Telerau ac amodau eich grant: £10,000 i £250,000

Telerau ac amodau eich grant: £10,000 i £250,000

Mae’r telerau ac amodau hyn yn enghraifft o’r rhai a ddefnyddiwn. Os dyfernir grant i chi, efallai y bydd eich telerau ac amodau penodol chi'n wahanol i'r rhain.

Diweddarwyd y dudalen ddiwethaf: 30 Ionawr 2024.

Diffiniadau

Dyma'r diffiniadau ar gyfer yr wybodaeth bwysig sy'n gysylltiedig â'ch Prosiect. Pan fyddwn yn cyfeirio at y geiriau hyn yn y telerau ac amodau, dyma'r hyn a olygwn: 

‘ni', 'ein', 'rydym', 'byddwn' – Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (sy’n gweinyddu Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac arian grant arall ar ran cyrff eraill o bryd i’w gilydd).

‘chi', 'eich', 'rydych', 'byddwch' – y sefydliad(au) y dyfarnwyd y Grant iddynt ac unrhyw sefydliad sy’n cytuno i fod yn grantï ar y cyd ac i gydymffurfio â’r Contract Grant.

Amodau Grant Ychwanegol – unrhyw amodau grant ychwanegol a nodir fel rhan o Fanylion eich Prosiect. 

Cais – eich ffurflen gais wedi’i chwblhau ac unrhyw ddogfennau neu wybodaeth a anfonwch atom i gefnogi’ch cais am Grant.

Dibenion Cymeradwy – mae’r rhain yn crynhoi’r Prosiect a ddisgrifir yn eich Cais.

Defnydd Cymeradwy – mae hyn yn golygu sut y gwnaethoch ddweud y byddech yn defnyddio’r Eiddo ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect ac mae’n berthnasol tan ddiwedd y Contract Grant.  

Allbynnau Digidol – yr holl ddeunydd sydd â chynnwys treftadaeth a grëwyd neu a gopïwyd i fformat digidol gennych chi neu ar eich rhan mewn cysylltiad â’r Prosiect.

Grant – y swm o arian rydym wedi'i ddyfarnu i chi i gyflawni eich Prosiect.

Cytundeb Grant – mae hyn yn cynnwys:

  • Manylion eich Prosiect
  • y telerau ac amodau hyn
  • unrhyw Amodau Grant Ychwanegol os yn berthnasol
  • arweiniad Derbyn Grant, fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd
  • eich Cais

Dyddiad Dod i Ben y Grant – y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i chi gyflawni'r Dibenion Cymeradwy.

Arweiniad arall – yr holl arweiniad arall sy’n berthnasol i’r Prosiect sydd ar gael ar ein gwefan fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Arweiniad Ymgeisio'r Rhaglen – y ddogfen sy’n disgrifio cwmpas y rhaglen a sut i wneud cais.

Prosiect – y dibenion rydym wedi’u cymeradwyo fel y’u nodir yn y Cais (gan gymryd unrhyw newidiadau yr ydym ni ac yr ydych chi wedi cytuno arnynt yn ysgrifenedig). 

Dyddiad Cwblhau'r Prosiect – dyddiad yr e-bost a anfonwn atoch yn eich hysbysu bod y Prosiect wedi’i gofnodi’n gyflawn.

Eiddo – unrhyw eiddo yr ydych yn ei brynu, ei greu, ei dderbyn neu'n ei adfer, neu eiddo a ariennir fel arall gan y Grant gan gynnwys Allbynnau Digidol, hawliau eiddo deallusol ac unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cynhyrchu neu'n eu harchebu fel rhan o’r Prosiect.

Derbyn Grant – yr arweiniad a gyhoeddwn i esbonio sut y byddwn yn gweithio gyda chi drwy gydol eich prosiect, gan gynnwys sut rydym yn talu’r Grant, yn monitro’r Prosiect ac yn cytuno ar newidiadau i’r Grant.

Manylion Eich Prosiect – dyma’r dudalen yr ydych yn ei gwirio ac yn cadarnhau gwybodaeth bwysig arni am eich Prosiect gan gynnwys y Grant, Dyddiad Dod i Ben y Grant, Amodau Grant Ychwanegol a’r Dibenion Cymeradwy.

Amseriadau

1.1 Derbyn eich taliad Grant 

Mae'n rhaid eich bod wedi gofyn am a derbyn 100% o'ch Grant erbyn Dyddiad Dod i Ben eich Grant. Ar ôl y dyddiad hwn, mae eich cynnig Grant yn dod i ben, ac ni fydd modd i ni wneud rhagor o daliadau i chi. Os credwch fod angen estyniad arnoch i'r dyddiad hwn, cysylltwch â'ch Rheolwr Buddsoddi. 

1.2 Cyflwyno eich Prosiect 

Rhaid i chi gwblhau eich Prosiect erbyn Dyddiad Dod i Ben eich Grant. 

I gwblhau eich Prosiect, mae angen i chi fod wedi: 

  • cyflwyno'r holl waith a gweithgareddau yn eich Prosiect
  • darparu tystiolaeth o sut y gwnaethoch wario'r Grant, ar gyfer yr holl gostau dros £500
  • cwblhau eich adroddiad cwblhau a'i anfon atom
  • gwerthuso eich Prosiect ac anfon yr adroddiad gwerthuso atom

Pa mor hir y mae'r Contract Grant yn para

Os yw eich Prosiect yn cynnwys:

  • Gweithgareddau, fel arddangosfa, neu ddigwyddiad heb unrhyw Allbynnau Digidol neu waith cyfalaf, daw'r telerau ac amodau hyn i ben ar Ddyddiad Cwblhau'r Prosiect.
  • Allbynnau Digidol, fel creu gwefan, bydd y telerau ac amodau hyn yn berthnasol am bum mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau’r Prosiect, os ydych yn sefydliad nid-er-elw. Os ydych yn unigolyn preifat neu'n sefydliad masnachol er-elw, bydd y telerau ac amodau'n berthnasol am bum mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect.
  • Gwaith cyfalaf, fel adeilad neu adferiad, bydd y telerau ac amodau hyn yn berthnasol am bum mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect. Os ydych yn unigolyn preifat neu'n sefydliad masnachol er-elw, bydd y telerau ac amodau yn berthnasol am 10 mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect.
  • Prynu eitem treftadaeth, tir neu adeilad, bydd y telerau ac amodau hyn yn berthnasol am gyfnod amhenodol. Os, yn y dyfodol, y byddwch am werthu, dinistrio neu waredu'r hyn yr ydych wedi'i brynu, rhaid i chi ofyn am ein caniatâd a gallwn hawlio'ch Grant cyfan neu ran ohono'n ôl neu ofyn am gyfran o'r enillion yn gymesur â swm y Grant 

Gofynion ariannu

3.1 Rhaid i brosiectau:

  • ddefnyddio ein hariannu ar gyfer y costau Prosiect a Dibenion Cymeradwy cytunedig yn unig 
  • dechrau gwaith dim ond ar ôl i ni gadarnhau'n ysgrifenedig y gall y Prosiect ddechrau
  • gorffen ar Ddyddiad Dod i Ben eich Grant neu cyn hynny
  • cydnabod y Grant yn gyhoeddus yn unol â’r gofynion a nodir ar ein gwefan ac unrhyw ofynion eraill y byddwn efallai'n eich hysbysu amdanynt o bryd i’w gilydd, gan gynnwys  anfon delweddau digidol o'r Prosiect atom, gyda'r caniatadau cytunedig perthnasol
  • dangos safonau cyfredol y diwydiant ac arfer gorau yn eich maes treftadaeth
  • dilyn unrhyw Amodau Grant Ychwanegol (os yn berthnasol) a bodloni’r gofynion a nodir yn Arweiniad Ymgeisio'r Rhaglen, yr arweiniad Derbyn Grant ac unrhyw arweiniad arall a gyhoeddir ar ein gwefan sy’n berthnasol i’r Prosiect
  • dilyn yr holl ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol, er enghraifft, gallai hyn fod yn ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd cynllunio
  • darparu adroddiadau rheolaidd ynghylch y gyllideb a chynnydd y prosiect
  • ymgymryd ag adroddiadau gwerthuso parhaus a chynhyrchu adroddiad gwerthuso terfynol ar ddiwedd y Prosiect,
  • ar ôl cwblhau'r Dibenion Cymeradwy, parhau i ddefnyddio'r Eiddo ar gyfer y Defnydd Cymeradwy (ni fydd hyn yn berthnasol os mai gweithgareddau'n unig yw eich Prosiect)

Rydych yn cydnabod bod y Grant yn dod o gronfeydd cyhoeddus ac rhaid i chi sicrhau nad yw’r Prosiect yn golygu ein bod yn torri rhwymedigaethau domestig y DU o dan Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022 neu rwymedigaethau rhyngwladol mewn perthynas â chymorthdaliadau. Byddwch yn cadw cofnodion priodol o gydymffurfiaeth â'r gyfundrefn rheoli cymhorthdal berthnasol ac yn cymryd pob cam rhesymol i'n cynorthwyo i gydymffurfio â hi ac ymateb i unrhyw achos neu ymchwiliad(au) i'r Prosiect gan unrhyw awdurdodaeth neu gorff rheoleiddio perthnasol.

3.2 Rhaid i sefydliadau:

  • gynnal prosesau gweinyddu, cyfrifyddu ac archwilio cadarn
  • cytuno i ddilyn proses chwythu’r chwiban i roi gwybod os na chaiff urddas, diogelwch a lles y defnyddwyr terfynol eu bodloni
  • cytuno i beidio ag ymgymryd ag unrhyw weithgarwch personol, busnes neu broffesiynol sy’n gwrthdaro neu a allai wrthdaro ag unrhyw un o’ch rhwymedigaethau mewn perthynas â’r Contract Grant, a chadw gweithdrefnau digonol ar waith i reoli a monitro unrhyw duedd neu wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ganfyddedig
  • dilyn a chydymffurfio â’r holl gyfreithiau, statudau a rheoliadau perthnasol sy’n berthnasol i’ch sefydliad. Mae hyn yn cynnwys y canlynol (ond heb gael ei gyfyngu iddynt):
    • gwrth-lwgrwobrwyo a gwrth-lygredd, gan gynnwys ond heb gael ei gyfyngu Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010
    • cyfreithiau diogelu data gan gynnwys GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018. At ddiben y Contract Grant a’r Dibenion Cymeradwy, nid ydym yn rhagweld y bydd y naill barti na’r llall yn prosesu unrhyw ddata personol ar gyfer neu ar ran ei gilydd, o dan neu mewn cysylltiad â’r Contract Grant. Os ydym ni neu chi'n rhagweld y bydd y llall yn prosesu unrhyw ddata personol ar gyfer ac ar ran ein gilydd byddwn yn cytuno ar amrywiad i’r Contract Grant i ymgorffori darpariaethau priodol yn unol ag Erthygl 28 o GDPR y DU, neu fel sy’n ofynnol fel arall o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data                                         
    • polisïau a gweithdrefnau diogelu lle bo'n berthnasol
  • ymddwyn yn foesegol trwy ddilyn y 7 egwyddor bywyd cyhoeddus a gwneud dewisiadau cynaliadwy i leihau effaith eich Prosiect ar yr amgylchedd
  • dilyn y Cod Ymddygiad llywodraeth sy'n nodi safonau ymddygiad ar gyfer pobl neu sefydliadau sy'n derbyn grantiau gan lywodraeth
  • hysbysu ni'n ysgrifenedig cyn gynted â phosibl os gwneir neu fygythir unrhyw hawliadau cyfreithiol yn eich erbyn ac/neu a fyddai'n effeithio'n andwyol ar y Prosiect yn ystod cyfnod y grant (gan gynnwys unrhyw honiadau a wneir yn erbyn aelodau o'ch corff llywodraethu neu staff mewn perthynas â'r sefydliad)
  • hysbysu ni'n ysgrifenedig cyn gynted â phosibl am unrhyw ymchwiliad sy'n ymwneud â'ch sefydliad, ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, cyflogeion neu wirfoddolwyr a gyflawnir gan yr Heddlu, y Comisiwn Elusennau,  Cyllid a Thollau EF neu unrhyw gorff rheoleiddio arall

3.3 Monitro eich Prosiect 

Efallai y byddwn yn gofyn am gael ymweld â’ch Prosiect, archwilio’r Eiddo, neu weld dogfennau neu wybodaeth am eich Prosiect, fel y gallwn ddarparu cymorth priodol, a sicrhau eich bod yn:

  • cyflwyno eich Prosiect a defnyddio'r Eiddo'n unol â'ch Cais, gydag unrhyw newidiadau rydym wedi cytuno arnynt
  • nodi a rheoli risgiau, gan gynnwys risgiau Prosiect, ariannol a thwyll (mae’n bwysig eich bod yn ein hysbysu am bob achos gwirioneddol neu a amheuir o dwyll, lladrata neu afreoleidd-dra ariannol mewn perthynas â’r Prosiect)
  • rhoi cyfrif cywir am wario unrhyw gyllideb
  • cadw at y Defnydd Cymeradwy ar ôl Dyddiad Cwblhau'r Prosiect

Rhaid i chi gymryd camau priodol i fonitro eich llwyddiant eich hun o ran cyflawni’r Dibenion Cymeradwy ac mae’n bwysig i chi ddarparu gwybodaeth i ni pan ofynnir amdani, ymdrin ag unrhyw broblemau, ac ystyried unrhyw argymhellion a wnawn, yn ystod y gwaith monitro. 

Gallwn ni, a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol a/neu eu cynrychiolwyr awdurdodedig, ar unrhyw adeg yn ystod a hyd at 7 mlynedd ar ôl diwedd y Contract Grant, gynnal archwiliadau mewn perthynas â’ch defnydd o’r Grant a/neu gydymffurfiaeth â’r Contract Grant. Rydych yn cytuno i weithredu'n rhesymol wrth gydweithredu ag archwiliadau o'r fath, gan gynnwys darparu mynediad i ddogfennaeth, safleoedd a phersonél perthnasol.

3.4 Os ydych yn prynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau 

Ym mhob Prosiect, pryd bynnag y byddwch yn defnyddio eich Grant i brynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau, byddwn yn gofyn i chi roi manylion y caffaeliad i ni (sef y broses brynu, tendro a dethol). Os ydych eisoes wedi prynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau ar gyfer eich Prosiect, bydd angen i chi ddweud wrthym sut y gwnaethoch chi hynny. Ni allwn dalu eich Grant os nad ydych wedi dilyn y drefn a ganlyn. 

Os ydych yn gorff cyhoeddus neu os yw eich Prosiect yn destun deddfwriaeth Caffael Cyhoeddus, mae'n rhaid i chi ddilyn y ddeddfwriaeth berthnasol.  

Rhaid i weithdrefnau recriwtio ymgynghorwyr a chontractau fod yn deg ac yn agored a chydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb a chyflogaeth berthnasol. Dylai ffioedd unrhyw ymgynghorwyr neu weithwyr proffesiynol eraill y byddwch yn eu recriwtio yn ystod y Prosiect weddu i ganllawiau proffesiynol a bod yn seiliedig ar fanyleb ysgrifenedig glir. Os oes unrhyw un o'r contractwyr, cyflenwyr neu ymgynghorwyr y dymunwch eu penodi'n gysylltiedig, er enghraifft yn ffrindiau neu'n berthnasau agos, neu os oes unrhyw gysylltiad ariannol megis perchnogaeth ar y cyflenwyr hyn bydd angen i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni'n gyntaf. 

Os ydych yn ansicr ynghylch eich rhwymedigaethau, rydym yn eich cynghori i geisio cyngor proffesiynol neu gyfreithiol.

Llai na £10,000

Os ydych yn prynu nwyddau, gwaith neu wasanaethau am £10,000 neu lai, nid oes angen i chi dendro’n agored am y rhain na chael dyfynbrisiau lluosog. Byddwn yn disgwyl i chi ddangos gwerth cyffredinol am arian. 

Rhwng £10,000 a £50,000

Dylech gael o leiaf tri thendr neu ddyfynbris cystadleuol ar gyfer yr holl nwyddau, gwaith a gwasanaethau gwerth £10,000 neu fwy (heb gynnwys TAW) yr ydym wedi cytuno i'w hariannu.

Nid oes angen o reidrwydd i chi benodi'r contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd sy'n darparu'r dyfynbris isaf. Wrth benderfynu pwy i'w benodi ar gyfer eich prosiect, dylech edrych ar y gwerth am arian cyffredinol y mae'r tendr neu ddyfynbris yn ei ddarparu a sgiliau, profiad a hyfywedd ariannol y contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd.

Mwy na £50,000

Ar gyfer yr holl nwyddau, gwaith a gwasanaethau sy'n werth mwy na £50,000 (ac eithrio TAW), rhaid i chi ddarparu prawf o weithdrefnau tendro cystadleuol. Dylai eich prawf fod yn adroddiad ar y tendrau yr ydych wedi'u derbyn, ynghyd â'ch penderfyniad ar ba un i'w dderbyn.

Nid oes angen o reidrwydd i chi benodi'r contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd sy'n darparu'r dyfynbris isaf. Wrth benderfynu pwy i'w benodi ar gyfer eich prosiect, dylech edrych ar y gwerth am arian cyffredinol y mae'r dyfynbris yn ei ddarparu a sgiliau, profiad a hyfywedd ariannol y contractwr, y cyflenwr neu'r ymgynghorydd.

Mewn rhai amgylchiadau, nid oes angen i chi ddilyn gweithdrefn dendro gystadleuol a gallwch wahodd un sefydliad yn unig i dendro. Mae hyn yn wir os:

  • yw cyfanswm pris y contract yn llai na £10,000
  • yw cytundeb fframwaith yn ei le ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau a fu'n destun tendr cystadleuol yn flaenorol, ac mae’r nwyddau neu’r gwasanaethau'n uniongyrchol berthnasol i gwmpas y gwaith prosiect sydd i’w wneud, os oes contract prosiect ar waith a fu'n destun tendr cystadleuol yn flaenorol, a'i fod yn rhesymegol i'w ymestyn i ddarparu gwaith ychwanegol ar y prosiect. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid i chi gadarnhau:
    • yn achos gwaith cyfalaf, y gellir cymhwyso prisiau’r rhan fwyaf o elfennau gwaith, gan gynnwys rhagofynion, gorbenion ac elw yn uniongyrchol o’r contract presennol i’r gwaith newydd
    • bod y gwaith newydd yn llai o ran graddfa, ac o fath tebyg i waith y prif gontract
    • na fydd y contractwr yn hawlio costau tarfu neu ymestyn y prif gontract os cyflwynir y gwaith newydd
    • bod y contract presennol yn cyfyngu ar waith sy’n cael ei wneud gan eraill
  • yw'r nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau gofynnol yn unigryw fel y nodir mewn manyleb gofyniad heb frand ac nad yw'n bosibl eu caffael o ffynonellau eraill trwy dendr cystadleuol
  • gallwch ddangos eich bod wedi ceisio tendro am y nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau yn agored ac yn gystadleuol ond nad oeddech wedi derbyn digon o ddiddordeb. Roedd yr unig dendr a dderbyniwyd wedi'i gyflwyno gan ddarparwr gwasanaeth a oedd yn credu ei fod yn gwneud hynny mewn cystadleuaeth ag eraill
  • yw'n waith brys lle gellir dangos y byddai’r amser a gymerir i ddod o hyd i dendrau'n peryglu’r prosiect ac yn ychwanegu’n sylweddol at gostau yn y pen draw
  • nad yw'r cwmni sy'n darparu'r tendr unigol wedi'i gysylltu, naill ai trwy berchnogaeth neu drwy gysylltiadau teuluol, ag uwch gynrychiolwyr y grantï

Byddwn hefyd yn gofyn i chi ystyried gwerthoedd cymdeithasol wrth gaffael, gan gynnwys:

  • cadwyni cyflenwi amrywiol
  • gwell cyflogadwyedd a sgiliau 
  • cynhwysiad, iechyd meddwl a lles 
  • cynaladwyedd amgylcheddol
  • cadwyni cyflenwi diogel

Dylech sicrhau bod unrhyw gontractwr/cyflenwr/ymgynghorydd neu bartner a allai fod yn cyfrannu at greu Allbynnau Digidol yn ymwybodol o'n gofyniad i brosiectau rannu'r rhain o dan Drwydded Priodoliad Creative Commons 4.0 Ryngwladol neu gyfwerth, a sicrhau bod gennych gytundeb i'r gwaith dilynol gael ei rannu yn y modd hwn. Lle nad yw hyn yn bosibl, rhaid i chi geisio cytundeb ysgrifenedig i wneud trefniadau amgen gyda ni, er enghraifft defnyddio dewis arall o drwydded agored, cyn cyhoeddi unrhyw gontract gwaith.

3.5 Os ydych yn cynhyrchu Allbynnau Digidol 

Mae Allbynnau Digidol yn cynnwys pethau fel ffotograffau, dogfennau, cod, gwefannau, archifau digidol, recordiadau sain a fideo neu osodiadau clyweled.

Os yw eich Prosiect yn cynnwys Allbynnau Digidol, trwy dderbyn y telerau hyn rydych hefyd yn cytuno i:

  • Ryddhau’r holl Allbynnau Digidol a ariennir gan Grant o dan ein trwydded ddiofyn, Priodoliad Creative Commons 4.0 Rhyngwladol (CC BY 4.0) neu gyfwerth, ac eithrio cod a metadata y dylid eu marcio ag Ymroddiad Parth Cyhoeddus Creative Commons 0 1.0 Cyffredinol (CC0 1.0) neu gyfwerth. Ni ellir cynnwys asedau sydd eisoes yn y parth cyhoeddus yn ein trwydded ofynnol, felly dylid eu marcio ag Ymroddiad Parth Cyhoeddus Creative Commons 0 1.0 Cyffredinol (CC0 1.0), neu gyfwerth. 
  • Ni fydd unrhyw hawliau newydd yn codi o ddeunyddiau nad ydynt yn wreiddiol sy'n deillio o atgynhyrchu gwaith parth cyhoeddus a gefnogir gan arian grant. Dylid rhannu atgynyrchiadau digidol o ddeunyddiau parth cyhoeddus, gan gynnwys delweddau ffotograffig a data 3D, o dan Ymroddiad Parth Cyhoeddus CC0 1.0. 
  • Bod yn ddeiliad hawliau unrhyw ddeunyddiau gwreiddiol a ariennir gan Grant y gallwch eu cynhyrchu. Os bydd pobl eraill yn cyfrannu deunyddiau at y Prosiect, neu fod y Prosiect yn defnyddio deunyddiau sy'n bodoli eisoes, eich cyfrifoldeb chi fydd cael caniatâd gan y deiliad hawliau i gymhwyso ein trwydded ddiofyn. 
  • Sicrhau bod yr Allbynnau Digidol yn cael eu cadw’n gyfredol, yn gweithredu fel y bwriadwyd ac nad ydynt yn mynd yn ddarfodedig cyn pen pum mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau eich Prosiect, (neu os yw’r prif ymgeisydd yn berchennog preifat ar dreftadaeth, am 10 mlynedd o Ddyddiad Cwblhau'r Prosiect),
  • Sicrhau bod gwefannau a chynnwys gwefannau'n bodloni o leiaf safon hygyrchedd Single A W3C.
  • Rhowch gyfeiriad neu gyfeiriadau gwe (URL) y wefan, neu wefannau, a fydd yn lletya eich Allbynnau Digidol i ni, a diweddarwch y rhain os caiff deunyddiau eu hadleoli.
  • Sicrhau mynediad ar-lein am ddim a dirwystr i'r Allbynnau Digidol.

Rhaid i chi beidio â rhyddhau Allbynnau Digidol eich Prosiect ar delerau eraill heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ymlaen llaw.

3.6 Os yw eich Prosiect yn cynnwys Eiddo 

Mae Eiddo'n cynnwys:

  • tir ac adeiladau
  • unrhyw beth sy'n sownd wrth dir fel adeileddau a cherfluniau
  • gwrthrychau mewn casgliad amgueddfa neu lyfrgell sy’n cael eu caffael, eu hadfer, eu gwarchod neu eu gwella gyda’n Grant
  • eiddo anniriaethol neu anffisegol sy'n cael ei greu megis hawlfraint mewn llyfr neu mewn cronfa ddata ddigidol

Rhaid i chi barhau i fod yn berchen ar yr Eiddo a chadw rheolaeth neilltuedig dros yr hyn sy'n digwydd iddo. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi beidio â gwerthu neu lesio'r Eiddo. Ac eithrio fel y caniateir yn yr adran Allbwn Digidol uchod, rhaid i chi beidio â gwerthu, gosod neu ildio'r Eiddo nac ychwaith unrhyw fuddiant ynddo, na rhoi unrhyw hawliau drosto i unrhyw un arall, na chymryd camau i wneud hynny, heb gael caniatâd gennym ymlaen llaw. 

Gall ein cymeradwyaeth ddibynnu ar y canlynol:

  • eich bod yn talu cyfran o’r enillion net o werthu neu osod yr Eiddo i ni o fewn mis o ildio’r asedau neu nwyddau eraill
  • eich bod yn gwerthu neu'n gosod yr Eiddo am ei werth marchnad llawn
  • unrhyw amodau eraill sy’n berthnasol yn ein barn ni

Gallwn hawlio swm gennych sy'n cyfateb yn yr un gyfran i'r pris gwerthu ag y mae'r Grant i gost wreiddiol y Prosiect, neu'r gyfran o'r Grant sy'n cael ei wario ar yr asedau neu'r nwyddau dan sylw, p'un bynnag yw'r mwyaf. Rhaid i chi dalu beth bynnag y byddwn yn penderfynu sy'n briodol o dan yr amgylchiadau. Efallai y byddwn yn penderfynu peidio â gofyn i chi ad-dalu’r Grant (neu unrhyw ran ohono fel y gwelwn yn briodol) ond ni sydd i benderfynu. 

Rhaid i chi:

  • gynnal yr Eiddo mewn cyflwr da. Os oes angen, rhaid i chi hefyd gadw unrhyw wrthrychau neu osodiadau sy'n rhan o'r Eiddo mewn amgylchedd priodol a diogel
  • yswirio'r Eiddo at safon a nodir yn Arweiniad Ymgeisio'r Rhaglen, a defnyddio unrhyw enillion o'r yswiriant yn unol â hynny
  • dweud wrthym yn brydlon am unrhyw golled neu ddifrod sylweddol i'r Eiddo
  • os yw’r Dibenion Cymeradwy yn cynnwys paratoi cynllun cynnal a chadw a rheoli neu gynllun cadwraeth, rhaid i chi gynnal, rheoli neu warchod yr Eiddo yn unol â’r fersiwn o’r cynllun perthnasol yr ydym wedi’i gymeradwyo,
  • trefnu i’r cyhoedd gael mynediad priodol i’r Eiddo a sicrhau na wrthodir mynediad yn afresymol i unrhyw berson,
  • rhaid i chi ddefnyddio'r Eiddo, neu ganiatáu iddo gael ei ddefnyddio, at y Defnydd Cymeradwy yn unig.
  • os yw’r Dibenion Cymeradwy yn cynnwys defnyddio rhan o’r Grant i brynu, derbyn, creu, adfer, cadw neu ariannu fel arall eiddo trydydd parti, rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion a nodir yn Arweiniad Ymgeisio'r Rhaglen a’r arweiniad Derbyn Grant sy’n ymwneud â’r trefniadau cytundebol rydym yn disgwyl i chi ymgymryd â nhw gyda'r trydydd parti

Taliad grant

Byddwn yn talu'r Grant i chi yn unol â'r telerau ac amodau hyn a'r gweithdrefnau a esbonnir yn yr arweiniad Derbyn Grant cyn belled â bod y Loteri Genedlaethol yn gweithredu o dan Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993 (fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd) a bod Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol yn gweithredu o dan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 (fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd), a 

  • bod digon o arian ar gael i ni o dan Ddeddf y Loteri Genedlaethol (neu o'r fath ffynonellau eraill sy’n ofynnol i gyflwyno ein rhaglenni grant)
  • gallwn weld bod eich Prosiect yn cyflwyno, neu wedi cyflwyno'r Dibenion Cymeradwy, a’ch bod yn gwario’r Grant yn gymesur ag unrhyw ariannu partneriaeth neu ariannu arall ar gyfer y Prosiect
  • lle bo'n bosibl byddwn yn rhoi o leiaf 3 mis o rybudd i chi os bydd angen i ni stopio eich arian Grant. 

4.1 Beth fydd yn digwydd os byddwch yn tanwario eich Grant 

Os byddwch yn cwblhau'r Prosiect heb wario'r Grant cyfan, rhaid i chi ddychwelyd y swm nas gwariwyd i ni ar unwaith.

4.2 Beth fydd yn digwydd os byddwch yn gorwario'ch Grant 

Ni allwn gynyddu'r Grant oherwydd gorwariant. Dylech gysylltu â ni os ydych yn disgwyl gorwario eich Grant. 

4.3 Pryd y gallai fod angen i chi ad-dalu'ch Grant 

Mae rhai sefyllfaoedd lle bydd angen i chi ad-dalu unrhyw Grant a dderbyniwyd yn barod, a bydd taliadau yn y dyfodol yn cael eu gohirio neu eu hatal. O dan yr amgylchiadau hyn mae’n bwysig cofio y byddwn, fel corff cyhoeddus, yn gweithredu’n rhesymol ac yn deg. Cyn i ni atal unrhyw ariannu, efallai y byddwn yn gofyn i chi gymryd camau penodol, gweithredu mewn ffordd benodol neu ddarparu gwybodaeth i ni. Byddwn yn rhoi cyfle rhesymol i chi gymryd y camau hyn cyn i ni weithredu.

Mae’r amgylchiadau’n cynnwys, os:

  • byddwch yn rhoi’r gorau i weithredu, neu’n mynd yn fethdalwr, gan gynnwys os cewch eich datgan yn fethdalwr, yn mynd i law'r derbynnydd, yn mynd i weinyddiaeth neu'n ymddiddymu
  • byddwch yn methu â defnyddio’r ariannu at y Dibenion Cymeradwy oni bai y cytunir ar hynny gyda ni ymlaen llaw
  • byddwch yn methu â chadw at y Defnydd Cymeradwy oni bai y cytunir ar hynny gyda ni ymlaen llaw
  • byddwch yn gwaredu'r Eiddo heb gael caniatâd gennym
  • byddwch yn methu â darparu gwybodaeth i ni na dilyn ein cyfarwyddiadau rhesymol i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau gyda'ch Prosiect
  • credwn eich bod wedi rhoi gwybodaeth dwyllodrus, anghywir neu gamarweiniol i ni, neu wedi cuddio gwybodaeth berthnasol yn fwriadol
  • ydych wedi ymddwyn yn esgeulus mewn unrhyw fater arwyddocaol neu'n dwyllodrus mewn cysylltiad â'r Prosiect
  • yw unrhyw awdurdod cymwys, er enghraifft, llys, corff cyhoeddus, neu awdurdod lleol yn cyfarwyddo ad-dalu’r Grant, gan gynnwys amgylchiadau pan fernir bod y Grant yn gymhorthdal anghyfreithlon
  • bydd newid arwyddocaol yn strwythur eich sefydliad oni bai y cytunir yn fel arall gyda ni. Er enghraifft, os byddwch yn penderfynu newid eich clwb, grŵp neu gymdeithas anffurfiol i fod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) neu’n gwmni elusennol. Byddai hefyd yn cynnwys newid arwyddocaol yn eich llywodraethu, bwrdd neu bwyllgor
  • ydych yn dwyn anfri arnom ni, neu ar y Loteri Genedlaethol, drwy bethau yr ydych yn eu gwneud neu’n methu â’u gwneud
  • ydym yn ystyried bod eich gweithredu neu ddiffyg gweithredu yn rhoi arian cyhoeddus mewn perygl
  • byddwn yn terfynu neu'n gohirio unrhyw Grant arall yr ydym wedi'i roi i chi
  • teimlwn nad ydych wedi gwneud cynnydd da gyda'ch Prosiect neu eich bod yn annhebygol o gwblhau'r Prosiect neu gyflawni'r Dibenion Cymeradwy
  • byddwch yn methu â chadw at unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn. 

Os byddwch yn methu ag ad-dalu'r Grant, bydd y swm yn cael ei adennill yn ddiannod fel dyled sifil.

Ni fydd y Grant yn ad-daladwy yn y sefyllfaoedd canlynol, os byddwch chi, neu’r perchennog newydd (os yn berthnasol), yn anfon cais am ganiatâd i’r newid yr ydym yn cytuno iddo'n ysgrifenedig:

  • newid perchnogaeth yr Eiddo
  • newid materol yn strwythur eich sefydliad
  • newid i'r Dibenion Cymeradwy
  • newid i'r Defnydd Cymeradwy

Os credwch fod unrhyw un o'r uchod yn berthnasol i'ch Prosiect, cysylltwch â ni. 

Amodau cyffredinol sy'n berthnasol i'ch Grant

  • gallwn wneud diben a swm y grant yn gyhoeddus ym mha ffordd bynnag y gwelwn yn briodol
  • rhaid i chi beidio â throsglwyddo'r Grant nac unrhyw hawliau o dan y telerau ac amodau hyn
  • rhaid i chi gymryd pob cam a llofnodi a dyddio unrhyw ddogfennau a allai fod yn angenrheidiol i gyflawni eich rhwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn ac i roi i ni yr hawliau a roddir i ni oddi tanynt 
  • os oes mwy nag un ohonoch, bydd unrhyw atebolrwydd o dan y telerau ac amodau hyn yn berthnasol i chi i gyd gyda'ch gilydd ac ar wahân
  • gallwn ddibynnu ar unrhyw un o’n hawliau o dan y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg, hyd yn oed os nad ydym bob amser yn dewis gwneud hynny ar unwaith. Os byddwn yn penderfynu peidio â dibynnu ar un hawl, mae'n bosibl o hyd y byddwn yn dibynnu ar unrhyw un o'n hawliau eraill o dan y telerau ac amodau hyn
  • mae unrhyw ddogfennau y mae angen i chi eu hanfon atom o dan y telerau ac amodau hyn at ein dibenion ein hunain yn unig. Os byddwn yn cymeradwyo neu'n derbyn unrhyw ddogfennau, nid yw hyn yn golygu ein bod wedi eu cymeradwyo na'u derbyn at unrhyw ddiben arall
  • ni ellir gorfodi'r amodau a thelerau hyn gan unrhyw un ar wahân i chi neu ni
  • ni all ein staff, Ymddiriedolwyr a chynghorwyr roi cyngor proffesiynol i chi ac ni ellir eu dal yn gyfrifol am unrhyw gamau yr ydych yn eu cymryd, unrhyw gamau yr ydych yn methu â’u cymryd, neu am eich dyledion neu rwymedigaethau. Er y gallwn roi ariannu i chi, chi sy'n gwbl gyfrifol o hyd am bob rhan o'ch Prosiect, eich busnes a'r penderfyniadau yn ei gylch. Ni fyddwn yn atebol i unrhyw un arall a all gymryd camau neu fygwth camau yn eich erbyn

Gwirio a chadarnhau eich cytundeb

Er mwyn i'ch taliad Grant fedru gael ei ryddhau, mae angen nawr i chi wirio a chadarnhau'r datganiadau canlynol.

6.1 Cytuno i’r telerau ac amodau rydych wedi’u darllen

  • Cadarnhaf fod y gweithgaredd yn y Prosiect yn dod o dan ddibenion a phwerau’r sefydliad a bod gan y sefydliad y pŵer i dderbyn ac ad-dalu’r Grant
  • Cadarnhaf y byddwn yn cadw at y telerau ac amodau 
  • Cadarnhaf, hyd eithaf fy ngwybodaeth, fod yr wybodaeth a ddarperir yn wir ac yn gywir ac y bydd unrhyw beth a ddarperir yn y dyfodol yn wir ac yn gywir
  • Deallaf y gallai unrhyw wybodaeth a gyflwynir i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol gael ei rhannu’n gyhoeddus os yw’n destun cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
  • Cymeraf gyfrifoldeb llawn dros sicrhau bod y manylion banc a ddarparwyd gan fy sefydliad yn gywir, cadarnhaf hefyd fod y manylion cyfrif banc a ddarparwyd gan ein sefydliad wedi’u gwirio gan fwy nag un unigolyn i sicrhau cywirdeb. 

Cadarnhaf fy mod wedi darllen y Contract Grant gydag Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol sy'n gweinyddu cyllid drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Cytunaf, ar ran y Sefydliad, i gael ein rhwymo ar sail contract.

Diweddariadau i'r arweiniad

Byddwn yn adolygu'r arweiniad hwn yn rheolaidd ac yn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau fel y bo angen. Byddwn yn cyfathrebu unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl trwy'r dudalen we hon.