Cymru: penderfyniadau dirprwyedig Mehefin 2025

Cymru: penderfyniadau dirprwyedig Mehefin 2025

A graphic of a pen drawing a black line on a beige background.
See all updates
Atodlen o Benderfyniadau o dan bwerau dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer Cymru ar 10 Mehefin 2025

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000

Greenhill Gardens 

Ymgeisydd: The Hill Church Swansea

Awdurdod Lleol: Abertawe

Disgrifiad o'r prosiect: Mae'r prosiect hwn a fydd yn para am flwyddyn (i ddechrau) eisiau ailddatblygu mynwent Eglwys Hill Street (rhestredig Gradd II) i greu gofod lles hygyrch sydd hefyd â'r nod o amlygu ac adrodd stori'r rhai sydd wedi'u claddu yno.  

Penderfyniad: Dyfarnu Cynnydd yn y Grant o £28,660 i wneud cyfanswm grant o £239,863

Clywedog Valley Heritage Partnership 

Ymgeisydd: Groundwork Gogledd Cymru 

Awdurdod Lleol: Wrecsam 

Disgrifiad o'r prosiect: Dyma gam datblygu'r prosiect hwn sy'n anelu at greu llwybr treftadaeth unedig ar hyd Llwybr Dyffryn Clywedog yn Wrecsam. Nod y prosiect, sydd i'w gyflwyno mewn partneriaeth, yw dod â sefydliadau amrywiol ynghyd i adfer nifer o asedau treftadaeth yn Nyffryn Clywedog. Mae'r rhain yn cynnwys enghreifftiau o dreftadaeth adeiledig a naturiol: Chwarel y Mwynglawdd, Mwyngloddiau Plwm a Pharc Gwledig y Mwynglawdd, Melin y Nant, Coedwig Plas Power, Gwaith Haearn y Bers, Melin y Brenin, ac Afon Clywedog.  

Penderfyniad: Dyfarnu Cynnydd yn y Grant o £13,713 i wneud cyfanswm grant o £260,243

St Mary's Cathedral Renovation Project

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Esgobaethol Wrecsam

Awdurdod Lleol: Powys

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect i wneud gwaith atgyweirio hanfodol i'r llawr a dileu asbestos o'r adeilad, newid y system wresogi hen ffasiwn i un carbon isel sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, a chodi proffil yr eglwys gadeiriol fel canolbwynt o fewn dinas Wrecsam.

Penderfyniad: Gwrthod

Preserving Gower's Heritage: Embracing Bilingual Signage to Celebrate Welsh Language, Culture, and Inclusivity for Future Generations

Ymgeisydd: Y Felin Ddŵr

Awdurdod Lleol: Abertawe

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect pedwar mis yw hwn sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r diffyg arwyddion Cymraeg yng Nghanolfan Dreftadaeth Gŵyr ar hyn o bryd. Drwy gyfieithu proffesiynol a dylunio a chreu arwyddion dwyieithog newydd, nod y prosiect yw sicrhau bod y Ganolfan yn cynrychioli treftadaeth ieithyddol a diwylliannol Cymru'n well, gan ymdrin ag egwyddor fuddsoddi Cynhwysiad, Mynediad a Chyfranogiad. 

Penderfyniad: Gwrthod

Cultural Films Projection 2025

Ymgeisydd: BAME Online Community Television

Awdurdod Lleol: Abertawe

Disgrifiad o'r prosiect: Bydd y prosiect deuddeg mis hwn, sy'n rhedeg o fis Awst 2025, yn dangos ffilmiau diwylliannol ac yn adrodd storïau i rymuso ac addysgu'r gymuned BAME yn Abertawe ynghylch hanes a datblygiad eu diwylliant a sut i ddiogelu a chofnodi unrhyw ddeunydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Penderfyniad: Gwrthod

The Creation of a Community Hub at St Mary's Church, Hay on Wye

Ymgeisydd: Cyngor Eglwys Blwyfol Eglwys Santes Fair Y Gelli Gandryll

Awdurdod Lleol: Powys

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect cyfalaf chwe wythnos yw hwn i weithio tuag at sicrhau bod Eglwys Santes Fair, eglwys yn y Gelli Gandryll, yn dod yn ganolfan gymunedol a chelfyddydau.

Penderfyniad: Gwrthod

Murals of Wales: A Celebration of Heritage and Identity

Ymgeisydd: Dazzle-Cymru CIC

Awdurdod Lleol: Rhondda Cynon Taf

Disgrifiad o'r prosiect: Bydd y prosiect tri mis hwn yn cynnwys 15-20 o gyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai rhwng Medi 2025 a Rhagfyr 2025 i greu tri murlun sy'n adlewyrchu elfennau allweddol o dreftadaeth Cymru, megis tirnodau hanesyddol, mythau, chwedlau, y Gymraeg, ac agweddau diwylliannol eraill. Bydd y gweithdai ar agor i gyfranogwyr o bob rhan o'r gymuned.

Penderfyniad: Gwrthod

Cwmbran RFC 150 Years: Our Story, Our Future

Ymgeisydd: Cwmbran Rugby Football Club

Awdurdod Lleol: Torfaen

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect arfaethedig dros ddau fis ar bymtheg (01 Gorffennaf 2025 – 01/01/2027) yw hwn i archwilio, gwarchod a dathlu hanes Clwb Rygbi Cwmbrân hyd yma wrth i'r clwb agosáu at ei ben-blwydd yn 150 oed yn 2030.

Penderfyniad: Gwrthod

Bryntail Futures - Dyfodol Bryntail Conserving, Restoring and Developing Bryntail Cottages for Future Generations

Ymgeisydd: The Bryntail Cottage Charity

Awdurdod Lleol: Powys

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect un flwyddyn wedi'i ailgyflwyno yw hwn i gynnal gwaith adfer a dathlu hanes cymdeithasol dau fwthyn glowyr yng nghefn gwlad canolbarth Cymru gyda chysylltiadau hanesyddol rhwng y boblogaeth leol a phlant ysgol yn Birmingham.

Penderfyniad: Gwrthod

Stars and their Consolations / Sêr a'u Cysuron

Ymgeisydd: Adverse Camber productions

Awdurdod Lleol: Gwynedd

Disgrifiad o'r prosiect: Nod y prosiect 11 mis hwn yw dadorchuddio a chasglu mythau a storïau sy'n ymwneud â sêr a chytserau ledled Cymru, trwy sesiynau ar-lein agored a hyfforddiant i adroddwyr storïau, gan arwain at raglenni ymgysylltu cymunedol yn ystod Wythnos Awyr Dywyll (Chwefror 2026).

Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £56,437 (93%)

Reigniting the Sir Henry Jones Museum: A Path to a Sustainable future

Ymgeisydd: Sir Henry Jones Memorial

Awdurdod Lleol: Conwy

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect cydnerthedd dwy flynedd yw hwn sydd am archwilio opsiynau ar gyfer sicrhau dyfodol Amgueddfa Syr Henry Jones yn Llangernyw, Gogledd Cymru.

Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £119,000 (100%)

Hanes mewn harddwch: revealing a prehistoric ritual landscape in North-East Wales

Ymgeisydd: Clwydian Range Archaeology Group

Awdurdod Lleol: Sir Ddinbych

Disgrifiad o'r prosiect: Gan redeg am bedair blynedd, bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i archaeoleg carneddau cylch cynhanesyddol ym Mryneglwys, ennyn diddordeb cymunedau lleol yn y dreftadaeth sy'n dod i'r amlwg, a sicrhau y caiff ei gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Penderfyniad: Gwrthod 

Caerllion Rufeinig, Porth i Partneriaeth I Caerllion Rufeinig: Roman Caerleon Gateway 'Partnership' Project

Ymgeisydd: Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Awdurdod Lleol: Casnewydd

Disgrifiad o'r prosiect: Mae'r prosiect 18 mis hwn, sy'n rhedeg o fis Gorffennaf 2025 i fis Ionawr 2027, yn bartneriaeth rhwng CADW, Cyngor Dinas Casnewydd a chymuned Caerllion. Ei nod yw gwella profiadau ymwelwyr ac archwilio ffyrdd o gynyddu effaith economaidd y safle yn lleol a thu hwnt.

Penderfyniad: : Dyfarnu Grant o £250,000 (94%)