Cymru: penderfyniadau dirprwyedig Mai 2025

Cymru: penderfyniadau dirprwyedig Mai 2025

Simple line drawing of a pen
See all updates
Atodlen o benderfyniadau o dan bwerau dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer Cymru ar 13 Mai 2025.

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000

Future Proofing for the Quilt Association

Ymgeisydd: The Quilt Association Limited

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn sydd â'r nod o gryfhau cydnerthedd The Quilt Association, sy'n berchen ar gasgliad o gwiltiau treftadaeth, gan ehangu ei chyrhaeddiad trwy raglen addysgol estynedig a rhwydweithio.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £90,990 (100%)

#LC Gower National Landscape Connections

Ymgeisydd: National Landscapes Assocation Ltd

Disgrifiad o'r prosiect: Bydd y prosiect cynllunio deunaw mis hwn yn archwilio'r pwysau a roddir ar TGG drwy edrych ar amodau cynefinoedd presennol, er mwyn datblygu cynllun adfer. Cais ar gyfer y rhaglen Cysylltiadau Tirwedd yw hwn.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £245,000 (92%)

Learning from the Past: Giving to the Future

Ymgeisydd: Prosiect Down To Earth

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect dwy flynedd yw hwn sydd â'r nod o gyflwyno amrywiaeth o raglenni addysgol â ffocws ar lesiant a chyrsiau hyfforddi mewn adeiladu traddodiadol a naturiol a rheoli tir cynaliadwy i bobl ifanc ac oedolion o grwpiau cymunedol difreintiedig ac agored i niwed yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Gâr

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £124,188 (50%)

Bilingual Stories of National Service from Mid & West Wales / Straeon Dwyieithog Gwasanaeth Cenedlaethol o Ganolbarth  Gorllewin Cymru 1947–63. Ffocws dwyieithog ar wasanaeth milwrol gorfodol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Ymgeisydd: Age Cymru Dyfed

Disgrifiad o'r prosiect: Mae'r prosiect deuddeg mis hwn yn canolbwyntio ar gasglu atgofion o brofiadau cyn-filwyr Gwasanaeth Cenedlaethol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £75,062 (94%)

The Times of Our Lives – night and day in an ugly, lovely town.

Ymgeisydd: Mioe Creative Productions CIC

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect tair blynedd yw hwn sy'n anelu at ddogfennu, cadw a dathlu treftadaeth dosbarth gweithiol a bywyd nos Abertawe o'r 1970au hyd heddiw.

Penderfyniad: Gwrthod

Communities and carnivores of Welsh woodland

Ymgeisydd: The Vincent Wildlife Trust

Disgrifiad o'r prosiect: Nod y prosiect pedwar mis hwn yw cyflwyno astudiaeth ddichonoldeb o ailgyflwyno cathod gwyllt i Gymru, cynnal astudiaeth o'r boblogaeth llygod y gwair a gweithio gydag elusennau lles cathod i liniaru pryderon sy'n ymwneud â chathod gwyllt a'u lles.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £26,722 (100%)

Trafod Heddwch: Heddwch, datganoli a chymodi – Archifau Yr Arglwydd Peter Hain a'r Arglwydd Paul Murphy / Talking Peace: Peace, devolution and reconciliation – The archives of Lord Peter Hain and Lord Paul Murphy

Ymgeisydd: Llyfrgell Genedlaethol Cymru / National Library of Wales

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect 26 mis yw hwn i gatalogio, gwarchod a digideiddio casgliadau personol Peter Hain a Paul Murphy a chynyddu hygyrchedd i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Penderfyniad: Gwrthod

St Mary's Church Windows sealing

Ymgeisydd: Eglwys y Santes Fair, Yr Eglwys yng Nghymru

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect tri mis yw hwn i adfer wyth ffenestr llofft olau ychydig o dan nenfwd derw eglwys rhestredig Gradd II y Santes Fair ym Mhorth Tywyn.

Penderfyniad: Gwrthod