Lansio Trefi a Dinasoedd Natur gyda buddsoddiad o £15miliwn

Dylai fod gan bawb fynediad at barciau cyhoeddus a mannau gwyrdd yn eu bywydau bob dydd. Drwy ein menter Trefi a Dinasoedd Natur, rydym wedi dyfarnu grantiau i 19 o brosiectau partneriaeth – o Bradford i Belfast – i ddod â phobl yn agosach at natur drefol.
Mae Trefi a Dinasoedd Natur yn fenter bartneriaeth sydd â'r nod o helpu awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol i roi treftadaeth naturiol wrth wraidd eu cynlluniau trwy ariannu, achrediad ac adnoddau eraill.
Rydym hefyd yn dathlu Birmingham fel Dinas Natur achrededig gyntaf y DU a'i hymrwymiad mai hawl yw natur, nid braint, a Bournemouth, Christchurch a Poole fel y Dref Natur gyntaf wrth iddynt weithio gyda phartneriaid i ddod â natur i galon cymunedau.
“Bydd y fenter gyffrous hon, sy’n gweithio gyda phartneriaid ar draws y DU, yn rhoi gwell mynediad i fyd natur i filiynau o bobl yn agos at eu cartrefi.”
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mynnwch gip ar y prosiectau a ariannwyd
Bydd ein grantiau gwerth £15miliwn yn cefnogi 40 o drefi a dinasoedd – drwy 19 o brosiectau partneriaeth – i ddod yn lleoedd mwy gwyrdd a hapus i bobl fyw a gweithio ynddynt.
Mae Bradford wedi derbyn £848,503 i ddatblygu strategaethau seilwaith gwyrdd a glas a gweithio gyda phartneriaid i gysylltu cymunedau â byd natur ar draws Dinas Diwylliant y DU 2025.
Yn Belfast, rydym wedi dyfarnu £850,514 i gyd-ddylunio cynllun ar gyfer adferiad byd natur ar draws y ddinas a'r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys Parc Rhanbarthol amhrisiadwy Dyffryn Lagan a Bryniau Belfast.

Mae prosiectau eraill rydym wedi’u hariannu’n cynnwys:
- Fife, Yr Alban: £800,000 i drawsnewid mannau gwyrdd trefol i wella'u cydnerthedd yn wyneb newid yn yr hinsawdd, rhoi hwb i dwristiaeth, cyfoethogi diwylliant lleol a gwella iechyd a lles cymunedau.
- Castell-nedd Port Talbot, Cymru: £339,471 ar gyfer un o'n Lleoedd Treftadaeth, i newid sut mae cymunedau'n rhyngweithio â byd natur yn eu bywydau a chreu mannau gwyrdd sy'n cefnogi lles ac yn helpu bioamrywiaeth i ffynnu.
- Coventry, Lloegr: £989,685 i fynd i'r afael ag amddifadedd gwyrdd ar draws y ddinas drwy newid sut mae'n rheoli ac yn monitro mannau gwyrdd a glas, ochr yn ochr â rhaglen allgymorth gymunedol.
Bydd y prosiectau'n cael eu cefnogi gan rwydwaith o arbenigwyr o'n sefydliadau partner, a fydd yn darparu cyngor am ddim ar bynciau fel cynllunio seilwaith gwyrdd, cyllid gwyrdd ac ennyn diddordeb cymunedau. Gweler y rhestr lawn o brosiectau rydym wedi'u hariannu.
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Rydym wedi buddsoddi dros £1biliwn mewn adfywio dros 900 o barciau trefol a mannau gwyrdd dros y 30 mlynedd diwethaf, gan helpu byd natur i ffynnu mewn trefi ar hyd a lled y wlad. Bydd y fenter gyffrous hon, sy'n gweithio gyda phartneriaid ym mhob cwr o'r DU, yn adeiladu ar y buddsoddiad hwn ac yn rhoi mynediad gwell i natur i filiynau o bobl yn agos at eu cartrefi.”
Gweithio ar y cyd dros fyd natur
Mae Trefi a Dinasoedd Natur yn bartneriaeth 10 mlynedd rhyngom ni, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Natural England, gan gydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon.
Ewch i wefan Trefi a Dinasoedd Natur i ddarganfod llyfrgell o adnoddau a all helpu awdurdodau lleol, partneriaid a sefydliadau cymunedol i wella mannau gwyrdd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Dref neu Ddinas Natur, mae yna digwyddiadau rhithwir ar y gweill i'ch cefnogi gydag achrediad. Bydd y wefan yn parhau i gael ei diweddaru fel hyb dysgu, a bydd astudiaethau achos a newyddion yn cael eu rhannu arni.