Trefi a Dinasoedd Natur

Trefi a Dinasoedd Natur

See all updates
Mae partneriaeth rhyngom ni, Natural England a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dod a sefydliadau o bob cwr o'r DU ynghyd i wella ansawdd a mynediad at fannau gwyrdd trefol mewn trefi a dinasoedd.

Dylai fod gan bawb fynediad at barciau cyhoeddus a mannau gwyrdd trefol sy'n llawn treftadaeth naturiol a diwylliannol yn agos at ble maent yn byw. Mae tystiolaeth yn dangos ein bod ni i gyd yn teimlo’r budd pan fo natur yn rhan o’n bywydau bob dydd.

Trwy becyn cymorth sy’n cynnwys £15miliwn o ariannu i adeiladu capasiti a phartneriaethau, rhwydweithiau cymheiriaid i rannu dysgu ac atebion ymarferol, a chynlluniau i ddenu buddsoddiad, byddwn yn ysbrydoli, yn darparu adnoddau ac yn rhoi cymhellion i sefydliadau wireddu buddion byd natur wrth greu cymunedau mwy gwyrdd, iach a ffyniannus.

Ym mis Gorffennaf 2025, fe wnaethom gefnogi 40 o drefi a dinasoedd – drwy 19 o brosiectau partneriaeth – i fod yn lleoedd gwyrddach a hapusach i bobl fyw a gweithio ynddynt. Gweler y rhestr lawn o brosiectau rydyn ni wedi'u hariannu.

Mae Trefi a Dinasoedd Natur yn fenter bartneriaeth rhwng Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Gronfa Treftadaeth. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon.

Cadwch i fyny â'r newyddion diweddaraf trwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr rheolaidd Trefi a Dinasoedd Natur.

Ein huchelgais

Nod Trefi a Dinasoedd Natur yw cefnogi awdurdodau lleol, eu partneriaid a’u cymunedau gyda’r capasiti a’r adnoddau i roi mannau gwyrdd a glas cyhoeddus wrth wraidd eu ffordd o feddwl. Ewch i’r wefan Trefi a Dinasoedd Natur i gael gwybod mwy am ein cynlluniau a’n huchelgeisiau ehangach.   

Erbyn 2028 rydym am fod wedi cefnogi lleoedd ar draws y DU gydag arian grant, ynghyd ag arbenigedd ac adnoddau gan ein partneriaid, er mwyn:

  • rhoi mynediad at natur ac adferiad byd natur wrth wraidd creu lleoedd lleol fel y gellir gwireddu ei fanteision ar gyfer iechyd, ffyniant, byd natur, treftadaeth a balchder lleol
  • cyd-greu strategaethau a chynlluniau gwella mannau gwyrdd uchelgeisiol gyda chymunedau a phartneriaid
  • creu partneriaethau cryf ac amrywiol rhwng y cymunedau lleol, busnesau ac awdurdodau lleol sy’n canolbwyntio ar rôl mannau gwyrdd a glas trefol er mwyn cyflwyno canlyniadau gwell ar gyfer iechyd, lles, treftadaeth, trafnidiaeth, cynllunio a byd natur
  • Datblygu cynlluniau gweithredu a fydd yn trawsnewid y ffordd y mae mannau gwyrdd cyhoeddus yn cael eu defnyddio, eu rheoli a’u hariannu er budd pobl a natur. Dylai hyn gynnwys datblygu cynlluniau prosiect wedi'u costio ac ymchwilio i sut i ddatgloi buddsoddiad newydd gan ystod eang o fuddsoddwyr ac arianwyr y tu hwnt i'r Loteri Genedlaethol yn unig.

Ystyriaethau ar gyfer cais Trefi a Dinasoedd Natur

Pwysig

Mae ceisiadau i’r fenter hon bellach wedi dod i ben. Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan Trefi a Dinasoedd Natur

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau bellach wedi mynd heibio. Gwnaed penderfyniadau ariannu ym mis Gorffennaf 2025. Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau, ond efallai yr hoffech ddarllen yr arweiniad hwn er gwybodaeth.

Bydd un rownd o ariannu a bydd grantiau ar gael rhwng £250,000 ac £1m. Gall eich prosiect bara hyd at dair blynedd a bydd yn ofynnol cyflwyno cais llawn.

Yn ychwanegol at ofynion safonol ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys ymateb i bob un o’r pedair egwyddor fuddsoddi, dylai eich cais am brosiect:

  • Ganolbwyntio ar yr holl fannau gwyrdd a glas trefol cyhoeddus ar draws lle cyfan. Chi sy'n pennu ffiniau'r lle – gallai fod yn ardal weinyddol awdurdod lleol neu gyfunol, yn dref, yn ddinas, yn ddinas-ranbarth neu’n nifer o drefi neu fwrdeistrefi'n gweithio ar y cyd.  
  • Nodi sut y byddwch yn arwain newid uchelgeisiol a fydd yn cyflwyno yn erbyn ein canlyniadau dymunol a sicrhau bod mannau gwyrdd yn darparu mwy ar gyfer pobl a lleoedd.
  • Dangos sut y bydd tîm trawsddisgyblaethol a gwaith partneriaeth yn sicrhau ehangder o ran eich meddwl ac yn gweithio'n weithredol ar draws y sectorau treftadaeth, cynllunio, trafnidiaeth, iechyd, cymuned a byd natur.
  • Nodi pa adnoddau neu gefnogaeth y bydd eu hangen arnoch. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, buddsoddi mewn arbenigedd a chapasiti ychwanegol i: ennyn diddordeb cymunedau lleol, datblygu partneriaethau strategol newydd, sefydlu cyrff newydd megis sefydliad neu ymddiriedolaeth, dylunio modelau ariannol newydd, datgloi a rhoi cymhellion buddsoddi newydd, datblygu ffrwd o brosiectau ac efelychu dysgu o'r menter Future Parks Accelerator.
  • Neilltuo adnoddau a chapasiti i ymuno â digwyddiadau rhwydwaith a sesiynau gwaith carfan rheolaidd ar-lein, cyfrannu at weithio mewn carfannau a mynychu ymweliadau wyneb yn wyneb i ddysgu o brosiectau eraill. Rydym yn argymell neilltuo diwrnod y mis ar gyfer gweithgareddau rhwydweithio gan gynnwys carfanau dysgu, digwyddiadau, hyfforddiant ac ymweliadau safle.

Cyfeiriwch at Nodiadau Cymorth Ymgeisio Trefi a Dinasoedd Natur i weld rhagor o wybodaeth am sut i sicrhau eich bod yn ystyried yr uchod yn eich cais. 

Bydd pob prosiect a ariennir yn derbyn cymorth arbenigol am ddim gan bartneriaid ar bynciau megis cynllunio seilwaith gwyrdd, ymgysylltu cymunedol a chyllid gwyrdd. 

Ni fydd y fenter hon yn ariannu gwaith cyfalaf. Os dymunwch wneud cais am arian i adfywio parc hanesyddol neu wella safle byd natur sydd eisoes yn bodoli, gwnewch gais drwy ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Brand a chydnabyddiaeth

Dylai prosiectau ddefnyddio ein harweiniad brandio a chydnabyddiaeth ar gyfer Trefi a Dinasoedd Natur.

Pwy all ymgeisio

Mae ceisiadau’n agored i sefydliadau nid-er-elw, a phartneriaethau a arweinir gan sefydliadau nid-er-elw, ym mhob cwr o’r DU.  

Rydym yn eich annog i weithio gyda phobl eraill i ddatblygu a chyflawni eich prosiect.  

Os ydych yn bwriadu gweithio gydag unrhyw sefydliadau eraill i gyflawni cyfran sylweddol o'ch prosiect, mae'n rhaid i chi ffurfioli eich perthynas trwy gytundeb partneriaeth.

Os ydych yn gwneud cais ar y cyd, bydd angen i chi benderfynu pa sefydliad fydd yr ymgeisydd arweiniol. Bydd yr ymgeisydd arweiniol yn cwblhau'r cais, ac os yw'n llwyddiannus, bydd yn derbyn y grant ac yn darparu diweddariadau ar y prosiect.

Fel arfer rydym yn disgwyl mai perchennog y dreftadaeth (y man gwyrdd cyhoeddus) fydd yr ymgeisydd arweiniol. Os nad perchennog y dreftadaeth yw'r ymgeisydd arweiniol, byddwn fel arfer yn gofyn iddynt ymrwymo i delerau'r grant.

Os yw perchnogion preifat neu sefydliadau er-elw yn gysylltiedig â’r prosiect, rydym yn disgwyl i chi ddangos bod y budd cyhoeddus yn amlwg yn fwy na'r elw preifat. Rydym yn annhebygol o ariannu mwy nag un prosiect o'r un Lle.

Sut i wneud cais

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau bellach wedi mynd heibio. Gwnaed penderfyniadau ariannu ym mis Gorffennaf 2025.

Ni ddylid dehongli unrhyw gyngor a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Natural England, NatureScot, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon fel cymeradwyaeth, derbyniad neu ardystiad o unrhyw gais am grant, na chaniatâd neu gydsyniad i gynnal unrhyw weithgareddau arfaethedig i safleoedd gwarchodedig. Rhaid cael pob caniatâd a chymeradwyaeth angenrheidiol yn annibynnol gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Natural England, NatureScot, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon neu unrhyw awdurdodau perthnasol eraill a dylid gwneud hynny yn unol â'r gyfraith berthnasol.

Derbyn canllawiau grant

Os dyfarnir grant i chi, mae'r canllawiau hyn yn nodi'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gennych cyn, yn ystod ac ar ôl ei dderbyn.

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Yn ychwanegol at ein prosesau o dan ein hymagwedd Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol safonol, byddwn yn asesu sut mae eich prosiect yn mynd i'r afael ag uchelgeisiau’r fenter hon.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ystyried materion fel sicrhau lledaeniad daearyddol o’n hariannu a/neu amrywiaeth o fathau gwahanol o sefydliadau.

Ar gyfer y fenter hon, bydd penderfyniadau ariannu'n cael eu gwneud gan Fwrdd Partneriaeth ar y Cyd gan gynnwys Ymddiriedolwr o'r Gronfa Treftadaeth a chynrychiolwyr o'r sefydliadau partner.

Cysylltu â Ni

Os oes gennych gwestiwn am ein hariannu, mae croeso i chi gysylltu â'ch tîm buddsoddiadau lleol.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...