Cymru: cyfarfod dirprwyedig Ebrill 2025

Cymru: cyfarfod dirprwyedig Ebrill 2025

See all updates
Atodlen o benderfyniadau o dan bwerau dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer Cymru ar 8 Ebrill 2025.

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000

Vale of Neath habitat restoration

Ymgeisydd: Tree Society CIC

Disgrifiad o'r prosiect: Mae'r Tree Society yn cynnig prosiect blwyddyn o hyd i adfer treftadaeth naturiol hen safle mwyngloddio yn Rhondda Cynon Taf.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Pressing Matters

Ymgeisydd: Cae Rhug Holistic Farm Ltd

Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect deunaw mis arfaethedig i adfer gwasg afalau o’r 18fed ganrif ar fferm y tu allan i’r Wyddgrug yn Sir y Fflint.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Repair of walkway and creation of lounge area at Wesley Methodist Church Caerphilly

Ymgeisydd: Eglwys Methodistiaid Wesley, Caerffili

Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn gynnig tri mis arfaethedig i atgyweirio ac adfer y rhodfa i noddfa (ardal yr allor) yr eglwys sy'n gadael dŵr i mewn ar hyn o bryd.

Penderfyniad: Gwrthod


Bring home the RAF Pembroke Dock Memorial Window

Ymgeisydd: The Pembroke Dock Heritage Trust Limited

Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect chwe mis arfaethedig sydd â'r nod o ddychwelyd Ffenest Goffa RAF Doc Penfro i Ganolfan Dreftadaeth Doc Penfro o Amgueddfa'r Awyrlu yn Hendon.  

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £11,998 (86%)


The development of a new heritage exhibition in the former Abersoch School, a two-year programme of creative heritage activities and cultural events, and the establishment of a permanent heritage archive for the Llanengan parish.

Ymgeisydd: MENTER RABAR CWMNI BUDDIANT CYMUNEDOL

Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect tri deg tri mis sy’n ceisio gosod arddangosfa dreftadaeth barhaol mewn hen ysgol yn Abersoch gan alw ar yr archifau helaeth sydd gan y Grŵp Treftadaeth Plwyf lleol.

Penderfyniad: Gwrthod


Polish Heritage Penley: "Polska Penley, Preserving a Legacy"

Ymgeisydd: Sefydliad Enfys, Wrecsam

Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect tair blynedd gyda’r nod o warchod treftadaeth Bwylaidd Llannerch Banna, ym mwrdeistref sirol Wrecsam, i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn hygyrch i genedlaethau’r dyfodol.

Penderfyniad: Gwrthod


Restoration of The Queen's Ballroom Exterior Façade

Ymgeisydd: Creations of Cymru Film and Media LTD

Disgrifiad o'r prosiect: Mae'r ymgeisydd yn cynnig prosiect chwe mis i adfer ffasâd allanol adeilad Queen's Cinema yn Nhredegar.

Penderfyniad: Gwrthod


Taith Pererin Gogledd Cymru Camino Cymru - North Wales Pilgrims' Way Welsh Camino

Ymgeisydd: Bwrdd Cyllid Esgobaethol Llanelwy

Disgrifiad o'r prosiect: Bydd y prosiect dwy flynedd hwn yn ymwneud â chyflogi Swyddog Dichonoldeb Prosiect rhan-amser i archwilio sut y gellir integreiddio’r eglwysi ar hyd Llwybr y Pererinion i’r llwybr pererindod, denu mwy o ddiddordeb ac ymwelwyr i fwynhau treftadaeth Gymreig, hanes, iaith a diwylliant yr eglwysi hyn, harddwch yr ardal ac atyniad logistaidd y llwybr.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £78,100 (88%) 

 

Wild Soar - Dal y Dŵr

Ymgeisydd: Tir Natur

Disgrifiad o'r prosiect: Nod y prosiect 18 mis hwn yw adfer darn o dir ym mhen deheuol y mynyddoedd Cambriaidd, Ceredigion, er mwyn gwella bioamrywiaeth, gwella mawndiroedd a chreu cynefinoedd, ac ar yr un pryd arddangos model rheoli tir ‘sy'n rhoi natur yn gyntaf' y gellir cynyddu ei raddfa.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Bridging Cultures: Language, Integration and Wellbeing

Ymgeisydd: Canolfan Gymunedol Affricanaidd

Disgrifiad o'r prosiect: Mae hwn yn brosiect dwy flynedd sy’n ceisio dogfennu ac amlygu’r heriau y mae ymfudwyr yn eu hwynebu wrth addasu i gymdeithas Cymru, sut mae’n effeithio nid yn unig ar eu treftadaeth anniriaethol ond ar eu hiechyd meddwl a’u gwytnwch.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Botanical Colour - The Redpath Way

Ymgeisydd: Makepeace Studio CIC

Disgrifiad o'r prosiect: Mae prosiect deuddeg mis yn cynnig dogfennu, gwarchod ac archifo archif treftadaeth a ryseitiau lliw naturiol Margaret a David Redpath, perchnogion olaf Melin Wlân Wallis yn Nhreamlod, Sir Benfro.

Penderfyniad: Dyfarnu grant o £68,117 (76%)