Templed cynllun prosiect a chofrestr risgiau

Templed cynllun prosiect a chofrestr risgiau

Gofynnwn i chi gwblhau cynllun prosiect a chofrestr risgiau i'n helpu deall sut rydych yn bwriadu rheoli eich prosiect.

Mae'r cynllun prosiect yn un o rannau pwysicaf eich cais. Lawrlwythwch a defnyddiwch y templed hwn ar gyfer grantiau rhwng £10,000 a £250,000. Dylai nodi'r holl dasgau mewn ffordd resymegol a chynnwys cofrestr risgiau.

Noder bod gan y templed ddwy dudalen: un ar gyfer y cynllun prosiect ac un ar gyfer y gofrestr risgiau.

Cynllun prosiect

Dylai'r cynllun prosiect ddarparu gwybodaeth fanwl am y tasgau y gwnaethoch eu hamlinellu yn eich cais.  

Ar gyfer pob tasg, gwnewch hi'n CAMPUS:

  • cyrraeddadwy
  • amserol
  • mesuradwy
  • penodol
  • uchelgeisiol
  • synhwyrol

Gosod allan eich cynllun prosiect

Rydym yn argymell bod eich cynllun prosiect mewn trefn gronolegol. Dyma le y byddwch yn dweud wrthym am y pethau y bydd eich prosiect yn eu gwneud ac yn eu cynhyrchu. Dywedwch wrthym beth fydd allbynnau eich prosiect a phwy fydd yn cymryd rhan ynddo. Dylech gynnwys rhifau lle bo modd.

Dylai'r cynllun prosiect ganolbwyntio ar y tasgau y mae'n rhaid eu cwblhau i wneud y prosiect yn llwyddiant. Dylech gynnwys yr holl weithgareddau a cherrig milltir allweddol yr ydych yn gobeithio eu cyflawni.  

Pan gaiff ei lenwi, dylai'r tabl roi cynllun realistig i chi a'ch cydweithwyr ar gyfer cyflawni eich prosiect. Fodd bynnag, rydym yn deall bod y cynllun yn debygol o newid a gwella wrth i'ch prosiect ddatblygu.

Byddwn yn gofyn i chi gywain data drwy gydol eich prosiect i fesur llwyddiant eich cynlluniau ac yn gofyn i chi fyfyrio arnynt yn eich gwerthusiad prosiect.

Cofrestr risgiau

Mae cofrestr risgiau'n ddogfen, fel arfer wedi'i llunio fel tabl, sy'n rhestru'r holl risgiau a nodwyd gan sefydliad ac wedi'u blaenoriaethu yn nhrefn pwysigrwydd.

Rydym yn gwybod bod pob prosiect yn wynebu heriau a risgiau. Byddwn am weld pa risgiau yr ydych wedi'u hystyried, yr effaith y byddai'r risg yn ei chael ar eich prosiect a sut y byddech yn cynllunio i reoli pob risg.

Ar gyfer pob risg, amlinellwch:  

  • natur y risg, er enghraifft technegol, marchnad, ariannol, economaidd, rheoli, cyfreithiol  
  • disgrifiad o'r risg  
  • y cyfle y bydd y risg yn digwydd, gan ddefnyddio gwerth canrannol neu radd isel, canolig neu uchel
  • yr effaith y gallai'r risg ei chael ar gostau, amser ac ansawdd y prosiect
  • yr effaith gyffredinol y gallai’r risg ei chael ar gyflwyno’r prosiect
  • sut y byddech yn rheoli’r risg