, gall y delweddau gael eu cydgasglu trwy dudalennau categorïau sy’n helpu golygyddion i ddod o hyd i’ch casgliadau chi a’u defnyddio mewn erthyglau Wikipedia.

Gwersi: Gall ymwelwyr fod yn rhan o’r ateb

Mae digideiddio trwy ymwelwyr yn dechrau gyda mynediad ar y safle at dreftadaeth sy’n arwain at fwy o fynediad ar-lein i’r cyhoedd yn ehangach. Hefyd, mae’n denu cynulleidfaoedd lleol drwy’r drws i ymddiddori yn y rhaglenni, yr arddangosfeydd a’r cyfleusterau a gynigir ar y safle.

 

Syniad 8. Cydlynu rhwydwaith o wirfoddolwyr i ddigideiddio deunyddiau

Strategaeth: Cydlynu rhwydwaith o wirfoddolwyr i ddigideiddio deunyddiau

Gall gwirfoddolwyr helpu gyda nifer o dasgau sy’n gysylltiedig â’r broses ddigideiddio, fel dod o hyd i ddeunyddiau neu eu catalogio, ychwanegu neu gyfoethogi metadata, cynnal digwyddiadau a gwneud y cyhoeddusrwydd ar gyfer eich prosiect.

Defnyddiwyd gan: Casgliad y Werin Cymru

Mae Casgliad y Werin Cymru yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n dwyn casgliadau ynghyd o sefydliadau a mudiadau treftadaeth. Mae’r prosiect dwyieithog yn cynnig cymorth a hyfforddiant i unigolion sydd â diddordeb mewn digideiddio casgliadau a phrosiectau cymunedol yn gysylltiedig â diwylliant a threftadaeth Cymru.

Gall unigolion lwytho’u dogfennau, eu delweddau, eu fideos a’u recordiadau sain eu hunain, yn ogystal â rhoi sylwadau, curadu a datblygu hanesion yn gysylltiedig â chynnwys sydd wedi cael ei ddarparu gan bobl eraill. Gellir archwilio’r casgliad digidol yn ôl thema, lleoliad, dyddiad, lleoedd a digwyddiadau.

Mae’r fenter yn blaenoriaethu diogelu adnoddau cyfoethog mewn lleoliadau lleol ochr yn ochr â chasgliadau mwy ffurfiol i alluogi, ymgysylltu a thrawsnewid cymunedau, a hwyluso mwy o ddysgu ledled y byd am hanes a diwylliant Cymru ar yr un pryd.

Gwersi: Gorau chwarae cyd-chwarae

Mae gwirfoddolwyr ymroddedig yn gallu bod o help mawr pan fyddwch chi’n gweithio gyda llawer iawn o ddeunyddiau neu fetadata. Ond bydd yn gofyn am amser a sgiliau rheoli da i gydlynu a hyfforddi gwirfoddolwyr a gwneud y mwyaf o’u cyfraniadau at eich prosiect.

 

Syniad 9. Digideiddio yn ôl y galw ac am ffi fechan

Strategaeth: Cyhoeddi’r hyn sydd gennych a defnyddio ceisiadau am ffotograffiaeth newydd i ariannu digideiddio

Gall cyhoeddi delweddau o gasgliadau cyhoeddus heb gyfyngiadau ailddefnyddio fod yn ffordd arloesol o drosglwyddo costau digideiddio i ddefnyddwyr. Ailstrwythurwch eich modelau ffioedd i gynrychioli costau gwirioneddol digideiddio a storio data.

Defnyddiwyd gan: York Museums Trust ac Indianapolis Museum of Art

Mae’r ddwy amgueddfa yn cyhoeddi casgliadau digidol yn gyhoeddus ac yn codi ffioedd gwasanaeth yn unig ar gyfer creu delweddau newydd.

Mae York Museums Trust yn rhannu ei digideiddio yn ffotograffiaeth sylfaenol ac eilaidd. Mae ffotograffiaeth sylfaenol yn cynnwys gwaith mwy anodd neu hyfforddiant arbenigol; mae ffotograffiaeth eilaidd yn gyflymach, yn cael ei gwneud gan staff neu wirfoddolwyr, a’r bwriad yw ei defnyddio at ddibenion delweddu i ehangu mynediad ar-lein. Pan fydd delwedd eilaidd yn cael ei chreu ac yn dod yn boblogaidd trwy ei hailddefnyddio, sylwant fod hyn yn aml yn ysgogi ceisiadau sy’n arwain at greu asedau ychwanegol.

Oherwydd bod Indianapolis Museum of Art hefyd yn codi ffioedd gwasanaeth yn unig, cafwyd ceisiadau am nifer fwy o ddarnau gwaith heb eu digideiddio o’r blaen ar gyfer ffotograffiaeth newydd. Mae hyn wedi cynyddu faint o ddeunyddiau cyhoeddus sydd ar gael ar-lein ac ailddefnydd mwy creadigol gan ddefnyddwyr.

Gwersi: Rhannu’r costau

Gall digideiddio yn ôl y galw am ffi fechan fod yn ddefnyddiol ar gyfer ariannu digideiddio cynnwys newydd heb orfod gwneud cais am gyllid newydd. Gall fod yn ffordd ddefnyddiol o adeiladau ar brosiect peilot. Bydd angen amser staff arnoch i weinyddu ceisiadau am ddigideiddio a’r offer neu’r sgiliau i ddigideiddio. Bydd yr hyn y byddwch yn ei ddigideiddio yn dibynnu hefyd ar y galw gan ddefnyddwyr.

 


Adnoddau digideiddio ychwanegol

Phygyrchedd

Archifau

Rheoli casgliadau a rheoli data

Canllawiau a phecynnau cymorth

Hawliau a chaniatâd

Platfformau Wikimedia

 


Guide authors

Cynhyrchwyd y canllaw hwn gan Dr Mathilde Pavis a Dr Andrea Wallace gyda Sarah Saunders ar gyfer Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Cysylltwch â’r awduron trwy e-bost:v

Diolch i adolygwyr y canllaw hwn: Francesca Farmer, Heather Forbes, Josie Fraser, Douglas McCarthy and Michael Weinberg.

 


Sharing this guide

Ac eithrio lle y nodir a heblaw am logos cwmnïau a sefydliadau, rhennir y gwaith hwn o dan drwydded Creative Commons Licence Attribution 4.0 (CC-BY 4.0)

Priodolwch fel a ganlyn: ‘Digideiddio ar gyllideb dynn: canllaw i brosiectau digidol isel eu cost’ (2023) gan Mathilde Pavis, Andrea Wallace a Sarah Saunders, gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, CC BY 4.0.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...