Penderfyniadau ariannu
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o dan £5 miliwn
Gwneir penderfyniadau'n lleol, yn dibynnu ar swm y grant.
Hyd at £250,000
Gwneir y penderfyniadau hyn yn fisol mewn cyfarfodydd penderfyniadau dirprwyedig Ardal/Gwlad. Caiff y cyfarfodydd hyn eu rheoli a'u cadeirio gan Benaethiaid Buddsoddi.
Rhwng £250,000 a £5miliwn
Gwneir y penderfyniadau hyn gan bwyllgorau yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, Cymru a ledled Lloegr. Mae'r pwyllgorau'n cyfarfod bob tri mis.
Gallwch weld penderfyniadau o'r 12 mis diwethaf yn eich ardal chi:
Penderfyniadau Cymru
Gwelwch benderfyniadau ein Bwrdd isod (dim ond cofnodion Pwyllgorau Cymru a'r rhai sy'n berthnasol i Gymru sydd wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg - mae croeso cynnes i chi gysylltu â cymorthcymraeg@heritagefund.org.uk os hoffech ragor o wybodaeth)
Dyfarniadau eraill
Gwneir y penderfyniadau hyn gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr neu gan baneli a ddirprwyir gan y Bwrdd. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol dros £5 miliwn gyda phenderfyniadau a wnaed yng nghyfarfodydd y Bwrdd.
- Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol gyda phenderfyniadau a wnaed yng nghyfarfodydd y Bwrdd.
- Dyfarniadau a mentrau arbennig gyda phenderfyniadau a wnaed gan baneli a ddirprwyir gan y Bwrdd.
Gallwch ddod o hyd i gofnodion a'r penderfyniadau hyn o'r flwyddyn ddiwethaf isod.
(Gellir gofyn am benderfyniadau hŷn drwy ryddid gwybodaeth, drwy e-bostio foi@heritagefund.org.uk.)
Publications
Board meeting: September 2021
Publications
Board meeting: June 2021 (Heritage Horizon Awards)
Publications
Board meeting: June 2021

Publications
Penderfyniadau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Choetireodd Cymunedol, 28 Mehefin 2021

Publications